Arweiniad

Gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau: Cod Ymarfer

Wedi ei gyhoeddi: 1 Ionawr 2011

Diweddarwyd diwethaf: 1 Ionawr 2011

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae'r Cod hwn yn ymdrin â gwahaniaethu mewn gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus fel y nodir yn Rhan 3 o'r Ddeddf a gwahaniaethu gan gymdeithasau.

Mae Rhan 3 yn seiliedig ar yr egwyddor na ddylid gwahaniaethu yn erbyn pobl â’r nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf wrth ddefnyddio unrhyw wasanaeth a ddarperir yn gyhoeddus neu’n breifat, p’un a yw’r gwasanaeth hwnnw am dâl ai peidio.

Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y dylai darparwyr gwasanaethau drin pawb yn union yr un ffordd; mewn rhai amgylchiadau bydd angen i ddarparwr gwasanaeth ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol i ddiwallu anghenion pobl er enghraifft, gweithredu cadarnhaol, gwasanaethau un rhyw a phobl anabl fel y gallant dderbyn yr un safon o wasanaeth cyn belled ag y bo modd.

Esbonnir y camau y dylai darparwyr gwasanaethau eu cymryd i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn y Cod hwn.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau