Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth: canllawiau i ysgolion

Wedi ei gyhoeddi: 1 Awst 2022

Diweddarwyd diwethaf: 1 Awst 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr

Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol yn esbonio’r hyn y mae angen i ysgolion ei feddwl cyn gwneud penderfyniadau arwyddocaol ac ystyried polisïau a gweithdrefnau newydd. Mae angen i ysgolion ystyried a yw'r polisi neu'r penderfyniad yn debygol o arwain at wahaniaethu yn erbyn disgyblion â nodweddion gwarchodedig.

Mae ein canllawiau technegol ar ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus: Lloegr yn cynnwys diffiniadau o:

  • gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol
  • aflonyddu, erledigaeth
  • addasiadau rhesymol
  • gwahaniaethu yn deillio o anabledd

Dylai ysgolion ddefnyddio’r PSED wrth wneud penderfyniadau, gan gynnwys am weithgareddau ysgol, i nodi beth sydd ei angen ar ddisgyblion. Dylid pwyso a mesur anghenion disgyblion yn erbyn blaenoriaethau eraill yr ysgol.

Enghraifft o arfer da: cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol

Mae ysgol gynradd yn cynllunio taith i amgueddfa hanes lleol. Cyn cadarnhau'r daith, mae'n gwirio hygyrchedd y lleoliad. Mae un o'r disgyblion yn fyddar ac nid oes gan yr amgueddfa ddolen glyw. Byddai hyn yn golygu na all y disgybl gymryd rhan lawn yn y daith.

Gwahaniaethu ar wallt

Ffordd arall y gall ysgolion ddileu gwahaniaethu yw drwy adolygu eu polisïau a’u harferion a gwneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Er enghraifft, efallai y bydd gan ysgolion bolisïau neu reolau penodol yn ymwneud â gwallt neu steiliau gwallt a allai arwain at wahaniaethu anuniongyrchol anghyfreithlon yn erbyn disgyblion â nodweddion gwarchodedig penodol, er enghraifft:

  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • anabledd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • ailbennu rhywedd

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl a mwy o enghreifftiau ar wahaniaethu yn ymwneud â gwallt yn yr adnoddau canlynol:

Enghraifft o gyfraith achos: gwahaniaethu ar wallt

Roedd gan ysgol bolisi yn gwahardd bechgyn rhag gwisgo steiliau gwallt penodol, gan gynnwys rhesi corn. Heriodd disgybl y gwaharddiad, gan ddadlau y dylid gwneud eithriadau pan fydd rhesi corn yn cael eu gwisgo am resymau diwylliannol a theuluol.

Canfu'r llys fod y polisi yn gwahaniaethu'n anuniongyrchol. Gall arferion teuluol a chymdeithasol fod yn rhan o darddiad ethnig ac felly maent yn dod o dan nodwedd warchodedig hil. Byddai angen i’r ysgol newid y polisi er mwyn osgoi mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gwaharddiadau

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd ysgolion rhag gwahaniaethu yn erbyn disgyblion yn ystod y broses wahardd. Rhaid i ysgolion ystyried y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol wrth wneud penderfyniadau am ddisgyblaeth a gwaharddiadau. Dylent fod yn ofalus i beidio â gwneud rhagdybiaethau a allai arwain at wahaniaethu anghyfreithlon.

Er mwyn dileu gwahaniaethu, rydym yn annog ysgolion i ddadansoddi, monitro, adolygu a chyhoeddi eu data nad ydynt yn gyfrinachol am y modd y maent yn defnyddio gwaharddiadau dros dro a pharhaol. Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw disgyblion â nodweddion gwarchodedig penodol yn cael eu heffeithio gan waharddiadau yn anghymesur.

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn dweud bod yn rhaid i ysgolion wneud addasiadau rhesymol ar gyfer disgyblion anabl wrth orfodi disgyblaeth neu waharddiadau. Ni ddylai disgyblion anabl gael eu rhoi dan anfantais sylweddol i'w cyd-ddisgyblion nad ydynt yn anabl oherwydd polisi gwahardd ysgol neu gamau disgyblu. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi addasu eich sancsiwn disgyblu neu ddefnyddio un arall.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol yn ein harweiniad ar waharddiadau.

Enghraifft o arfer da: polisïau gwahardd

Mae disgybl ag anabledd dysgu wedi’i wahardd am godi o’i sedd dro ar ôl tro yn ystod gwersi ac amharu ar ddisgyblion eraill. Polisi'r ysgol yw bod ymddygiad aflonyddgar mynych yn cael ei gosbi trwy waharddiad.

Mae gan yr ysgol ddyletswydd i ystyried yn ymwybodol (roi sylw dyledus i) yr angen i ddileu neu leihau anfanteision a ddioddefir gan ddisgyblion anabl. Mae’n penderfynu ystyried gwneud addasiadau rhesymol i’w bolisi, megis:

  • gweithio gyda'r disgybl i ddod o hyd i ffordd i'w helpu i aros yn ei sedd yn ystod gwersi, a fyddai'n tarfu cyn lleied â phosibl ar y dosbarth
  • datblygu strategaethau pellach i'w hychwanegu at gynllun addysg, iechyd a gofal (EHC) y disgybl

Mae’r ysgol hefyd yn penderfynu:

  • hysbysu staff perthnasol am anghenion y disgybl a'r addasiadau rhesymol y mae angen iddynt eu gwneud i osgoi gwahaniaethu yn ei erbyn
  • cofnodi gofynion y disgybl ar systemau rheoli dosbarth.

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon

Gwybodaeth berthnasol ar wefannau eraill