Pa mor hir rydym yn cadw ein cofnodion

Wedi ei gyhoeddi: 22 Mehefin 2020

Diweddarwyd diwethaf: 22 Mehefin 2020

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae ein hamserlen gadw yn offeryn a ddefnyddir i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw cyhyd ag y bo angen.

Mae'n nodi pa mor hir rydym yn cadw cofnodion ar gyfer gwahanol fathau o ddata.

Mae'n ein helpu i waredu ein cofnodion mewn ffordd gyson a rheoledig.

Mae'n ystyried gofynion cyfreithiol a rheoliadol, anghenion ein rhanddeiliaid a'n hanghenion busnes.

Ein nod yw cadw at y gofynion cadw cofnodion a rheoli gwybodaeth a nodir yn:

  • codau ymarfer statudol a rheoleiddiol
  • rheoliadau sector-benodol
  • gwahanol fathau o ganllawiau
  • deddfwriaeth

Rheoli ein hamserlen gadw

Rydym yn adolygu ein hamserlen gadw yn rheolaidd.

Gellir ei newid i adlewyrchu anghenion busnes, gweithdrefnau rheoli risg, neu ein blaenoriaethau newidiol.

Fel arfer caiff ei adolygu a'i ddiweddaru ddwywaith y flwyddyn.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau