Arweiniad

Help a chymorth i gyflogeion

Wedi ei gyhoeddi: 15 Mawrth 2017

Diweddarwyd diwethaf: 15 Mawrth 2017

Deall eich hawliau os ydych yn disgwyl babi

Gobeithio bydd yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol ichi wrth sicrhau bod cyfathrebu da yn digwydd yn ystod beichiogrwydd, mamolaeth ac wrth i gyflogai ddychwelyd i’r gwaith.

Mae ein cwestiynau cyffredin yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich hawliau a sut i reoli sefyllfaoedd yn ymwneud â’ch beichiogrwydd, mamolaeth a dychwelyd o ran eich gwaith, gan gynnwys trosolwg cyfreithiol o’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Os ydych yn fam ifanc, mae ein hymgyrch Power to the Bump yn amlygu’r 5 awgrym gorau gan famau eraill ar sut i gael beichiogrwydd hapus ac iachus yn y gwaith.

Gallwch hefyd brofi eich gwybodaeth gyda’n cwis rhyngweithiol.

Bydd gan y maes hwn hefyd adnoddau newydd i’ch helpu a’ch cefnogi, gan gynnwys cyfleoedd amserol i chi ymwneud â’n gwaith. 

Diweddariadau tudalennau