Crefydd neu gred: amser i ffwrdd o'r gwaith

Wedi ei gyhoeddi: 24 Mawrth 2017

Diweddarwyd diwethaf: 24 Mawrth 2017

Atebion i'r prif gwestiynau crefydd neu gred am amser i ffwrdd o'r gwaith a luniwyd gyda chyflogwyr. Rhan o'n cwestiynau cyffredin ynghylch crefydd neu gred.

Oes rhaid imi gytuno i gais cyflogai am amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer gŵyl neu bererindod grefyddol?

Nac oes, nid oes rhaid ichi gytuno fel mater o drefn ond mae’n rhaid ichi roi ystyriaeth briodol i’r cais a sicrhau nad ydych yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn y cyflogai. Gweler ein hofferyn gwneud penderfyniadau i’ch helpu i drafod ceisiadau gan gyflogeion.

Os gall cyflogai ddefnyddio ei h/absenoldeb blynyddol statudol neu gontractiol ar gyfer yr ŵyl neu bererindod, gallai fod yn anodd dangos bod gwrthodiad yn gymesur oni bai fod rhyw reswm da pam na ellir cymryd gwyliau ar yr adeg arbennig honno (er enghraifft, mae’r galwadau ar y busnes neu’r gweithlu’n uchel).

Bydd maint a natur eich sefydliad yn berthnasol. Efallai y bydd gan gyflogwr mawr fwy o gwmpas i ddarparu ar gyfer yr absenoldeb gan ei staff presennol neu gan gronfa o staff dros dro, er y gallai ddal i fod yn anodd mewn rhai sectorau i ddarparu staff cyflenwi ar gyfer cyflogeion â sgiliau penodol.

Os gwrthodwch gais mae’n rhaid ichi sicrhau nad ydych yn gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn erbyn eich cyflogai neu bobl eraill sy’n rhannu’r un grefydd neu gred. Gweler ein canllaw i’r gyfraith i ddysgu rhagor am wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.


Oes rhaid imi ganiatáu i gyflogeion gael amser i ffwrdd i weddïo yn y gweithle yn ystod oriau gwaith?

Nac oes, nid oes rhaid ichi gytuno fel mater o drefn ond mae’n rhaid ichi roi ystyriaeth briodol i’r cais a sicrhau nad ydych yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn y cyflogai. Gweler ein hofferyn gwneud penderfyniadau i’ch helpu i drafod ceisiadau gan gyflogeion.

Mewn llawer o amgylcheddau gwaith efallai y bydd yn bosibl caniatáu cais am seibiau ar gyfer gweddïo yn ystod amser gweithio. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai amgylchiadau lle bydd hyn yn fwy anodd – er enghraifft, lle mae gofyniad cyfreithiol i gynnal cymarebau staff-i-blentyn mewn ysgol neu feithrinfa, neu i sicrhau gweithredu parhaus ar linell gynhyrchu.

Os gwrthodwch gais mae’n rhaid ichi sicrhau nad ydych yn gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn erbyn eich cyflogai neu bobl eraill sy’n rhannu’r un grefydd neu gred. Gweler ein canllaw i’r gyfraith i ddysgu rhagor am wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.

 


Mae cyflogai wedi gofyn am beidio â gweithio ar ddyddiau Sul am resymau crefyddol. Oes rhaid imi gytuno i hyn?

Nac oes, nid oes rhaid ichi gytuno fel mater o drefn ond mae’n rhaid ichi roi ystyriaeth briodol i’r cais a sicrhau nad ydych yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn y cyflogai. Gweler ein hofferyn gwneud penderfyniadau i’ch helpu i drafod ceisiadau gan gyflogeion.

Os yw eich busnes yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos yna mae’n debygol y bydd cael digon o staff i ddiwallu galwadau’r busnes ar ddydd Sul yn angen sefydliadol dilys. Efallai y bydd cyflogeion eraill eisiau dyddiau Sul i ffwrdd hefyd i dreulio amser gyda’u teulu. Mae rheoliadau penodol yn eu lle ar gyfer optio allan o weithio ar ddydd Sul, yn arbennig ar gyfer gweithwyr mewn siopau a siopau betio. I weld rhagor o fanylion gweler cyfarwyddyd y llywodraeth ar weithio ar ddydd Sul.

Os gwrthodwch gais mae’n rhaid ichi sicrhau nad ydych yn gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn erbyn eich cyflogai neu bobl eraill sy’n rhannu’r un grefydd neu gred. Gweler ein canllaw i’r gyfraith i ddysgu rhagor am wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.


A ddylai cyflogai sydd eisiau cymryd amser i ffwrdd i fynychu gŵyl grefyddol gael blaenoriaeth dros gyflogeion eraill?

Ni ddylai cyflogai â chrefydd neu gred gael blaenoriaeth fel mater o drefn i gymryd absenoldeb. Os rhoddir blaenoriaeth iddynt fel mater o drefn dros gyflogai heb grefydd neu gred, gallai hyn olygu gwahaniaethu uniongyrchol yn erbyn y cyflogai heb grefydd neu gred. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod unigolion â chrefydd neu gred a’r rhai hynny heb grefydd neu gred fel ei gilydd.

Mae’n rhaid ichi ystyried y ddau gais yn briodol a heb, er enghraifft, wrthod cais ar unwaith oherwydd nad yw am reswm crefyddol. Fodd bynnag, nid yw hyn o angenrheidrwydd yn golygu bod rhaid ichi ganiatáu’r ddau gais. Nid yw’n wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon i drin pobl yn wahanol os yw eu sefyllfaoedd yn wahanol. Gweler ein hofferyn gwneud penderfyniadau i’ch helpu i drafod ceisiadau gan gyflogeion.


A allaf drefnu parti Nadolig yn y swyddfa?

Gallwch. I lawer o bobl, mae’r Nadolig yn achlysur seciwlar yn ogystal ag yn ŵyl grefyddol, a ddethlir gan bobl o sawl crefydd a dim crefydd.

Os ydych yn darparu bwyd a diod, mae’n arfer da i drefnu bod amrediad o opsiynau ar gael, gan gynnwys bwyd llysieuol a diodydd heb alcohol. Hefyd efallai y byddwch eisiau ystyried cynnal digwyddiadau ar adegau eraill yn y flwyddyn i ddathlu achlysuron eraill megis parti’r haf, yn ogystal â gwyliau crefyddol eraill y gallai’ch cyflogeion eu cadw.

Diweddariadau tudalennau