Arweiniad

Canllaw i ddarparwyr tai cymdeithasol

Wedi ei gyhoeddi: 11 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 11 Ebrill 2016

Ein canllaw a chwestiynau cyffredin

Bwriad ein canllaw - Hawliau dynol yn y cartref - yw helpu’r sawl sy’n gweithio i ddarparwyr tai cymdeithasol, megis cymdeithasau tai neu awdurdodau lleol, i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (y Ddeddf). Dylai darparwyr tai cymdeithasol sy’n rheoli eu stoc tai drwy gontract, er enghraifft, ALMO (sefydliad rheoli hyd braich), sicrhau hefyd bod y sefydliad hwnnw’n gwybod am y canllaw hwn.
 
Dylai’r canllaw hwn:

  • eich helpu i ddeall sut mae’r Ddeddf yn gweithio a’r hawliau mae’n diogelu

  • eich helpu i bennu a yw’ch sefydliad yn amodol i’r Ddeddf

  • eich helpu i sicrhau eich bod chi a’ch sefydliad yn cydymffurfio â’r Ddeddf wrth ddarparu tai cymdeithasol, a

  • eich darparu chi a’ch sefydliad gydag enghreifftiau arfer da i’ch helpu i nodi materion hawliau dynol posibl a gweithredu fel fo’n briodol.

Pa hawliau dynol sydd fwyaf perthnasol i dai cymdeithasol?

Yr hawliau sydd wedi eu cynnwys yn Erthyglau 6, 8 ac 14 yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn berthnasol i’ch gwaith mewn tai cymdeithasol.

Erthygl 6: Yr hawl i achos llys teg

Mae Erthygl 6 yn hawl diamod. Mae gan bawb hawl i wrandawiad teg a chyhoeddus, gerbron tribiwnlys annibynnol a diduedd, o fewn cyfnod rhesymol o amser. Mae hyn yn berthnasol pan fydd hawliau preifat rhywun dan sylw, megis mewn anghydfodau cytundebol neu eiddo. Mae hefyd yn berthnasol i achosion troseddol. Mae'r hawl i wrandawiad teg yn golygu, yn gyffredinol, y dylid rhoi cyfle i unigolyn gymryd rhan yn effeithiol mewn unrhyw wrandawiad o’u hachos, ac i gyflwyno eu hachos mewn amodau nad ydynt yn eu gosod dan anfantais sylweddol o gymharu ag unrhyw barti arall yn yr achos. Er enghraifft, dylai unigolyn sy’n amodol i broses gwneud penderfyniadau parthed troi allan posibl gael mynediad at gyfieithydd, os oes angen un. Dylid darparu rhesymau dros benderfyniadau. Mae Erthygl 6 yn debygol o fod yn arbennig o berthnasol mewn achosion arolwg neu apêl fyddai’n pennu hawliau tenant. Fodd bynnag, efallai na fydd yn angenrheidiol ar gyfer gwneud penderfyniadau i gyflawni holl amodau ‘gwrandawiad teg’ os oes gan rywun fynediad at broses apêl ddilynol a fyddai’n bodloni’r gofynion hyn.

Darllen rhagor am Erthygl 6

Erthygl 8: Hawl i barch tuag at fywyd preifat, bywyd teuluol a’r cartref

Mae gan bawb yr hawl i barch tuag at eu bywyd preifat a theuluol – a hefyd yr hawl i barch tuag at eu cartref a'u gohebiaeth. Mae gan ‘fywyd preifat’ ystyr eang iawn. Dylai pobl allu byw mewn preifatrwydd a gallu byw eu bywyd yn y modd maent yn ddewis. Dylid cadw eu gwybodaeth bersonol yn breifat a chyfrinachol. Nid yw’r hawl i barchu cartref unigolyn yn hawl i dŷ, ond hawl i unigolyn gael mynediad i a byw yn eu cartref heb ymyrraeth nac amhariad. Mae’r hawl i barch tuag at fywyd teuluol yn cynnwys yr hawl i deulu gydfyw. Dylech gymryd camau positif i atal eraill rhag tanseilio bywyd cartref neu breifat unigolyn, er enghraifft, trwy lygru difrifol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae Erthygl 8 yn hawl amodol. Mae hyn yn golygu na allwch amharu â’r hawl, er enghraifft, trwy orfodi pobl i adael eu cartrefi, oni bai eich bod yn gweithredu er lles diogelwch cenedlaethol, diogelwch y cyhoedd neu les economaidd y wlad, i atal anrhefn neu drosedd, neu i ddiogelu iechyd neu foesau, neu i ddiogelu hawliau a rhyddid eraill. Rhaid eich bod yn gweithredu yn unol â’r gyfraith ac nad oes modd llai ymwthiol o gyflawni eich nod.

Darllen mwy am erthygl 8

Erthygl 14: Gwahardd gwahaniaethu

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb gael mynediad cyfartal i’r hawliau eraill sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf Hawliau Dynol, waeth beth yw eu hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, barnau gwleidyddol neu unrhyw nodwedd bersonol arall. Er enghraifft, mae’r Ddeddf yn golygu bod yn rhaid trin cwpwl hoyw yn yr un modd â chwpl heterorywiol parthed yr hawl i olynu tenantiaeth. Er mwyn sicrhau amddiffyniad dan Erthygl 14, rhaid i’r driniaeth yr achwynir amdani fod yn berthnasol i un neu fwy o’r Hawliau Confensiwn eraill, ond nid oes rhaid iddo gyfateb i doriad o’r hawl arall hwnnw. Mae Erthygl 14 yn hawl amodol. Dim ond os oes rheswm da dros y driniaeth y gellir cyfiawnhau triniaeth wahaniaethol ac os yw’n gymesur yng ngoleuni’r rheswm hwnnw. Nid yw Erthygl 14 yn rhestru'r ‘rhesymau cyfreithiol’ allai gyfiawnhau triniaeth wahaniaethol.

Darllen mwy am Erthygl 14


A yw’r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhoi hawl i bobl i gartref?

Fydd Erthygl  8 (sy’n cynnwys yr hawl tuag at barch i gartref)

  • fel arfer ddim yn rhoi hawl i unrhyw un i gartref nac i unrhyw fath penodol o lety ; mae’n cynnwys hawl i barch tuag at gartref sydd eisoes gan yr unigolyn
  • ddim yn cynnwys hawl diamod. Gellir hyd yn oed mynd â llety sydd wedi bod yn gartref unigolyn ar hyd eu hoes dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn yr Erthygl ei hun. Mae'r Erthygl yn amodi y gellir cymhwyso’r hawl i ‘barch’ trwy weithredu cyfreithiol gan awdurdod cyhoeddus sydd ar drywydd nod cyfreithiol a ragnodwyd,  sy’n angenrheidiol, ac a weithredir yn gymesur, a
  • ddim ond yn gymwys i rywbeth a elwir yn gywir yn ‘gartref’. Ni all y term hwnnw gynnwys llety byr dymor megis ystafell mewn gwesty  neu lety dros dro megis gwersyll heb awdurdod y mae Teithiwr wedi symud iddo yn ddiweddar.

Beth mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn golygu i ddarparwyr tai cymdeithasol, yn ymarferol?

Mae’r rhan hwn o’r canllaw yn edrych ar sut y gallai’r Ddeddf effeithio ar wasanaethau darparwr tai cymdeithasol o ddyraniad llety, ar un pen o’r sbectrwm, i derfynu a throi allan ar y pen arall.


Enghraifft: Dyraniad tai

Nid yw’r Ddeddf yn rhoi hawl i unrhyw un i ddarpariaeth cartref gan ddarparwr tai cymdeithasol penodol. Dan rai amgylchiadau, byddai Hawliau’r Confensiwn yn gofyn i’r Deyrnas Unedig ddarparu lloches i’r rhai sydd mor fregus fel na fyddent yn derbyn parch tuag at eu bywyd teuluol neu fywyd preifat pe byddent yn cael eu gadael ar y stryd (o bosibl oherwydd anabledd neu amddifadrwydd ), ond nid yw’r Ddeddf yn gosod unrhyw orfodaeth ar unrhyw ddarparwr tai cymdeithasol i wneud hynny.

Gellir dod o hyd i rwymedigaeth darparwyr tai cymdeithasol i ddarparu tai mewn deddfwriaeth tai arferol yn delio â dyraniad tai cymdeithasol a digartrefedd ac yn y gofynion rheolaethol perthnasol.

Enghraifft:  Mae teulu sy’n cyflwyno cais yn achwyn eu bod wedi cofrestru â darparwr tai cymdeithasol fel bod angen cartref tair ystafell wely gyda gardd yn lle eu fflat bychan presennol. Maent wedi bod yn aros am chwe blynedd ac yn dal heb gael cynnig llety addas. Nid oes unrhyw Hawl Confensiwn yn berthnasol yma. Nid oes hawl i gartref yn y Ddeddf Hawliau Dynol. Nid oes hawl dynol i gael gardd.

Fodd bynnag, mewn cynlluniau ar gyfer rheoli ceisiadau am dai, bydd angen i ddarparwyr tai cymdeithasol osgoi gwahaniaethu anghyfiawn (all fod yn groes i Erthygl 14) ac annhegwch trefniadol (all fod yn groes i Erthygl 6). Yn benodol, gallai rheolau sy’n gwahaniaethu’n anghyfiawn rhwng ymgeiswyr tai ar sail megis statws priodasol, oed, rhyw, anabledd neu genedligrwydd  gyfateb i wahaniaethu anghyfreithiol dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb domestig a hefyd fod yn groes i Hawliau’r Confensiwn a ddiogelir dan y Ddeddf.

Enghraifft: Mae grŵp o ddarparwyr tai cymdeithasol yn gweithredu system gosod seiliedig ar ddewis ble mae eiddo’n cael ei hysbysebu ar-lein. Bydd angen i’r darparwyr sicrhau fod deunyddiau ar-lein ar gael ar ffurfiau hygyrch a’u bod wedi gwneud trefniadau i’r ymgeiswyr hynny nad oes ganddynt fynediad i gyfrifiadur i gael gwybodaeth ar ffurf hygyrch ynglŷn â’r eiddo a sut i wneud cynnig amdanynt. 

Hyd nes y bydd ymgeisydd yn cofrestru am denantiaeth, nid oes ganddynt ‘hawl sifil’ i unrhyw lety.  Oherwydd hyn, nid yw darpariaethau yn Erthygl 6 ynglŷn â gwrandawiad teg i anghydfodau yn debygol o fod yn berthnasol i’r cam ymgeisio a dyrannu. Fodd bynnag, efallai y bydd hyn yn newid yn y dyfodol.  Felly efallai y byddai’n ddoeth i ddarparwyr tai cymdeithasol sicrhau nid yn unig y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig i ymgeiswyr o benderfyniadau croes, ond hefyd efallai eu bod yn cael y rhesymau dros y penderfyniadau hynny ar bapur. Yn yr un modd, byddai’n ddoeth i roi gwybod i ymgeiswyr siomedig sut y gellir herio penderfyniad y darparwr a ble y gellir cael cyngor annibynnol yn lleol. 


Enghraifft: Cynorthwyon ac addasiadau

Mae darparwyr tai cymdeithasol, yn arbennig awdurdodau lleol, yn debygol o fod yn amodol i oblygiadau statudol neu reoleiddiol i ddarparu cynorthwyon penodol i denantiaid, neu i ganiatáu addasiadau penodol i dai cymdeithasol, er lles preswylwyr anabl.

Nid oes unrhyw hawl dynol i’r ddarpariaeth o gartref gyda chynorthwyon neu addasiadau penodol dim mwy nad oes hawl i ddarpariaeth o unrhyw gartref o gwbl. Fodd bynnag, unwaith y bydd gan unigolyn gartref yna mae ganddynt hawl i barch tuag ato ac i barch tuag at eu bywydau preifat yn y mwynhad ohono. Dan rai amgylchiadau gellir gorfodi’r darparwr tai cymdeithasol i ddelio ag anawsterau sy’n codi i breswylwyr penodol sy’n eu hatal rhag mwynhau eu cartrefi.

Enghraifft: Mae darparwr tai cymdeithasol yn cytuno i gyflenwi a gosod cledrau gafael yng nghartref tenant ar argymhelliad therapydd galwedigaethol fod cynorthwyo o’r fath yn hanfodol. Os yw’r gosodiad wedi ei oedi am naw mis (er enghraifft, aros pum mis am ymweliad y therapydd, un mis i aros am adroddiad y therapydd, a thri mis o aros i’w osod), fe allai hynny fod yn gyfystyr i fethiant i barchu cartref y tenant.

Enghraifft: Mae tenant tai cymdeithasol anabl yn gynyddol methu defnyddio’r grisiau cymunedol. Mae’n gofyn am ganiatâd i osod lifft grisiau ar hyd y grisiau. Wrth benderfynu ar y cais, dylai’r darparwr tai ystyried buddiannau defnyddwyr eraill y grisiau cymunedol a hawl dynol y tenant penodol i ‘barch' tuag at ei gartref (a ddylai gynnwys disgwyliad rhesymol i allu ei adael a dychwelyd iddo yn rhwydd).


Enghraifft: Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Nid oes unrhyw beth yn y Ddeddf Hawliau Dynol yn darparu meddianwyr tai cymdeithasol ag esgus dros gymryd rhan yn fwriadol mewn ymddygiad sy’n niwsans neu’n boendod i eraill. Ni fydd landlordiaid cymdeithasol ac asiantaethau eraill sy’n cymryd mesurau cymesur i ddelio ag a rheoli ymddygiad o’r fath yn amharu ar unrhyw hawliau dynol. Fel y dynodwyd eisoes, nid oes unrhyw beth yn y ddeddf yn rhyddhau deiliad tai cymdeithasol o’u rhwymedigaeth gytundebol i gydymffurfio ag amodau eu cytundeb tenantiaeth ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â Hawliau’r Confensiwn.

Mewn achosion eithafol, gall gweithredoedd darparwr tai cymdeithasol ymgysylltu â hawliau dynol y troseddwr i barch tuag at ei gartref neu ei chartref neu fywyd preifat a theuluol. Ond ni fydd unrhyw amhariad o’r Ddeddf os yw’r gweithredu yn gyfreithiol (fel arfer wedi ei awdurdodi gan orchymyn llys), yn angenrheidiol ac yn gymesur, gan dalu sylw i’r buddiannau a grybwyllir yn Erthygl 8 (er enghraifft, yr angen i barchu iechyd neu hawliau a rhyddid eraill).

Enghraifft: Er gwaethaf rhybuddion, ni fydd preswylydd tai cymdeithasol yn ymatal rhag achosi niwsans neu flinder difrifol i eraill. Mae’r darparwr tai cymdeithasol yn sicrhau gwaharddeb, ond mae’n cael ei dorri’n ddifrifol a drachefn. Yna mae’r darparwr yn gwneud cais am a chael gorchymyn yn gorchymyn y preswylydd i’r carchar.  Tra yn y ddalfa, nid yw’n arddangos unrhyw edifeirwch ond mae’n datgan yn bendant y bydd yn ‘cael’ ei gymdogion ar ei ryddhau. Mae’r landlord yn ceisio gorchymyn meddiant llwyr y mae gan y llys hawl i’w ganiatáu neu beidio. Mae senario o’r fath yn awgrymu fod y landlord yn gweithredu o fewn y gyfraith ac yn cymryd camau angenrheidiol a chymesur.

Mae ymateb darparwyr tai cymdeithasol i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwy tebygol o ymgysylltu â hawliau dynol dioddefwyr na rhai’r troseddwyr. Er nad oes hawl dynol i ddisgwyl i ddarparwr tai cymdeithasol gadw preswylydd yn ddiogel a rhydd o niwsans ar bob adeg, fe allai methiant i ddelio â neu daclo’r profiad a adroddwyd o ymddygiad gwrthgymdeithasol gyfateb i fethiant i barchu bywyd preifat neu deuluol dioddefydd neu amhariad o’i hawl ef neu hi i barch tuag at eu cartref. 

Enghraifft: Mae preswylydd yn achwyn i ddarparwr tai cymdeithasol bod grŵp o’i denantiaid yn gwneud ei bywyd yn annioddefol trwy weiddi arni o du allan i’w cartref, taflu sbwriel i’w gardd, eistedd ar y wal o flaen ei thŷ a chwarae cerddoriaeth uchel a defnyddio iaith anweddus yn hwyr i’r nos.
Mae’r landlord yn gwybod pwy yw’r troseddwyr ond mae’n penderfynu peidio gweithredu oherwydd ofn dial yn erbyn ei staff ac o ystyried ei rwymedigaeth bosibl i ailgartrefu teulu’r troseddwr (sy’n cynnwys nifer o unigolion bregus).
Mae gwneud ‘dim byd’ yn yr amgylchiadau hyn yn debygol iawn o arwain at doriad o hawliau’r dioddefydd i barch tuag at fywyd preifat, teuluol neu gartref.

 


Enghraifft: Terfynu tenantiaeth a throi allan

Mae Erthygl 8 yn gofyn i ddangos ‘parch’ tuag at gartref deiliad. Troi allan yw’r math uchaf o ymyrraeth â’r hawl hwnnw. Nid yw bygwth troi allan yn brin iawn o hyn.

I osgoi troi allan sy’n anghyfreithiol dan y Ddeddf Hawliau Dynol, ble mae darparwr tai cymdeithasol sy’n amodol i’r Ddeddf yn ceisio terfynu tenantiaeth (na fath arall o alwedigaeth) a throi’r deiliad allan, fe ddylai allu dangos ei fod yn gweithredu yn unol â’r gyfraith, fod ei weithredoedd ar drywydd nod cyfreithlon, a’u bod yn angenrheidiol a cymesur.

Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o denantiaethau tai cymdeithasol, dim ond trwy sicrhau gorchymyn meddiant y gall y landlord derfynu'r denantiaeth. Mae'r system honno yn sicrhau fod llys wedi ei gynnwys, y sefydlir sail dros geisio meddiant ac
(fel arfer) ei bod yn rhesymol i droi'r deiliad allan.

Fodd bynnag, fe benderfynodd y Goruchaf Lys y deyrnas Unedig yn ddiweddar ym mhob un o'r mathau hyn o achos, wrth archwilio cais am feddiant ble mae’r pwynt yn codi y bydd y llysoedd lleol yn gyfrifol am ystyried p’un a ellir cyfiawnhau’r ymyrraeth gyda’r hawl i barchu’r cartref (fyddai’n ymhlyg mewn troi allan).  Mae cyfiawnhad o’r fath yn cynnwys bodloni’r llys bod tri gofyniad Erthygl 8 wedi eu bodloni:

  • gwneir y cais am feddiant ‘yn unol â’r gyfraith’ (hynny yw, y bodlonwyd yr holl ofynion gweithdrefnol angenrheidiol ac y gwnaethpwyd y penderfyniad i geisio meddiant yn gyfreithiol)
  • bod y troi allan ar drywydd nod cyfreithiol (er enghraifft, i ddiogelu hawliau a rhyddid eraill i fwynhau eu cartrefi heb ymyrraeth), a
  • bod troi allan yn ymateb angenrheidiol a chymesur i’r hyn mae’r deiliad wedi gwneud neu fethu gwneud.

Mae’r ail a’r trydydd o’r ffactorau hyn yn cynhyrchu ymarfer cydbwyso rhwng hawliau dynol tenant neu ddeiliad penodol a hawliau eraill. Mae achosion ar yr ymylon yn hawdd i’w hadnabod a phennu. Mae tenant yn annhebyg o gael ei droi allan yn gyfreithiol am drosedd fechan o’r denantiaeth ond mae’n annhebygol awn o gael ei droi allan yn gyfreithiol os yw'n cymryd rhan mewn ymgyrch o ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol a threisgar.


Darparwyr tai cymdeithasol yn yr Alban

Mae’r deunydd blaenorol yn berthnasol i ddarparwyr tai cymdeithasol yn yr Alban, yn amodol i bwyntiau penodol a ddynodwyd yn y troednodiadau. Dylai darparwyr tai cymdeithasol sy’n gweithredu yn yr Alban fod yn ymwybodol o ddau fater atodol. Am fwy o wybodaeth gweler y ddogfen ganllaw lawn.

 


Sut i wneud penderfyniadau sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol

Yn yr adran hon, fe sefydlom ambell gwestiwn y gallwch ofyn i chi’ch hun wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i drin pobl, i wirio a yw’r hyn yr ydych yn cynnig ei wneud yn debygol o fynd yn groes i’r Ddeddf.

Gall y cwestiynau hyn hefyd eich helpu i adolygu eich polisïau a gweithdrefnau presennol i wirio p’un a ydynt yn debygol o arwain at benderfyniadau neu driniaeth sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Yn fwyaf pwysig, dylech sicrhau fod eich polisïau yn caniatáu ystyried amgylchiadau unigol wrth wneud penderfyniadau ac osgoi cymhwyso polisïau eang. Bydd hyn yn eich galluogi chi, ble fo angen, i ystyried p’un a yw’r hyn yr ydych yn bwriadu gwneud yn gymesur mewn achosion unigol.

Lawr lwytho'r adroddiad llawn yn cynnwys y rhestr gyfeirio

Diweddariadau tudalennau