Proffil

Dr Lesley Sawers OBE

Dirprwy Gadeirydd Dros Dro a Chomisiynydd yr Alban at Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Ynghylch

Penodwyd am bum mlynedd o 29 Mawrth 2016
Ailbenodwyd am bedair blynedd o 29 Mawrth 2021

Wedi’i benodi’n Ddirprwy Gadeirydd Dros Dro o 29 Medi 2023

Ar hyn o bryd mae Lesley yn gyfarwyddwr anweithredol i Crosswinds Developments Ltd ac yn Ymddiriedolwr i SmarkWorks Scotland. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr GenAnalytics Ltd, ymgynghoriaeth dadansoddol a mewnwelediad marchnad arbenigol. Cyn hynny roedd Lesley yn Is-Bennaeth a Dirprwy Is-ganghellor Busnes, Menter ac Arloesi ym Mhrifysgol Glasgow Caledonian, Prif Weithredwr Cyngor Datblygu a Diwydiant yr Alban a Dirprwy Gadeirydd Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban. Mae hi hefyd wedi dal uwch swyddi gweithredol yn Scottish Power plc, y Post Brenhinol, CACI Inc a VisitScotland. Mae hi hefyd yn gyn Ymddiriedolwr a Chadeirydd Gweithredu dros Blant (Yr Alban), yn Ymddiriedolwr Age Scotland, yn Gadeirydd Bwrdd Cynghori’r Post Brenhinol yn yr Alban ac yn Gadeirydd Cynghrair Dinasoedd yr Alban. Dyfarnwyd OBE i Lesley yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2018 am wasanaethau i Gydraddoldeb a Busnes.

Fel Comisiynydd yr Alban, mae hi hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Comisiynwyr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Ar 29 Medi 2023 penodwyd Lesley yn Ddirprwy Gadeirydd Dros Dro y Bwrdd gan y Gweinidog dros Ferched a Chydraddoldeb.