Mae Bil Diogelwch Rwanda (Lloches a Mewnfudo) mewn perygl o niweidio fframwaith cyfreithiol hawliau dynol y DU a thorri ei rwymedigaethau o dan gyfraith ryngwladol, dyma dywed y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wrth ASau ac Arglwyddi.
Wrth gyflawni ei rôl fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol, darparodd y Comisiwn dystiolaeth ysgrifenedig i’r Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol i gefnogi gwaith craffu deddfwriaethol y pwyllgor ar y Bil. Mae’r EHRC hefyd wedi rhoi briff i’r Arglwyddi cyn ail ddarlleniad y Bil yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw (dydd Llun 29 Ionawr 2024).
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae hawliau dynol yn gyffredinol ac mae’n rhaid eu gwarantu i bawb.
“Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol (HRA) wedi gwella amddiffyniadau hawliau dynol yn sylweddol i bawb yn y DU, ond mae Bil Diogelwch Rwanda yn tanseilio cyffredinolrwydd hawliau dynol trwy ddatgymhwyso darpariaethau craidd yr HRA.
“Yn y bon, nid oedd yr Ysgrifennydd Cartref yn gallu cadarnhau fod y Bil yn cydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Drwy ddatgymhwyso adrannau o’r Ddeddf Hawliau Dynol a cheisio atal llysoedd rhag ystyried y risg o ddatgysylltu, gallai’r Bil hwn wneud pobl yn agored i niwed ac achosion o dorri eu hawl i fywyd, eu hawliau i fod yn rhydd rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol a’u hawl i gael effaith iawn effeithiol.”