Crefydd neu gred: gofynion bwyd a diet

Wedi ei gyhoeddi: 24 Mawrth 2017

Diweddarwyd diwethaf: 24 Mawrth 2017

Atebion i'r prif gwestiynau crefydd neu gred am ofynion bwyd a diet, wedi'u lluno gyda chyflogwyr. Rhan o'n cwestiynau cyffredin crefydd neu gred

A oes angen imi ddarparu ar gyfer gofynion bwyd cyflogeion â chrefyddau neu gredoau gwahanol yn ffreutur y gweithle?

Nac oes, nid oes angen ichi ddarparu ar gyfer gofynion dietegol cysylltiedig â chrefydd neu gred fel mater o drefn. Fodd bynnag, mae angen ichi sicrhau nad yw’r penderfyniadau rydych yn eu gwneud ynghylch gofynion dietegol yn creu anfantais i’r rhai hynny sy’n rhannu crefydd neu gred yn neilltuol. Os gwrthodwch gais i ddarparu bwydydd arbennig ar gyfer rhesymau ynghylch crefydd neu gred, byddai angen ichi gyfiawnhau hyn yn wrthrychol.

Mae’n debygol y bydd yr hyn sy’n briodol ar gyfer un gweithle’n wahanol ar gyfer un arall a bydd yn dibynnu ar faint y sefydliad, niferoedd y staff, a’r cyfleusterau sydd ar gael. Efallai y byddai darparu opsiwn llysieuol yn ogystal ag opsiwn cig yn diwallu anghenion y mwyafrif mawr o’r staff.

 


Sut allaf sicrhau na fydd cyflogeion eraill yn teimlo eu bod wedi’u heffeithio’n annheg pan fydd un o’u tîm yn ymprydio a chaniateir iddo/iddi adael y gwaith yn gynnar?

Mae’n arfer da i sicrhau bod eich holl gyflogeion yn ymwybodol o gyfnodau ymprydio a’r hyn mae ymprydio’n ei olygu. Gellir gwneud hyn trwy bostio gwybodaeth gyffredinol ar hysbysfyrddau, mewnrwyd neu gylchlythyrau staff i annog dealltwriaeth ac ystyriaeth ymhlith cydweithwyr.

Mae’r effaith ar gydweithwyr yn ffactor perthnasol tra’n ystyried cais gan gyflogai sy’n ymprydio i adael y gwaith yn gynnar. Mae’n annhebygol y bydd y ffaith bod cydweithwyr yn ystyried bod y trefniad yn annheg yn cyfiawnhau gwrthod cais. Os cytunwch i’r cais gwnewch ymdrechion i esbonio i’r cyflogeion eraill pam eich bod yn caniatáu’r cais, gan ddweud wrthynt, er enghraifft, ei fod dros dro ac a yw’r cyflogai’n gwneud yn iawn am yr oriau ar amseroedd eraill. Os gwrthodwch y cais mae’n rhaid ichi sicrhau nad ydych yn gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn erbyn eich cyflogai neu bobl eraill sy’n rhannu’r un grefydd neu gred. Gweler ein canllaw i’r gyfraith i ddysgu rhagor ynghylch gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.

 

Diweddariadau tudalennau