Gweithio hyblyg: sut i greu a hyrwyddo diwylliant hyblyg

Wedi ei gyhoeddi: 2 Awst 2019

Diweddarwyd diwethaf: 2 Awst 2019

Beth yw gweithio hyblyg?

Trefniant gweithio yw gweithio hyblyg sydd yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ar faint, ble, pryd ac ar ba amseroedd y bydd cyflogeion yn gweithio.

Gall yr hyblygrwydd ymwneud â: 

  • amser gweithio (er enghraifft, rhan amser, amser hyblyg)
  • man gweithio (megis gweithio o adref)
  • y patrwm gweithio (er enghraifft, rhannu swydd)

Gweithio hyblyg: mae gennych yr hawl i ofyn

O dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 mae hawl statudol ar gyfer unrhyw gyflogai cymwys i ofyn am weithio hyblyg, beth bynnag y rheswm. Canfyddwch sut i ofyn am weithio hyblyg yn ein canllaw cyfleus. 

Pam rydym yn annog cyflogwyr i gynnig arferion gweithio hyblyg?

Mae opsiynau gweithio hyblyg yn ddeniadol i lawer o gyflogeion. Canfu’n hymchwil fod mwy na dau draean o famau (68%) wedi gofyn am o leiaf un math o arfer gweithio hyblyg, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u caniatáu.

Fodd bynnag, ni ofynnodd mwy na thraean o fenywod, y cafodd eu cais ei ganiatáu, am yr hyblygrwydd y dymunent oherwydd y byddai, yn eu tyb nhw’n cael ei ystyried yn negyddol neu na fyddai’n cael ei ganiatáu, tra dywedodd mwy na hanner ohonyn nhw ei fod wedi arwain at ganlyniadau negyddol.

I wneud busnesau y gorau y gallant fod i fenywod beichiog a mamau newydd, rydym yn annog fwy o gyflogwyr i fod yn agored a thryloyw am eu hopsiynau gweithio hyblyg ac i’w hybu yn ystod recriwtio.

Cyflogwyr: yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Darllenwch ein ffeithiau allweddol i gyflogwyr ar weithio hyblyg (PDF).

Cyflogwyr: beth sydd yn eich atal rhag cyflwyno gweithio hyblyg?

Gallai mythau am weithio hyblyg atal cyflogwyr rhag integreiddio opsiynau gweithio hyblyg i’w gweithleoedd. Heriwn y rhain yn ein chwalwyr myth: herio syniadau negyddol am weithio hyblyg (PDF).

Yr awgrymau gorau ar gyfer cynnig gweithio hyblyg

  • pan yn briodol, hysbyswch swyddi fel rhai sy’n agored i weithio hyblyg a hyrwyddwch ystod eang o arferion gweithio hyblyg
  • treialwch ffyrdd newydd o weithio
  • byddwch yn dryloyw a chlir am y mathau o weithio hyblyg y mae’r sefydliad wedi’u hystyried, eu cynnig a’u caniatáu
  • dathlwch ac arddangos enghreifftiau lle bo gweithio hyblyg yn llwyddiannus

Pwy sy’n defnyddio gweithio hyblyg yn llwyddiannus? 

Canfyddwch sut mae sefydliadau megis y Post Brenhinol a Nationwide wedi defnyddio gweithio hyblyg.

Canllaw pellach ar ddefnyddio gweithio hyblyg

Mae gan y CIPD, y corff proffesiynol ar gyfer AD a datblygu pobl, rywfaint o ganllaw defnyddiol ar weithio hyblyg. 

Diweddariadau tudalennau