Ymchwil

Fframwaith mesur ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol

Wedi ei gyhoeddi: 27 Hydref 2017

Diweddarwyd diwethaf: 27 Hydref 2017

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r fframwaith mesur y mae’r Comisiwn yn ei ddefnyddio i fonitro cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain.

Rydym yn mesur cynnydd ar draws chwe maes bywyd, neu ‘faes’:

  • addysg
  • gwaith
  • safonau byw
  • iechyd
  • cyfiawnder a diogelwch personol
  • cyfranogiad

Yn ogystal â chael ei ddefnyddio gan y Comisiwn, gall sefydliadau ac unigolion eraill ddefnyddio’r fframwaith, gan gynnwys:

  • pwyllgorau seneddol
  • adrannau'r llywodraeth
  • cyrff statudol a llunwyr polisi
  • economegwyr
  • ystadegwyr
  • ymchwilwyr cymdeithasol ac academyddion
  • ffurfwyr barn a'r cyfryngau
  • elusennau, sefydliadau trydydd sector a grwpiau ymgyrchu
  • sefydliadau anllywodraethol (NGOs)
  • Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol a Chyrff Cydraddoldeb Cenedlaethol mewn gwledydd eraill

Mae’r fframwaith mesur sengl hwn ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol yn dwyn ynghyd ein pedwar fframwaith blaenorol ac yn cefnogi ein hadroddiadau rheolaidd i’r Senedd.

Mae'r fframwaith yn cwmpasu Cymru, Lloegr a'r Alban.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon