Adroddiad Effaith Cymru 2022-2023

Wedi ei gyhoeddi: 22 Chwefror 2024

Diweddarwyd diwethaf: 1 Mawrth 2024

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Cymru

Rhagair

Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Cymru a Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI), rydym yn herio gwahaniaethu ac yn amddiffyn hawliau a rhyddid pobl. Rydym yn dîm bach gydag adnoddau cyfyngedig. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer 2022-2025 wedi'u hamlygu yn yr adroddiad hwn.

Hoffem ddiolch i aelodau Pwyllgor Cymru a'r tîm staff am eu hymroddiad a'u perfformiad. Hoffem ddiolch yn arbennig i Eryl Besse am ei harweinyddiaeth fel Comisiynydd Cymru eleni.

Nodwyd 2022-2023 gan gyfraddau chwyddiant uchel a phwysau costau byw. Roedd tlodi cynyddol yn gwneud anghydraddoldebau'n waeth i rai grwpiau, gyda Chymru â'r cyfraddau uchaf o dlodi plant yn y DU.

Eleni gwnaethom hefyd gyhoeddi cynllun strategol newydd. Mae ein gwaith wedi adeiladu ar yr effaith a gawsom wrth weithio o dan effeithiau llawn COVID-19. Gwnaethom gynghori Llywodraeth Cymru ar sut i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau drwyddi draw.

Gwnaeth ymgysylltu ag effeithiau'r pandemig ar grwpiau lleiafrifoedd ethnig a'n hymchwiliad i brofiadau o iechyd a gofal cymdeithasol: triniaeth gweithwyr lleiafrifoedd ethnig ar gyflogau is lywio ein cyngor i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu a chamau gweithredu cyntaf Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Mae ein gwaith gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a'n hymchwiliad i herio penderfyniadau gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a Lloegr wedi llywio ein gwaith ar gynnal hawliau a chydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae blwyddyn gyntaf rhoi strategaeth newydd ar waith bob amser yn her ac yn bleser. Mae'r tîm wedi gweithio'n galed i roi cychwyn ar fentrau, gan gynnwys mewn deallusrwydd artiffisial a digidol.

Rydym yn hynod falch o ehangder a dyfnder yr effaith y mae ein tîm Cymru wedi'i chael. Ni allem wneud cymaint ag yr ydym yn ei wneud heb gefnogaeth Pwyllgor Cymru, na chydweithio â rhanddeiliaid allanol allweddol.

Diolch yn fawr iawn, bawb.

Martyn Jones, Cadeirydd Dros Dro, Pwyllgor Cymru

Ruth Coombs, Pennaeth Cymru

Pwy ydym ni a beth rydym ni'n ei wneud

Ni yw rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain. Cawsom ein sefydlu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 i ddiogelu a gorfodi'r cyfreithiau sy'n sicrhau tegwch, urddas a pharch. Rydym yn annibynnol ar lywodraethau'r DU, yr Alban a Chymru. Fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol a achredir yn fyd-eang Prydain Fawr, mae gennym fandad hawliau dynol llawn yng Nghymru a Lloegr, ac yn yr Alban, mewn perthynas â materion a gedwir yn ôl gan Senedd y DU.

Ein gwaith ni yw herio gwahaniaethu a diogelu hawliau pobl ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban. Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • cynnal ac esbonio'r cyfreithiau sy'n diogelu hawliau a rhyddid pobl;
  • gorfodi Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban;
  • atal a herio gwahaniaethu, fel bod pawb yn cael cyfle teg mewn bywyd; a
  • diogelu hawliau pobl, fel bod pawb yn cael eu trin yn deg, gydag urddas a pharch.

Rydym yn cadw at God Ymarfer Hampton ar gyfer Rheoleiddwyr, sy'n amlinellu pum egwyddor rheoleiddio da. Y rhain yw:

  • cymesuredd
  • atebolrwydd
  • cysondeb
  • tryloywder
  • targedu

Mae rhagor o wybodaeth am ein dull o reoleiddio a'n hamcanion rheoleiddio ar ein gwefan.

Ein model rheoleiddio

Rydym yn gweithio drwy fodel rheoleiddio sy'n disgrifio sut rydym yn defnyddio ein pwerau a'n swyddogaethau statudol, gan gynnwys fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol, i wella cydraddoldeb a hawliau dynol a gorfodi cydymffurfiaeth â'r gyfraith. Mae'r model hwn yn ein helpu i gynllunio ein gwaith a nodi a mesur yr effaith rydym yn ei chael.

Archwilio'r materion

Rydym yn llywio penderfyniadau a gweithredoedd llywodraethau, seneddau ac eraill drwy ddarparu data a thystiolaeth ar gydraddoldeb a hawliau dynol.

Dylanwadu ar osodiadau safonol

Rydym yn cynghori llywodraethau, rheoleiddwyr ac eraill ar sut i wella systemau a phrosesau i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol drwy fframweithiau a safonau rheoleiddiol.

Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau

Rydym yn darparu gwybodaeth, arweiniad a chyngor i gynorthwyo sefydliadau i gyflawni eu dyletswyddau o dan gyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol. Rydym yn helpu unigolion i ddeall eu hawliau.

Gorfodi'r gyfraith

Rydym yn gweithredu yn erbyn sefydliadau sy'n torri cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol. Rydym yn eu dwyn i gyfrif, yn sicrhau cyfiawnder i bobl y mae eu hawliau wedi'u torri, ac yn ceisio sicrhau cydymffurfiad ehangach â'r gyfraith.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn yn manylu ar ein heffaith wrth wneud Cymru'n decach yn 2022-23.

Rydym wedi crynhoi ein heffaith o dan bob un o'n blaenoriaethau strategol. Mae ein Cynllun Strategol 2022-2025 yn nodi'r chwe maes blaenoriaeth y byddwn yn canolbwyntio arnynt i sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg mewn bywyd. Y rhain yw:

  • cydraddoldeb mewn gweithle sy'n newid;
  • cydraddoldeb i blant a phobl ifanc;
  • cynnal hawliau a chydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol;
  • mynd i'r afael ag effaith hawliau dynol a chydraddoldeb gwasanaethau digidol a deallusrwydd artiffisial;
  • meithrin perthynas dda a hyrwyddo parch rhwng grwpiau; a
  • sicrhau fframwaith cyfreithiol effeithiol i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol.

Uchafbwyntiau allweddol ein gwaith yng Nghymru:

  • Roedd adroddiad cynnydd blynyddol y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yn adlewyrchu canfyddiadau ac argymhellion ein hadroddiad ymchwiliad, 'Profiadau o Iechyd a Gofal Cymdeithasol: triniaeth gweithwyr lleiafrifoedd ethnig ar gyflogau is'.
  • Yn dilyn ein hymyriadau, pasiwyd gwelliant i'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a ehangodd y ddyletswydd strategol hyrwyddo cyfle cyfartal i gynnwys cyfeiriad penodol at ymchwil.
  • Gwnaeth ymateb y Gweinidogion i adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Senedd ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) dderbyn ein holl argymhellion.
  • Roedd Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar ein cyngor i sicrhau bod newidiadau mewn diwygiadau gofal cymdeithasol yn cael eu llywio gan gydraddoldeb a hawliau dynol.
  • Trwy ein Cynllun Cymorth Cyfreithiol ar Hil yn 2021, gwnaethom barhau i gefnogi pobl a brofodd wahaniaethu ar sail hil. Yng Nghymru, cefnogom achosion yn llwyddiannus ar gyfer aelodau cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Ein heffaith yn ôl blaenoriaeth strategol

Cydraddoldeb mewn gweithle sy'n newid

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol y bydd ein canllawiau yn llywio sut mae'r Ddeddf a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn gweithio gyda'i gilydd. Dengys hyn bwysigrwydd defnyddio pwysau strategol caffael i gydymffurfio â'r PSED.

Prif ffrydio ystyriaethau cydraddoldeb ym maes caffael

Mae ein canllawiau PSED a chaffael wedi'u diweddaru yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus yng Nghymru i wneud penderfyniadau sy'n cydymffurfio ac yn hyrwyddo cydraddoldeb. Mae gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru bŵer prynu enfawr: oddeutu £6 biliwn y flwyddyn, sy'n cyfrif am bron i draean o gyllideb ddatganoledig Cymru.

Gweithlu gofal cymdeithasol

Roedd adroddiad cynnydd blynyddol y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yn adlewyrchu canfyddiadau ac argymhellion ein hadroddiad ymchwiliad, profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol: triniaeth gweithwyr lleiafrifoedd ethnig ar gyflogau is.

Bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cael ei greu o dan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Bydd yn gweithio i gefnogi rhoi ein hargymhellion ar waith sy'n ymwneud â'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Gweithio o bell

Gan adlewyrchu ein cyngor, mae cwmpas tîm Gweithio o Bell Llywodraeth Cymru wedi'i ehangu i gynnwys gweithio hyblyg.

Cydraddoldeb i blant a phobl ifanc

Canllawiau ar wisg ysgol a gwahaniaethu ar sail gwallt                                                                                                

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gynnwys dolen i'n hadnoddau ar wahaniaethu ar sail gwallt yn eu canllawiau newydd ar Wisg Ysgol ac Edrychiad.

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022; Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

Pasiwyd diwygiad i'r Bil ar gyfer y Ddeddf hon. Roedd hyn yn cyd-fynd â'n hargymhellion ar yr angen i ymgorffori cyfle cyfartal yn benodol i'r pwyllgor ymchwil ac arloesi. Bydd hyn yn sicrhau bod cydraddoldeb wrth wraidd holl weithgareddau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, gan gynnwys mewn ymchwil ac addysgu.

Yn dilyn ein hymyriad, cafodd yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb gofynnol ar y Bil ei ddiwygio a'i wella gan Lywodraeth Cymru. Rhoddodd y Gweinidog sicrwydd y byddai swyddogion yn ymgysylltu â ni i ddatblygu is-ddeddfwriaeth.

Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol mewn Addysg

Gwnaethom fonitro cydymffurfiaeth ysgolion â'r PSED a'r angen i gyhoeddi Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol (SEP).

Canfuom fod canran isel o ysgolion wedi cyhoeddi SEP cyfredol. Gwnaethom egluro'r gofynion ar gyfer ysgolion drwy gyhoeddi ein Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: Canllawiau i ysgolion yng Nghymru.

Aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn ysgolion

Roedd adroddiad ymgynghoriad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn ysgolion yn adlewyrchu ein tystiolaeth a'n hargymhellion. Roedd hyn yn cynnwys yr angen i ddiweddaru canllawiau statudol i awdurdodau lleol ar gasglu a dadansoddi data.

Cynnal hawliau a chydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Diwygio Gofal Cymdeithasol

Dilynodd Llywodraeth Cymru ein cyngor drwy wreiddio'r PSED, y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, Confensiynau Cytuniad y Cenhedloedd Unedig a'n canllawiau caffael Adeiladu Gwell Canlyniadau yn y Cod Ymarfer drafft ar gyfer y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth Comisiynu.

Rheoleiddwyr Gofal Cymdeithasol

Gwnaethom ymgysylltu a rhoi cyngor ar ein hymchwiliad herio penderfyniadau gofal cymdeithasol i oedolion i Llais, Corff Llais y Dinesydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gwahoddodd y Prif Weithredwr ni i gyflwyno sesiwn ar ganfyddiadau'r ymchwiliad i'w Bwrdd, i gefnogi eu cynllunio strategol.

Rhyddhau cleifion o ysbytai

Gwnaethom ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar oblygiadau hawliau dynol a chydraddoldeb eu canllawiau i Fyrddau'r GIG. Byddai'r canllawiau hyn wedi caniatáu i gleifion gael eu rhyddhau o ysbytai heb becynnau gofal cymdeithasol ar waith.

Mynd i'r afael ag effaith hawliau dynol a chydraddoldeb gwasanaethau digidol a deallusrwydd artiffisial (AI)

Deallusrwydd artiffisial (AI), cydraddoldeb a hawliau dynol

Buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac arweinwyr digidol eraill y sector cyhoeddus i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol wrth wraidd unrhyw benderfyniadau ynghylch defnydd deallusrwydd artiffisial yng Nghymru.

Deallusrwydd artiffisial (AI) mewn gwasanaethau cyhoeddus

Dosbarthwyd ein canllawiau ar AI a chydraddoldeb mewn gwasanaethau cyhoeddus yn eang. Mae'r canllawiau'n ceisio helpu cyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau i adolygu eu defnydd o AI a sicrhau nad ydynt yn torri'r PSED.

Meithrin perthynas dda a hyrwyddo parch rhwng grwpiau

Chwaraeon yng Nghymru

Fel rhan o'n gwaith gyda chyrff chwaraeon yng Nghymru, aeth corff chwaraeon i'r afael â'n pryderon y gallai ei weithredoedd fod yn gyfystyr ag aflonyddu a gwahaniaethu Cymunedau Teithwyr Sipsiwn Roma. Ymddiheurodd y corff i'r cymunedau hyn, a chymryd camau i drwsio eu perthynas â nhw.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP)

Ar ôl dylanwadu ar ddrafftio Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP), gwnaethom gynghori Llywodraeth Cymru ar sut y gall eu gweithredoedd gyd-fynd orau ag argymhellion ein hadroddiad ymchwiliad ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r ArWAP nawr yn ymrwymo i ymgorffori argymhellion ein hadroddiad.

Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru

Mae ein tystiolaeth a nifer o argymhellion o adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' 2018 yn cael eu cyfeirio a'u rhoi ar waith yng Nghynllun Gweithredu LGBTQ+ Llywodraeth Cymru.

Clinigau Hunaniaeth Rhywedd

Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'n pryderon am yr oedi hir a brofir gan bobl draws yng Nghymru sy'n ceisio cael mynediad at y Clinig Hunaniaeth Rhywedd. Cadarnhaodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau a bod amseroedd aros wedi lleihau ers i ni godi ein pryderon.

Tasglu Pobl Anabl Llywodraeth Cymru

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Dasglu Hawliau Pobl Anabl (DTR) i fynd i'r afael â'r materion yn eu hadroddiad dan glo. Amlygodd yr anghydraddoldebau a brofir gan bobl anabl, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.

Trwy ein haelodaeth o'r DTR a'i weithgorau, rydym yn darparu cyngor, ynghyd â sefydliadau pobl anabl, i gyd-gynhyrchu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb i Bobl Anabl i Gymru.

Sicrhau fframwaith cyfreithiol effeithiol i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol

Lle rydym wedi ymgymryd â gwaith cyfreithiol penodol sy'n cyfateb agosaf ag un o'n chwe blaenoriaeth strategol, rydym wedi darparu rhagor o fanylion o dan y maes blaenoriaeth perthnasol, megis meithrin cysylltiadau da a hyrwyddo parch rhwng grwpiau.

Cronfa Cymorth Hil

Cefnogom ddau achos o dan y gronfa cymorth hil ar gyfer aelodau cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, gan ddefnyddio ein pwerau o dan Adran 28 Deddf Cydraddoldeb 2006.

Arweiniodd un achos at dad a merch yn cael iawndal wrth setlo eu hawliad o aflonyddu a gwahaniaethu ar sail hil. Roedd hyn yn dilyn Clwb Ceidwadol yng Nghaerdydd yn gwrthod cynnal eu parti bedyddio ar ôl dysgu eu bod yn Deithwyr Gwyddelig.

Sylwadau amhriodol a wnaed gan AS ynghylch cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Ysgrifennom at AS, y Llywydd, Comisiynydd Safonau y Senedd a Phwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd yn dilyn sylwadau amhriodol a wnaed am gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ystod sesiwn lawn yn y Senedd.

Gwnaethom atgoffa'r AS bod y sylwadau ond yn stigmateiddio cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ymhellach, ac yn cyfrannu at y gwahaniaethu a'r anghydraddoldebau y maent yn parhau i'w profi. Yn ogystal, nid oedd y sylwadau yn bodloni'r safonau sy'n ofynnol gan y cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd.

Cadarnhaodd yr AS y byddant yn dewis sylwadau mwy priodol i gynrychioli eu hetholwyr yn y Senedd orau yn y dyfodol.

Bil Cyfraith yr UE a ddargedwir (Dirymu a Diwygio) (Bil REUL)

Amlygodd a chytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol â phryderon a godwyd gennym yn ein briff ar y Bil REUL i aelodau'r Senedd a'i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Fel rhan o'n rôl fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI), gwnaethom gyflwyno ein hadroddiad hawliau plant ym Mhrydain Fawr i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Roedd ein hadroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Amlygodd bryderon ynghylch y nifer o blant sy'n byw mewn tlodi, rhwystrau i addysg, ac anghydraddoldebau mewn cyrhaeddiad addysgol, a waethygwyd gan y pandemig.

Gwnaethom ariannu Plant yng Nghymru i anfon grŵp o bobl ifanc i Genefa i siarad â Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a roddodd lais cryfach i'r bobl ifanc hyn wrth wraidd hawliau plant yng Nghymru, ac ar y llwyfan rhyngwladol.

Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol

Gwnaeth ein hadroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys adnewyddu eu Strategaeth Tlodi Plant.

Amlygodd ein hadroddiad gostau byw cynyddol a lefelau tlodi cynyddol sydd wedi gwaethygu anghydraddoldebau i rai grwpiau, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phlant.

Gwnaethom alluogi cymdeithas sifil i gryfhau llais gwahanol randdeiliaid yng Nghymru i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Gwnaethom hyn drwy ariannu adroddiad Just Fair i'r Pwyllgor ar ran cymdeithas sifil yng Nghymru a Lloegr.

Traciwr Hawliau Dynol

Gwnaethom ddarparu hyfforddiant i sefydliadau cymdeithas sifil ar ein teclyn ar-lein, y traciwr hawliau dynol, i'w helpu i olrhain pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni eu rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol.

'Mae'r traciwr hawliau dynol yn arf gwych sy'n hawdd ei ddefnyddio, ac mae'n rhoi crynodeb defnyddiol o'r camau y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd mewn perthynas â nifer o wahanol faterion hawliau dynol, ac yn ddefnyddiol, y cynnydd sy'n cael ei wneud.'

Claire Thomas, Uwch Swyddog Ymchwil, Senedd Cymru

Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb (BIIAG)

Cafodd cydraddoldeb a chydymffurfiaeth â chyfraith cydraddoldeb eu hystyried wrth ddatblygu cyllideb Llywodraeth Cymru yn dilyn ein cyngor i BIIAG Llywodraeth Cymru.

Effaith ein hymchwiliadau

Ymchwiliad Gofal Cymdeithasol

Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddom ein hadroddiad ymchwiliad, ‘Herio penderfyniadau ynghylch gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru a Lloegr’.

Derbyniodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol, Julie Morgan AS, holl argymhellion yr ymchwiliad a wnaed i Lywodraeth Cymru. Roedd hyn yn cynnwys argymhellion i ddiweddaru a chryfhau Cod Ymarfer Rhan 2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

'Mae adroddiad yr EHRC [...] yn amlygu bylchau sylweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw i wella mynediad pobl at wybodaeth am sut i herio penderfyniadau [...] Mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol ledled Cymru, yn ogystal â Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru, yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion y Comisiwn yn ofalus.

Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi ymrwymo i ymgorffori'r holl argymhellion y cyfeiriwyd atynt yn eu gwaith arolygu gydag awdurdodau lleol.

Ymchwiliad triniaeth gweithwyr lleiafrifoedd ethnic ar gyflogau is mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddom ein hymchwiliad i driniaeth gweithwyr lleiafrifoedd ethnig ar gyflogau is mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol,  ynghyd â Briff Polisi Cymru.

Ymgysylltodd Llywodraeth Cymru a sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gadarnhaol â'n hargymhellion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i:

  • Cynnal adolygiad o effeithiolrwydd rheoliadau i sicrhau bod gweithwyr gofal cartref a phreswyl yn cael yr opsiwn o gontractau mwy diogel ar ôl tri mis gyda chyflogwr.
  • Gofyn i reoleiddwyr, byrddau iechyd a llywodraeth leol ddangos sut y maent wedi ymateb i'n hargymhellion. Mae hyn yn cynnwys unrhyw aliniad â'r camau y maent wedi ymrwymo iddynt yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Roedd arolwg gweithlu cyfan cyntaf Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnwys cwestiynau penodol ar driniaeth a phrofiad y gweithlu yn unol â'n hargymhellion.

Bydd hyn yn gwella dealltwriaeth o'r gweithlu a'u profiadau.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan adlewyrchu un o'n hargymhellion.

Mae gweithredu o'n hargymhellion wedi'i ddynodi'n flaenoriaeth yng nghynllun gwaith 2023-24 y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.

Gwaith yn y Dyfodol

Bydd ein gwaith yn y dyfodol yn cynnwys:

Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru'n Decach? 2023

Gwnaethom gasglu tystiolaeth a data ar gyfer ein hadroddiad cyflwr y genedl ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023.

Mae 'A yw Cymru'n Decach?' yn olrhain cynnydd ar gydraddoldeb a hawliau dynol ers ein hadroddiad diwethaf yn 2018. Mae hefyd yn amlygu meysydd i'w gwella.

Rydym yn disgwyl i'r adroddiad lywio cynllunio strategol Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ar gyfer 2024 a'r tu hwnt, gan sicrhau ffocws ar yr anghydraddoldebau mwyaf dybryd.

Cydraddoldeb mewn gweithle sy'n newid

Byddwn yn parhau i fonitro gweithrediad yr argymhellion a wnaethom yn ein hymchwiliad i driniaeth gweithwyr lleiafrifoedd ethnig ar gyflogau is mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cydraddoldeb i Blant a Phobl Ifanc

Byddwn yn parhau i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhan annatod o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys hyrwyddo canllawiau PSED ar gyfer ysgolion a chyflwyniad fideo.

Yn yr hydref, byddwn yn cynnal digwyddiad i bob pennaeth yn Sir Gaerfyrddin, a fydd yn darparu cyfle peilot ardderchog ar gyfer ymgysylltu pellach ag ysgolion ledled Cymru.

Byddwn yn monitro gwelliant yn unol â chyhoeddiad Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol gan ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Byddwn yn darparu cyngor i gefnogi sefydlu'r Comisiwn newydd ar Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Mynd i'r afael ag effaith hawliau dynol a chydraddoldeb gwasanaethau digidol a deallusrwydd artiffisial

Byddwn yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gydweithio ag arweinwyr digidol yng Nghymru ac i roi cydraddoldeb a hawliau dynol wrth wraidd unrhyw benderfyniadau ynghylch defnyddio AI yng Nghymru.

Byddwn yn ystyried goblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol yn ymarferol i Gymru o unrhyw welliannau ym Mil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU.

Cynnal hawliau a chydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Byddwn yn monitro gweithrediad yr argymhellion o'n hymchwiliad i herio penderfyniadau gofal cymdeithasol i oedolion.

Byddwn yn cynghori Llywodraeth Cymru wrth iddynt ddatblygu eu diwygiadau gofal cymdeithasol, gan gynnwys datblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.

Byddwn yn rhoi cyngor ar ddatblygu pecyn cymorth i gomisiynwyr cymdeithasol ddeall yn well sut i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol.

Byddwn yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal iechyd i bobl LHDT.

Byddwn yn ceisio lleihau bylchau data a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar gyflawni eu hymrwymiadau yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+.

Meithrin cysylltiadau da

Byddwn yn rhoi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru wrth iddynt ddatblygu eu canllawiau trawsryweddol ar gyfer ysgolion.

Fframwaith cyfreithiol effeithiol

Byddwn yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar eu hymrwymiad i ymgorffori cytuniadau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.

Byddwn yn ymgysylltu â'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl ac yn rhoi cyngor ar ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb i Bobl Anabl.

Pwyllgor Cymru

Gyda phwerau a roddwyd iddo o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006, mae Pwyllgor Cymru yn gorff sy'n gwneud penderfyniadau. Ymhlith pethau eraill, mae'n:

  • gosod cyfeiriad ein gwaith yng Nghymru;
  • goruchwylio ein cyngor i Lywodraeth Cymru a'r Senedd;
  • cynghori ar ymchwil i gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru; a
  • ymgymryd ag ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru.

Gallwch ddysgu rhagor am waith Pwyllgor Cymru drwy ddarllen cofnodion ei gyfarfodydd.

Aelodau Pwyllgor Cymru 2023-24

Martyn Jones, Cadeirydd Dros Dro o fis Tachwedd 2023

Martyn yw Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Heddlu De Cymru, a chyn hynny bu'n Brif Swyddog Gweithredol yr elusennau Anabledd Dysgu Cymru a Diverse Cymru. Cynrychiolodd Bwyllgor Cymru ar y Pwyllgor Ymgynghorol Pobl Anabl.

Mark Sykes

Ymddeolodd Mark yn 2017 ar ôl gyrfa o 35 o flynyddoedd mewn adnoddau dynol a datblygu sefydliadol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Cyn hynny, ef oedd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Sefydliadol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Mae Mark yn gwirfoddoli gyda'r elusen ddigartrefedd Crisis.

Bethan Thomas

Mae Bethan Thomas yn gweithio fel Pennaeth Partneriaethau a Rhaglenni ar gyfer Big Issue. Y tu allan i'w rôl, mae Beth yn ymddiriedolwr Pêl-droed Stryd Cymru, elusen sy'n gweithio i fynd i'r afael â chynhwysiant cymdeithasol drwy bêl-droed. Mae Beth hefyd yn aelod balch o'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yng Nghymru, ac roedd yn rhan o garfan 2019 eu rhaglen fentora.

Chris Dunn

Chris yw Prif Weithredwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant yr elusen Diverse Cymru. Mae cefndir Chris yn y trydydd sector yng Nghymru, lle mae'n brwydro dros gydraddoldeb ac yn sicrhau bod gan gymunedau lwyfan i arwain newid. Caiff Chris ei arwain gan ei werthoedd o gyd-gynhyrchu cynhwysol, cynnal cydraddoldeb a chyflawni rhagoriaeth.

Helen Mary Jones

Mae gan Helen Mary 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys fel aelod o'r Senedd. Bu'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae wedi bod yn brif weithredwr sefydliad gwaith ieuenctid cenedlaethol blaenllaw. Mae Helen Mary wedi cyflawni amrywiaeth eang o rolau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Ar hyn o bryd, mae'n ymgynghorydd materion cyhoeddus, yn arwain ymgyrchoedd ar gyfer sefydliadau'r sector preifat a'r sector cyhoeddus. Mae Helen Mary yn aelod o fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Plant yng Nghymru. Mae hi wedi cyflwyno ar hawliau plant ym mhrifysgolion Harvard, Houston ac Austin yn yr Unol Daleithiau. Yn 2017, dyfarnwyd doethuriaeth er anrhydedd i Helen Mary gan Brifysgol Abertawe. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth am ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus, yn enwedig hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.

