Gwybodaeth am ein gwefan newydd

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi lansio gwefan newydd. Gallwch ddarganfod mwy am y newidiadau rydym wedi'u gwneud a sut i roi adborth ar y dudalen hon.

Beth sydd wedi newid?

Rydym wedi gwneud newidiadau i’r ffordd y mae’r wefan yn gweithio, a’r ffordd yr ydym yn darparu gwybodaeth. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau i:

  • y ffordd rydych chi'n llywio'r wefan
  • y ffordd y mae'r bar chwilio yn gweithio
  • hygyrchedd ein tudalennau
  • y ffordd rydym yn cyflwyno gwybodaeth
  • yr olwg a'r teimlad, a
  • darparu dewisiadau Cymraeg eraill ar gyfer y wybodaeth a ddarparwn.

Rydym bob amser yn gwella ein gwefan a'r wybodaeth rydym yn ei chynhyrchu. Mae eich adborth yn werthfawr iawn i ni a bydd yn ein helpu i ddeall y newidiadau y dylem eu gwneud. Os hoffech chi adael adborth am eich profiad gan ddefnyddio'r wefan hon neu'r wybodaeth rydych wedi'i chyrchu, gallwch ddefnyddio ein harolwg ar-lein .

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwn yn monitro perfformiad ein gwefan a'i chynnwys. Gan ddefnyddio hwn, a’r adborth a gawn, byddwn yn parhau i wneud newidiadau i’r wefan er mwyn gwella sut mae’n gweithio.

Ein hamcanion yw:

  • i wneud yn siŵr bod ein gwybodaeth a’n gwefan yn hygyrch
  • i ddarparu profiad defnyddiwr da
  • i roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, pan fyddwch ei hangen
  • parhau i fireinio'r math o wybodaeth rydym yn ei chynhyrchu

Bydd ein gwefan sydd wedi’i harchifo yn dal i fod yn hygyrch tan Gwanwyn 2024. Ni fydd yn cael ei diweddaru gyda gwybodaeth newydd ar ôl 30 Hydref 2023. Os oes angen, gallwch ymweld â’n gwefan sydd wedi’i harchifo .

Mwy o wybodaeth

Datganiad hygyrchedd

Gwybodaeth am hygyrchedd ein gwefan.

17 Hydref 2023

Hysbysiad preifatrwydd

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut rydym yn trin, storio, defnyddio a rhannu eich…

26 Hydref 2023

Telerau defnyddio'r wefan

Mae'r telerau hyn yn dweud wrthych y rheolau ar gyfer defnyddio ein gwefan.

9 Mehefin 2021

Cysylltwch â ni

Dysgwch sut i gysylltu â ni yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol