Arweiniad

Beth yw ystyr ‘rhesymol’

Wedi ei gyhoeddi: 6 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 6 Ebrill 2016

Wrth benderfynu a yw addasiad yn rhesymol gall sefydliad ystyried:

  •  pa mor effeithiol fydd y newid yn cynorthwyo pobl anabl yn gyffredinol neu gwsmer, cleient, defnyddiwr gwasanaethau neu aelod penodol
  • a ellir ei wneud mewn gwirionedd
  • y gost, ac
  • adnoddau a maint y sefydliad

Nod gwneud addasiadau rhesymol yw, cyn belled â phosibl, cael gwared ar unrhyw anfantais y mae pobl anabl yn eu hwynebu.

Gall sefydliad ystyried a yw addasiad yn ymarferol. Po hawsaf yw addasiad, po debycaf yw y bydd yn rhesymol. Fodd bynnag, oherwydd bod rhywbeth yn anodd nid yw’n golygu na all fod yn rhesymol hefyd. Mae’n rhaid cydbwyso hyn yn erbyn ffactorau eraill.

Os yw addasiad yn costio fawr ddim os o gwbl ac nad yw’n tarfu, byddai’n rhesymol oni bai fod rhyw ffactor arall (fel anymarferoldeb neu ddiffyg effeithiolrwydd) yn ei wneud yn afresymol.

Mae maint ac adnoddau sefydliad yn ffactor arall. Os yw addasiad yn costio swm arwyddocaol, mae’n fwy tebygol o fod yn rhesymol i sefydliad i’w wneud os oes ganddo adnoddau ariannol sylweddol. Mae’n rhaid edrych ar adnoddau’r sefydliad yn eu crynswth, ac nid yn unig y gangen neu’r adran sy’n darparu’r gwasanaeth dan sylw.

Mae hwn yn fater y mae’n rhaid ei gydbwyso yn erbyn y ffactorau eraill.

Wrth newid polisïau, meini prawf neu arferion, nid oes rhaid i sefydliad newid natur sylfaenol y gwasanaeth y mae’n ei gynnig.

Er enghraifft:

Ni does rhaid i gymdeithas sy’n bodoli i flasu gwin gynnal sesiynau blasu diodydd ysgafn pan mae anabledd aelod yn eu rhwystro rhag yfed alcohol.

Dim ond oherwydd y gall rhai o’i thriniaethau fod yn anaddas i rai pobl anabl, fel pobl sy’n cael cemotherapi ar gyfer cancr, nid oes rhaid i salon harddwch roi’r gorau i gynnig rhai triniaethau’n gyfan gwbl.

Os yw sefydliad, ar ôl ystyried yr holl faterion perthnasol, yn penderfynu bod addasiad yn rhesymol, mae’n rhaid iddo wneud yr addasiad.

Diweddariadau tudalennau