Atal gwahaniaethu ar sail gwallt mewn ysgolion

Wedi ei gyhoeddi: 8 Medi 2022

Diweddarwyd diwethaf: 8 Medi 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Rydym angen eich adborth ar y canllaw hwn

Rydym ni ar hyn o bryd yn monitro effaith ein canllawiau ar Atal Gwahaniaethu ar sail Gwallt. Hoffem wahodd darparwyr addysg i gwblhau’r arolwg byr cyfrinachol i helpu i lywio ein cynllun monitro a gwerthuso.

Bydd yr arolwg ar agor tan 17 Ionawr 2025.

Llenwch ein harolwg adborth.

Ar gyfer pwy mae'r dudalen hon?

Arweiniad anstatudol yw hwn.

Mae ar gyfer cyrff llywodraethu, byrddau ymddiriedolaethau academi, awdurdodau addysg ac arweinwyr ysgol ym mhob ysgol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Yn y canllaw hwn, defnyddir y term 'ysgol' er hwylustod i gyfeirio at unrhyw un sydd â dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Am y canllaw hwn

Mae’r canllawiau hyn yn rhan o becyn o adnoddau sydd wedi’u cynllunio i helpu arweinwyr ysgol i feithrin amgylchedd cynhwysol drwy sicrhau nad yw eu polisïau, lle maent yn eu datblygu a’u hadolygu, yn wahaniaethol. Mae ein hadnoddau eraill yn cynnwys:

Mae'r arweiniad hwn yn berthnasol i bob math o wahaniaethu ar wallt, er ei fod yn canolbwyntio ar hil oherwydd yr effaith anghymesur ar ddisgyblion o grwpiau hiliol penodol.

Cefndir

Mae ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid a'u hymchwil wedi dangos bod gwahaniaethu sy'n ymwneud â gwallt neu steiliau gwallt yn effeithio'n anghymesur ar ddisgyblion o grwpiau hiliol penodol. Mae hyn yn aml oherwydd y ffordd y mae rhai rheolau ysgol yn ymwneud â gwallt neu steiliau gwallt yn cael eu dylunio a'u gweithredu. Gallai rheolau o’r fath gael eu hymgorffori mewn polisïau gwisg ysgol neu ymddygiad neu fod yn bolisïau annibynnol sy’n ymwneud â gwallt neu steiliau gwallt.

Mae hwn yn faes lle rydym wedi ariannu achosion llys fel rhan o’n Cynllun Cymorth Cyfreithiol i fynd i’r afael â gwahaniaethu mewn addysg.

Mae hefyd wedi’i gydnabod yn Prydain Gynhwysol: ymateb y llywodraeth i’r Comisiwn ar Gwahaniaethau Hiliol ac Ethnig fod rhai disgyblion Duon yn cael eu gwahaniaethu oherwydd eu gwalltiau.

Gall gwahaniaethu yn erbyn disgyblion mewn perthynas â’u gwallt neu oherwydd eu gwallt gael effaith negyddol ar iechyd meddwl a lles disgyblion. Gan fod gan ysgolion rwymedigaeth diogelu i amddiffyn disgyblion rhag gwahaniaethu ar sail hil a bwlio, mae'n arfer da i ysgolion fuddsoddi mewn datblygiad proffesiynol a hyfforddiant ar gyfer staff yn y maes hwn.

Anogir ysgolion i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael ar y dudalen hon i gefnogi eu hymdrechion i atal gwahaniaethu ac aflonyddu sy'n ymwneud â gwallt.

Sut gall polisïau ysgol achosi gwahaniaethu ar sail gwallt?

Un o’r ffyrdd y gall ysgolion atal gwahaniaethu yw drwy adolygu eu polisïau a’u harferion i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n bosibl y bydd gan rai ysgolion bolisïau neu reolau penodol sy’n ymwneud â gwallt neu steiliau gwallt sy’n gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn disgyblion â nodweddion gwarchodedig penodol, er enghraifft:

  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • anabledd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • ailbennu rhywedd.

Gall gwahaniaethu anuniongyrchol ddigwydd pan fydd ysgol yn defnyddio polisi neu arfer sy’n ymddangos yn niwtral sy’n rhoi disgyblion sy’n rhannu nodwedd warchodedig (er enghraifft, hil) dan anfantais o gymharu â disgyblion nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno.

Mae polisïau o'r fath yn debygol o wahaniaethu'n anuniongyrchol oni bai y gall yr ysgol ddangos bod cyfiawnhad gwrthrychol dros y polisi fel ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon.

I gael gwybodaeth fanylach am beth yw gwahaniaethu anuniongyrchol, gweler paragraffau 5.20 – 5.39 o'n Canllawiau Technegol i Ysgolion yn Lloegr a pharagraff 5.25 o'n Canllawiau Technegol i Ysgolion yr Alban.

Enghreifftiau o wahaniaethu anuniongyrchol anghyfreithlon yn ymwneud â gwallt

Rydym yn defnyddio dau fath o enghraifft i helpu i egluro’r canllaw hwn.

At ddibenion y canllaw hwn, mae enghreifftiau o gyfraith achosion yn achosion cyfreithiol go iawn yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail gwallt. Mae ‘enghreifftiau o arfer da’ yn enghreifftiau sy’n dangos sut y gall ysgolion wella eu polisïau a’u harferion i osgoi gwahaniaethu anuniongyrchol.

Gall steiliau gwallt a wisgir oherwydd arferion diwylliannol, teuluol a chymdeithasol fod yn rhan o darddiad ethnig disgybl ac felly maent yn dod o dan nodwedd warchodedig hil.

Mae polisi ysgol sy'n gwahardd steiliau gwallt penodol a fabwysiadwyd gan grwpiau hiliol neu grefyddol penodol, heb y posibilrwydd o unrhyw eithriadau ar sail hil neu grefyddol, yn debygol o fod yn wahaniaethu anuniongyrchol anghyfreithlon ar sail hil neu grefydd neu gred. Mae hyn yn cynnwys steiliau gwallt fel (ond heb fod yn gyfyngedig i): gorchuddion pen, gan gynnwys gorchuddion pen seiliedig ar grefydd a gorchuddion pen treftadaeth Affricanaidd, plethi, cloeon, troeon, rhesi corn, plethi, pylu croen a steiliau gwallt Affro naturiol.

Enghraifft o gyfraith achos – hil:

Roedd gan ysgol bolisi yn gwahardd bechgyn rhag gwisgo steiliau gwallt penodol, gan gynnwys rhesi corn. Heriodd disgybl y gwaharddiad, gan ddadlau y dylid gwneud eithriadau pan fydd rhesi corn yn cael eu gwisgo am resymau diwylliannol a theuluol. Canfu'r llys fod y polisi yn gwahaniaethu'n anuniongyrchol.

Gall arferion teuluol a chymdeithasol fod yn rhan o ethnigrwydd ac felly maent yn dod o dan nodwedd warchodedig hil. Byddai angen i'r ysgol newid y polisi i osgoi torri'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Enghraifft o gyfraith achos – hil:

Gwaharddodd ysgol steiliau gwallt 'helaeth' fel rhan o'i rheolau yn ymwneud â gwallt a steiliau gwallt. Heriodd myfyriwr â steil gwallt Affro naturiol bolisi gwisg ysgol yr ysgol yn y llys fel un sy'n gwahaniaethu'n anuniongyrchol oherwydd hil.

Sicrhawyd cytundeb cyfreithiol rwymol gyda'r ysgol i adolygu a sicrhau nad oedd polisi'r ysgol yn gwahaniaethu ar sail hil. Byddai angen i'r ysgol newid y polisi i osgoi torri'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Enghraifft o gyfraith achos – hil a chrefydd neu gred:

Roedd gan ysgol bolisi gwisg ysgol oedd yn gwahardd cloeon. Gan fod cloeon yn rhan sylfaenol o gredoau Rastaffaraidd myfyriwr, heriodd y myfyriwr y polisi yn y llys fel un sy'n gwahaniaethu ar sail hil a chrefydd neu gred. Ymhellach i gytundeb rhwng yr ysgol a theulu’r myfyriwr, cytunwyd bod polisi gwisg ysgol yr ysgol yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol a chytunodd yr ysgol i’w adolygu. Byddai angen i'r ysgol newid y polisi i osgoi torri'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Enghraifft o arfer da – anabledd, hil a chrefydd neu gred:

Mae gan ysgol reol gyffredinol o ddim penwisg ar dir yr ysgol. Gallai hyn wahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn disgyblion ar nifer o wahanol seiliau, megis:

  • anabledd (er enghraifft, disgyblion sy’n cael triniaeth canser sy’n gwisgo wigiau, sgarffiau neu hetiau)
  • crefydd neu gred (er enghraifft, ar gyfer disgyblion Mwslimaidd sy’n gorchuddio eu gwallt neu ddisgyblion Sikhaidd sy’n gwisgo twrban)
  • hil (er enghraifft, ar gyfer disgyblion Du neu ddisgyblion o gefndir ethnig cymysg sy'n gwisgo amlapiaid pen treftadaeth Affricanaidd).

Diwygiodd yr ysgol ei pholisi i gynnwys eithriadau ar sail anabledd, hil, neu grefydd neu gred.

Enghraifft o arfer da – rhyw:

Mae ysgol yn caniatáu i ferched wisgo'u gwallt yn hir a'i glymu'n ôl ond rhaid i fechgyn gadw eu gwallt wedi'i dorri uwchben y coler. Gallai hyn olygu gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw oherwydd mae'n annhebygol o gael ei gyfiawnhau'n wrthrychol fel 'dull cymesur o gyflawni nod cyfreithlon'.

Diwygiodd yr ysgol ei pholisi fel nad oes unrhyw wahaniaeth yn rheolau gwallt bechgyn a merched.

Sut gall eich ysgol atal gwahaniaethu ar sail gwallt

Mae'n ofynnol i ysgolion (ac eithrio ysgolion annibynnol/preifat) roi sylw dyledus i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Fel rhan o hynny, mae’n arfer da i ysgolion ddarparu hyfforddiant i staff ar yr angen i feithrin cysylltiadau da a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddu sy’n ymwneud â gwallt er mwyn i staff ddeall a chefnogi cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd.

Gall ysgolion feithrin cydraddoldeb trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ystod o weithgareddau sy'n cynnwys modelau rôl Du ac sy'n dathlu gwallt Affro-gwead, er enghraifft.

Wrth ddrafftio neu adolygu polisi eich ysgol, gallwch hefyd ddefnyddio ein hofferyn gwneud penderfyniadau i helpu i ddileu unrhyw wahaniaethu posibl yn ymwneud â gwallt.

Mwy o adnoddau

The Equality Act 2010 and schools: departmental advice for school leaders, school staff, governing bodies and local authorities (Adran Addysg Llywodraeth y DU)

School uniforms: guidance for schools (Adran Addysg Llywodraeth y DU)

Statutory school uniform guidance consultation (Llywodraeth yr Alban)

Gwisg ac ymddangosiad ysgol: canllawiau polisi i gyrff llywodraethu (Llywodraeth Cymru)

Diolchiadau

Diolch yn arbennig i’r sefydliadau canlynol am eu harbenigedd a’u cyfraniad i’n grwpiau ffocws a gefnogodd ddatblygiad yr adnoddau hyn:

  • Diwrnod Affro y Byd
  • Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer Cydraddoldeb Hiliol mewn Addysg
  • EqualiTeach
  • NAHT, Undeb Arweinyddiaeth Ysgolion (gan gynnwys cynrychiolwyr o NAHT Cymru)
  • NASUWT, Undeb yr Athrawon
  • Race Equality First
  • Rhwydwaith BAMEed, Comisiynydd Plant Cymru
  • Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Cydnabyddiaeth fideo

Diolch arbennig i Ruby, Kate a Lenny Williams am rannu stori eu teulu yn y fideo astudiaeth achos. Diolch i DIVA Creative am gynhyrchu'r esboniwr fideo.

Diweddariadau tudalennau

Gwybodaeth berthnasol ar wefannau eraill