Canllawiau ar hysbysebion gwahaniaethol

Wedi ei gyhoeddi: 4 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 16 Gorffenaf 2024

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Rhagarweiniad

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer unigolion sy’n credu y gallai hysbyseb fod yn wahaniaethol ac sydd am ddwyn eu pryderon i sylw’r hysbysebwr neu’r cyhoeddwr.

Mae gosod neu gyhoeddi hysbyseb gwahaniaethol yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ('y Ddeddf'). Mae'r Ddeddf yn amddiffyn unigolion rhag dioddef gwahaniaethu oherwydd nodwedd warchodedig. Y nodweddion gwarchodedig yw:

  • oed
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd a chred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Mae'r Ddeddf yn berthnasol i bob cyhoeddwr a hysbysebwr ac mae'n cwmpasu cyflogaeth a darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau. Mae hefyd yn berthnasol i:

  • asiantaethau cyflogaeth a phobl sy'n hysbysebu am weithwyr contract
  • gwasanaethau hyfforddiant galwedigaethol
  • undebau llafur; partneriaethau
  • darparwyr addysg
  • gosod a gwerthu tir neu eiddo
  • darparwyr gwasanaethau fel tafarndai, clybiau a siopau

Beth yw hysbyseb?

Mae hysbyseb yn hysbysiad neu gyhoeddiad  ysgrifenedig neu lafar  sy'n hyrwyddo cyfle am swydd, cynnyrch, gwasanaeth neu ddigwyddiad. Gall hysbysebion ymddangos mewn papurau newydd, cylchgronau, ar y teledu, radio, rhyngrwyd, mewn ffenestri siopau neu mewn e-byst.

Beth yw hysbyseb gwahaniaethol?

Mae hysbyseb gwahaniaethol yn hysbyseb sy'n cyfyngu swyddi, nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i bobl â nodweddion gwarchodedig penodol, megis dynion neu bobl o grŵp oedran penodol. Maent yn anghyfreithlon ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn lle mae’r Ddeddf yn caniatáu cyfyngiad o’r fath yn benedol os gellir ei gyfiawnhau’n wrthrychol. Gweler tudalen 4 a 5 am ragor o fanylion.

Gallai unrhyw ran o hysbyseb fod yn wahaniaethol. Er enghraifft, gall disgrifyddion, teitlau swyddi, darluniau a lluniau sy'n ymwneud â nodweddion gwarchodedig penodol fod yn wahaniaethol gan y gallent awgrymu mai dim ond pobl â'r nodweddion hynny sy'n gymwys ar gyfer y swydd neu'r gwasanaeth sy'n cael ei hysbysebu.

Mae enghreifftiau o hysbysebion ar gyfer swyddi a allai fod yn wahaniaethol yn anghyfreithlon yn cynnwys:

  • Hysbysebion yn defnyddio teitlau swyddi neu ddisgrifiadau ar gyfer swyddi gweigion fel gweinyddes, gwerthwraig neu bostmon.

  • Hysbysebion a gyhoeddir mewn iaith benodol neu sy'n gofyn am hyfedredd mewn un neu fwy o ieithoedd penodol os nad yw'r gallu i siarad yr ieithoedd hynny yn ofyniad gwirioneddol ar gyfer y swydd. Mae hysbysebion o'r fath yn debygol o eithrio'r rhai nad ydynt yn siarad yr ieithoedd hynny rhag ymgeisio am y swydd, felly gallant fod yn wahaniaethol ar sail hil. Os oes gwir angen hyfedredd mewn un neu fwy o ieithoedd, mae'n arfer da i'r hysbyseb ymddangos yn Saesneg yn ogystal â'r iaith ofynnol, fel y gall pob darpar ymgeisydd ddeall ei fod yn ofyniad gwirioneddol a'r rheswm drosto.

  • Hysbysebion sy'n nodi terfynau oedran ar gyfer ymgeiswyr neu'n defnyddio termau fel 'ifanc a deinamig' neu 'berson aeddfed'.

Mae enghreifftiau o hysbysebion am wasanaethau a allai fod yn wahaniaethol yn anghyfreithlon yn cynnwys:

  • Hysbysebion ar gyfer gwestai, bwytai, clybiau nos, tafarndai a chanolfannau hamdden yn rhoi triniaeth ffafriol i grŵp penodol, er gwerthwraig hysbyseb yn nodi bod merched yn cael mynediad am ddim i glwb nos.

  • Hysbysebion ar gyfer cyfleusterau ariannol a ddarperir gan fanciau, cwmnïau cardiau credyd, siopau, cwmnïau yswiriant, cymdeithasau adeiladu ac awdurdodau lleol sy'n gosod gofynion sy’n effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau, er enghraifft, a hysbyseb am gredyd sy'n gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos pasbort cenedlaethol penodol fel prawf adnabod.

  • Hysbysebion ar gyfer cyfleoedd hyfforddiant addysgol, proffesiynol neu alwedigaethol sy'n cyfyngu ar rai grwpiau neu'n eu trin yn wahanol, er enghraifft hysbyseb ar gyfer cynhadledd yn nodi y bydd seddau ar wahân ar gyfer dynion a merched sy'n mynychu.

  • Hysbysebion ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus neu gyfleusterau teithio a thrafnidiaeth a gynigir gan gwmnïau preifat neu asiantaethau teithio sy’n gosod cyfyngiadau ar grwpiau penodol, er enghraifft, darparwr gwyliau yn datgan na fydd yn derbyn archebion grŵp gan bartïon gwrywaidd i gyd.

  • Hysbysebion ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill sy'n eithrio rhai pobl, er enghraifft, hysbysebion ar gyfer grŵp rhieni a phlant bach newydd nad ydynt yn derbyn tadau neu rieni o'r un rhyw.

  • Hysbysebion ar gyfer gosod neu werthu eiddo sy'n eithrio rhai grwpiau, er enghraifft, landlord yn hysbysebu ystafell ar gyfer tenantiaid Asiaidd yn unig.

Pryd mae hysbyseb sy'n cyfyngu swydd neu wasanaeth i grwpiau penodol yn gyfreithlon?

Mae amgylchiadau cyfyngedig iawn o dan y Ddeddf pan all cyflogwyr neu ddarparwyr gwasanaethau dargedu grwpiau penodol yn eu hysbysebion.

Mae hysbyseb sy’n cyfyngu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau i bobl â nodwedd warchodedig benodol yn gyfreithlon dim ond pan fo eithriad penodol yn y Ddeddf sy’n caniatáu cyfyngiad o’r fath. Rhaid cyfiawnhau'r rhan fwyaf o gyfyngiadau'n wrthrychol. Er mwyn cael ei gyfiawnhau’n wrthrychol rhaid cael nod cyfreithlon ar gyfer y cyfyngiad a rhaid i’r cyfyngiad fod yn ffordd gymesur o gyflawni’r nod hwnnw. Mae bod yn gymesur yn golygu nad oes unrhyw ddulliau eraill, llai gwahaniaethol, o gyflawni'r nod hwnnw a bod unrhyw effaith wahaniaethol wedi'i chyfiawnhau gan y nod.

Dylai hysbyseb esbonio'n glir y sail a'r rhesymau dros y cyfyngiad.

Gall cyflogwyr fynnu bod gan ymgeisydd am swydd neu weithiwr nodwedd warchodedig arbennig dim ond lle mae meddu ar y nodwedd warchodedig honno yn angenrheidiol ar gyfer y rôl. Gelwir hyn yn ‘ofyniad galwedigaethol’ o dan Atodlen 9 Deddf Cydraddoldeb 2010.

Enghraifft o ofyniad galwedigaethol yw elusen sy'n recriwtio eiriolwr iechyd cymunedol ar gyfer y gymuned Sikhaidd, ac mae angen i ddeiliad y swydd fod yn Sikh i gyfathrebu'n effeithiol ag aelodau'r gymuned.

Lle bo gofyniad galwedigaethol yn berthnasol, rhaid i'r cyflogwr sicrhau bod modd cyfiawnhau gosod y gofyniad yn wrthrychol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn ddull cymesur o gyflawni nod cyfreithlon.

Enghraifft o ofyniad y gellir ei gyfiawnhau'n wrthrychol fyddai manyleb bod cynorthwyydd ystafell newid cyhoeddus o'r un rhyw â'r bobl sy'n defnyddio'r cyfleusterau. Bwriad y gofyniad yw cyflawni'r nod cyfreithlon o ddiogelu preifatrwydd ac urddas defnyddwyr gwasanaethau. Mae'n debygol o fod yn gymesur gan ei bod yn annhebygol y bydd ffordd lai gwahaniaethol o wneud hynny. Gall felly fod yn gyfreithlon.

Mae'n rhaid i ofynion galwedigaethol o dan Atodlen 9 ymwneud â meddu ar nodwedd warchodedig benodol fel y'i diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae nodwedd warchodedig 'rhyw' yn golygu rhyw cyfreithlon person fel y'i cofnodir ar ei dystysgrif geni neu ei Dystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC). Mae hyn yn golygu y bydd gofyniad galwedigaethol ar sail rhyw bod ymgeisydd yn fenyw – fel sy’n gyffredin o fewn gwasanaethau cymorth arbenigol i fenywod, megis cwnsela trais rhywiol – yn cynnwys menywod sy’n cael eu cofnodi’n fenyw adeg eu geni a hefyd menywod trawsryweddol sydd wedi cael GRC.

