Newyddion

Corff gwarchod cydraddoldeb yn cyflwyno ymateb i ymgynghoriad ar gau swyddfeydd tocynnau rheilffordd

Wedi ei gyhoeddi: 1 Medi 2023

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Rydym wedi cyflwyno ymateb i ymgynghoriad yr Adran Drafnidiaeth (DfT) ar y bwriad i gau swyddfeydd tocynnau ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd.

“Rydym yn croesawu’r estyniad i’r cyfnod ymgynghori, a ddeilliodd yn rhannol o’n llythyr a anfonwyd at yr Adran ym mis Gorffennaf. Ond rydym yn parhau i bryderu am effaith bosibl cau swyddfeydd tocynnau, yn enwedig ar ddefnyddwyr rheilffordd anabl a hŷn.

“Mae ein hymateb yn atgoffa cwmnïau trenau a’r Adran o’u rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, megis teithio ar drenau, feddwl sut mae eu penderfyniadau a’u polisïau yn effeithio ar bobl sy’n gyfreithiol wedi eu hamddiffyn, megis pobl ag anableddau, fel nad ydynt dan anfantais.

“Rydym yn arbennig o siomedig nad yw’r Adran Drafnidiaeth wedi dangos i ni na chyhoeddi asesiad effaith cydraddoldeb ar eu cynigion eto.

“Rydym yn annog cwmnïau trenau i weithredu ar yr adborth a gawsant, er mwyn lleihau unrhyw effaith andwyol ar eu cynigion, yn enwedig ar bobl anabl a phobl hŷn.”

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com