Astudiaethau achos iechyd a gofal cymdeithasol

Wedi ei gyhoeddi: 11 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 11 Ebrill 2016

Cynyddu ymwybyddiaeth o symptomau canser y coluddyn ymysg y Gymuned Asiaidd – Grŵp Comisiynu Clinigol GIG Hillingdon (yn gynt GIG Hillingdon)

Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos buddion casglu a defnyddio gwybodaeth cydraddoldeb i nodi anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig neilltuol ac i fesur cynnydd o ran ymateb i’r anghenion hynny dros amser.

Cefndir

Edrychodd Tîm Iechyd Cyhoeddus GIG Hillingdon ar y wybodaeth a oedd ar gael ar fathau a chyfraddau canser yn y Fwrdeistref yn 2010. Canfuont:

  • Ymysg canserau, roedd canser y coluddyn yn cyfrif am gyfran fawr o farwolaethau yn ymwneud â chanser;
  • Roedd mwy o bobl o dan 75 oed yn marw oherwydd canser yn Nhe’r Fwrdeistref lle mae poblogaeth Asiaidd uchel o’i gymharu â gogledd y Fwrdeistref;
  • Roedd cyfraddau marwolaethau oherwydd canser yn sylweddol o ran anghydraddoldeb, yn enwedig ymysg menywod yn byw yn y 20 y cant mwyaf difreintiedig y fwrdeistref.

Yn aml gall canser gael ei drin yn llwyddiannus os caiff ei ganfod yn y dyddiau cynnar. Er enghraifft, gall wyth allan o bob deg achos o ganser y coluddyn gael eu trin yn llwyddiannus os caiff y canser ei ganfod yn y dyddiau cynnar.

Y camau a gymerwyd

Ar sail data’r waelodlin a amlinellwyd uchod, penderfynodd y Tîm Iechyd Cyhoeddus lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn Nhe’r Fwrdeistref (Hayes a Harlington) sydd â phoblogaeth Asiaidd uchel.

Canfu’r Tîm Iechyd Cyhoeddus fod gan y gymuned Asiaidd ymwybyddiaeth mwy cyfyng o symptomau canser y coluddyn, ac roedd hyn yn lleihau’r cyfleoedd diagnosis cynnar, gyda goblygiadau wedyn o ran cyfraddau goresgyn. Mae’n debyg mai un o’r rhesymau am hyn oedd bod pobl Asiaidd o’r farn nad oedd canser yn effeithio ar eu teulu neu eu cymuned (neu’n llai tebygol o effeithio arnynt).

Yng ngolau’r canfyddiadau hyn, canolbwyntiodd GIG Hillingdon eu hymgyrch ar amryw o gamau i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser y coluddyn ymysg y gymuned Asiaidd, yn enwedig y menywod. Roedd y camau hynny yn cynnwys:

  • Dylunio a dosbarthu taflenni am ganser y coluddyn yn Saesneg ac mewn ieithoedd Asiaidd perthnasol;
  • Cynnal gweithdai yn yr iaith Saesneg a’r prif ieithoedd eraill fel ei gilydd. Cafodd y rhain eu trefnu drwy sefydliadau lleol a oedd eisoes mewn bodolaeth e.e. grwpiau dros fenywod neu elusennau sy’n targedu cymunedau Asiaidd neu ganolfannau crefyddol;
  • Arddangos posteri ymgyrchu ar fysys a mewn gorsafoedd tanddearol yn y Fwrdeistref;
  • Hyrwyddo negeseuon drwy hysbysebu ar Rwydwaith Radio Sunrise – rhwydwaith radio Asiaidd mwyaf y Deyrnas Unedig.

Deilliannau

Roedd arolygon a ymgymerwyd â hwy cyn ac ar ôl yr ymgyrch yn dangos bod ymwybyddiaeth  o brif symptomau canser y coluddyn wedi cynyddu ymysg y bobl a oedd wedi cael gwybodaeth gan y Tîm Iechyd Cyhoeddus. Gallai bron i 80 y cant o’r rheini a oedd wedi gweld neu glywed o leiaf un elfen yr ymgyrch gofio’n ddigymell o leiaf un symptom, o’i gymharu â llai na 60 y cant o’r rheini nad oedd wedi gweld na chlywed y deunydd hyrwyddo.

Bu’r Rhwydwaith Radio Sunrise yn llwyddiannus iawn wrth gyrraedd menywod Asiaidd.

Am ragor o wybodaeth o ran y gwaith hwn, ymwelwch â  //www.hillingdon.gov.uk/media.jsp?mediaid=24163&filetype=pdf  

Defnyddio gwybodaeth cydraddoldeb i ostwng y nifer o bobl nad ydynt yn manteisio ar y Rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig – Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Royal Marsden

Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos buddion casglu a defnyddio gwybodaeth cydraddoldeb i nodi anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig neilltuol ac i fesur cynnydd yr ymateb i’r anghenion hynny dros amser.

Cefndir

Mae pobl â chlefyd y siwgr mewn perygl o ddatblygu retinopathi diabetig. Dyma’r achos fwyaf cyffredin o ddallineb ym mhobl oedran gweithio yn y Deyrnas Unedig. Nid oes symptomau amlwg nes i’r cyflwr ddatblygu’n helaeth. Dengys tystiolaeth y gall canfod a thrin y cyflwr yn gynnar atal nam ar y golwg. Felly mae’n bwysig i’w nodi a’i drin cyn gynted â phosibl.

Mae’r Rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig (DESP) yn cynnig cyfle sgrinio llygaid yn flynyddol i bobl â chlefyd y siwgr. Dangosodd data a gasglwyd yn 2011/2012[1] am gleifion nad oedd yn manteisio ar y gwasanaeth mai dyma oedd yr un, o’r holl wasanaethau a gyflenwai gwasanaethau cymunedol  Sutton a Merton, â’r gyfradd fwyaf o beidio â manteisio ar y gwasanaeth (21.2 y cant).

Camau a gymerwyd

Cafodd archwiliad tegwch iechyd ei gomisiynu i edrych ar degwch y darpariaethau gwasanaeth, y nifer a fanteisiodd arnynt a’r deilliannau ymysyg cleifion a gafodd eu hatgyfeirio at y DESP. Edrychodd yr archwiliad ar a oedd gwahaniaethau yng nghyfraddau’r bobl â nodweddion gwarchodedig arbennig nad oedd yn manteisio ar y gwasanaeth, h.y. oed, rhyw ac ethnigrwydd.

Daeth yr archwiliad i ben yn nyddiau hwyr 2012. Dangosodd fod cleifion oed gweithio yn fwy tebygol o fethu apwyntiadau o’u cymharu â grwpiau oedran hŷn, a’r grŵp oedran 22 – 31 oedd â’r gyfradd uchaf (40 y cant) o fethu apwyntiadau.

Er hwylustod i gleifion oedran gweithio, mae’r gwasanaeth wedi ymestyn ei ddarpariaeth y tu hwnt i oriau gweithio i gynnwys clinigau ar y penwythnos. Hefyd mae’n cynnig yr opsiwn i gleifion o drefnu a newid eu hapwyntiadau drwy anfon e-bost fel na fo rhaid i gleifion prysur mwyach alw yn ystod oriau gweithio i wneud hyn.

Deilliannau

Mae’r mentrau hyn wedi cyfrannu at ostwng y gyfradd gyffredinol o fethu apwyntiadau yn y DESP.  Mae wedi newid o 21.2 y cant yn 2011/12 i 15 y cant yn 2012/13.

Mae gostyngiad felly yn y gyfradd o beidio â chadw at yr apwyntiadau yn arbed arian i’r Royal Marsden[2]. At hynny, o ystyried rhan bwysig sgrinio wrth ganfod retinopathi diabetig yn y dyddiau cynnar, dylai mentrau o’r fath gael effaith gadarnhaol dros amser wrth atal nam ar olwg cleifion oedran gweithio.

Gwaith ychwanegol sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd

Hefyd, roedd yr archwiliad a gomisiynwyd yn 2012 yn awgrymu bod cyfraddau uwch, o beidio â throi i fyny, gan fenywod Gwyn ac Asiaidd a dynion Affricanaidd o’u cymharu â chymunedau ethnigrwydd eraill. Fodd bynnag, rhybuddiodd yn erbyn dod i gasgliadau oherwydd ansawdd y data a oedd ar gael.

