Newyddion

Corff gwarchod cydraddoldeb yn ymestyn cytundeb cyfreithiol y Swyddfa Gartref i wella arferion yn dilyn Windrush

Wedi ei gyhoeddi: 12 Gorffenaf 2023

Mae corff gwarchod cydraddoldeb Prydain wedi ymestyn cytundeb cyfreithiol gyda'r Swyddfa Gartref o flwyddyn.

Ymrwymodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) i gytundeb cyfreithiol gyda’r Swyddfa Gartref ym mis Mawrth 2021 yn nodi camau i’r adran eu cymryd i fynd i’r afael â’i methiant i gydymffurfio â chyfraith cydraddoldeb wrth weithredu mesurau mewnfudo ‘amgylchedd gelyniaethus’.

Ym mis Tachwedd 2020, canfu asesiad y CCHD fod y Swyddfa Gartref wedi methu â chydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) wrth ddatblygu, gweithredu a monitro’r agenda polisi amgylchedd gelyniaethus.

Yn benodol, roedd wedi esgeuluso ystyried yn llawn yr effaith y byddai ei bolisïau'n ei chael ar aelodau Du o genhedlaeth Windrush.

Mae'r cytundeb cyfreithiol wedi'i ymestyn i ganiatáu amser ychwanegol i gwblhau ac ymgorffori'r camau y cytunwyd arnynt.

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Pan lofnodwyd y cytundeb hwn yn 2021 fe wnaethom yn glir na ddylai profiadau cenhedlaeth Windrush fyth gael eu hailadrodd, na’u hanghofio. Canfu ein hasesiad fod y Swyddfa Gartref wedi methu â chydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ac nid oes gennym unrhyw amheuaeth bod y methiannau hyn wedi cael effaith andwyol ar lawer o fywydau.

“Cafodd y cytundeb dwy flynedd gwreiddiol a’r cynllun gweithredu eu rhoi ar waith i sicrhau bod cydraddoldeb a thegwch yn cael eu gosod wrth wraidd polisïau ac arferion y Swyddfa Gartref yn y dyfodol. Rydym wedi cytuno â’r Swyddfa Gartref i ymestyn y cynllun hwn o flwyddyn i ganiatáu amser ychwanegol iddynt gwblhau’r camau y cytunwyd arnynt ac i ymgorffori’r gwelliannau y maent wedi’u gwneud.”

Mae’r cytundeb, o dan adran 23 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006, yn ymrwymo’r Swyddfa Gartref i gynllun gweithredu o welliannau i ddangos ei bod:

  • yn edrych am dystiolaeth ac adborth gan randdeiliaid sy'n cynrychioli'r grwpiau yr effeithir arnynt ac yn eu hystyried yn briodol er mwyn deall effeithiau cydraddoldeb polisïau ac arferion;

  • yn meddu ar ddealltwriaeth glir o ddata cydraddoldeb a thystiolaeth y mae'n eu defnyddio i lywio penderfyniadau a llunio polisïau ar bob lefel, gan gynnwys effaith bosibl a gwirioneddol gwaith yr adran ar wahanol grwpiau nodweddion gwarchodedig; a

  • wedi cymryd camau ystyrlon i wella gwybodaeth ac arbenigedd mewnol ar sut i gydymffurfio â’r PSED.

Yn dilyn yr estyniad, bydd y cytundeb nawr yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024.

Os na fydd y Swyddfa Gartref yn cadw at delerau’r cytundeb ac yn rhoi’r cynllun gweithredu ar waith, gellir cymryd camau gorfodi pellach.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com