Fodd bynnag, mae Atodlen 9 hefyd yn caniatáu gofyniad galwedigaethol i eithrio pobl drawsryweddol lle mae cyfiawnhad gwrthrychol dros hynny, a gall hyn gynnwys y rhai sydd wedi cael GRC. Ni all gofyniad galwedigaethol ‘seiliedig ar ryw’ i fod yn fenyw o dan Atodlen 9 gynnwys menywod trawsryweddol nad ydynt wedi cael GRC, gan nad oes ganddynt statws cyfreithiol fel menywod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae'n gyfreithlon i glybiau aelodau preifat, megis clybiau golff a bowlio, gyfyngu aelodaeth i bersonau sy'n rhannu nodwedd warchodedig, ac eithrio ar sail lliw. Fodd bynnag, ni allant wahaniaethu rhwng aelodau, er enghraifft drwy gynnig cyfraddau aelodaeth gwahanol i ddynion a menywod. Hefyd, os yw’r clwb yn darparu gwasanaeth sy’n agored i’r cyhoedd, mae’n anghyfreithlon cyfyngu mynediad i hwnnw oni bai bod un o’r eithriadau penodol yn y Ddeddf yn berthnasol.

A all cyflogwyr hysbysebu bod croeso i geisiadau am swyddi gan grwpiau penodol?

Nid yw'n anghyfreithlon annog grwpiau sy'n rhannu nodwedd warchodedig arbennig i wneud cais am swyddi gwag i fynd i'r afael ag anfantais neu dangynrychiolaeth. Yr enw ar hyn yw gweithredu cadarnhaol. Mae gweithredu cadarnhaol yn gyfreithlon os yw’n rhesymol meddwl bod pobl â nodwedd warchodedig benodol yn cael eu tangynrychioli neu’n wynebu anfantais a bydd y camau a gymerir yn mynd i’r afael â hyn ac yn gymesur.

Os yw cyflogwr am gymryd camau cadarnhaol fel hyn, dylai'r hysbyseb nodi'n glir bod y cyflogwr yn ceisio ceisiadau gan bawb ond yn dymuno annog ceisiadau gan bobl â nodwedd warchodedig benodol ar y sail eu bod yn cael eu tangynrychioli neu'n wynebu anfantais.

Dim ond i wneud pobl o grwpiau nodweddion gwarchodedig yn ymwybodol o gyfleoedd recriwtio a'u hannog i wneud cais am swydd y gellir defnyddio gweithredu cadarnhaol wrth recriwtio. Ni ellir ei ddefnyddio i gyfyngu ar y cyfle am swydd i rywun â nodwedd warchodedig benodol nac arwain at ymgeisydd yn cael ei drin yn fwy ffafriol yn ystod y broses recriwtio oherwydd bod ganddo nodwedd warchodedig. Fodd bynnag, os yw'r ddau ymgeisydd gorau am swydd yr un mor gymwys, gellir rhoi ffafriaeth i'r ymgeisydd o grŵp difreintiedig neu grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol os yw hyn yn ffordd gymesur o helpu i fynd i'r afael â'r anfantais neu gynyddu cyfranogiad y grŵp.

Mae hefyd yn gyfreithlon trin pobl anabl yn fwy ffafriol mewn proses recriwtio. Gallai hyn gynnwys gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer y rhai sy'n nodi eu bod yn anabl ac sy'n bodloni gofynion sylfaenol y swydd. Ni fyddai hysbyseb yn nodi hyn yn anghyfreithlon.

Pa sefydliad sy'n delio â chwynion?

Gall unrhyw un gwyno i'r hysbysebwr neu'r cyhoeddwr am hysbyseb gwahaniaethol. Os yw unigolyn wedi dioddef anfantais, gall ddefnyddio'r hysbyseb fel tystiolaeth mewn hawliad cyfreithiol am wahaniaethu. Gall y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ddefnyddio ei bwerau gorfodi i gymryd camau mewn perthynas â hysbysebion gwahaniaethol hyd yn oed pan nad yw wedi nodi unrhyw unigolyn sydd wedi bod dan anfantais oherwydd yr hysbyseb.

Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) yw rheolydd annibynnol y DU ar gyfer hysbysebu ar draws pob cyfrwng. Gallwch gwyno i’r ASA os credwch fod hysbyseb yn anonest neu’n gamarweiniol neu os yw cynnig arbennig, cystadleuaeth neu wobr o ddyrchafiad yn annheg.

Sut mae gwneud cwyn

Os credwch fod hysbyseb am swydd, nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn wahaniaethol, dylech ysgrifennu at y cyflogwr neu'r darparwr nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau ac at gyhoeddwr yr hysbyseb.

Lle bo modd, dylai eich llythyr gynnwys copi o’r hysbyseb a darparu’r canlynol:

  • lle cyhoeddwyd yr hysbyseb (er enghraifft, pa bapur newydd neu wefan) a'r dyddiad cyhoeddi

  • y rheswm y credwch fod yr hysbyseb yn wahaniaethol

Dylech hefyd:

  • gofyn am resymau pam nad yw’r hysbyseb yn torri’r Ddeddf (cynnwys dolen i’r Ddeddf os caiff ei hanfon drwy e-bost)

  • gofyn am ateb o fewn 21 diwrnod

Cadwch gopi o'r llythyr neu e-bost. Os ydych am sicrhau bod y llythyr wedi dod i law, gallwch ei anfon trwy ddosbarthiad cofnodedig. Os na fyddwch yn derbyn ateb, neu os nad ydych yn fodlon â’r ymateb, efallai y byddwch am anfon copi o’r hysbyseb a’r holl ohebiaeth berthnasol i’r EHRC i ni eu hystyried.

Beth yw ein hymagwedd at hysbysebion gwahaniaethol?

Pan fyddwn yn derbyn cwyn am hysbyseb wahaniaethol, rydym yn asesu cynnwys a chyd-destun yr hysbyseb ynghyd ag unrhyw ohebiaeth rhwng yr hysbysebwr neu'r cyhoeddwr a'r achwynydd.

Efallai y byddwn wedyn yn ysgrifennu at yr hysbysebwr neu'r cyhoeddwr i ofyn beth yw eu cyfiawnhad dros yr hysbyseb.

Os cawn gyfiawnhad rhesymol neu sicrwydd ei fod yn gamgymeriad ac na fydd yn digwydd eto, byddwn fel arfer yn cau'r gŵyn.

Mae EHRC yn datrys y rhan fwyaf o gwynion heb gymryd camau ffurfiol. Fodd bynnag, os na cheir sicrwydd boddhaol, byddwn yn ystyried a allai cymryd camau pellach, megis camau gorfodi, fod yn briodol.

Nid ydym yn rhoi cyngor na barn i unigolion ar gyfreithlondeb hysbyseb.

Nid ydym yn darparu gwybodaeth i aelodau'r cyhoedd am ein hymchwiliadau i hysbysebion gwahaniaethol. Mae hyn oherwydd y gallai gwneud hynny beryglu unrhyw gamau gorfodi a niweidio enw da'r cwmni neu'r unigolyn yn annheg os na chaiff honiadau eu profi.

Ydych chi wedi dioddef anfantais oherwydd hysbyseb wahaniaethol?

Os ydych yn credu bod hysbyseb wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, megis gwasanaeth wedi'i wrthod, a'ch bod am wneud hawliad cyfreithiol am wahaniaethu, bydd angen i chi allu profi eich bod wedi dioddef anfantais. Bydd bodolaeth hysbyseb gwahaniaethol yn helpu i ddarparu tystiolaeth ddogfennol ar gyfer eich hawliad.

Os dymunwch wneud cais am swydd a hysbysebir sy'n cyfyngu ceisiadau i bobl â nodwedd warchodedig arbennig nad oes gennych chi, dylech ofyn i'r cyflogwr neu'r asiantaeth recriwtio a yw gofyniad galwedigaethol neu eithriad yn berthnasol. Os nad oes unrhyw un, dylech gael eich trin yn gyfartal â phob ymgeisydd arall. Os gwnewch gais mewn pryd ond na chewch eich gwahodd am gyfweliad, er bod gennych y cymwysterau a'r profiad addas, efallai y byddwch am wneud ymholiadau pellach am y rhesymau. Os yw’r rhesymau a roddwyd yn ymwneud â nodwedd warchodedig lle nad oes gofyniad galwedigaethol neu eithriad a ganiateir yn y Ddeddf, gallai hyn ddangos eich bod wedi dioddef gwahaniaethu.

Os hoffech gael arweiniad ar eich sefyllfa benodol, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ar Gydraddoldeb, sy'n rhoi cyngor i unigolion a allai fod wedi profi gwahaniaethu.

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth fanylach yn y Cod Statudol Ymarfer Cyflogaeth neu Cod Ymarfer Statudol Gwasanaethau, Swyddogaethau Cyhoeddus a Chymdeithasau.

Dylid gwneud cwynion am hysbysebu anonest neu sarhaus i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu , Mid City Place, 71 High Holborn, Llundain, WC1V 6QT.

Cysylltwch ag Acas am ragor o wybodaeth

Os ydych yn rhan o anghydfod cyflogaeth neu’n ceisio gwybodaeth am hawliau a rheolau cyflogaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas):

Rhadffôn: 0300 123 1100 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn)

Gwasanaeth Cyfnewid Testun: 18001 0300 123 1100.

Ewch i wefan Acas

Diweddariadau tudalennau