Mae cyn-gontractwr a gyflogwyd gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS) wedi derbyn setliad ariannol yn dilyn honiadau o wahaniaethu ar sail hil yn swyddfeydd y Gwasanaeth Prawf yn Reading.
Roedd yr achos, a gefnogwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), yn ymwneud â Lloyd Odain, a gyflogwyd gan gontractwr a ddefnyddiwyd gan y Gwasanaeth Prawf.
Tra'n gweithio i'r gwasanaeth, bu Mr Odain yn destun nifer o ddigwyddiadau o wahaniaethu hiliol ac aflonyddu gan gontractwr arall yn 2019.
Roedd y rhain yn cynnwys y person yn gwneud siantiau mwnci tuag at Mr Odain tra roedd yn siarad â chydweithwyr.
Adroddodd Mr Odain am yr ymddygiad hiliol i reolwyr yn y Gwasanaeth Prawf ond, yn dilyn ymchwiliad diffygiol, caniatawyd i'r troseddwr ddychwelyd i'w waith yn yr un swyddfa, gan adael Mr Odain heb unrhyw ddewis ond gadael y swydd yr oedd yn ei mwynhau.
Nid oedd y Gwasanaeth Prawf yn dadlau ynghylch y siantiau mwnci yn yr achos cyfreithiol a oedd yn hytrach yn canolbwyntio ar atebolrwydd sefydliadau i amddiffyn gweithwyr a gyflogir trwy drydydd partïon rhag aflonyddu gan weithwyr eraill a gyflogir hefyd trwy drydydd partïon.
Fwy na thair blynedd ar ôl cwyn gychwynnol Mr Odain, setlodd HMPPS yr achos ar ôl i wrandawiad rhagarweiniol ganfod y gallai fod yn atebol am ymddygiad hiliol y contractwr tuag at Mr Odain. Derbyniwyd y setliad cyn y gwrandawiad terfynol.
Derbyniodd Mr Odain iawndal, ond nid yw’r setliad yn cynnwys cyfaddefiad o atebolrwydd, nac ymrwymiad gan HMPPS i adolygu ei bolisi ynghylch sut mae contractwyr yn cael eu trin.
Dywedodd Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
'Dylai pawb sy'n mynd i'r gwaith ddisgwyl teimlo'n ddiogel rhag niwed ac ni ddylai neb ddioddef yr hiliaeth ysgytwol a brofwyd gan Mr Odain.
Mae cyflogwyr, contractwyr trydydd parti, a gweithwyr i gyd yn elwa os bydd rheolwyr yn mynd i'r afael ag unrhyw ddigwyddiadau ofnadwy fel hyn yn gyflym ac yn briodol.
Mae’n siomedig, yn yr achos hwn, fod Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF wedi dewis amddiffyn eu hunain ar sail materion technegol cyfreithiol yn hytrach nag ymrwymo’n gadarnhaol i amddiffyn a chefnogi eu staff eu hunain. Nid yw hiliaeth byth yn dderbyniol.
Gobeithiwn y bydd y setliad ariannol yn helpu Mr Odain i symud ymlaen o'i brofiad. Fel corff gwarchod cydraddoldeb Prydain, byddwn yn parhau i ddefnyddio ein pwerau unigryw i helpu pobl fel Mr Odain i geisio cyfiawnder trwy fentrau fel ein cronfa ar gyfer achosion gwahaniaethu ar sail hil'.
Dywedodd Mr Odain:
'Rwy'n teimlo fy mod wedi fy siomi'n arw gan y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf. Gweithiais yn swyddfa Reading am flynyddoedd lawer mewn gwahanol rolau ac roeddwn yn ymfalchïo yn fy swydd yn helpu pobl a oedd yn cael trafferth dod o hyd i lwybr mewn bywyd.
Ar ôl bod yn destun siantiau mwnci ac ymddygiad hiliol arall, dilynais y prosesau cywir wrth wneud cwyn. Roeddwn i'n teimlo fy mod wedi fy hanwybyddu a'm hynysu gan nad oedd yn ymddangos bod dim yn cael ei wneud. Yna darganfyddais fod y person oedd wedi ymddwyn mor echrydus yn ôl yn gweithio yn yr adeilad. Roedd meddwl am ddelio â mwy o hiliaeth, a chael dim cefnogaeth, yn fy ngadael heb unrhyw opsiwn ond rhoi'r gorau i'r swydd roeddwn i'n ei mwynhau ac yn dda yn ei gwneud.
Rwyf wedi treulio mwy na thair blynedd yn ymladd dros newid fel na ddylai eraill wynebu'r hyn a wynebais. Rwy’n gobeithio, drwy amlygu’r driniaeth erchyll a ddioddefais, y bydd HMPPS yn dysgu gwersi o’r achos hwn.
Rwy’n ddiolchgar i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac i’m cyfreithwyr am eu cefnogaeth. Ni allwn fod wedi parhau i ymladd cyhyd heb eu cymorth.'
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com