Crefydd neu gred: recriwtio

Wedi ei gyhoeddi: 24 Mawrth 2017

Diweddarwyd diwethaf: 24 Mawrth 2017

Atebion i'r prif gwestiynau crefydd neu gred am recriwtio, wedi'u lluno gyda chyflogwyr. Rhan o'n cwestiynau cyffredin crefydd neu gred

A all ymgeisydd ofyn am addasiadau i amodau gweithio yn y cam cyfweliad?

Gall, gwarchodir ymgeiswyr rhag gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn yr un modd â chyflogeion. Mae hyn yn golygu y gall ymgeiswyr am swydd, unigolion sydd wedi derbyn ond heb gychwyn swydd, cyflogeion ar gontract parhaol neu dros dro, a gweithwyr dros dro neu annibynnol wneud ceisiadau ynghylch crefydd neu gred. Gallai’r rhain fod ynghylch codau gwisg neu newidiadau i ddyletswyddau gwaith er enghraifft.

Os gwrthodwch gais mae’n rhaid ichi sicrhau nad ydych yn gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn erbyn eich cyflogai neu bobl eraill sy’n rhannu’r un grefydd neu gred. Gweler ein canllaw i’r gyfraith i ddysgu rhagor am wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.


A allaf ofyn am grefydd neu gred ymgeisydd mewn cyfweliad? A fydd hyn yn fy ngosod mewn perygl os na fyddaf yn ei benodi wedyn?

Yn y mwyafrif o achosion, ni ddylech ofyn am grefydd neu gred ymgeisydd mewn cyfweliad. Dylai cyflogwyr ganolbwyntio dim ond ar allu’r ymgeisydd i ddiwallu disgrifiad y swydd a chymwyseddau allweddol sy’n berthnasol i’r swydd. Gallai gofyn i ymgeisydd am eu crefydd neu gred mewn cyfweliad pan nad yw’n ofyniad i’r swydd achosi canfyddiad ganddynt y byddai methiant canlynol i benodi yn wahaniaethol gan fod eu crefydd neu gred wedi’i chymryd i gyfrif pan nad oedd yn berthnasol.

Yr eithriad i hyn yw pan fydd gofyniad galwedigaethol i benodi rhywun sy’n dal crefydd neu gred arbennig. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn caniatáu i’r fath ofyniad galwedigaethol gael ei ddefnyddio o dan amgylchiadau penodol iawn. Yn yr achosion hynny mae’n gyfreithlon i ofyn cwestiynau er mwyn cadarnhau a yw’r ymgeisydd yn diwallu’r gofyniad galwedigaethol. Gweler ein cyfarwyddyd ar gyfraith gydraddoldeb ynghylch gofynion galwedigaethol.


Beth ddylwn i wneud os bydd ymgeisydd yn gofyn imi newid amser neu ddyddiad cyfweliad am resymau crefydd neu gred?

Mae’n arfer da i gyflogwyr ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd ynghylch dyddiadau ac amseroedd cyfweliad i bawb. Gall hyn sicrhau na fydd unigolion dan anfantais ar sail crefydd neu gred, neu am resymau eraill, er enghraifft angen trefnu gofal plant er mwyn mynychu cyfweliad. Bydd rhoi rhywfaint o le i newid dyddiadau neu amseroedd yn golygu y gall y rhai hynny sydd â chymwysterau addas ymgeisio a mynychu ar gyfer y broses ddewis.

Os derbyniwch gais i newid amser cyfweliad am reswm ynghylch crefydd neu gred byddai’n briodol ichi ystyried y cais hwnnw er mwyn gweld a ellir ei ddiwallu neu beidio. Bydd angen ichi sicrhau nad ydych yn gwahaniaethu yn erbyn yr ymgeisydd trwy fynnu eu bod yn mynychu ar yr amser penodol. Os oes rhesymau da pam nad yw’n bosibl darparu dyddiad amgen yna mae’n annhebygol ei fod yn wahaniaethu. Er enghraifft, os mai’r amser penodol yw’r unig amser pan all pob aelod o’r panel ddod ynghyd i gyfweld ymgeiswyr. Gweler ein hofferyn gwneud penderfyniadau i’ch helpu i drafod ceisiadau gan gyflogeion.

 

Diweddariadau tudalennau