Cyhoeddiad

Cynnydd ar hawliau anabledd yn y Deyrnas Unedig: 2023

Wedi ei gyhoeddi: 17 Awst 2023

Diweddarwyd diwethaf: 17 Awst 2023

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i roi argymhellion y Pwyllgor ar Hawliau Pobl ag Anableddau ar waith i wella bywydau pobl anabl ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’n nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig, yn ogystal â’r meysydd lle mae angen gwella o hyd.

Mae’r Pwyllgor yn gorff annibynnol sy’n monitro cydymffurfiaeth â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CRPD).

Daw’r argymhellion a asesir yn yr adroddiad hwn o ymchwiliad y Pwyllgor i hawliau pobl anabl yn y Deyrnas Unedig, a gyhoeddwyd ganddo yn 2016.

Mae Mecanwaith Annibynnol y Deyrnas Unedig (UKIM) wedi cynhyrchu’r adroddiad tystiolaeth hwn. Mae UKIM yn cynnwys y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI), Comisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon (NIHRC) a Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban (SHRC).

Yn ôl y gyfraith, mae UKIM yn gyfrifol am hyrwyddo, diogelu a monitro gweithrediad y CRPD ar draws y Deyrnas Unedig.

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gwmpasu ein gwahanol fandadau yn y Deyrnas Unedig, a adlewyrchir yn yr adroddiad hwn.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau