Arweiniad

Ffynonellau gwybodaeth i ddarparwyr addysg uwch

Wedi ei gyhoeddi: 22 Gorffenaf 2016

Diweddarwyd diwethaf: 22 Gorffenaf 2016

Gallai sefydliadau addysg bellach ac uwch ganfod bod y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol wrth geisio deall a chyflawni eu cyfrifoldebau i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i fynd i’r afael â gwahaniaethu.

Noder os gweler yn dda bod rhai o wefannau’r llywodraeth yn cynnwys ymwadiad sy’n adlewyrchu’r newid diweddar yn y weinyddiaeth. Mae‟r wybodaeth o’u mewn fodd bynnag yn parhau i adlewyrchu’r sefyllfa gyfreithiol bresennol.

A

Acas – Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu

Nod Acas yw gwella sefydliadau a bywyd gwaith drwy wella’r berthynas rhwng gweithwyr. Mae’n darparu cyngor diduedd, hyfforddiant, gwybodaeth ac ystod o wasanaethau datrys problemau.

Rhif ffôn: 0845 747 4747

Gwefan: www.acas.org.uk

Y Gynghrair dros Addysg Gynhwysol (Allfie)

Rhwydwaith cenedlaethol yw Allfie wedi ei arwain gan bobl anabl i hybu addysg gynhwysol i bob myfyriwr. Mae’n darparu ystod o adnoddau a hyfforddiant ar gyfer addysgwyr a rhieni.

Rhif ffôn: 020 7737 6030

E-bost: info@allfie.org.uk  

Gwefan: www.allfie.org.uk  

Sefydliad Arweinwyr Coleg ac Ysgol (ACSL)

Sefydliad proffesiynol ac undeb llafur ar gyfer arweinwyr ysgolion uwchradd a choleg yw ACSL.

Rhif ffôn: 0116 299 1122

E-bost: info@ascl.org.uk  

Gwefan: www.ascl.org.uk  

B

Grŵp Hyfforddi a Mentergarwch Pobl Dduon (BTEG)

Elusen genedlaethol yw BTEG wedi ei sefydlu i gefnogi a darparu llais i ddarparwyr hyfforddiant pobl dduon a phobl o leiafrifoedd ethnig. Mae hefyd yn cynnal y Ganolfan dros Lwyddiant Addysgol â‟r nod o godi a gwella cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig.

Rhif ffôn: 020 7843 6110

E-bost: info@bteg.co.uk  

Gwefan: www.bteg.co.uk  

Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain

Mae Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain yn bodoli i amddiffyn a diogelu hawliau crefyddol a rhyddid sifil cymuned Iddewon Prydain. Fel sefydliad traws-gymunedol etholedig democrataidd y gymuned, mae’r Bwrdd yn ymgysylltu â’r Llywodraeth, y cyfryngau a’r gymdeithas ehangach, gan ddarparu ffordd unigryw y gall holl Iddewon Prydain gael eu clywed a’u cynrychioli.

Ffôn: 020 7543 5400

E-bost: info@bod.org.uk

Gwefan: www.bod.org.uk

Y Sefydliad Dyneiddiol Prydeinig (BHA)

Elusen genedlaethol yw’r BHA sy’n cefnogi a chynrychioli pobl anghrefyddol i geisio byw bywydau egwyddorol. Maent yn cyflawni amrediad o weithgareddau gan gynnwys ymgyrchoedd, lobïo a darparu cyfarwyddyd i lywodraeth. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth i ysgolion i gefnogi addysg am ddyneiddiaeth, ac ar gynnwys disgyblion anghrefyddol a‟u rhieni mewn ysgolion a cholegau.

Rhif ffôn: 020 7079 3580

E-bost: info@humanism.org.uk  

Gwefan: www.humanism.org.uk  

C

Changing Faces

Elusen Teyrnas Gyfunol sy’n cefnogi a chynrychioli pobl y mae eu hwynebau neu eu cyrff wedi eu hanffurfio am ba reswm bynnag yw Changing Faces. Mae’n cynnig cyngor arbenigol, adnoddau a rhaglenni hyfforddiant addysgol i alluogi athrawon i ddeall ac ymateb i’r her sy’n wynebu plant a phobl ifanc sydd wedi eu hanffurfio.

Rhif ffôn: 0845 4500 275

E-bost: info@changinfaces.org.uk

Gwefan: www.changingfaces.org.uk  

Cyngor ar Bopeth

Mae gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl ddatrys eu problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill drwy ddarparu cyngor annibynnol a chyfrinachol rhad ac am ddim, a thrwy ymgyrchu a dylanwadu ar lunwyr polisi.

Rhif ffôn: 020 7833 2181 (gweinyddol yn unig, dim cyngor ar gael ar y rhif hwn)

Gwefan: www.citizensadvice.org.uk

Y Cyngor dros Blant Anabl (CDC)

Mae’r Cyngor dros Blant Anabl yn darparu gwasanaeth gwybodaeth i rieni a phobl broffesiynol ar anghenion plant anabl cyn iddynt ddechrau’r ysgol, disgyblion anabl a myfyrwyr anabl.

Rhif ffôn: 020 7843 1900

E-bost: cdc@ncb.org.uk

Gwefan: http://councilfordisabledchildren.org.uk/

 

D

Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau

Ffynhonell bwysig o wybodaeth gan y llywodraeth i brifysgolion a darparwyr addysg eraill.

Gwefan: www.bis.gov.uk 

Adran Addysg

Gwybodaeth am y prif safonau y mae’n ofynnol i ysgolion eu dilyn, yn ogystal â chyfarwyddyd ar faterion cymhleth.

Gwefan: www.education.gov.uk

Directgov

Gwasanaeth digidol llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i bobl yng Nghymru a Lloegr yw Directgov. Mae’n cyflenwi gwybodaeth a chyngor ymarferol am wasanaethau cyhoeddus, ac yn dod â nhw ynghyd mewn un lle.

Gwefan: www.direct.gov.uk

E

Estyn

Estyn yw’r swyddfa Arolygiaeth dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Rhif ffôn: 029 2044 6446

E-bost: ymholiadau@estyn.gov.uk

Gwefan: www.estyn.gov.uk

Uned Herio Cydraddoldeb (ECU)

Mae’r ECU yn cefnogi’r sector addysg uwch i wireddu potensial pob aelod staff a myfyriwr, beth bynnag eu hil, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chred, neu oed. Mae’r ECU yn gweithio mewn partneriaeth gyda Sefydliadau Addysg Uwch a sefydliadau sector gan ymgymryd â phrosiectau ac ymchwil a darparu cefnogaeth ac arweiniad ymarferol.

Ffôn: 020 7438 1010

E-bost: info@ecu.ac.uk

Gwefan: www.ecu.ac.uk 

F

Cymdeithas Fawcett

Fawcett yw pennaf ymgyrch y Deyrnas Gyfunol dros gydraddoldeb rhwng menywod a dynion. Maent yn ymgyrchu dros gynrychiolaeth menywod mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus; cyflog, pensiynau a thlodi; rhoi gwerth ar waith gofal, a’r modd y mae menywod yn cael eu trin yn y gyfundrefn gyfiawnder.

Rhif ffôn: 020 7523 2598

Gwefan: www.fawcettsociety.org.uk

G

Sefydliad Ymchwil ac Addysg Hunaniaeth Rhyw (GIRES)

Mae GIRES yn darparu ystod eang o wybodaeth a hyfforddiant i bobl drawsrywiol a’u teuluoedd, ac i bobl broffesiynol, gan gynnwys pecyn wedi ei ariannu gan y Swyddfa Gartref i bobl broffesiynol ym myd addysg fedru mynd i’r afael â bwlio trawsffobig.

Rhif ffôn: 01372 801 554

E-bost: info@gires.org.uk

Gwefan: www.gires.org.uk

H

Cyngor Ariannu Addysg Uwch i Loegr (HEFCE)

Mae’r HEFCE yn dosbarthu arian cyhoeddus ar gyfer dysgu ac ymchwil i brifysgolion a cholegau a’i nod yw hyrwyddo addysg ac ymchwil o ansawdd uchel. Mae’r HEFCE hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau atebolrwydd a hybu arfer da. Mae hyn yn cynnwys gwaith i ehangu cyfranogaeth gan grwpiau ym maes addysg uwch sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y rhaglen Aimhigher.

Ffôn: 0117 931 7317

E-bost: hefce@hefce.ac.uk

Gwefan: www.hefce.ac.uk 

Arolygiaeth Addysg EM (HMIE)

HMIE yw’r arolygiaeth addysg a hyfforddiant i’r Alban.

Ffôn: 01506 600200

Ffôn testun: 01506 600236

Gwefan: www.hmie.gov.uk 

I

Mudiad Teithwyr Gwyddelig ym Mhrydain (ITMB)

Mae ITMB yn ceisio codi proffil Teithwyr Gwyddelig ym Mhrydain a rhoi gwell llais iddynt mewn prosesau a fforymau ar gyfer llunio penderfyniadau. Mae’r ITMB yn ceisio herio gwahaniaethu gan ddatblygu polisïau cenedlaethol i sicrhau bod Teithwyr Gwyddelig yn cael eu cynnwys ym mhob lefel o gymdeithas.

Rhif ffôn: 020 7607 2002

E-bost: info@irishtraveller.org.uk

Gwefan: www.irishtraveller.org.uk  

M

Cyngor Mwslemaidd Prydain (MCB)

Elusen yw’r MCB a sefydlwyd i hybu cydweithrediad, consensws ac undod ar faterion Mwslemaidd yn y Deyrnas Gyfunol. Ei nod yw cynyddu a gwella cyfranogiad y gymuned Fwslemaidd ar bob lefel o’r gyfundrefn addysg. Mae’r MCB yn ymgymryd ag ymgyrchu a lobïo ac yn darparu cyngor ar faterion addysgol sy’n effeithio ar ddisgyblion a myfyrwyr Mwslemaidd.

Rhif ffôn: 0845 262 6786

E-bost: admni@mcb.org.uk

Gwefan: www.mcb.org.uk

N

Ymddiriedolaeth Genedlaethol AIDS (NAT)

NAT yw pennaf elusen y Deyrnas Gyfunol o ran ymrwymo i drawsffurfio ymateb cymdeithas i HIV. Mae wedi cynhyrchu adnodd ymarferol i athrawon gan ddarparu awgrymiadau ar sut i gymathu dysgu am HIV i’r cwricwlwm cenedlaethol o ran amryfal bynciau o fewn cyfnodau allweddol 3 a 4.

Rhif ffôn: 020 7814 6767

E-bost: info@nat.org.uk

Gwefan: www.nat.org.uk  

Biwro Cenedlaethol i Fyfyrwyr ag Anableddau: Skill

Elusen genedlaethol yw Skill yn hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion ag unrhyw fath o nam ym maes addysg ôl-16, hyfforddiant a chyflogaeth.

Lloegr a Chymru

Ffôn a ffôn testun: 020 7450 0620 

E-bost: skill@skill.org.uk 

Gwefan: www.skill.org.uk

Yr Alban

Ffôn a ffôn testun:0131 475 2348

E-bost: admin@skillscotland.org.uk

Gwefan: www.skill.org.uk

O

Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau (Ofsted)

Ofsted yw’r arolygiaeth addysg a hyfforddiant i Loegr ac mae’n rheoleiddio’r sawl sy’n darparu addysg a sgiliau i ddysgwyr o bob oedran.

Ffôn: 0300 123 4234

E-bost: enquiries@ofsted.gov.uk

Gwefan: www.ofsted.gov.uk

Q

Asiantaeth Datblygu Cwricwlwm a Chymwysterau (QCDA)

QCDA yw asiantaeth y llywodraeth sy’n gyfrifol am ddatblygu’r cwricwlwm, gwella a chyflawni asesiadau, ac adolygu a diwygio cymwysterau.

Ffôn: 0300 303 3010 

Ffôn testun: 0300 303 3012

E-bost: info@qcda.gov.uk 

Gwefan: www.gov.uk/government/organisations/qualifications-and-curriculum-development-agency

Yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd i Addysg Uwch (QAA)

Corff annibynnol yw’r QAA a ariennir gan danysgrifiadau prifysgolion a cholegau a thrwy gontractau gyda chyrff ariannu addysg uwch. Mae’n cynnal sicrwydd ansawdd allanol mewn prifysgolion ac yn cynnig canllaw ar gynnal a gwella prosesau sicrwydd ansawdd.

Ffôn: 01452 557000 

E-bost: comms@qaa.ac.uk

Gwefan: www.qaa.ac.uk

R

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB)

Elusen flaenaf y Deyrnas Gyfunol ar gyfer cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a chymorth i oddeutu dwy filiwn o bobl sy’n colli eu golwg yw’r RNIB. Maent yn ymgyrchu i ddileu achosion y gellir eu hosgoi o golli golwg ac yn cefnogi ymchwil i golli golwg ac i faterion yn ymwneud â iechyd llygaid.

Rhif ffôn: 020 7388 1266

E-bost: helpline@rnib.org.uk

Gwefan: www.rnib.org.uk

S

Scope

Elusen sy’n cefnogi pobl anabl a’u teuluoedd yw Scope, ac mae’n gweithio i sicrhau addysg o safon uchel a chefnogaeth i bob plentyn a pherson ifanc sy’n dioddef o barlys yr ymennydd a’r rheiny a chanddynt anghenion cymhleth. Mae Scope wedi cynhyrchu ystod o ddeunyddiau hyfforddiant i annog bod yn gynhwysol ym mhob cyd-destun addysgol.

Rhif ffôn: 0808 800 3333

E-bost: response@scope.org.uk

Gwefan: www.scope.org.uk

Addysg a Hyfforddiant yn yr Alban

Gwefan Llywodraeth yr Alban yn edrych ar bob agwedd addysg a hyfforddiant yn yr Alban.  

Gwefan: www.scotland.gov.uk/Topics/Education 

Asiantaeth Ariannu Sgiliau (SFA)

Un o asiantaethau olynol y Cyngor Dysgu a Sgiliau yw’r SFA, ac mae’n gyfrifol am bob hyfforddiant ac addysg ôl-19 a ariennir gan y llywodraeth.

Ffôn: 0845 377 5000 

E-bost: info@skillsfundingagency.bis.gov.uk

Gwefan: skillsfundingagency.bis.gov.uk

Stonewall

Elusen flaenaf y Derynas Gyfunol ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yw Stonewall ac mae’n ymgyrchu, yn lobïo ac yn gwneud gwaith ymchwil yn ogystal â darparu gwasanaeth gwybodaeth rhad ac am ddim i unigolion, sefydliadau a chyflogwyr. Mae’n cynnig ystod o adnoddau gan gynnwys gwybodaeth am fwlio homoffobig i athrawon cynradd ac uwchradd, i weithwyr ieuenctid, i rieni, i awdurdodau lleol ac i bobl ifanc.

Rhif ffôn: 0800 050 2020

E-bost: cymru@stonewallcymru.org.uk

Gwefan: www.stonewallcymru.org.uk  

U

Yr UKRC

Yr UKRC yw sefydliad arweiniol y llywodraeth ar gyfer darparu cyngor, gwasanaethau ac ymgynghori ar bolisi o ran cynrychiolaeth annigonol menywod ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a’r amgylchedd adeiladu (SET). Mae’n gweithio gydag ystod o sefydliadau gan gynnwys sefydliadau addysg.

Ffôn: 01274 436485

Gwefan: www.theukrc.org.uk 

Y

Asiantaeth Dysgu Pobl Ifanc (YPLA)

Un o asiantaethau olynol y Cyngor Dysgu a Sgiliau yw’r YPLA. Mae’n darparu cymorth ariannol i ddysgwyr ifanc; yn ariannu academïau, colegau dosbarth 6 ac addysg bellach cyffredinol a darparwyr 16-19 eraill; ac yn cefnogi awdurdodau lleol i gomisiynu addysg a chyfleoedd hyfforddiant addas i bob person 16-19 oed.

Ffôn: 0845 337 2000

E-bost: enquiries@ypla.gov.uk

Gwefan: www.gov.uk/government/organisations/young-peoples-learning-agency

Nodwch os gwelwch yn dda: Y sefydliadau hyn yw’r rhai y mae’r Comisiwn yn ymwybodol eu bod yn ddolenni perthnasol i’w cynnwys yn y canllaw hwn. Nid yw’r rhestr yn derfynol. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os gwyddoch am unrhyw sefydliadau eraill y dylid eu cynnwys.

Diweddariadau tudalennau