Crefydd neu gred: codau gwisg a symbolau crefyddol

Wedi ei gyhoeddi: 24 Mawrth 2017

Diweddarwyd diwethaf: 24 Mawrth 2017

Atebion i'r prif gwestiynau crefydd neu gred am godau gwisg a symbolau crefyddol, wedi'u lluno gyda chyflogwyr. Rhan o'n cwestiynau cyffredin crefydd neu gred

A all cyflogai wrthwynebu cod gwisg neu bolisi iwnifform yn y gweithle oherwydd ei fod yn gwrthdaro â’u crefydd neu gred?

Gall. Os penderfynwch eich bod eisiau gweithredu cod gwisg neu bolisi iwnifform, mae’n rhaid ichi sicrhau nad yw’n gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn erbyn cyflogeion â chrefydd neu gred arbennig neu ddim crefydd neu gred. Gweler ein canllaw i’r gyfraith i gael gwybod rhagor ynghylch gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Mae’n rhaid ystyried unrhyw geisiadau i newid cod gwisg neu bolisi iwnifform yn y gweithle ar wahân gan y gallai fod gofynion dillad sy’n perthyn i rai rolau ac nid eraill. Er enghraifft, gallai gwisgo symbol crefyddol ar gadwyn fod yn fwy o risg i iechyd a diogelwch pan yw rôl y cyflogai’n cynnwys gweithio gyda pheirianwaith y gallai fynd ynghlwm ynddo na lle mae ei rôl mewn swyddfa. Ar gyfer rolau eraill efallai y bydd cyfiawnhad ar sail diogelwch i beidio â chaniatáu i gyflogai wisgo dillad sy’n ei wneud yn anodd dilysu ei hunaniaeth.

Os cytunwch i newid mewn polisi iwnifform ar seiliau crefyddol ar gyfer un person, nid oes rhaid ichi ei wneud ar gyfer pawb. Nid yw’n wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon i drin pobl yn wahanol os yw eu sefyllfaoedd yn wahanol. Er enghraifft, mae cyflogwr yn cytuno i newid mewn polisi iwnifform ar gyfer cyflogai crefyddol oherwydd fel arall byddai’n gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn y cyflogai hwnnw oherwydd ei grefydd. Mae cyflogai arall yn gofyn am yr un newid i’r polisi oherwydd nad yw’r iwnifform yn gyfforddus iddo. Ni fyddai’n wahaniaethu uniongyrchol i wrthod y cais hwn oherwydd nid yw amgylchiadau’r person hwn yr un peth â’r cyflogai crefyddol, ac nid yw’r cais yn perthyn i grefydd neu gred neu unrhyw nodwedd arall a warchodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Hefyd gallai’r cyflogwr wedi gwrthod cais y cyflogai crefyddol os oedd yn seiliedig ar gysur yn unig.


A allaf fynnu bod cyflogai’n tynnu symbol crefyddol neu fath o wisg grefyddol os yw’n torri ar ein polisi iechyd a diogelwch?

Mewn rhai achosion gall rhesymau iechyd a diogelwch gyfiawnhau gofyn i gyflogai dynnu symbol neu fath o wisg arbennig. Ond mae’n rhaid ichi fod yn glir pam bod symbol neu wisg yn cyflwyno risg i iechyd a diogelwch a sicrhau nad ydych yn gwahaniaethu yn erbyn y cyflogai. Efallai y bydd dulliau mwy priodol o sicrhau eich bod yn diwallu gofynion iechyd a diogelwch na mynnu bod y cyflogai’n tynnu symbol neu wisg yn gyfan gwbl. Er enghraifft, er efallai na fydd gwisgo symbol crefyddol ar gadwyn yn briodol mewn sefyllfa waith lle gallai fynd ynghlwm mewn peirianwaith, efallai na fydd y risg yn codi lle gwisgir yr un symbol fel tlws felly byddai’n briodol i ganiatáu i gyflogai wneud hynny.  

 

Diweddariadau tudalennau