O ganlyniad, mae’r gwasanaeth wedi gwella’r broses casglu data i ddarparwyr gofal sylfaenol. Bydd hyn yn darparu proffil ethnigrwydd mwy cyflawn i’r boblogaeth yn y dyfodol a chaiff ei ddefnyddio i ail-archwilio’r defnydd a wnaed o’r gwasanaeth yn 2014/15.

[1] Ar gyfer yr adroddiad ‘Royal Marsden Patient and Membership Equality Profile 2011/2012’

[2] Yn ôl ‘Dr Foster Hospital Guide 2012’, methodd 5.8 miliwn o gleifion allanol eu hapwyntiadau yn 2011/2012, gan gynrychioli colled o refeniw posibl o £585 o filiynau i’r GIG. Nid yw gostwng y cyfraddau o beidio â chadw at apwyntiadau yn arbed arian i’r GIG yn unig, mae hefyd yn fodd i leihau’r amseroedd aros ac i wella effeithlonrwydd. 

Cefnogi ceisiadau swydd gan bobl anabl: gwella hyder a phrofiad gwaith pobl anabl – Ysbyty Frimley Park

Cefndir

Yn ei adroddiad ar gydymffurfiaeth o ran cydraddoldeb cyflogaeth i’r cyfnod 2010/2011, nododd Ymddiriedolaeth Sylfaenol GIG Ysbyty Frimley Park (yr Ymddiriedolaeth) ei bod wedi cael llai o geisiadau swydd gan bobl anabl na’r disgwyl, o ystyried yr amcangyfrifir fod wyth y cant o’r boblogaeth yn ei dalgylch yn meddu ar anabledd.

Er nad oes adrodd digonol yn gyffredinol ar anabledd ymysg ymgeiswyr yn y farchnad swyddi, roedd yr ymddiriedolaeth o’r farn bod angen ymrwymiad penodol, er mwyn annog mwy o bobl anabl i geisio am swyddi yn yr ymddiriedolaeth. O gofio’r dyletswyddau penodol (o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus), diffiniodd yr ysbyty'r nod a ganlyn i gyflawni’r nod hwn:

  • Gweithio gyda sefydliadau megis Ymddiriedolaeth Shaw i leoli pobl anabl gyda’r nod o ddatblygu sgiliau a hyder i gefnogi gobeithion cyflogaeth hir dymor. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth ar gyfer ceisio am swyddi parhaol o fewn y sefydliad.

Camau

Yn 2012/2013, cysylltodd yr ysbyty ag Ymddiriedolaeth Shaw i ofyn am curriculum vitae pobl anabl a oedd yn edrych am leoliadau gweithio. Cynigodd Ymddiriedolaeth Shaw dri curriculum vitae a nododd yr ysbyty leoliadau a fyddai’n fwyaf cydnaws â sgiliau’r unigolion hyn. Ar ddiwedd y lleoliadau gweithio cafodd y tri gymorth gyda’u ceisiadau swydd/cyfweliadau fel y gallent geisio am swyddi parhaol a dros dro yn yr Ymddiriedolaeth.

Deilliannau

Yn 2012/13, adroddodd yr Ymddiriedolaeth ar y cynnydd a ganlyn: o’r tri unigolyn anabl a gafodd eu penodi drwy leoliadau gweithio a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Shaw, mae dau bellach wedi’u penodi i swyddi dros dro, ac un i swydd barhaol.

Gwnaeth y lleoliadau gweithio yn yr ysbyty wahaniaeth arwyddocaol i fywydau’r rheini a gafodd eu gosod yno. Yn benodol, mae wedi galluogi cyfranogwyr i godi sgiliau ac ennill hyder i geisio am swyddi wedyn. Dywedodd un ohonynt ei fod wedi cael y cyfle i arddangos ei sgiliau mewn gweithle go iawn a roddodd hyder iddo geisio am swydd barhaol yn yr Ymddiriedolaeth. 'Yn y cyfweliad, gallwn siarad am sgiliau gwaith go iawn ‘roeddwn wedi’u meithrin yn fy lleoliad, rhywbeth nad oeddwn yn gallu ei wneud gynt'.

Mae’r ysbyty yn dal yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Shaw i barhau i ddarparu cyfleoedd swyddi posibl i ragor o bobl anabl yn y blynyddoedd i ddod.

Diweddariadau tudalennau