Beth allwch wneud os ydych yn credu nad yw sefydliad wedi gwneud addasiadau rhesymol

Wedi ei gyhoeddi: 6 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 6 Ebrill 2016

Os edrychwch ar y diffiniad o anabledd, fe sylweddolwch yn syth fod pobl anabl yn grŵp amrywiol a chanddynt ofynion gwahanol. Gall pethau gwahanol am y ffordd y mae sefydliad yn darparu ei wasanaethau greu rhwystrau gwahanol i bobl anabl a chanddynt anhwylderau gwahanol.

Rhaid i unrhyw sefydliad sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd, yn cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu’n rhedeg cymdeithas feddwl am bobl anabl yn gyffredinol. Mae’n rhaid iddo wneud addasiadau rhesymol hyd yn oed os nad yw’n gwybod fod y cwsmer, cleient, defnyddiwr gwasanaethau neu aelod penodol hwnnw yn unigolyn anabl. Mae’n rhaid iddo wneud addasiadau rhesymol hyd yn oed os yw’n credu nad oes ganddo ar y pryd unrhyw gwsmeriaid, cleientiaid, defnyddwyr gwasanaethau neu aelodau anabl.

Ond nid oes disgwyl i sefydliadau ragweld anghenion pob unigolyn allai ddefnyddio eu gwasanaeth.

Os ydych yn unigolyn anabl ac yn ceisio defnyddio gwasanaeth ond yn gweld fod rhwystr na fyddai rhywun nad oedd ganddo eich anhwylder chi yn ei wynebu, rhaid i’r sefydliad ystyried addasiadau rhesymol er mwyn cael gwared â’r rhwystr hwnnw.

Dylech esbonio’r anhawster a wynebwch wrth geisio defnyddio’r gwasanaethau, neu dderbyn y swyddogaeth gyhoeddus, neu ymuno â’r gymdeithas neu berthyn iddi. Gallech hyd yn oed awgrymu ffordd resymol o oresgyn y rhwystr, er nad oes rhaid ichi wneud. Cyfrifoldeb y sefydliad yw dod o hyd i’r ateb a phenderfynu a yw’n rhesymol iddynt. Ond os gwyddoch am rywbeth sydd wedi cael gwared â rhwystr tebyg, mae’n amlwg y byddai’n ddefnyddiol pe baech yn rhoi gwybod i’r sefydliad amdano.

Gallwch ddarllen rhagor am beth i’w wneud os ydych yn credu y gwahaniaethwyd yn eich erbyn. Mae hyn yn cynnwys beth i’w wneud os ydych yn credu fod sefydliad wedi methu gwneud addasiadau rhesymol.

Diweddariadau tudalennau