Cyhoeddiad

Adroddiad Dyfodol Gwaith

Wedi ei gyhoeddi: 2 Awst 2023

Diweddarwyd diwethaf: 2 Awst 2023

Comisiynodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) y Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) i archwilio’r prif yrwyr newidiadau ym myd gwaith a dadansoddi goblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol i grwpiau â nodweddion gwarchodedig gwahanol ym Mhrydain.

Fel rhan o'r ymchwil hwn, archwiliwyd effaith tri thueddiad hirdymor marchnad lafur Prydain ar bobl â nodweddion gwarchodedig penodol. Y rhain yw:

  • y cynnydd mewn ffyrdd hyblyg o weithio (boed yn ôl amser neu le)

  • twf hunangyflogaeth a’r economi gig, a’r

  • defnydd cynyddol o awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial (AI).

Yn yr adroddiad hwn, diffinnir tueddiadau cyflogaeth hirdymor fel ffenomenau sydd wedi bodoli ers mwy na degawd ac sydd wedi cael effaith sylweddol ar sut mae gwaith yn cael ei siapio. Roedd yr ymchwil hwn yn canolbwyntio ar nodweddion gwarchodedig oedran, anabledd, hil a rhyw oherwydd data cyfyngedig. Mae heriau wrth fesur a dehongli effeithiau llawer o'r tueddiadau hirdymor hyn, felly mae'n bwysig bod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau.

Mae gwaith yn dod yn fwy hyblyg, digidol ac awtomataidd ond nid yw'r newidiadau hyn yn y farchnad lafur yn effeithio ar bawb yn gyfartal. Gall y tueddiadau hyn effeithio'n anghymesur ar y rhai sy'n wynebu mwy o rwystrau i waith. I'r gwrthwyneb, gall y newidiadau hyn hefyd ehangu cyfleoedd. Mae angen inni ddeall yn well yr hyn y mae’r data a’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am yr effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig penodol. Ond rhaid inni gydnabod hefyd nad yw’r canlyniadau hyn yn anochel.

Gall llawer o’r newidiadau a welwn ym marchnad lafur Prydain helpu i wella bywydau pobl sydd wedi’u hallgáu’n draddodiadol. Er bod yr ymchwil hwn yn canolbwyntio ar y goblygiadau i grwpiau â nodweddion gwarchodedig gwahanol, mae egwyddorion hawliau dynol, megis cydraddoldeb cyfranogiad, peidio â gwahaniaethu a hawliau preifatrwydd, hefyd yn berthnasol. Mae angen i ystyriaethau hawliau dynol fod yn ganolog i unrhyw ymateb i’r canfyddiadau hyn ar ran llywodraethau.

Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar:

  • adolygiad manwl o lenyddiaeth

  • dadansoddiad o ddata Arolwg o'r Llafurlu, a

  • chyfweliadau a gweithdai gydag arbenigwyr.

Gan nad yw'r Arolwg o'r Llafurlu yn caniatáu i ni fesur cyfanswm y gweithwyr yn yr economi gig, drwy gydol yr ymchwil rydym wedi mesur y newid yn nifer y gweithwyr ar gontractau dim oriau. Er mai darlun rhannol yn unig y mae hyn yn ei roi, mae’n un o ddangosyddion mesuradwy’r economi gig.

Gwyliwch Prif Weithredrw CCHD, Marcial Boo, yn trafod Adroddiad Dyfodol Gwaith gyda Phrif Weithredrw y Sefydliad Dysgu a Gwaith Stephen Evans [YouTube]

Lawrlwythiadau dogfen

Gellir dod o hyd i'r ddogfen hon ar

EHRCD9SD-77 test - DO NOT PUBLISH

Diweddariadau tudalennau