Ymchwil

Gweithredu Confensiwn Istanbul yn y DU: Gwerthusiad Sylfaenol

Wedi ei gyhoeddi: 7 Mawrth 2024

Diweddarwyd diwethaf: 7 Mawrth 2024

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gyfrifoldeb i hyrwyddo gweithrediad effeithiol y cytuniadau hawliau dynol y mae’r DU wedi’u cadarnhau.

Cadarnhaodd y DU Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar atal a brwydro yn erbyn trais yn erbyn menywod a thrais domestig ym mis Gorffennaf 2022. Gelwir hwn hefyd yn Gonfensiwn Istanbwl. Mae ein hadroddiad ar ba mor dda y mae’r DU wedi gweithredu Confensiwn Istanbul yn archwilio materion gan gynnwys:

  • polisïau cydgysylltiedig, gan gynnwys casglu data a dull strategol llywodraethau’r DU a Chymru
  • atal, gan gynnwys cwricwla ysgol ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth
  • diogelu, gan gynnwys gwasanaethau cymorth a materion yn ymwneud â mudo a lloches
  • erlyniad, gan gynnwys ymateb cyfraith droseddol y DU i VAWG a phrofiadau o'r system cyfiawnder troseddol

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Trais yn erbyn Menywod a Thrais Domestig (GREVIO), a bydd yn llywio gwerthusiad sylfaenol GREVIO o gydymffurfiaeth y DU â Chonfensiwn Istanbul.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau