Meithrin cysylltiadau da: arweiniad i ysgolion

Wedi ei gyhoeddi: 1 Awst 2022

Diweddarwyd diwethaf: 1 Awst 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr

Er mwyn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED), dylai ysgolion annog (meithrin) cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt. A yw eich ysgol yn darparu amgylchedd parchus a chynhwysol?'

Wrth greu polisi, gweithredu neu wneud penderfyniad, gofynnwch:

  • A yw hyn yn ein helpu i gael gwared ar ragfarn?
  • A yw hyn yn helpu i hybu dealltwriaeth rhwng gwahanol grwpiau o ddisgyblion, staff ysgol a rhieni?

Enghraifft o arfer da: bwlio

Mae ysgol gynradd yn pryderu y gallai fod problem gyda bwlio homoffobig oherwydd bod bachgen ym mlwyddyn pedwar yn cael ei fwlio am fod â rhieni o'r un rhyw. O ganlyniad, mae'r pennaeth yn gofyn i bob athro adrodd am achosion o fwlio homoffobig a galw enwau.

Mae gwybodaeth a gasglwyd gan yr ysgol yn dangos bod galw enwau homoffobig yn fwyaf cyffredin ym mlynyddoedd pedwar, pump a chwech. Mae'r pennaeth yn gofyn i staff yr ysgol ymchwilio i adnoddau cwricwlwm a strategaethau ystafell ddosbarth i leihau a dileu'r ymddygiad homoffobig hwn.

Yn y cyfamser, mae'r ysgol yn trefnu i siarad â rhieni'r holl blant dan sylw. Cânt eu hatgoffa o'r hyn y mae'r ysgol yn ei ddisgwyl o ran urddas a pharch ac ymddygiad gan ddisgyblion.

Gosodir ffiniau clir ar gyfer disgyblion y canfyddir eu bod yn bwlio disgyblion eraill, a rhoddir cymorth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan fwlio. Yna mae'r ysgol yn cyflwyno cynlluniau newydd i ddileu bwlio yn yr ysgol. Mae'n canolbwyntio ar flynyddoedd pedwar, pump a chwech oherwydd mae'n gwybod mai dyma lle mae'r broblem fwyaf. Mae'n adolygu strategaeth a pholisi gwrth-fwlio'r ysgol. O ganlyniad, mae ganddynt lai o achosion o fwlio homoffobig.

Mae’r enghraifft hon yn dangos ei bod yn bwysig:

  • meddu ar wybodaeth ddigonol wrth wneud penderfyniadau neu gymryd camau
  • ymgysylltu â staff lle bo modd wrth wneud penderfyniadau, fel eu bod yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth berthnasol
  • gweithio gyda rhieni i helpu i hybu dealltwriaeth a dileu rhagfarn yn yr ysgol.

Cael partneriaethau effeithiol i feithrin perthnasoedd da

Mae’n helpu i gael partneriaethau a mentrau da gyda:

  • eich awdurdod lleol
  • ysgolion eraill
  • rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr
  • aelodau o gymunedau lleol.

Mae mentrau’n cynnwys cynnal trafodaethau gyda’r grwpiau hyn ar sut i wella addysg ar gyfer pob disgybl a meithrin cysylltiadau da ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig.

Enghraifft o arfer da: hyrwyddo goddefgarwch a pharch at wahanol gredoau

Mae gan academi canol dinas lawer o ddisgyblion o ystod o gefndiroedd ethnig gwahanol. Mae am leihau a dileu tensiynau crefyddol, sy'n cael eu hysgogi gan densiynau yn y gymuned ehangach. I wneud hyn mae’r ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â disgyblion, rhieni, arweinwyr cymunedol ac ysgolion lleol eraill.

Mae cynnal trafodaethau gyda’r grwpiau hyn yn helpu’r ysgol i gyflwyno ystod o gamau gweithredu i hyrwyddo goddefgarwch a pharch at wahanol gredoau, gan gynnwys:

  • trefnu gwasanaethau am gysylltiadau da
  • gefeillio ag ysgolion eraill fel bod disgyblion yn gallu cyfarfod a chyfnewid profiadau gyda phlant o gefndiroedd gwahanol
  • cryfhau ymddygiad a pholisïau gwrth-fwlio i leihau tensiynau rhwng gwahanol grwpiau o ddisgyblion
  • gweithio ar agweddau o’r cwricwlwm sy’n hybu goddefgarwch a chyfeillgarwch a rhannu dealltwriaeth o ystod o grefyddau neu ddiwylliannau.

Casglu a defnyddio gwybodaeth neu ddata

Trwy gasglu a dadansoddi gwybodaeth berthnasol, gall ysgolion nodi blaenoriaethau ar gyfer y partneriaethau y maent yn gweithio ynddynt, fel y gallant gyfuno adnoddau a datblygu atebion cost-effeithiol.

Enghraifft o arfer da: defnyddio data yn effeithiol

Mae ysgol uwchradd yn defnyddio data cyrhaeddiad unigol ac arsylwadau o wersi i’w helpu i ddeall y materion sy’n effeithio ar ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig. Mae’r dystiolaeth hon yn helpu staff i nodi beth sy’n atal disgyblion o leiafrifoedd ethnig rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a rhyngweithio â disgyblion y tu allan i’w grŵp ethnig eu hunain.

Bellach mae gan yr ysgol sylfaen dystiolaeth. Mae'n defnyddio hwn ynghyd â phrofiadau a rennir mewn cyfarfodydd penaethiaid ag ysgolion lleol eraill. O ganlyniad, mae’r ysgolion yn penderfynu rhannu eu hadnoddau i greu cymorth iaith Saesneg newydd i ddisgyblion lleol nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.

O ganlyniad, mae cyfraddau presenoldeb a chyrhaeddiad y disgyblion hyn yn gwella’n sylweddol. Mae hefyd yn eu helpu i integreiddio â chymuned yr ysgol y tu mewn a'r tu allan i wersi.

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon

Gwybodaeth berthnasol ar wefannau eraill