Mary van den Heuvel

Mary yw uwch swyddog polisi Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, ac mae'n arwain ar bolisi, y wasg a materion cyhoeddus i'r undeb yng Nghymru. Mae Mary wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau polisi a materion cyhoeddus yng Nghymru ers dros 15 mlynedd, gan gynnwys Leonard Cheshire Disability, y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall a'r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar.

Fel person anabl, mae Mary yn angerddol am gyfiawnder cymdeithasol, cynrychiolaeth, cydraddoldeb a mynediad teg at addysg. Mae Mary ar banel Cronfa Mynediad i Swyddfa Etholedig Cymru, sy'n helpu pobl anabl gyda chostau ychwanegol sefyll mewn etholiad.

Eryl Besse, Comisiynydd Cymru (Cadeirydd) tan 31 Hydref 2023

Ers ymddeol o ymarfer cyfreithiol ddiwedd mis Rhagfyr 2012, mae Eryl wedi bod mewn gwasanaeth cyhoeddus. Gwasanaethodd ar Fwrdd y Comisiwn Elusennau o 2013 tan 2018, a hi oedd yr Aelod dros Gymru. Roedd hi'n Ddirprwy Gadeirydd rhwng 2016 a 2018. Yn dilyn hynny, roedd yn Uwch Gynghorydd i Gynrychiolydd Arbennig yr Ysgrifennydd Tramor ar gyfer dioddefwyr terfysgaeth IRA a noddir gan Qadhafi.

Roedd Eryl yn Ddirprwy Gadeirydd ar y cyd i’r Comisiwn o 1 Ionawr 2023 tan 29 Medi 2023, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Pobl a Mannau Gwaith y Comisiwn am yr un cyfnod. Ymddiswyddodd Eryl o'i rôl fel Comisiynydd ym mis Hydref 2023.

Apwyntiadau i'r pwyllgor ac ymddeoliadau

Roedd Eryl Besse yn Gomisiynydd Cymru rhwng mis Ebrill 2022 a mis Hydref 2023. Gadawodd ei rôl ym mis Hydref 2023. Diolchwn iddi am ei chyfraniad.

Ymunodd Helen Mary Jones a Chris Dunn â'r Pwyllgor ym mis Hydref 2022.

Ymunodd Mary van den Heuvel â'r Pwyllgor ym mis Ebrill 2023.

Yn ystod 2022-23, ymddiswyddodd Rocio Cifuentes, Grace Quantock, Geraint Hopkins, Alison Parken a Faith Walker o Bwyllgor Cymru. Diolchwn iddynt am eu cyfraniadau.

Hoffem ddiolch hefyd i Martyn Jones am ei gyfnod fel cadeirydd dros dro Pwyllgor Cymru.

Cysylltiadau

Mae'r cyhoeddiad hwn ac adnoddau cydraddoldeb a hawliau dynol perthynol ar gael ar ein gwefan.

Gellir cyfeirio cwestiynau a sylwadau ar y cyhoeddiad hwn at: correspondence@equalityhumanrights.com. Croesawn eich adborth.

Am wybodaeth am gael un o'n cyhoeddiadau mewn fformat arall, cysylltwch â: correspondence@equalityhumanrights.com.

Derbyniwch y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiaau a chyhoeddiadau drwy gofrestru i dderbyn ein e-gylchlthyr.

EASS

Am gyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar gydraddoldeb, gwahaniaethu neu hawliau dynol, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb, gwasanaeth annibynnol am ddim.

Rhif ffôn      0808 800 0082

Oriau            09:00 i 19:00 (Dydd Llun i ddydd Gwener)

                    10:00 i 14:00 (Dydd Sadwrn)

Post             RHADBOST LLINELL GYMORTH EASS FPN6521

© 2024 Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau