Cyhoeddiad

Herio penderfyniadau gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a Lloegr

Wedi ei gyhoeddi: 3 Ebrill 2023

Diweddarwyd diwethaf: 28 Chwefror 2023

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Cymru

Fe wnaethom gynnal ymchwiliad i ddeall profiadau pobl o herio, neu geisio herio, penderfyniadau cynghorau lleol am ofal cymdeithasol neu gymorth i oedolion.

Canfuom:

  • mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau dyddiol am fynediad pobl at ofal cymdeithasol. Mae gan bobl hawl i'w herio
  • mae’r system ar gyfer herio penderfyniadau yn ddryslyd ac yn destun oedi hir
  • mae prosesau cwyno awdurdodau lleol yn cymryd llawer o amser, yn gymhleth ac yn peri straen
  • nid yw pobl yn cael gwybodaeth hanfodol am sut i herio penderfyniadau; maent yn ofni, os byddant yn herio penderfyniadau, y byddant yn wynebu canlyniadau negyddol ac yn colli mynediad at ofal
  • mae rhai defnyddwyr yn pryderu ynghylch diffyg annibyniaeth oddi wrth y sawl sy'n gwneud y penderfyniad
  • nid yw casglu a dadansoddi data yn ddigon da, felly mae patrymau a thueddiadau'n cael eu methu

O ganlyniad, mae'r system yn gwneud cam â'r rhai sydd ei angen. Mae pobl yn cael eu hatal rhag ceisio cymorth ac yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u dadrymuso. Mae rhai pobl mewn argyfwng ac yn ysu am gymorth.

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad am ein canfyddiadau, gan gynnwys ein hargymhellion ar gyfer newid.

Mae crynodeb Iaith Arwyddion Prydain o adroddiad ein hymchwiliad ar gael (agor mewn ffenestr newydd).

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon