Erthygl

Gwariant: sut rydym yn gwario ein harian

Wedi ei gyhoeddi: 11 Awst 2021

Diweddarwyd diwethaf: 11 Awst 2021

Tryloywder ar yr hyn rydym yn ei wario

Ni yw’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cydraddoldeb, hawliau dynol a chysylltiadau da ym Mhrydain – corff statudol (corff a sefydlwyd gan y gyfraith) a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 ac a ariennir gan Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth.

Gofynnir i adrannau'r llywodraeth gyhoeddi eu gwybodaeth gwariant, gan ddefnyddio dull cyson o ran amseru, fformat a chynnwys. Rydym yn dilyn canllawiau a gyhoeddwyd ar wefan y Trysorlys .

Gwnaeth y llywodraeth ymrwymiad i gyhoeddi, ar-lein, trafodion dros £25,000. Rydym wedi dewis cyhoeddi ein trafodion dros £500, sy'n is na gofynion sylfaenol y llywodraeth.

Beth sydd, a beth sydd ddim, wedi'i gynnwys yn yr adroddiadau?

  • cofnodir trafodion ar y diwrnod y cânt eu talu mewn gwirionedd ac maent yn cynnwys TAW na ellir ei had-dalu
  • mae gwybodaeth bersonol, fel cyflogau a chyfraniadau pensiwn, sy’n dod o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), wedi’i heithrio
  • rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am gyflogau ar wahân

Cyhoeddir gwybodaeth erbyn y 15fed diwrnod gwaith o bob mis.

Adroddiadau gwariant

Gweld yr adroddiadau gwariant ar gyfer y blynyddoedd ariannol dilynol.

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon