Cyflogwyr: beth yw camau positif yn y gweithle?

Wedi ei gyhoeddi: 27 Mawrth 2019

Diweddarwyd diwethaf: 27 Mawrth 2019

Camau positif yw cymryd camau penodol i wella cydraddoldeb yn eich gweithle. Er enghraifft, i wella nifer y bobl anabl mewn uwch rolau y maen nhw ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol.  

Gellir ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion arbennig grŵp, lleihau anfantais y gallan nhw ddioddef neu gynyddu eu cyfranogiad mewn gweithgaredd penodol.

Rhaid i chi allu dangos bod camau positif yn ffordd briodol i’ch sefydliad gyflawni un o’r nodau hyn a bod y camau a gymeroch wedi cael ystyriaeth gofalus gennych.

Mae defnyddio camau positif yn y gwaith yn wirfoddol. Fodd bynnag, dylai cyflogwyr sector cyhoeddus ystyried defnyddio camau positif i’w helpu i gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Gallai cyflogwyr sydd yn defnyddio mesurau gweithredu positif ganfod ei fod o fudd i’w sefydliad, gan gynnwys cronfa doniau a phobl grefftus a phrofiadol ehangach y gellir recriwtio ohono a dealltwriaeth well o anghenion ystod fwy amrywiol o gwsmeriaid.

Chwe enghraifft o gamau positif 

  • gosod hysbysebion swydd i dargedu grwpiau penodol, i gynyddu’r nifer o ymgeiswyr o’r grŵp hwnnw
  • cynnwys datganiadau mewn hysbysebion swydd i annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, megis ‘mae croeso i ymgeiswyr benywaidd’
  • cynnig hyfforddiant neu interniaethau i helpu rhai grwpiau gael cyfleoedd neu gynnydd yn y gwaith
  • cynnig cysgodi neu fentora i grwpiau gydag anghenion arbennig
  • cynnal diwrnod agored yn benodol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i’w hannog i faes arbennig
  • ffafrio’r ymgeisydd swydd o grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol, pan fo dau ymgeisydd gyda’r un cymwysterau

Gweler pennod 12 o’n cod ymarfer i gyflogwyr am fwy o wybodaeth ar gamau positif.

Diweddariadau tudalennau