Arweiniad

Cludiant

Wedi ei gyhoeddi: 6 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 6 Ebrill 2016

Mae dyletswydd darparwr trafnidiaeth i wneud addasiadau rhesymol fel y gall pobl anabl ddefnyddio gwasanaethau yn berthnasol i’r ffordd y caiff cerbydau eu gweithredu, er enghraifft, trwy ddisgwyl i staff trenau neu orsaf gynorthwyo unigolyn a chanddynt anhwylder symud i fynd ar ac oddi ar y trên, neu trwy i yrrwr bysiau ddweud wrth unigolyn a chanddynt anhwylder gweld wedi iddynt gyrraedd pen eu taith. Efallai y bydd angen darparu gwasanaeth mewn ffordd wahanol.

Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol hefyd yn berthnasol i ychwanegu cynorthwyon neu offer ategol i gerbydau, megis gwybodaeth glywedol i deithwyr, seddi blaenoriaeth a rheiliau llaw cyferbyniol; gall y rhain fod yn addasiadau rhesymol ac, os felly, mae’n rhaid i’r darparwr trafnidiaeth eu darparu.

Fodd bynnag, nid oes rhaid gwneud newidiadau i nodweddion ffisegol cerbydau tir sy’n bod yn barod, ac eithrio ar gyfer rhai cerbydau rhent.

Ond mae’n rhaid i rai mathau o gerbydau tir gael eu hamnewid erbyn dyddiad penodol gyda cherbydau newydd, sydd yn darparu mynediad gwastad a sawl math o offer arall i wneud yn siŵr y gall pobl anabl a chanddynt ystod o anhwylderau eu defnyddio.

Esbonnir y rheolau hyn yn fanwl yng nghanllaw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Eich hawliau i gydraddoldeb: cludiant a theithio.

Diweddariadau tudalennau