Newyddion

Fuller's i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn dilyn ymyriad corff gwarchod cydraddoldeb

Wedi ei gyhoeddi: 14 Awst 2023

Fuller's i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn dilyn ymyriad corff gwarchod cydraddoldeb

Bydd miloedd o weithwyr yn Fuller's yn derbyn hyfforddiant i atal aflonyddu rhywiol, yn dilyn achos cyfreithiol a gefnogwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD).

Roedd yr achos yn ymwneud â honiadau gan gyn-weithiwr benywaidd ifanc a ddioddefodd achosion cyson o aflonyddu rhywiol tra'n gweithio fel cynorthwyydd cegin a gweinyddes yn nhafarn y Fuller's. Roedd cytundeb setlo y daethpwyd iddo ar 13 Mehefin 2023 yn cynnwys ymddiheuriad i’r hawlydd am yr ymddygiad yr oedd wedi’i phrofi yn ystod ei chyfnod gyda’r cwmni.

Bu’r gweithiwr yn destun sylwadau homoffobig a misogynistig gan gynnwys sylwadau am ei hymddangosiad a’i phartner dros gyfnod estynedig o amser tra’r oedd yn gweithio yn un o dafarndai’r Fullers.

Honnir, pan gwynodd am y sylwadau, ar ôl eu dioddef am rai misoedd, bu’n destun ymddygiad a sylwadau difrïol pellach.

Fel rhan o'r setliad, mae Fuller's wedi ymddiheuro i'r gweithiwr ac wedi cytuno i weithredu hyfforddiant aflonyddu rhywiol gorfodol ar gyfer staff cegin a blaen tŷ ar draws eu rhwydwaith cenedlaethol o dafarndai.

Rhaid i bob cyflogwr gymryd camau rhesymol i amddiffyn eu staff rhag aflonyddu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dywedodd Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Ni ddylai unrhywun ddioddef triniaeth o’r math a wynebodd y wraig hon wrth geisio gwneud ei swydd.

“Rydym yn gobeithio y bydd y setliad hwn yn rhoi ymdeimlad o gyfiawnder ac yn ei galluogi i symud y tu hwnt i’r digwyddiad hwn.

“Rydym yn falch bod Fuller's wedi ymrwymo i gymryd camau i sicrhau bod eu gweithwyr yn cael eu diogelu rhag aflonyddu annerbyniol yn y dyfodol. Dylai pob cyflogwr ddilyn yr enghraifft hon a sicrhau eu bod yn cydnabod ac yn mynd i'r afael â'r mater.

“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, byddwn yn parhau i ymyrryd mewn achosion fel hyn a dwyn cyflogwyr i gyfrif drwy ddefnyddio ein pwerau unigryw.”

Nodiadau i olygyddion

  • O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae cyflogwyr yn gyfreithiol gyfrifol os yw cyflogai yn cael ei aflonyddu’n rhywiol yn y gwaith gan weithiwr arall ac nad yw’r cyflogwr wedi cymryd pob cam rhesymol i’w atal rhag digwydd.

  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain Fawr ac mae wedi ennill statws 'A' fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI) gan y Cenhedloedd Unedig.

  • Ein gwaith ni yw helpu i wneud Prydain yn decach. Gwnawn hyn drwy ddiogelu a gorfodi'r cyfreithiau sy'n amddiffyn hawliau pobl i degwch, urddas a pharch.

  • Mae’r CCHD yn sefydliad chwythu’r chwiban rhagnodedig, felly os oes gan weithiwr wybodaeth bod ei gyflogwr yn torri cyfraith cydraddoldeb gallant adrodd eu pryderon i ni.

  • Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

  • Mae nifer o gwmnïau wedi ymrwymo i gytundebau cyfreithiol gyda'r CCHD i helpu i amddiffyn eu staff rhag aflonyddu rhywiol. Mae enghreifftiau blaenorol yn cynnwys McDonalds ac IKEA UK.

  • Cyhoeddodd y Llywodraeth ganlyniad ei hymgynghoriad ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle ym mis Gorffennaf 2021. Canfu eu hymchwil fod mwy na hanner menywod a dwy ran o dair o bobl LHDT yn dweud eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ac mae'r broblem yn arbennig o ddifrifol ym maes lletygarwch.

  • Mae mwyafrif helaeth y staff bar a staff gweini yn dweud eu bod naill ai wedi profi neu wedi gweld ymddygiad rhywiol amhriodol, ac nad ydynt yn cael cymorth rheolwyr i fynd i'r afael ag ef.

  • Y llynedd, lansiodd y CCHD restr wirio a chynllun gweithredu atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith i helpu lleoliadau i roi strwythurau priodol ar waith i amddiffyn eu gweithwyr.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com