I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
Gall rhai grwpiau o bobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig , megis hil neu anabledd, brofi anfantais arbennig neu fod ag anghenion penodol. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys ysgolion) ystyried a ddylent gymryd camau i ddiwallu’r anghenion hyn neu leihau anghydraddoldeb.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud y dylai awdurdodau cyhoeddus feddwl am yr angen i:
Dileu neu leihau anfanteision a brofir gan bobl oherwydd eu nodwedd warchodedig
Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig
Annog cyfranogiad pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig pan fo cyfranogiad yn anghymesur o isel
Beth ddylai ysgolion ei wneud
Gall y PSED atgoffa ysgolion nad yw cydraddoldeb o reidrwydd yn ymwneud â thrin pob disgybl yn yr un ffordd. Mae’n ymwneud â datblygu gwahanol strategaethau i ddiwallu anghenion amrywiol disgyblion. Dylid monitro'r strategaethau hyn hefyd i ganfod sut maent yn gweithio.
Dylai ysgolion ystyried sut y gall pob penderfyniad, cam gweithredu a pholisi effeithio ar ddisgyblion â nodweddion gwarchodedig gwahanol. Gall hyn helpu i nodi beth yw eu blaenoriaethau.
Mae hyrwyddo cyfle cyfartal yn annog ysgolion i ystyried sut i gynyddu cyfranogiad eu disgyblion â nodweddion gwarchodedig gwahanol mewn meysydd o fywyd ysgol lle mae’n anghymesur o isel. Mae hyn yn ymestyn y tu hwnt i'r cwricwlwm i feysydd o weithgareddau'r ysgol megis trefnu cyfleoedd profiad gwaith.
Tri chwestiwn i'w hateb
Wrth greu polisi newydd, gweithredu neu wneud penderfyniad, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ateb y tri chwestiwn hyn:
- A yw hyn yn dileu neu'n lleihau anfanteision a ddioddefir gan ddisgyblion â nodweddion gwarchodedig penodol?
- A fydd hyn yn effeithio ar wahanol grwpiau o ddisgyblion yn wahanol? Os 'ydi' beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau nad oes neb dan anfantais?
- A oes unrhyw ffordd y gallwch annog y grwpiau hyn o ddisgyblion i ymwneud mwy â'r ysgol neu greu cyfleoedd iddynt na fyddent yn eu mwynhau fel arall?
Casglu a defnyddio gwybodaeth a data
Lle bo’n briodol, dylai ysgolion ofyn i ddisgyblion ddweud wrthynt am eu profiadau o weithgareddau ysgol. Mae hon yn ffordd dda o ddeall anghenion gwahanol nodweddion gwarchodedig fel eu bod yn cael eu hystyried a chreu profiadau cadarnhaol i'r grwpiau hyn.
Mae’r astudiaeth achos ganlynol yn dangos sut y gallwch wneud gwelliannau yn eich ysgol drwy wahanu (dadgyfuno) eich data yn ôl nodweddion gwarchodedig gwahanol.
Defnyddio gweithredu cadarnhaol i hybu cyfle cyfartal
Gall gweithredu cadarnhaol helpu ysgolion i gyflawni eu rhwymedigaethau PSED, yn enwedig yr angen i hybu cyfle cyfartal.
Gall ysgolion gymryd camau cadarnhaol i gefnogi disgyblion sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig os oes ganddynt reswm i feddwl bod y disgyblion hynny:
- yn profi anfantais oherwydd eu nodwedd warchodedig
- ag anghenion sy'n wahanol i'r rhai nad ydynt yn rhannu'r nodwedd honno
- cymryd rhan yn llai aml mewn gweithgaredd o gymharu â disgyblion heb y nodwedd honno.
Nid yw gweithredu cadarnhaol yn ofyniad, ond gall ganiatáu i ysgolion gymryd camau cymesur i leihau neu ddileu'r anfanteision a wynebir gan grwpiau penodol o fyfyrwyr.
Mae canllawiau'r Adran Addysg ar y Ddeddf Cydraddoldeb a Phennod 7 o'n Canllawiau Technegol i ysgolion yn Lloegr yn cynnwys rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau o weithredu cadarnhaol.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
1 Awst 2022
Diweddarwyd diwethaf
1 Awst 2022