Arweiniad
Atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle: pecyn cymorth i gerddorfeydd
Wedi ei gyhoeddi: 29 Awst 2024
Diweddarwyd diwethaf: 29 Awst 2024
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Cyflwyniad
Datblygwyd y pecyn cymorth hwn gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) a Chymdeithas Annibynnol y Cerddorion (ISM) i helpu cerddorfeydd fynd i'r afael â mater aflonyddu rhywiol.
Mae’r Comisiwn yn gorff statudol annibynnol gyda’r cyfrifoldeb i annog cydraddoldeb ac amrywiaeth, dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol pawb ym Mhrydain. Yr ISM yw corff proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer cerddorion a chymdeithas bwnc ar gyfer cerddoriaeth.
Yn 2022, cyhoeddodd yr ISM adroddiad ar fwlio ac aflonyddu yn y sector cerddoriaeth, ‘Dignity at Work 2’, a rannodd ganfyddiadau arolwg o gerddorion sy’n gweithio ar draws y sector. Dangosodd yr adroddiad fod aflonyddu rhywiol yn broblem eang. Datgelodd yr adroddiad hefyd y diffyg cymorth sydd ar gael i gerddorion llawrydd sy’n profi aflonyddu:
- roedd aflonyddu rhywiol yn cyfrif am 58% o'r gwahaniaethu a adroddwyd yn yr arolwg
- dywedodd 88% o ymatebwyr hunangyflogedig nad oeddent yn adrodd am ddigwyddiadau a brofwyd ganddynt wrth weithio
- dywedodd 94% o'r ymatebwyr hyn nad oedd unrhyw un i adrodd am aflonyddu iddynt
Ar gyfer pwy mae'r pecyn cymorth hwn?
Mae'r pecyn cymorth hwn wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gan reolwyr cerddorfa, yn ogystal ag unrhyw aelodau o'r gerddorfa sydd â chyfrifoldebau AD a phennu.
Beth mae'r pecyn cymorth hwn yn ei wneud?
Mae’r pecyn cymorth hwn yn amlinellu enghreifftiau o gamau y gall cerddorfeydd eu cymryd fel sy’n briodol ar gyfer maint eu sefydliad. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i gyd-fynd â pholisïau AD presennol, er enghraifft polisïau a allai fod gennych ynghylch aflonyddu a bwlio. Maent hefyd wedi'u cynllunio i'ch helpu i sefydlu polisïau a strwythurau newydd lle bo angen.
Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys templedi sy'n anelu at eich helpu i gymryd camau i amddiffyn eich cerddorion a'ch sefydliad. Maent yn cynnwys:
- Rhestr wirio: mae hon wedi'i chynllunio i'ch cefnogi trwy bob cam o sesiwn a gellir ei haddasu i weddu i'ch cerddorfa.
- Cynllun gweithredu: bydd hwn yn eich helpu i amlinellu pa gamau y byddwch yn eu cymryd i ddefnyddio'r rhestr wirio yn eich cerddorfa.
- Logiau monitro: bydd y rhain yn eich helpu i fonitro sut mae'r rhestr wirio a'r cynllun gweithredu yn cael eu defnyddio.
Gallwch ddod o hyd i ddiffiniadau o dermau allweddol isod.
Rhestr wirio
Mae’r rhestr wirio wedi’i datblygu gan yr Comisiwn a’r ISM ar gyfer lleoliadau cerddorfa, ond gellir ei haddasu i weddu i weithleoedd eraill yn y sector cerddoriaeth. Mae'n arf ymarferol y gellir ei ddefnyddio i'ch atgoffa o'r camau y gallwch eu cymryd i gefnogi eich dull cyffredinol o atal aflonyddu rhywiol. Sylwch na chaniateir defnyddio logo'r Comisiwn mewn unrhyw fersiynau diwygiedig o'r rhestr wirio hon.
Mae’r rhestr wirio yn eich cefnogi trwy bob cam o sesiwn cerddorfaol, o recriwtio a bwcio i ystyriaethau penodol yn ystod amser ar daith ac ystyriaethau allweddol yn dilyn sesiwn. Mae’n darparu tri phrif faes i feddwl amdanynt:
- Cyfathrebu â cherddorion (gan gynnwys gweithwyr llawrydd): sut i hyrwyddo diwylliant sy'n rhydd rhag aflonyddu a gadael i'ch cerddorion wybod eich bod yn cymryd aflonyddu rhywiol o ddifrif.
- Newid yr amgylchedd gwaith: rheoli'r amgylchedd ffisegol a chymdeithasol y mae pobl yn gweithio ynddo i'w wneud mor ddiogel â phosibl.
- Arferion gwaith: polisïau a gweithdrefnau i sicrhau eich bod yn gwybod pryd mae aflonyddu rhywiol yn digwydd a sut yr ymdrinnir ag ef.
Sut gallwch chi ddefnyddio'r pecyn cymorth
Wrth addasu'r pecyn cymorth ar gyfer eich cerddorfa ystyriwch sut rydych chi'n gweithio, y bobl a fydd yn ei ddefnyddio a beth sy'n gymesur ar gyfer eich cerddorfa. Efallai y bydd angen i chi feddwl am:
- Pwy yw'r bobl iawn i'w ddefnyddio?
- Pa mor hawdd fyddai hi iddyn nhw ei ddefnyddio?
- Sut gallwch chi gefnogi aelodau o'ch cerddorfa, gan gynnwys yr arweinydd, y penodwyr ac arweinwyr yr adrannau, i'w defnyddio?
- Oes angen i chi addasu'r teclyn hwn ar gyfer eich cerddorfa?
- Gyda phwy mae angen i chi siarad er mwyn i'r rhestr wirio gael ei defnyddio ar draws eich cerddorfa?
Dylech hefyd baratoi i'r pecyn cymorth gael ei ddefnyddio'n effeithiol. Er enghraifft, trwy redeg ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, diweddaru polisïau a gweithdrefnau, darparu hyfforddiant a chael y bobl gywir i gymryd rhan. Dylai unrhyw weithgaredd gynnwys gweithwyr llawrydd rheolaidd lle bo modd.
Aflonyddu rhywiol a’r gyfraith
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gweithwyr yn cael eu hamddiffyn rhag aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol.
Aflonyddu rhywiol yw unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso sy’n torri urddas rhywun neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus iddynt. Gweler yr adran termau allweddol am ragor o wybodaeth, gan gynnwys gwahanol fathau o aflonyddu rhywiol.
Rhaid peidio â thrin cerddorion yn wael oherwydd eu bod yn gwrthod neu'n ymostwng i weithredoedd o aflonyddu, gan fod hyn hefyd yn aflonyddu anghyfreithlon. Rhaid iddynt hefyd beidio â chael eu trin yn wael oherwydd eu bod wedi cwyno am aflonyddu rhywiol, gan fod hyn yn erledigaeth anghyfreithlon.
Dylai pob cerddorfa gymryd camau i amddiffyn eu cerddorion rhag aflonyddu rhywiol, gan gynnwys y rhai a gyflogir ar eu liwt eu hunain.
Gall cerddorfeydd hefyd fod yn atebol am aflonyddu gan eu cerddorion mewn amgylchiadau lle nad yw'r cerddor yn gweithio mewn gwirionedd ond sy'n gysylltiedig â gwaith. Bydd hyn yn dibynnu ar gryfder y cysylltiad â gwaith ym mhob achos penodol. Er enghraifft, os yw cerddor yn dioddef aflonyddu yn ystod diodydd yn y dafarn gyda cherddorion eraill o’r gerddorfa yn syth ar ôl ymarfer, neu mewn parti a drefnir ar ôl cyngerdd, gall tribiwnlys benderfynu bod cysylltiad agos rhwng y rhain a chyflogaeth.
Er y bydd gan lawer o gerddorfeydd bolisïau a gweithdrefnau aflonyddu rhywiol sefydledig, ni all y rhain ar eu pen eu hunain atal aflonyddu rhywiol rhag digwydd yn eich sefydliad.
Gall eich cerddorfa gael ei dal yn gyfreithiol gyfrifol am aflonyddu rhywiol os nad ydych yn cymryd camau i atal aflonyddu rhywiol, waeth beth fo’i maint neu strwythur sefydliadol. Gall hawliad gwahaniaethu gael canlyniadau ariannol sylweddol i enw da cyflogwr a cherddor unigol a gyhuddir o aflonyddu o'r fath.
Gall methu â chymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol hefyd gael effaith sylweddol ar les, diogelwch, recriwtio a chadw cerddorion a staff eraill, yn ogystal ag enw da eich sefydliad. Bydd gweithio i hyrwyddo diwylliant cadarnhaol sy’n rhydd rhag aflonyddu yn helpu i sicrhau bod cerddorion yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu perfformio hyd eithaf eu gallu.
Deddf Diogelu'r Gweithiwr
Ar 26 Hydref 2024 bydd y Ddeddf Diogelu’r Gweithiwr yn dod i rym. Fel pob cyflogwr, bydd cerddorfeydd sy'n cyflogi pobl yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd ataliol o dan y Ddeddf Diogelu’r Gweithiwr, sy'n gosod rhwymedigaeth gyfreithiol gadarnhaol arnynt i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar weithwyr yn ystod cyflogaeth.
Gallai ‘camau rhesymol’ gynnwys sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau addas ar waith, yn ogystal â mesurau mwy gweithredol. Gallai’r mesurau hyn gynnwys gwneud yn siŵr bod aelodau’r gerddorfa’n cael gwybod am y gweithdrefnau hyn pan fyddant yn ymuno ac yn rheolaidd wedi hynny. Dylid cynnig hyfforddiant a gwerthusiad o bolisïau a gweithdrefnau yn rheolaidd a dylid ymdrin â chwynion yn effeithiol, yn effeithlon ac yn sensitif.
Mae’r ddyletswydd ataliol yn cynnwys dyletswydd i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol gan drydydd partïon, a fydd yn cynnwys staff sefydliadau eraill, gan gynnwys lleoliadau a chwmnïau theatr, a’r cyhoedd yn mynychu perfformiadau. Gallai ‘camau rhesymol’ yn y cyd-destun hwn gynnwys polisïau a phrotocolau clir ar gyfer camau a gymerir i unioni cwyn neu ei hatal rhag digwydd eto.
Gall y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol orfodi achosion o dorri’r ddyletswydd ataliol. Os bydd cerddor yn llwyddo mewn hawliad am aflonyddu rhywiol yn erbyn cerddorfa, gall tribiwnlys cyflogaeth gynyddu iawndal hyd at 25% os yw’n ystyried bod y ddyletswydd ataliol wedi’i thorri.
Termau allweddol
Cyn sesiwn: camau gweithredu a awgrymir
Cyfathrebu gyda cherddorion
Wrth gadarnhau ymgysylltiad cerddor â chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfathrebu nad ydych yn goddef aflonyddu rhywiol. Sicrhewch fod y negeseuon hyn yn gyson a'u bod yn cynnwys gweithwyr llawrydd rheolaidd ac unrhyw gerddoriaeth funud olaf yn lle cerddorion eraill. Gallech gynnwys adran ar ymddygiadau disgwyliedig o fewn contractau.
Rhannu polisïau a gweithdrefnau perthnasol yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol, gan gynnwys sut i roi gwybod am aflonyddu rhywiol, trwy ymsefydlu, hyfforddiant neu ddulliau eraill, er enghraifft trwy e-bost ochr yn ochr â'r contract a thrwy ei gynnwys ar eich gwefan. Dylai cerddorion allu gweld a chael copïau o'r polisïau perthnasol o'r cychwyn cyntaf heb orfod gofyn amdanynt. Sicrhewch fod gweithwyr llawrydd hefyd yn derbyn y wybodaeth hon a lle bo modd cynnwys gweithwyr llawrydd rheolaidd mewn hyfforddiant.
Cynigiwch sawl ffordd i gerddorion adrodd am achosion o aflonyddu lle bo modd. Sicrhewch fod gan gerddorion fwy nag un person y gallant ymddiried ynddo os oes ganddynt broblem, yn enwedig os nad oes gan eich cerddorfa swyddogaeth AD bwrpasol. Sicrhewch fod cerddorion yn ymwybodol o linellau cymorth a ddarperir gan yr ISM, Undeb y Cerddorion ac eraill.
Meddyliwch am sut y gallwch chi gyfathrebu’r ymddygiadau disgwyliegid yn ystod y sesiwn, gan gynnwys o fewn ystafelloedd gwyrdd, ystafelloedd newid ac ardaloedd cefn llwyfan, yn ogystal â’r rhai a ddisgwylir ar ôl sesiwn mewn amgylcheddau cymdeithasol cyfagos i sesiynau. Rhannwch restr o ymddygiadau a gwerthoedd disgwyliedig ac ystyriwch ddefnyddio nodiadau atgoffa gweledol fel posteri. Mae gan yr ISM ac Undeb y Cerddorion God Ymarfer, sy’n amlinellu set o egwyddorion i fynd i’r afael â ac atal bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y sector cerddoriaeth.
Newid yr amgylchedd gwait
Efallai y bydd pobl sydd â llawer o reolaeth dros recriwtio a bwcio cerddorion yn gallu defnyddio'r pŵer hwn mewn ffordd sy'n galluogi aflonyddu rhywiol i ddigwydd.
Dylai Penodwyr, neu'r rhai sydd â rheolaeth dros recriwtio a bwcio, ddilyn proses gyson wrth logi unrhyw gerddorion, gan gynnwys rhai sy'n cymryd eu lle ar y funud olaf. Mae’r Cynllun gweithredu 10 pwynt ar gyfer recriwtio cerddorfaol, a ddatblygwyd gan Black Lives in Music, Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain ac Undeb y Cerddorion, yn fan cychwyn defnyddiol a bydd yn helpu sicrhau recriwtio teg.
Rhaid peidio â thrin cerddorion yn wael oherwydd eu bod yn gwrthod neu'n ymostwng i weithredoedd o aflonyddu, er enghraifft gwrthod neu ymostwng i gusan. Rhaid iddynt hefyd beidio â chael eu trin yn wael oherwydd eu bod wedi cwyno am aflonyddu rhywiol. Gallai peidio â bwcio cerddor oherwydd ei fod wedi gwneud cwyn yn flaenorol fod yn erledigaeth, sy'n anghyfreithlon.
Holwch neu gofynnwch i gerddorion i weld a ydyn nhw byth yn teimlo'n agored i niwed neu mewn sefyllfaoedd peryglus yn y gwaith a gweld a allwch chi wneud unrhyw beth i newid hynny. Rhowch sylw i gerddorion a allai fod yn fwy agored i aflonyddu rhywiol, megis cerddorion iau, y rhai nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf a gweithwyr llawrydd, sy'n aml yn llai tebygol o adrodd am ddigwyddiadau.
Meddyliwch am unrhyw fannau a rennir, gan gynnwys ystafelloedd gwyrdd, ystafelloedd newid ac ardaloedd cefn llwyfan. Mae gan gyflogwyr ddyletswyddau cyfreithiol o dan Y Rheoliadau Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992 i ddarparu toiledau a chyfleusterau ystafell newid ar wahân i ddynion a merched.
Efallai na fydd yr amgylchedd gwaith bob amser o fewn eich rheolaeth, er enghraifft, wrth ymweld â lleoliadau perfformiad mwy anffurfiol fel ysgolion, ysbytai neu gartrefi gofal ar gyfer gweithdai a sesiynau ymgysylltu. Fodd bynnag, lle bo modd, dylech geisio asesu'r lle sydd ar gael a chodi unrhyw bryderon diogelwch gyda'r bobl berthnasol. Gallwch hefyd wirio pa bolisïau sydd ganddynt ar waith ynghylch aflonyddu rhywiol.
Arferion gwaith
Meddyliwch am sut i sicrhau bod pob cerddor yn ymwybodol o bwy sy'n gyfrifol am ddelio ag unrhyw achosion o aflonyddu rhywiol. Dylai hwn fod yn fwy nag un person os yn bosibl. Sicrhewch fod y rhai sy'n gyfrifol am ddelio â digwyddiadau yn gwybod beth i'w wneud os bydd rhywun yn dod atynt a bod ganddynt bolisi neu broses benodol ar gyfer ymateb.
Rhowch gyfle i gerddorion adrodd yn ddienw rhag ofn nad ydynt yn teimlo’n hyderus wrth ddod ymlaen. Os nad oes gennych linell adrodd ddienw, ystyriwch ddarparu’r rhifau ar gyfer llinellau cymorth allanol fel y rhai a ddarperir gan yr ISM ac Undeb y Cerddorion ar gyfer eu haelodau.
Trefnwch bolisi neu broses benodol ar gyfer beth i'w wneud os bydd aelod o'r gynulleidfa neu drydydd parti arall yn aflonyddu ar gerddor, fel systemau rhybuddio, eu symud o'r lleoliad neu eu gwahardd yn barhaol. Sicrhewch fod pob cerddor yn ymwybodol o hyn a sut i adrodd am y math hwn o aflonyddu.
Rhowch hyfforddiant a chyngor i gerddorion ar gyfer ymyrryd yn ddiogel os ydynt yn gweld aflonyddu rhywiol yn digwydd. Dylid cynnwys gweithwyr llawrydd rheolaidd mewn hyfforddiant lle bo modd.
Cychwyn sesiwn: camau gweithredu a awgrymir
Cyfathrebu gyda cherddorion
Mae'n bwysig atgoffa pob cerddor nad ydych yn goddef aflonyddu rhywiol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn atgoffa cerddorion yn rheolaidd o’ch polisïau aflonyddu rhywiol a’ch prosesau adrodd, ac na fydd aflonyddu rhywiol yn cael ei oddef gan gerddorion nac aelodau o’r gynulleidfa. Er enghraifft, pan fydd gennych grŵp o gerddorion nad ydynt wedi chwarae gyda'i gilydd o'r blaen, gofynnwch i'ch arweinydd, blaenwr neu reolwr cerddorfa ailadrodd nad yw eich cerddorfa yn goddef aflonyddu rhywiol.
Sicrhewch ei bod yn glir bod y polisi hwn yn cynnwys cyfnodau megis teithio i neu o sesiwn neu gymdeithasu ar ôl sesiwn. Gofynnwch i’r sawl sy’n gyfrifol am ymdrin â chwynion gamu ymlaen a gwneud yn siŵr bod pawb yn ymwybodol o bwy ydyn nhw, ble y byddan nhw a bod cwynion yn cael eu cymryd o ddifrif. Os nad yw'r person sy'n gyfrifol am ddelio â chwynion yn y sesiwn, sicrhewch ei fod yn cael ei enwi a rhowch fanylion ar sut i gysylltu â nhw.
Gwahoddwch gerddorion i roi gwybod i'r person perthnasol os oes ganddynt unrhyw bryderon a sicrhewch y gweithredir arnynt, os yn bosibl.
Newid yr amgylchedd gwaith
Cynhaliwch asesiad risg o'r amgylchedd gwaith, yn gymesur â'r sefyllfa. Meddyliwch am bethau fel goleuo, corneli diarffordd a sut y gallech chi liniaru unrhyw risgiau.
Os disgwylir i gerddorion ryngweithio ag aelodau’r gynulleidfa, aseswch unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â hyn ac ystyriwch a allant osgoi gwneud hynny ar eu pen eu hunain.
Rhowch bosteri neu hysbysiadau lle gall aelodau'r gynulleidfa eu gweld i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod na fydd eich cerddorfa'n goddef aflonyddu rhywiol.
Arferion gwaith
Sicrhewch fod pobl sy'n gyfrifol am ddelio ag adroddiadau neu achosion o aflonyddu rhywiol yn gwybod beth i'w wneud os bydd rhywun yn dod atyn nhw gyda digwyddiad.
Siaradwch â gweithwyr llawrydd cyn ac ar ôl sesiwn i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod sut i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau, ble i fynd a gyda phwy i siarad. Sefydlwch bolisi neu broses benodol ar gyfer beth i'w wneud os bydd aelod o'r gynulleidfa neu drydydd parti arall yn aflonyddu ar gerddor.
Diwedd sesiwn: camau gweithredu a awgrymir
Cyfathrebu gyda cherddorion
Ar ddiwedd sesiwn, mae’n bwysig rhoi’r cyfle i bob cerddor, gan gynnwys gweithwyr llawrydd, adrodd am aflonyddu rhywiol.
Dylech sicrhau bod pob cerddor yn cael y cyfle i roi adborth ar eu profiad.
Mae adborth cerddorion llawrydd yn arbennig o bwysig oherwydd efallai y byddant yn llai tebygol o godi llais oni bai eu bod yn cael eu hannog, oherwydd pryderon ynghylch cael eu hailgyflogi.
Darparwch ffordd gyfrinachol iddynt adrodd am unrhyw beth sydd wedi digwydd iddynt yn y gwaith.
Codwch unrhyw achosion o aflonyddu, gan ofalu eich bod yn diogelu hawl cerddorion i breifatrwydd, fel bod pob cerddor yn ymwybodol o’r hyn sydd wedi digwydd ac yn ailadrodd bod eich cerddorfa wedi cymryd y materion hynny o ddifrif.
Newid yr amgylchedd gwaith
Mae’n bwysig bod pob cerddor yn ymwybodol, os bydd aflonyddu rhywiol yn digwydd ar ôl sesiwn, mewn digwyddiad cymdeithasol, ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy ddulliau eraill o gyfathrebu, y gallai’r cyflawnwr a’r gerddorfa fod yn gyfrifol yn gyfreithiol o hyd.
Atgoffwch y cerddorion y gall gweithgareddau cymdeithasol, diodydd, cyfryngau cymdeithasol neu ddulliau cyfathrebu eraill ddal i fod yn gysylltiedig â’u gweithle ac y bydd digwyddiadau’n cael eu cymryd o ddifrif.
Arferion gwaith
Llenwch y log monitro a ddarperir yn y pecyn cymorth hwn i'ch helpu i gofnodi digwyddiadau sy'n digwydd.
Cadwch gofnod o unrhyw faterion a fu gydag aelodau’r gynulleidfa a pha gamau a gymerwyd fel bod eraill yn ymwybodol.
Os nad yw cerddor am wneud cwyn ffurfiol, cadwch gofnod o ddigwyddiadau sy'n digwydd rhag ofn y bydd angen y wybodaeth yn ddiweddarach, neu rhag ofn bod nifer o bobl yn cwyno am yr un unigolyn. Os yw'n briodol, gallwch weld a yw'r cerddor am fynd i'r afael â'r mater yn anffurfiol, naill ai'n uniongyrchol ei hun neu gyda chymorth. Dylech barhau i adolygu'r sefyllfa hon drwy gysylltu â nhw i weld a yw'r sefyllfa wedi gwella. Lle nad yw'r sefyllfa wedi gwella, eglurwch iddynt fod angen mynd i'r afael â'r mater er eu lles hwy a chydweithwyr eraill.
I gael awgrymiadau ymarferol pellach ynghylch ceisiadau gan weithwyr i beidio â gweithredu, gweler canllawiau technegol y Comisiwn ar aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gwaith.
Cadwch gofnod o achosion o aflonyddu rhywiol ac unrhyw geisiadau i gadw’r mater yn gyfrinachol. Gall hyn eich helpu i nodi camau y gallech eu cymryd i atal digwyddiadau yn y dyfodol.
Amser ar daith: camau gweithredu a awgrymir
Yn ogystal â'r rhai a restrir uchod, mae camau gweithredu penodol i'w hystyried mewn perthynas ag amser ar daith.
Gall teithiau cerddorfaol fod yn gyfnod arbennig o fregus i gerddorion, a all deimlo pwysau ychwanegol i gymdeithasu neu gael eu gorfodi i rannu gofodau ag eraill. Efallai na fydd bob amser yn bosibl rheoli'r amgylchedd gwaith, ond mae'n dal yn bwysig cymryd pa gamau y gallwch chi i sicrhau diogelwch cerddorion tra oddi cartref. Gallai hyn gynnwys gwirio pa bolisïau a phrosesau sydd gan leoliadau neu hyrwyddwyr i amddiffyn cerddorion rhag aflonyddu rhywiol.
Cofiwch, os bydd aflonyddu rhywiol yn digwydd tra bod y gerddorfa dramor, gallai’r broses o ymdrin ag unrhyw oblygiadau troseddol fod yn wahanol, ond gall cyflogwyr fod yn atebol o hyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Cyfathrebu gyda cherddorion
Sicrhewch eich bod wedi atgoffa pob cerddor sy’n cymryd rhan mewn taith nad ydych yn goddef aflonyddu rhywiol a beth ddylent ei wneud os ydynt yn cael eu haflonyddu tra ar daith, gan gynnwys os ydynt yn profi aflonyddu gan aelod o’r gynulleidfa neu drydydd parti arall.
Atgoffwch y cerddorion bod digwyddiadau cymdeithasol ar daith yn dal i fod yn gysylltiedig â'u gweithle.
Newid yr amgylchedd gwaith
Wrth wneud trefniadau ar gyfer teithiau, sicrhewch fod yr amgylchedd mor ddiogel â phosibl er mwyn lleihau’r cyfle i aflonyddu rhywiol ddigwydd, er enghraifft wrth ddyrannu ystafelloedd gwesty a threfnu opsiynau trafnidiaeth, megis rhannu car neu seddi ar goets neu awyren. Gwiriwch a yw cerddorion yn gyfforddus gyda'r trefniadau a rhowch gyfle iddynt ddweud os nad ydynt. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod gan gerddorion fannau newid diogel tra ar daith.
Arferion gwaith
Sicrhewch fod pobl sy'n gyfrifol am ddelio ag adroddiadau neu achosion o aflonyddu rhywiol yn gwybod beth i'w wneud os bydd rhywun yn dod atyn nhw gyda digwyddiad yn ystod taith.
Sefydlwch bolisi neu broses benodol ar gyfer beth i'w wneud os bydd aelod o'r gynulleidfa neu drydydd parti arall yn aflonyddu ar gerddor tra ar daith.
Rhestr wirio
Cyn sesiwn
- A ydych chi wedi sicrhau bod gennych chi bolisïau a gweithdrefnau perthnasol ar waith i ymdrin ag aflonyddu rhywiol ac wedi rhannu’r rhain â phob cerddor o’r cychwyn cyntaf?
- A ydych wedi dweud nad ydych yn goddef aflonyddu rhywiol ac wedi amlinellu eich ymddygiadau a’ch gwerthoedd disgwyliedig i bob cerddor wrth gadarnhau eu hymgysylltiad â chi?
- A ydych wedi gwneud yn siŵr bod ffyrdd clir i bob cerddor adrodd am aflonyddu rhywiol a’u bod yn gwybod at bwy y gallant fynd os byddant yn ei brofi? Dylai fod mwy nag un person y gall pawb adrodd iddynt.
- A ydych chi wedi edrych ar y ffordd y mae gwaith yn cael ei ddosbarthu a sicrhau bod penodwyr, neu eraill sydd â rheolaeth dros recriwtio a bwcio, wedi dilyn proses gyson wrth gyflogi cerddorion ac yn ymwybodol o'r ymddygiadau a'r gwerthoedd disgwyliedig?
- A ydych wedi sicrhau bod mentrau ar waith fel y gallwch wirio nad oes unrhyw gamddefnydd o bŵer?
- Ydych chi wedi sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn ddiogel i gerddorion?
Cychwyn sesiwn
- A ydych wedi atgoffa cerddorion o’ch polisïau aflonyddu rhywiol, a’r hyn y dylent ei wneud ac â phwy y dylent siarad os ydynt yn cael eu haflonyddu yn ystod sesiwn?
- A ydych wedi ailadrodd na fyddwch yn goddef unrhyw fath o aflonyddu rhywiol ac y dylid hysbysu arweinwyr, rheolwyr neu bobl gyfrifol os bydd digwyddiad?
- A ydych chi wedi gwirio’r amgylchedd (fel ystafelloedd gwyrdd, ystafelloedd newid ac ardaloedd cefn llwyfan) ac wedi gwneud newidiadau lle bo’n bosibl i sicrhau ei fod mor ddiogel ag y gall fod?
- A ydych wedi ystyried ffactorau a allai gynyddu’r risg o aflonyddu rhywiol yn digwydd, megis perfformiadau hwyr y nos, presenoldeb alcohol mewn lleoliad a rhyngweithio ag aelodau’r gynulleidfa, ac wedi ystyried pa gamau y gallwch eu cymryd i liniaru’r risgiau hynny?
- A ydych wedi sicrhau bod pawb wedi deall, yn enwedig y rhai nad ydynt efallai’n siarad Saesneg fel iaith gyntaf?
Diwedd sesiwn
- A ydych wedi rhoi cyfle i gerddorion godi unrhyw faterion a wynebwyd?
- A ydych wedi gwneud cerddorion yn ymwybodol os ydynt yn aflonyddu ar gydweithiwr, hyd yn oed ar ôl sesiwn neu yn ystod digwyddiad cymdeithasol, efallai y byddant yn dal i fod yn gyfrifol am gamau cyfreithiol?
- A ydych chi wedi adolygu a oes digwyddiadau wedi bod ac ymhle ac wedi meddwl beth allwch chi ei wneud i'w hatal rhag digwydd eto?
Amser ar daith
- A ydych wedi gwneud yn siŵr bod pob cerddor sy’n cymryd rhan yn y daith yn gwybod beth ddylai ei wneud ac at bwy y dylai fynd os yw’n cael ei aflonyddu’n rhywiol?
- A ydych wedi gwneud cerddorion yn ymwybodol, os ydynt yn aflonyddu ar gydweithiwr yn ystod digwyddiad cymdeithasol tra ar daith, y gallent wynebu camau cyfreithiol o hyd?
- A ydych wedi ystyried llety, trafnidiaeth a mannau newid, gwirio a yw cerddorion yn gyfforddus â’r trefniadau a rhoi’r cyfle iddynt ddweud os nad ydynt?
- A ydych wedi siarad â’r lleoliad(au) ynghylch pa bolisïau sydd ganddynt ar waith, er enghraifft ynghylch aflonyddu trydydd parti?
Cynllun gweithredu a chofnodion monitro
Cynllun gweithredu
Cofnodion monitro
Cwblhewch y cofnod monitro yn rheolaidd, er enghraifft mewn cyngerdd, sesiwn recordio, clyweliad, prawf, cyfres o ymarferion neu ar daith i helpu monitro sut mae'r rhestr wirio'n cael ei defnyddio ac unrhyw newidiadau y gall fod eu hangen i'ch dull.
Rydym yn awgrymu eich bod yn cwblhau cofnod manwl bob chwarter i helpu cofnodi effaith eich gweithgaredd.
Diolchiadau
Roedd y sefydliadau canlynol yn rhan o'n grŵp cyfeirio. Roedd eu cyfraniad yn cefnogi datblygiad yr adnoddau hyn.
- Association of British Orchestras
- Black Lives in Music
- Musicians’ Union
- Orchestras Live
- Parents and Carers in Performing Arts
- The F-List for Music
Lawrlwythiadau dogfen
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
29 Awst 2024
Diweddarwyd diwethaf
29 Awst 2024