Newyddion

Corff gwarchod yn ceisio barn ar ganllawiau aflonyddu rhywiol yn y gweithle

Wedi ei gyhoeddi: 9 Gorffenaf 2024

  • Mae ymgynghoriad yn dilyn newid i'r gyfraith, gan osod dyletswydd ar gyflogwyr i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle
  • Canllawiau technegol wedi'u diweddaru i ddarparu cyngor clir y gellir ei weithredu, gan alluogi cyflogwyr i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol newydd o dan y Ddeddf Diogelu Gweithwyr
  • Ymhlith y camau y gall cyflogwyr eu cymryd i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle mae cyflwyno gweithdrefnau cwyno effeithiol a pholisïau dim goddefgarwch ar aflonyddu rhywiol trydydd parti

Mae corff gwarchod cydraddoldeb Prydain, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), wedi lansio ymgynghoriad heddiw ar ddiweddariad i’w ganllawiau technegol ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Gofynnir i gyflogwyr, undebau llafur, cynghorwyr cyfreithiol a sefydliadau busnes am eu barn ar ychwanegiadau at y canllawiau, cyn i ddyletswydd newydd ar gyflogwyr ddod i rym ar 26 Hydref.

Mae’r diweddariad yn dilyn newid i’r gyfraith yn y Ddeddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) a basiwyd ym mis Hydref 2023. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr yn y gweithle. Yn flaenorol nid oedd unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ragweithiol ar gyflogwyr i gymryd camau i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi pŵer i’r EHRC gymryd camau gorfodi lle mae tystiolaeth bod sefydliadau’n methu â chymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol.

Mae'r Ddeddf yn cryfhau'r amddiffyniadau cyfreithiol presennol rhag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, sy'n parhau i fod yn eang, yn aml yn mynd heb ei adrodd, ac ni all cyflogwyr fynd i'r afael ag ef yn ddigonol. Gall aflonyddu rhywiol niweidio gyrfaoedd pobl, yn ogystal â'u hiechyd meddwl a chorfforol.

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

Mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn annerbyniol ac mae pob cyflogwr - ni waeth pa mor fawr neu fach - yn gyfrifol am amddiffyn ei staff. Fel y rheoleiddiwr cydraddoldeb, ein gwaith ni yw hyrwyddo a chynnal deddfau cydraddoldeb Prydain. Rydym wedi lansio’r ymgynghoriad hwn i sicrhau bod cyflogwyr yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol.
“Rydym yn ceisio barn ar eglurder ein canllawiau, fel bod gweithleoedd yn deall y camau ymarferol y bydd angen iddynt eu cymryd i gydymffurfio â’r ddyletswydd ataliol newydd.
“Mae angen i bob cyflogwr ddeall sut i gydymffurfio â’r gyfraith a chadw staff yn ddiogel yn y gwaith.

 

Bydd canllawiau technegol wedi’u diweddaru’r EHRC yn amlinellu’r rhwymedigaethau y mae’r Ddeddf Diogelu Gweithwyr yn eu gosod ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar gyflogeion, gan gynnwys aflonyddu gan drydydd partïon (fel cwsmeriaid, cleientiaid neu gontractwyr).

Ei nod yw darparu cyngor clir y gellir ei weithredu er mwyn galluogi cyflogwyr i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol newydd i amddiffyn gweithwyr rhag aflonyddu rhywiol.

Mae’r canllawiau’n rhoi enghreifftiau o’r mathau o gamau rhesymol y gallai cyflogwr eu cymryd, megis cael polisi gwrth-aflonyddu clir sydd wedi’i gyfathrebu’n dda, darparu hyfforddiant i staff a chael mecanwaith adrodd dienw.

Bydd y Comisiwn yn sicrhau bod gan gyflogwyr yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol.

Nodiadau i Olygyddion: