Arweiniad

Ein hargymhellion i daclo gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth

Wedi ei gyhoeddi: 20 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 20 Ebrill 2016

Yn dilyn canfyddiadau 2016 ymchwil a gomisiynwyd gan yr Adran dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, rydym wedi nodi chwe maes ar gyfer gweithredu. Rydym yn credu bod gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, cyflogwyr, cyrff rheoleiddiol a’r sector gwirfoddol ran i’w gymryd i wireddu hyn. Gwnawn adolygu’r cynnydd ar roi’r argymhellion hyn ar waith ac adrodd arno.  

1. Arweinyddiaeth er newid

Fel gall cyflogwyr ddenu’r doniau gorau, creu’r amodau i’w staff i berfformio’n dda, ac osgoi colli sgiliau a phrofiad a all ddigwydd yn sgil camsyniadau ac arfer sâl mewn perthynas â gweithwyr beichiog a mamau newydd.

2. Gwella arfer cyflogwyr

i hybu gweithleoedd sy’n helpu teuluoedd, a hwyluso rheoli effeithiol a chyfathrebu agored.

3.Gwella mynediad at wybodaeth a chyngor

fel y bo menywod a chyflogwyr yn deall eu hawliau a’u rhwymedigaethau.

4. Gwella rheoli iechyd a diogelwch yn y gweithle

fel bo cyflogwyr yn rheoli risgiau yn effeithiol ac nad yw menywod yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng eu swydd a’u hiechyd neu iechyd eu baban yn y groth.

5. Gwella mynediad at gyfiawnder

drwy ddileu’r rhwystrau yn erbyn menywod yn codi achwyniadau.

6. Monitro cynnydd

i olrhain cyflymder y newid tuag at greu gweithleoedd tecach.

Lawr lwytho'r adroddiad ar ein hargymhellion er newid fan hyn.

Diweddariadau tudalennau