Cyhoeddi gwybodaeth cydraddoldeb: canllawiau i ysgolion

Wedi ei gyhoeddi: 1 Awst 2022

Diweddarwyd diwethaf: 1 Awst 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr

Dylai ysgolion gyhoeddi gwybodaeth (data) sy’n dangos sut y maent wedi bodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) bob blwyddyn erbyn 30 Mawrth. Bydd cyhoeddi data, tystiolaeth a gwybodaeth sy’n ymwneud â chydraddoldeb nad ydynt yn gyfrinachol am ysgol a’i disgyblion yn helpu llywodraethwyr, ymddiriedolwyr academi a rhieni i ddeall pam mae’r ysgol yn gwneud penderfyniadau penodol.

Pa wybodaeth ddylai ysgolion ei chasglu?

Gall y wybodaeth hon gynnwys:

  • data perfformiad yr ysgol
  • polisïau gwrth-fwlio
  • cynllun datblygu ysgol a cherrig milltir cydraddoldeb
  • deunyddiau cwricwlwm
  • cofnodion corff llywodraethu
  • deunyddiau hyfforddi cydraddoldeb
  • arolygon rhieni a disgyblion.

Nid yw'r PSED yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gasglu mwy o wybodaeth fel mater o drefn nag y maent eisoes. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gan ysgolion ddigon o wybodaeth eisoes, naill ai yn y data y maent yn ei gasglu fel mater o drefn, trwy broffilio unigol neu yn y cofnodion y mae athrawon dosbarth yn eu cadw.

Lle mae bylchau, gall ysgolion benderfynu eu llenwi drwy gael barn rhieni a disgyblion â nodweddion gwarchodedig penodol . Dylai arweinydd yr ysgol benderfynu a oes gan yr ysgol ddigon o wybodaeth am ddisgyblion â nodweddion gwarchodedig gwahanol i’w galluogi i fodloni’r PSED.

Mewn cyfarfodydd llywodraethwyr neu ymddiriedolwyr, pan fydd polisïau newydd yn cael eu cymeradwyo, mae’n syniad da cofnodi trafodaethau am faterion cydraddoldeb sy’n codi, gan ddangos pa dystiolaeth a ddefnyddiwyd. Bydd hyn yn helpu i’w gwneud yn glir sut y cyflawnwyd y PSED.

Disgwylir i ysgolion sydd â 150 neu fwy o staff gyhoeddi gwybodaeth i ddangos sut y maent wedi bodloni’r ddyletswydd cydraddoldeb mewn perthynas â staff yn ogystal â data sy’n ymwneud â disgyblion.

Fe welwch ragor o wybodaeth am gyflogaeth yn ein canllaw hanfodol i'r PSED.

Mae ein canllawiau technegol ar y PSED yn Lloegr a phennod 5 o ganllawiau’r Adran Addysg ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys rhagor o wybodaeth a llawer o awgrymiadau defnyddiol ac ymarferol ynghylch yr hyn y gall ysgolion ei gyhoeddi.

Enghraifft o arfer da: ataliaeth

Mae ysgol yn casglu gwybodaeth yn rheolaidd am ba ddisgyblion â nodweddion gwarchodedig gwahanol sy'n cael eu hatal ar safle'r ysgol. Mae hyn yn helpu’r ysgol i fonitro a deall sut mae defnyddio ataliaeth yn effeithio ar y disgyblion dan sylw. Trwy wneud hyn mae'r ysgol wedi cwrdd â dau nod cyntaf y ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol: dileu gwahaniaethu anghyfreithlon a hyrwyddo cyfle cyfartal i bob disgybl.

Yn seiliedig ar y data a gasglwyd, canfu’r ysgol fod disgyblion anabl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn fwy tebygol na’u cyd-ddisgyblion nad ydynt yn anabl o gael eu hynysu a’u hatal yn gorfforol. Ysgogodd hyn yr ysgol i edrych yn ddyfnach ar achosion hyn. Roedd yn nodi sbardunau amrywiol, megis coridorau swnllyd yn ystod newid gwersi, a oedd yn aml yn achosi ymddygiad heriol. Darganfu'r ysgol hefyd fod rhai disgyblion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn ei chael hi'n anodd addasu i drefn yr ysgol.

Cymerodd yr ysgol gamau i leihau a chael gwared ar y sbardunau hyn. Lleihaodd straen yn ystod y newidiadau drwy newid yr amserlen a chyflwynodd system bydi i gefnogi disgyblion sy'n cael trafferth addasu i drefn yr ysgol. Cyflwynodd yr ysgol hefyd addasiadau rhesymol ar gyfer disgyblion, yn seiliedig ar eu hanghenion, a hyfforddiant PSED ar gyfer staff yr ysgol.

O ganlyniad, gostyngwyd y defnydd anghymesur o ataliaeth ar ddisgyblion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth dros amser.

I gael rhagor o wybodaeth am ataliaeth, darllenwch yr adroddiad o’n hymchwiliad Atal Mewn Ysgolion: defnyddio data ystyrlon i amddiffyn hawliau plant a naw astudiaeth achos o arfer dda ar gyfer ysgolion .

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon

Gwybodaeth berthnasol ar wefannau eraill