Canllawiau i Gynghorwyr ac Aelodau Etholedig

Wedi ei gyhoeddi: 21 Rhagfyr 2016

Diweddarwyd diwethaf: 21 Rhagfyr 2016

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Alban

Gan weithio gyda'r Gwasanaeth Gwella, mae'r Comisiwn wedi datblygu nodyn briffio ar gyfer aelodau etholedig awdurdodau lleol yr Alban ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae'r canllawiau'n edrych yn benodol ar y rôl ganolog y gall aelodau etholedig ei chwarae i sicrhau bod cynghorau'r Alban yn bodloni eu rhwymedigaethau statudol yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol) (Yr Alban) 2012 fel y'i diwygiwyd.

Mae'r nodyn briffio yn amlygu ei bod yn ofynnol i aelodau etholedig roi 'sylw dyledus' i gydraddoldeb wrth gyflawni eu holl ddyletswyddau ac mae'n egluro'r gofynion adrodd a chyhoeddi o dan y Rheoliadau. Mae hefyd yn dangos sut mae eu rôl 'craffu' yn berthnasol i'r cysyniadau allweddol o brif ffrydio, asesu effaith ar gydraddoldeb a chanlyniadau.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau