Camau cyfreithiol

Sicrhau bod plant yn cael cymorth i herio gwaharddiadau gwahaniaethol o'r ysgol

Wedi ei gyhoeddi: 30 Tachwedd 2023

Diweddarwyd diwethaf: 30 Tachwedd 2023

Manylion yr achos

Nodwedd warchodedig Anabledd, Hil
Mathau o hawliadau cydraddoldeb Gwahaniaethu uniongyrchol, Gwahaniaethu anuniongyrchol, Addasiadau rhesymol
Rhaid dilyn y penderfyniad i mewn Lloegr, Cymru
Mae'r gyfraith yn berthnasol i Lloegr, Cymru
Ein cyfranogiad Cymorth cyfreithiol (adran 28 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006)
Canlyniad Parhaus
Meysydd o fywyd Addysg, Cyfiawnder a diogelwch personol
Gyfraith Hawliau Dynol Erthygl 6 Yr hawl i dreial teg, Erthygl 14: Amddiffyn rhag gwahaniaethu mewn perthynas â'r hawliau a'r rhyddidau hyn, Protocol 1, Erthygl 2: Hawl i addysg
Fframwaith rhyngwladol Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau a'i Brotocol Dewisol (CRPD), Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (CRC), Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD)

Enw achos: X v Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol

Mater cyfreithiol

A yw Erthygl 6 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) yn berthnasol i achosion Panel Adolygu Annibynnol ynghylch penderfyniad i wahardd plentyn yn barhaol o ysgol, ac a ddylai plant yn y sefyllfa honno felly fod yn gymwys i gael Cyllid Achos Eithriadol gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol?

Cefndir

Apeliodd Plentyn X, sy’n ddu ac yn anabl, yn llwyddiannus yn erbyn ei waharddiad o’r ysgol mewn achosion Panel Adolygu Annibynnol. Fodd bynnag, ni allai gael Cyllid Achos Eithriadol (ECF) gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Roedd hyn oherwydd, wrth gymhwyso adran 10 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, fod yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol o’r farn nad oedd Erthygl 6 Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) - (Hawl i Dreial Teg) yn berthnasol i achosion yn ymwneud â penderfyniad i wahardd plentyn yn barhaol, ac nid oedd yn cydnabod difrifoldeb y materion yn yr achos.

Pam roedden ni'n cymryd rhan

Mae gormod o blant a phobl ifanc ym Mhrydain yn wynebu gwahaniaethu a rhwystrau i gyfleoedd, gan gynnwys rhagfarn a diffyg cefnogaeth briodol mewn lleoliadau addysg. Rhan o'n gwaith i fynd i'r afael â hyn yw cefnogi achosion cyfreithiol i herio gwahaniaethu mewn gwaharddiadau o'r ysgol. Os bydd y llysoedd yn canfod y dylai Erthygl 6 fod yn berthnasol yng ngwrandawiadau’r Panel Adolygu Annibynnol, yna gall plant gael cymorth cyfreithiol a’u cynrychioli yn y gwrandawiadau hyn er mwyn herio penderfyniadau gwahaniaethol.

Beth wnaethom ni

Fe wnaethom ariannu Just for Kids Law i adolygu penderfyniad yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn farnwrol. Cafodd y cais ei wrthod yn wreiddiol gan yr Uchel Lys wrth i’r Asiantaeth gytuno i ailystyried ei phenderfyniad. Yn dilyn ei hailystyried, cadarnhaodd yr Asiantaeth ei phenderfyniad i wrthod ECF ar yr un seiliau ag o'r blaen.

Beth ddigwyddodd

Mewn gwrandawiad ar 21 Tachwedd 2023, cafodd yr hawlydd ganiatâd i ddod ag adolygiad barnwrol, a fydd yn cael ei glywed cyn Pasg 2024. Mae rhagor o fanylion am yr achos ar gael ar wefan Garden Court Chambers.

Pwy fydd yn elwa

Dylai plant sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol allu cael eu cynrychioli mewn gwrandawiadau gwahardd cyn gwrandawiadau’r Panel Adolygu Annibynnol, gan ganiatáu iddynt elwa ar wybodaeth gyfreithiol mewn achos lled-gyfreithiol.

Dyddiad y gwrandawiad

21 Tachwedd 2023

Diweddariadau tudalennau