Cyngor i Lywodraeth Cymru

Wedi ei gyhoeddi: 6 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 6 Ebrill 2016

Bil (Ymadael) yr Undeb Ewropeaidd a’i oblygiadau i Gymru

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi gwneud cyflwyniad ysgrifenedig i ymgynghoriad ar y cyd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a Phwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Llywodraeth Cymru i Fil (Ymadael) yr Undeb Ewropeaidd a’i oblygiadau i Gymru.

Darllener ein cyflwyniad llawn Word a dan ategir gan ein cynllun 5 pwynt ar sut y gall Prydain gadw a chryfhau ei statws fel arweinydd byd eang ar gydraddoldeb a hawliau dynol ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru (2017)

Gwnaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gyflwyniad ysgrifenedig i Ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad Cenedlaethol i hawliau dynol yng Nghymru (wedi’i gyflwyno ym mis Chwefror 2017).

Mae’r cyflwyniad hwn yn darparu tystiolaeth ar feysydd a amlygwyd yng Nghylch Gorchwyl yr Ymchwiliad, gan gynnwys:  

  • effaith ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd ar amddiffyn hawliau dynol yng Nghymru
  • effaith cynnig Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 a’i disodli â Deddf Hawliau’r DU, a
  • chanfyddiadau cyhoeddus ynglŷn â hawliau dynol yng Nghymru, yn enwedig pa mor ddealladwy a pherthnasol ydyn nhw i bobl Cymru.

Darllen cyflwyniad llawn  Ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad Cenedlaethol i hawliau dynol yng Nghymru. (Word)

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar hawliau dynol yng Nghymru.

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: etholiad 2016

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ysgrifennu at bleidiau gwleidyddol Cymru cyn etholiad 2016. Gallwch ddarllen y llythyr fan hyn

Ymateb i’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi darparu ymateb ffurfiol i’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, sy’n adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae argymhellion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau dynol yn canolbwyntio ar sicrhau agenda cydraddoldeb a hawliau dynol cadarn ac amlwg yng Nghymru yn y dyfodol.

Darllen yr ymateb ffurfiol i'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Cyngor Pwyllgor Cymru o ran atebolrwydd cadarnach yng Nghymru dros ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol

Ysgrifennodd Jane Hutt, y Gweinidog Cydraddoldeb ar y pryd, at Bwyllgor Cymru’r Comisiwn. Gofynnodd am ei gyngor ynglŷn ag ymrwymiad Rhaglen Llywodraeth Cymru ‘i archwilio sut y gellir cyflawni atebolrwydd Cymreig cadarnach i ddeddfwriaeth gydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys gorfodi dyletswyddau sy’n benodol i Gymru.’

Roedd Pwyllgor Cymru’r Comisiwn yn falch o’r cyfle i ddarparu cyngor i’r Gweinidog. Mae papur cyngor y Pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion. Gyda’i gilydd, mae’r argymhellion hyn yn arfogi Llywodraeth Cymru i sicrhau fwy o atebolrwydd i gydraddoldeb a hawliau dynol a’i galluogi i reoli’r agenda pwysig hwn yng Nghymru – a Dyletswydd Gydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn arbennig. Darparwyd y papur cyngor hwn i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2012.

Darllen y papur Cyngor i Lywodraeth

Diweddariadau tudalennau