Arweiniad

Beth mae cyfraith cydraddoldeb yn ei olygu i chi fel darparwr addysg yng Nghymru

Wedi ei gyhoeddi: 1 Hydref 2014

Diweddarwyd diwethaf: 5 Hydref 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Cymru

Wedi'i ddiweddaru ar 9 Mawrth 2023

Mae'r canllaw hwn wedi dyddio. Mae'r maes polisi yr ymdrinnir ag ef yn esblygu ac mae'r canllawiau'n cael eu hadolygu.

Mae’r canllaw hwn yn un o gyfres a ysgrifennwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i egluro beth sy’n rhaid i chi ei wneud i fodloni gofynion cyfraith cydraddoldeb. Bydd y canllawiau hyn yn cefnogi cyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r Ddeddf hon yn dod â llawer o wahanol gyfreithiau cydraddoldeb at ei gilydd, llawer ohonynt wedi bod gennym ers amser maith. Drwy wneud hyn, mae’r Ddeddf yn gwneud cyfraith cydraddoldeb yn symlach ac yn haws ei deall.

Mae'r canllaw yn rhoi cyngor ar eich cyfrifoldebau o dan gyfraith cydraddoldeb fel rhywun sydd â disgyblion, myfyrwyr a rhieni sy'n defnyddio'r gwasanaethau addysg a ddarperir gennych. Lle bo'n berthnasol, mae'r canllaw hwn hefyd yn cyfeirio at eich rhwymedigaethau cydraddoldeb fel cyflogwr ac fel corff cyhoeddus. Rydym wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau bod adrannau’r canllaw hwn yn sefyll ar eu pen eu hunain i hyrwyddo dealltwriaeth o’r rhwymedigaethau allweddol ar ysgolion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a dyletswyddau cydraddoldeb penodol y sector cyhoeddus sy’n gymwys yng Nghymru.

Mae rhai o’r pynciau a drafodir yn gymhleth a gellir eu hategu gan ddarllen pellach o ffynonellau pellach a nodir yn Atodiad C.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau