Adroddiad Effaith Cymru 2023 i 2024
Wedi ei gyhoeddi: 22 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf: 22 Hydref 2024
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Cymru
Rhagair
Rwy’n hynod falch o gyflwyno’r adroddiad hwn ar effaith ein gwaith yng Nghymru.
Dyma ail flwyddyn ein cynllun strategol presennol. Mae datblygiad ein cynllun nesaf eisoes ar waith. Bydd cyfeiriad ein gwaith yn y dyfodol yn cael ei hysbysu gan ‘A yw Cymru’n Decach?’, ein hadroddiad cydraddoldeb a hawliau dynol, a lansiwyd gennym yn y Senedd yn Hydref 2023. Rydym wedi adnabod rhai gwelliannau, ond mae’n amlwg bod angen gwaith helaeth mewn nifer o feysydd er mwyn sicrhau bod Cymru’n genedl wirioneddol gynhwysol fel y carem ni oll weld.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cefnogi achosion cyfreithiol llwyddiannus o wahaniaethu yn erbyn aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ogystal â chyflwyno canllawiau ar y menopos ac aflonyddu rhywiol. Fe weithiom ar wella mynediad i addysg i bobl anabl ac ymgysylltu â chyrff statudol er mwyn gwella eu dealltwriaeth a’u cydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Bu’r cyraeddiadau hyn ond yn bosibl trwy waith partneriaeth effeithiol ac ymgysylltiad budd-ddeiliaid ar draws sectorau. Eleni fe alluogodd ein dull cydweithredol o reoleiddio a chynghori ni i adeiladu ar berthnasau â rhanddeiliaid allweddol megis Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn ogystal, fe ddechreuon ni adeiladu perthnasau newydd gyda Medr, Llais a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb waith caled ein tîm yng Nghymru. Carwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu hangerdd a’u hymrwymiad diysgog. Diolch hefyd i Bwyllgor Cymru am eu goruchwyliaeth ac am rannu eu gwybodaeth a’u profiad helaeth â thîm Cymru mewn modd mor gefnogol.
Eleni byddwn yn parhau â’r dull hwn, gan ddefnyddio ein holl bwerau a dylanwad i greu Cymru decach a mwy cydradd.
Martyn Jones, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Cymru
Pwy ydym ni a beth ydym ni yn ei wneud
Ni yw rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain. Cawsom ein sefydlu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 er mwyn diogelu a gorfodi’r cyfreithiau sy’n sicrhau tegwch, urddas a pharch. Rydym yn annibynnol o lywodraethau Cymru, yr Alban a’r DU. Fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol a achredwyd ag ‘A’ yn fyd-eang, mae gennym fandad hawliau dynol llawn yng Nghymru a Lloegr ac yn yr Alban i faterion sydd wedi eu dargadw i Senedd y DU.
Ein gwaith ni yw herio gwahaniaethu a diogelu hawliau pobl ar draws Cymru, yr Alban a Lloegr. Gwnawn hyn trwy:
- gynnal ac esbonio’r cyfreithiau sy’n diogelu hawliau a rhyddid pobl
- gorfodi Deddf Cydraddoldeb 2010 ar draws Prydain Fawr
- atal a herio gwahaniaethu, fel bod pawb yn cael cyfle teg mewn bywyd, a
- diogelu hawliau pobl, fel bod pawb yn cael eu trin yn deg, ag urddas a pharch
Rydym yn ymlynu wrth Gôd Ymarfer Hampton i Reoleiddwyr, sy’n amlinellu pum egwyddor rheoleiddio da.
Y rhain yw:
- cymesuredd
- atebolrwydd
- cysondeb
- tryloywder, a
- targedu.
Ceir gwybodaeth bellach am ein dull o reoleiddio a’n hamcanion rheoleiddiol ar ein gwefan.
Cyflwyniad
Mae’r adroddiad hwn yn myfyrio ar gyraeddiadau ein tîm Cymru yn 2023-24. Mae’n canolbwyntio ar ein chwe maes blaenoriaeth a amlinellwyd gan ein cynllun strategol ar gyfer 2022-25, sef:
- Cydraddoldeb mewn gweithle sy’n newid
- Cydraddoldeb i blant a phobl ifanc
- Cynnal hawliau a chydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol
- Mynd i’r afael ag effeithiau gwasanaethau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gydraddoldeb a hawliau dynol
- Meithrin perthnasau da a hyrwyddo parch rhwng grwpiau
- Sicrhau fframwaith gyfreithiol effeithiol er mwyn diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol
Trwy’r meysydd ffocws hyn rydym wedi parhau i gyflawni ein hymrwymiadau ar draws ein fframwaith reoleiddiol.
Effeithiau allweddol ein gwaith yng Nghymru eleni:
- Cyhoeddi ein hadroddiad ar gyflwr y genedl, Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru'n Decach?, a’r ffaith i’n prif ganfyddiadau gael eu hadlewyrchu yn amcanion cydraddoldeb cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
- Herio gwahaniaethu ar sail hil trwy gefnogi achosion cyfreithiol llwyddiannus yng Nghymru.
- Y ffaith i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus weithredu er mwyn gwreiddio argymhellion adroddiadau ein hymchwiliad i anghydraddoldeb ar sail hil yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol a herio penderfyniadau gofal cymdeithasol i oedolion.
- Yn unol â’n cyngor, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gryfhau’r gofynion ar Medr i hyrwyddo cydraddoldeb cyfleoedd, defnyddio data’n effeithiol a lleihau bylchau cyrhaeddiad rhwng grwpiau.
- Yn dilyn ein hymgysylltiad a’n cyngor, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gryfhau’r fframwaith genedlaethol ar gyfer gofynion gofal a chefnogaeth i gomisiynu gofal cymdeithasol, i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
Ein blwyddyn mewn rhifau
- Cefnogi 2 achos cyfreithiol
- Ymateb i 30 achos o gydymffurfiaeth
- Cyflwyno 17 ymateb i ymgynghoriadau
- 2 sesiwn tystiolaeth lafar i Bwyllgorau’r Senedd
- Cynnal 6 digwyddiad ar-lein
- 3 adroddiad i gyrff hawliau dynol
Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru'n Decach? (2023)
Ym mis Tachwedd 2023 fe gyhoeddom ein hadroddiad ar gyflwr y genedl, y Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru'n Decach?
Fe ganolbwyntiodd yr adroddiad ar y naw nodwedd sydd wedi eu gwarchod gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n amlygu rhai meysydd cynnydd, megis:
- gwell amrywiaeth o ran penodiadau cyhoeddus
- lleihau’r bwlch cyflog rhywedd
- lleihau’r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl
Fodd bynnag dangosodd ein hadroddiad bod nifer o feysydd lle cafwyd ychydig o gynnydd ac mae anghydraddoldebau sydd wedi eu hen sefydlu yn parhau i fodoli. Mae cyraeddiadau addysg i ddysgwyr anabl yn syrthio y tu ôl i Loegr a’r Alban. Mae tlodi’n parhau yn broblem barhaus. Rydym wedi gweld cynnydd mewn troseddau a waethygwyd gan hiliaeth a chrefydd ar yr un pryd â gostyngiad yn nifer y troseddau sy'n arwain at euogfarnau.
Fe gynhaliom ddigwyddiad yn y Senedd i lansio’r adroddiad hwn. Cafwyd cynrychiolaeth dda yno o weinidogion Llywodraeth Cymru ac aelodau o’r Senedd, yn ogystal â rhanddeiliaid ar draws y sector cyhoeddus a chymdeithas sifil.
Mae cyrff cyhoeddus yn defnyddio’r dystiolaeth o fewn A yw Cymru’n Decach? i bennu eu hamcanion cydraddoldeb ar gyfer 2024-28.
Rydym wedi ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid i amlygu ein canfyddiadau allweddol ac annog gweithredu ar anghydraddoldebau a amlygwyd yn yr adroddiad.
Fe wnaethom gyflwyno i dros 80 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a chynnal gweithdy o fewn eu Is-Adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hysbysu datblygiad amcanion cydraddoldeb Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom gyflwyno ein canfyddiadau i Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb, er mwyn hysbysu penderfyniadau yn ymwneud â’r gyllideb.
Fe gynhaliom ddwy weminar ym mis Mehefin 2023, lle rhoddom olwg cynnar i gyrff cyhoeddus o brif ganfyddiadau’r adroddiad. Roedd hyn o gymorth i hysbysu datblygiad eu hamcanion cydraddoldeb cyn dyddiad cau Ebrill 2024.
Fe wnaethom gyfarfod â rheoleiddwyr, arolygiaethau ac ombwdsmyn, gyda’r bwriad o archwilio rôl ein pwerau rheoleiddio priodol, yn cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) a’r ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol (SED). Fe amlinellodd hefyd sut gall ein gwaith fod o gymorth wrth fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau parhaus a amlygir yn yr adroddiad.
Fe wnaethom gyflwyno canfyddiadau’r adroddiad hwn a’u cyfrifoldebau o dan y PSED i Fwrdd Ymddiriedolwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Fe dderbyniom adborth cadarnhaol gan y Cadeirydd.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r adroddiad awdurdodol hwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ein cynghori a’n hymgysylltiad â sefydliadau i gefnogi creu polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth ac i graffu ar gynnydd wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.
Ein effaith yn ôl blaenoriaeth strategol
Cydraddoldeb mewn gweithle sy'n newid
Ymchwiliad i'r driniaeth o weithwyr ethnig leiafrifol ar gyflog is ym maes iechyd a gofal
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu er mwyn gwella data ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hwn yn un o brif argymhellion ein hymchwiliad i brofiadau o iechyd a gofal cymdeithasol: triniaeth gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflog is. Fe wnaethom gynghori swyddogion Llywodraeth Cymru ar sut i weithredu’r argymhelliad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu er mwyn monitro profiadau pobl o leiafrifoedd ethnig sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn adeiladu’n uniongyrchol ar ganfyddiadau allweddol o’n hymchwiliad.
Tasglu Hawlia Anabledd
Fe wnaeth gweithgor y Tasglu Hawliau Anabledd ar gyflogaeth ac incwm adlewyrchu’n gryf ein cyngor yn yr argymhellion a wnaed i Lywodraeth Cymru i hysbysu eu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Anabledd. Roedd themâu’r argymhellion yn cynnwys:
- defnyddio caffael fel ysgogiad i wreiddio arferion cyflogaeth cadarnhaol i bobl anabl
- datblygu arferion da ar gyfer gweithio hybrid
- gweithredu i fynd i'r afael â bylchau cyflog a chyflogaeth i'r anabl
- gwerthusiad o effaith y cynllun Prentisiaethau Cynhwysol
Canllawiau'r Menopos
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hyrwyddo ein canllaw’r menopos trwy eu Cylchlythyr Partneriaeth Gymdeithasol. Mae’r canllaw yn darparu awgrymiadau ymarferol i gyflogwyr ar wneud addasiadau rhesymol a meithrin sgyrsiau cadarnhaol ynglŷn â’r menopos gyda’i gweithwyr. Mae’n egluro eu rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Canllaw ar aflonyddu rhywiol
Mae ein arweiniad ar aflonyddu rhywiol wedi ei rannu a’i hyrwyddo’n helaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae’r canllaw hwn wedi cael ei rannu trwy wefan a chylchlythyron Gwaith Teg Llywodraeth Cymru a thrwy rwydweithiau Busnes Cymru. Fe sicrhaodd hyn gynulleidfa breifat a chyhoeddus fawr i’n canllaw. Mae’n cynnig esboniad cyfreithiol ac enghreifftiau ymarferol i gyflogwyr ar sut i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, a sut i ymateb yn effeithiol.
Partneriaeth Gymdeithasol
Mae’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC) yn ystyried sefydlu is-grŵp cydraddoldeb yn dilyn cyflwyno Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Mae hyn yn adlewyrchu ein cyngor a’n hargymhelliad. Byddai’r is-grŵp yn sicrhau bod yr SPC yn ystyried yn effeithiol oblygiadau ei gyngor gweithio partneriaeth gymdeithasol i Lywodraeth Cymru ar gyfer grwpiau nodweddion gwarchodedig.
Cydraddoldeb i blant a phobl ifanc
Mynediad i addysg i blant anabl
Rhoesom gyngor i Bwyllgor y Senedd ar y fframwaith hawliau dynol, cyn ei ymchwiliad i fynediad addysg i blant anabl. Cyhoeddodd y Pwyllgor wedyn y byddai ei ymchwiliad yn defnyddio Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) a’r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCPRD) fel ffrâm cyfeirio.
Wrth ddatblygu ein tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad, fe wnaethom gyfarfod â phedwar ar ddeg o sefydliadau allweddol. Fe fynegon nhw bryderon ynghylch Gweithrediaeth darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Fe bwysleision yr angen am gynaliadwyedd hirdymor darpariaeth ADY.
Fe wnaethom argymell bod arsylwadau terfynol yr UNCRC yn cael eu defnyddio er mwyn craffu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru a bod y PSED yn cael ei ddefnyddio i gynyddu mynediad dysgwyr anabl i addysg mewn ysgolion. Rydym yn argymell ymhellach bod polisïau i wella presenoldeb mewn ysgolion yn ystyried y rhwystrau a wynebir gan blant â nodweddion gwarchodedig.
Addysg drydyddol
Fe amlygodd y Gweinidog Addysg yr angen i ddefnyddio data yn effeithiol a lleihau bylchau cyrhaeddiad pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd (a adwaenir fel Medr). Mae’r blaenoriaethau hyn yn adlewyrchu’n agos yr argymhellion a wnaethom yn ein hymateb i’r ymgynghoriad a’n cyngor i Lywodraeth Cymru. Bydd cynllun strategol Medr bellach yn cynnwys y blaenoriaethau hyn.
Fe gyhoeddodd Medr ei gynllun cydraddoldeb strategol cyntaf, sy’n adlewyrchu effaith ein hymgysylltiad â’r corff newydd hwn. Fe wnaethom ddarparu cyngor fel eu bod yn deall eu rhwymedigaethau fel corff cyhoeddus arweiniol yng Nghymru. Cyn hir bydd Medr yn gyfrifol am strategaeth, cyllido a goruchwylio addysg bellach (gan gynnwys colegau a chweched dosbarth ysgolion), addysg uwch (yn cynnwys ymchwil ac arloesedd), addysg oedolion a dysgu cymunedol i oedolion, yn ogystal a phrentisiaethau a hyfforddiant.
Yn dilyn ein cyngor ni, roedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gofrestru darparwyr addysg trydyddol: rheoliadau cychwynnol, yn cynnwys cwestiynau allweddol ar gydraddoldeb. Fe arweiniodd hyn at gasglu tystiolaeth trwy’r ymgynghoriad a fu o gymorth er mwyn sicrhau bod y rheoliadau’n cael eu drafftio i ddiwallu tri amcan y PSED. Rydym wedi bod yn gwthio ers amser am gynnwys cwestiwn yn ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar effaith cynigion ar gydraddoldeb.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnwys dolen i’n hadnoddau ar atal gwahaniaethu ar sail gwallt yn eu polisi gwisg ysgol diwygiedig, a dderbynnir gan bob ysgol yng Nghymru. Roedd hyn yn dilyn ein cyngor i’r Gweinidog Addysg.
O ganlyniad i’n gwaith ar gymesuredd a chydymffurfiaeth effeithiol, fe wnaethom sicrhau bod pob coleg addysg bellach (AB) yng Nghymru wedi cyhoeddi Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol (SEP) i gydymffurfio â’r PSED. Fe wnaethom ysgrifennu at bum coleg AB a oedd yn ymddangos fel pe nad oeddent yn cydymffurfio â’r gofyniad i gyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol ac amcanion cydraddoldeb. Fe arweiniodd hyn at bob un yn gweithredu i fynd i’r afael â’r materion a adwaenwyd.
Fe wnaethom gyflwyno mewn dwy sesiwn i golegau AB, a gynhaliwyd gan Golegau Cymru, er mwyn amlinellu eu rhwymedigaethau o dan y PSED, yn cynnwys ymarfer effeithiol ar Asesiadau Effaith Cydraddoldeb. Fe wnaethom hefyd rannu canfyddiadau allweddol ein hadroddiad Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru’n Decach?
Ymwreiddio cydraddoldeb mewn ysgolion
Rydym yn gweithio i gynyddu cydymffurfiaeth ysgolion Cymru â’u dyletswyddau PSED. Fe wnaethom gyhoeddi canllaw i ysgolion yn cynnwys ysgolion cynradd, uwchradd, ac ysgolion arbennig yng Nghymru, yn ogystal ag Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Fe wnaethom hyrwyddo’r canllaw hwnnw trwy ysgrifennu at bob ysgol er mwyn pwysleisio’r angen i fod ag amcanion cydraddoldeb a chynllun cydraddoldeb strategol cyfredol yn eu lle erbyn mis Ebrill 2024. Fe wnaethom gyflwyno i dros 100 o benaethiaid yn Sir Gaerfyrddin er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r canllaw a phrif ganfyddiadau addysg o’n hadroddiad Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru’n Decach? Bydd ein hadnoddau yn cefnogi cydymffurfiaeth ysgolion â’r PSED.
Mae canllaw Ysgolion Bro: Ymgysylltu Cymunedol Llywodraeth Cymru a’i Gôd Apelau Derbyn i ysgolion yn adlewyrchu’r angen i ysgolion ymwreiddio’r PSED pan fyddant yn cwblhau’r gweithgareddau hyn. Mae’r cynhwysion hyn yn arddangos effaith ein hymatebion i ymgynghoriadau a’n cyngor i swyddogion Llywodraeth Cymru, a fabwysiadodd yr argymhellion a wnaethom.
Cynnal hawliau a chydraddoldeb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Comisiynu gofal cymdeithasol
Mae arferion comisiynu gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi eu cryfhau er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau yn cynnwys mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a pharchu hawliau dynol. Cafodd Cod Ymarfer Fframwaith Genedlaethol ar Gyfer Comisiynu Gofal a Chefnogaeth yng Nghymru sydd newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ei gryfhau yn dilyn cyngor a ddarparwyd gennym wrth ddatblygu’r cod drafft, ac yn sgil ein hymateb i’w hymgynghoriad.
Mae’r cod sydd wedi ei gyhoeddi bellach yn ei gwneud yn ofynnol bod arferion comisiynu yn cael eu safoni trwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chyflawni rhwymedigaethau hawliau dynol. Mae hyn yn cynnwys cytuniadau’r Cenhedloedd Unedig, y PSED a’r ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Bydd gofyn i gomisiynwyr fesur gwerth trwy ddadansoddi data cwynion, yn cynnwys yn ôl nodweddion gwarchodedig, sy’n dilyn argymhellion a wnaed yn ein hymchwiliad i herio penderfyniadau gofal cymdeithasol oedolion. Bydd hi hefyd yn ofynnol i gomisiynwyr ymwreiddio cydraddoldeb i’w harferion caffael.
Mae ein cyngor ni wedi sicrhau y bydd y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chefnogaeth yn hyrwyddo arferion cynhwysol, gyda ffocws ar amrywiaeth a chydraddoldeb. Amcan y Swyddfa Genedlaethol yw sicrhau cydymffurfiaeth ag egwyddorion a safonau comisiynu cenedlaethol, er mwyn cefnogi comisiynwyr a darparwyr trwy becyn cymorth a ddarperir. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Swyddfa Genedlaethol i ddatblygu pecyn cymorth i gomisiynwyr ar gydraddoldeb a hawliau dynol.
Ymchwilio i herio penderfyniadau yn ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion
Mae’r craffu ar ddarpariaeth awdurdodau lleol o’u dyletswyddau gofal cymdeithasol wedi ei gryfhau. Mewn ymateb i’n hymchwiliad i herio penderfyniadau yn ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion, fe ymrwymodd Arolygiaeth Gofal Cymru i ymwreiddio ein hargymhellion i’w harferion arolygu ac adolygu sut mae awdurdodau lleol yn ymateb.
“Mae sicrhau bod pobl wrth galon y broses o wneud penderfyniadau a bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn un o'r egwyddorion craidd sy'n llywio gwaith AGC. Rwy'n croesawu'r ymchwiliad hwn ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda'r Comisiwn i sicrhau bod ei argymhellion yn cael eu gweithredu.”
Gillian Baranski, Chief Inspector, Care Inspectorate Wales
Mewn ymateb i argymhelliad ein hymchwiliad, fe ymrwymodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl ymhellach i ganllawiau i weithwyr cymdeithasol.
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi ymateb yn gadarnhaol i argymhellion ein hymchwiliad. Maent wedi gwneud ymrwymiadau i wella casglu data ar gwynion ac i fynd i’r afael yn fwy effeithiol ag anghenion cyfathrebu defnyddwyr gofal cymdeithasol.
Ymgysylltiad â Llais
Mae Llais, y corff cynghori dinasyddion ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ceisio ymwreiddio pum canfyddiad allweddol ein hymchwiliad i’w gwaith. Rydym wedi datblygu perthynas weithio gadarnhaol â’r sefydliad newydd hwn. Fe dderbyniodd Bwrdd Llais gyfarwyddyd ynglŷn â’r materion cydraddoldeb a hawliau dynol allweddol sydd angen iddynt eu hystyried a throsolwg o’r PSED a’u rhwymedigaethau.
Caffael y gwasanaeth iechyd
Cafodd Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) ei gryfhau pan dderbyniodd y Dirprwy Weinidog Partneriaethau Cymdeithasol argymhellion a wnaethom yn ystod yr ymgynghoriad ar y Bil. Fe wnaethom amlygu’r angen i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol sy’n comisiynu gwasanaethau gofal. Fe fynegom bryderon hefyd ynglŷn â chydymffurfiaeth â’r PSED ac Asesiad Effaith Cydraddoldeb y Bil. Aethpwyd i'r afael â'r pwyntiau hyn wedyn.
Mynd i'r afael ag effaith gwasanaethau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gydraddoldeb a hawliau dynol
Canllawiau ar AI a'r PSED
Mae gweithwyr proffesiynol y sector cyhoeddus yng Nghymru yn fwy ymwybodol o sut i gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb pan yn datblygu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI) mewn gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol er mwyn darparu gweminar a fynychwyd gan 125 o weithwyr proffesiynol y sector cyhoeddus. Fe gyflwynodd ffyrdd newydd o fynd i’r afael â chydraddoldeb pan yn defnyddio AI yn y sector cyhoeddus. Fe wnaethom hyrwyddo ein canllaw ar gymhwyso’r PSED i’r defnydd o AI a dysgu ar y cyd ar sut mae awdurdodau lleol yn Lloegr a’r Alban yn mynd i’r afael â’r materion hyn.
Safonau Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Fe wnaethom gynghori’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) ar wella cynnwys ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r PSED o fewn y safonau gwasanaeth a chanllawiau cefnogi. Mae’r gwaith hwn yn barhaus ac yn cynnwys gwaith CDPS ar asesiadau o wasanaethau.
Digidol yn bennaf
Mae canllaw y Comisiynydd Pobl Hŷn, Practisau Meddygon Teulu yng Nghymru: Canllaw i Bobl Hŷn yn cynnwys manylion sy’n berthnasol i’r Ddeddf Cydraddoldeb, y ddyletswydd addasiad rhesymol a’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb, yn dilyn ein hymgysylltiad a’n cyngor.
Meithrin perthnasau da a hyrwyddo parch rhwng grwpiau
Diwygio'r Senedd
Fe wnaethom ddarparu cyngor arbenigol i graffu Pwyllgor Bil Diwygio’r Senedd o Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Fe wnaethom amlygu pryderon ynglŷn ag iaith a allai fod yn ddryslyd o fewn y Bil. Fe wnaethom sylwadau hefyd ar ei ddarpariaethau i ganiatáu ymgeiswyr i hunan-ddatgan pa un ai eu bod yn fenyw ai peidio at ddiben cynhwysiant ar restrau cwota. Gallai hyn fod yn anghydnaws â Deddf Cydraddoldeb 2010. Cafodd ein llythyr at y Pwyllgor ei amlygu nifer o weithiau wrth i aelodau o’r Senedd a llygad-dystion arbenigol graffu ar y Bil. Fe dderbyniodd gryn dipyn o sylw gan y cyfryngau yn ogystal.
Roedd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar egwyddorion cyffredinol Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn adlewyrchu nifer o’n hargymhellion ac yn amlygu ein tystiolaeth. Roedd yr argymhellion hyn yn cynnwys:
- galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar y Bil
- dylai’r Arolwg Llywodraeth Leol a gynigir yn y Bil adlewyrchu nodweddion gwarchodedig
- dylai’r platfform gwybodaeth fod yn hygyrch i bawb
Ymchwiliad y Senedd i urddas a pharch
Fe wnaethom ymateb i Ymchwiliad y Senedd i Urddas a Pharch. Roedd ein hymateb yn amlygu’r angen i seneddau a phleidiau gwleidyddol fod yn flaenllaw wrth greu amgylchedd enghreifftiol i’r rhai sy’n gweithio ynddynt. Fe gyfeiriom at ein canllaw technegol ar aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gweithle a phwysigrwydd sicrhau bod polisïau yn fwy gwydn. Mae’r ymateb hwn yn adeiladu ar ein hargymhelliad yn 2018 y dylai’r Senedd roi polisi gwrth-aflonyddu yn ei le. Byddwn yn monitro ymateb y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i’n hargymhellion.
Canllawiau traws i ysgolion
Rydym wedi darparu cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu eu canllawiau i ysgolion ar faterion traws.
Sicrhau fframwaith gyfreithiol effeithiol i amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol
Pan fyddwn wedi cyflawni gwaith penodol sy’n gyfatebu agosaf ag un o’n chwe blaenoriaeth strategol, rydym wedi darparu manylion pellach o dan y maes blaenoriaeth perthnasol.
Gorfodaeth gyfreithiol
Fe dderbyniodd teithiwr Gwyddelig setliad yn dilyn honiad o wahaniaethu ar sail hil gyda chefnogaeth ein Cronfa Cefnogaeth Gyfreithiol Hil. Honnwyd bod yr unigolyn wedi profi gwahaniaethu pan wrthododd tafarn yng Nghaerdydd gynnal parti bedydd teuluol. Yn dilyn yr honiad o wahaniaethu uniongyrchol, fe ymrwymodd y dafarn i gwblhau hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth.
“Roedd cael gwybod i ni gael ein gwahardd rhag archebu'r lleoliad hwn i ddathlu bedydd fy merch oherwydd ein bod yn Deithwyr Gwyddelig yn peri gofid mawr i'n teulu. Nid yw'n iawn bod pobl fel fi yn cael eu trin mor annheg, yn aml yn ddyddiol. Rwy'n gobeithio wrth ddod â’r achos hwn gallwn helpu i ddod â’r math hwn o wahaniaethu i ben fel y gall ein cymuned fwynhau’r un hawliau â phawb arall.”
Hawlydd cronfa cymorth cyfreithiol
Rheoleiddio Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Mae nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi pennu amcanion cydraddoldeb sy’n ymrwymo i weithredu er mwyn mynd i’r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol a’r anghydraddoldebau a amlygwyd yn ein hadroddiad Monitor Hawliau Dynol: A yw Cymru’n Decach? Mae hyn yn dilyn camau gweithredu rheoleiddiol a gymerwyd gennym, yn cynnwys:
- ysgrifennu at bob corff cyhoeddus i’w hatgoffa o’r rhwymedigaethau i osod amcanion erbyn mis Ebrill 2024
- darparu tystiolaeth o’r materion trwy gynnal gweminarau i rannu canfyddiadau allweddol cynnar o’n gwaith ymchwil
- cynnal digwyddiadau ymgysylltu gyda cholegau, awdurdodau lleol a’n Rhwydwaith Cyfnewid Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Mae ein ymyriadau rheoleiddiol wedi arwain at bob un o’r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCau) yn gweithredu yn erbyn cydymffurfiaeth â’r PSED. Rydym wedi:
- ysgrifennu at CJCau er mwyn amlinellu eu rhwymedigaethau, ac ymgysylltu â nhw
- pwysleisio pryderon ynglŷn ag anghydffurfiaeth posibl wrth y Gweinidog Llywodraeth Leol
- gweithio gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (WLGA) i ddarparu cyngor i’r cyrff newydd hyn
Hyrwyddo a diogelu hawliau dynol
Fel rhan o’n rôl fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI) statws ‘A’, fe gyflwynom adroddiad, ar y cyd ag NHRIs eraill y DU (Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban a Chomisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon), i Bwyllgor Hawliau Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig. Fe wnaethom gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol er mwyn trafod ymwreiddio argymhellion y DU i waith Llywodraeth Cymru ar hawliau pobl anabl.
Mae’r adroddiad yn dilyn ymchwiliad gan y Cenhedloedd Unedig yn 2016, a ddangosodd bod nifer o bobl anabl yn parhau i wynebu gwahaniaethu, er gwaethaf rhywfaint o gynnydd mewn meysydd penodol. Mae eu hamodau byw wedi gwaethygu, yn enwedig yn ngoleuni’r argyfwng costau byw.
Roedd materion allweddol a amlygwyd yn cynnwys diffyg darpariaeth gofal cymdeithasol, effaith anghymesur pandemig COVID-19 ar hawliau dynol pobl anabl a’r diffyg data swyddogol sy’n adlewyrchu profiadau pobl anabl.
Roedd gwelliannau i ddiogelwch menywod a merched wrth wraidd ein hargymhellion yn ein hadroddiad i Gyngor Ewrop ar weithrediad Llywodraeth Cymru o Gonfensiwn Istanbwl. Mae’r confensiwn yn ymrwymo llywodraethau i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
Fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i:
- gefnogi ysgolion i ddatblygu addysg hawliau dynol
- ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gofnodi achosion o fwlio yn seiliedig ar ragfarn
- gydweithio â phartneriaid yn y DU er mwyn gwella data
Fe ofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i Weinidogion ynglŷn â chynnydd tuag at gyflawni rhwymedigaethau Confensiwn Istanbwl yn y Senedd.
Cynghori'r llywodraeth a'r Senedd
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gryfhau ei Strategaeth Tlodi Plant yn unol â phryderon a godwyd gennym mewn ymgynghoriad. Cafodd rhain eu hamlygu o ganlyniad gan Bwyllgor o’r Senedd. Mae’r strategaeth wedi ei fframio’n fwy agos gan rwymedigaethau’r llywodraeth o dan yr UNCRC, yn adlewyrchu’r anghydraddoldebau a wynebir gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phwysigrwydd y ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ac yn ymrwymo i fframwaith er mwyn monitro ac adrodd ar gynnydd.
Roedd adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i wethrediad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn adlewyrchu nifer o’n argymhellion. Roedd y rhain yn cynnwys eglurder ar adnoddau i’r cynllun gweithredu yn y dyfodol, gwella argaeledd data er mwyn cefnogi’r cynllun a chyhoeddi fframweithiau monitro.
Gwaith yn y dyfodol
2024 i 2025 fydd blwyddyn olaf ein cynllun strategol presennol. Rydym wedi cynhyrchu dull thematig o weithio er mwyn sicrhau cynifer â phosibl o gyfleoedd i gydweithio.
Mae gennym 15 thema blaenoriaeth i gyd. Maent yn cynnwys:
- mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle
- cefnogi newid mewn gwasanaethau mewn lifrai
- dilyn i fyny ar waith ar ataliaeth a materion eraill i blant a phobl ifanc
- diogelu hawliau dynol mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol
- diweddaru a datblygu ein canllawiau a monitro hawliau dynol
Darllenwch ragor o wybodaeth yn ein cynllun busnes ar gyfer 2024 i 2025.
Yn 2024-25 byddwn yn ymgynghori ar ein cynllun strategol tair blynedd nesaf. Rydym wedi adnabod tri maes pwyslais allweddol ar gyfer yr ymgynghoriad, lle gallai ein pwerau unigryw arwain at welliannau a newidiadau hirdymor, sef:
- gwaith
- cyfranogaeth a pherthnasau da
- a chyfiawnder a chydbwysedd hawliau
Pwyllgor Cymru
Gyda’r pwerau a roddwyd iddo o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006, mae Pwyllgor Cymru yn gorff gwneud penderfyniadau. Ymysg pethau eraill, mae’n:
- gosod cyfeiriad ein gwaith yng Nghymru
- goruchwylio ein cyngor i Lywodraeth Cymru a’r Senedd
- cynghori ar ymchwil yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
- ymgymryd ag ymgysylltu rhanddeiliaid yng Nghymru
Gallwch ddod i wybod rhagor am waith Pwyllgor Cymru trwy ddarllen cofnodion ei gyfarfodydd.
Aelodau Pwyllgor Cymru 2023-24
Martyn Jones, Cadeirydd Dros Dro ers mis Tachwedd 2023
Martyn yw Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Heddlu De Cymru a gweithiodd cyn hynny fel Prif Weithredwr elusennau Anabledd Dysgu Cymru a Diverse Cymru. Fe gynrychiolodd Pwyllgor Cymru ar Bwyllgor Cynghori Anabledd EHRC.
Bethan Thomas
Beth yw Prif Weithredwr ELITE Supported Employment Group, gan arwain yr elusen a mentrau cymdeithasol ar draws De, Canolbarth a Gorllewin Cymru er mwyn cefnogi cannoedd o bobl bob blwyddyn â chyfleoedd galwedigaethol, hyfforddiant a chyflogaeth.
Cyn hyn, gweithiodd Beth gyda’r Big Issue fel Pennaeth Partneriaethau a Gweithrediadau Rhaglenni. Gan arwain y ddarpariaeth o raglenni strategol allweddol, arweiniodd Beth gynllun ar draws y DU i alluogi gwerthwyr y Big issue i dderbyn taliadau heb arian parod, gan sicrhau effaith sylweddol o ran cynhwysiant ariannol a digidol.
Mae Beth hefyd yn ymddiriedolwr Street Football Wales, sy’n gyrru cynhwysiant cymdeithasol trwy bêl-droed. Yn 2023, cafodd Beth ei henwi yn Ysgogwr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100, gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar y pryd.
Chris Dunn
Mae Chris yn gyn Brif Weithredwr ‘Diverse Cymru’, gyda phrofiad helaeth o arwain yn y trydydd sector yng Nghymru gyda ffocws penodol ar Gydraddoldeb, cynhwysiant a gofal cymdeithasol. Mae Chris wedi ymroi ei yrfa i feithrin amgylcheddau cynhwysol a sbarduno newid systemig. Nodir ei daith gan ymrwymiad i arloesi, cydweithio, a grymuso cymunedau ymylol.
Mae Chris hefyd yn hyfforddwr datblygu a mentor, gan ddarparu cymorth i arweinwyr trydydd sector, academyddion, a gweision sifil, gan gefnogi eu datblygiad arweinyddiaeth.
Helen Mary Jones
Mae gan Helen Mary 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes gwasanaeth cyhoeddus, yn cynnwys fel aelod o’r Senedd. Bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe ac yn brif weithredwr sefydliad gwaith ieuenctid arweiniol i bobl ifanc. Mae Helen Mary wedi dal ystod helaeth o rolau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Ar hyn o bryd mae hi’n ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, gan arwain ymgyrchoedd ar ran sefydliadau’r sector preifat a chyhoeddus. Mae Helen Mary yn aelod o fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Plant yng Nghymru. Mae hi wedi cyflwyno ar hawliau plant ym Mhrifysgolion Harvard, Houston ac Austin yn UDA. Yn 2017, derbyniodd Helen Mary ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o’i chyfraniad i fywyd cyhoeddus, yn enwedig wrth hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.
Mary van den Heuvel
Mary yw uwch swyddog polisi Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, ac mae hi’n arwain ar bolisi, y wasg a materion cyhoeddus i’r undeb yng Nghymru. Mae Mary wedi gweithio mewn nifer o rolau polisi a materion cyhoeddus yng Nghymru ers dros 15 mlynedd, yn cynnwys i Leonard Cheshire Disability, Royal National Institute of Blind People a’r Royal National Institute for Deaf People.
Fel person anabl, mae Mary yn angerddol am gyfiawnder cymdeithasol, cynrychiolaeth, cydraddoldeb a mynediad cyfartal i addysg.
Ymddeoliadau o’r pwyllgor
Yn ystod 2023-24 fe gamodd Mark Sykes i lawr o Bwyllgor Cymru. Diolchwn iddo am ei gyfraniadau.
Aelodau newydd o’r Pwyllgor
Ym mis Gorffennaf 2024 fe wnaethom groesawu dau aelod newydd i’n Pwyllgor yng Nghymru – Yr Athro John Williams a Lauren McEvatt.
Cysylltiadau
Mae’r cyhoeddiad hwn ac adnoddau cydraddoldeb a hawliau dynol perthnasol ar gael o’n gwefan.
Gellir cyfeirio cwestiynau a sylwadau mewn perthynas â’r cyhoeddiad hwn at: correspondence@equalityhumanrights.com. Croesawn eich adborth.
Am wybodaeth ar sut i gael mynediad i un o’n cyhoeddiadau mewn fformat amgen, cysylltwch â: correspondence@equalityhumanrights.com.
Sicrhewch eich bod yn derbyn diweddariadau ynglŷn â’n newyddion diweddaraf, digwyddiadau a chyhoeddiadau trwy gofrestru i dderbyn ein e-gylchlythyr.
EASS
Am gyngor, gwybodaeth neu arweiniad ar faterion cydraddoldeb, gwahaniaethu neu hawliau dynol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb, gwasanaeth annibynnol rhad ac am ddim.
Ffôn 0808 800 0082
Oriau 09:00 hyd 19:00 (dydd Llun i ddydd Gwener)
10:00 hyd 14:00 (dydd Sadwrn)
Post FREEPOST EASS HELPLINE FPN6521
Lawrlwythiadau dogfen
DOCX, 113.53 KB
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
22 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
22 Hydref 2024