Arweiniad

Pennod 4 - Gwahaniaethu uniongyrchol

Wedi ei gyhoeddi: 2 Hydref 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2024

Dyma ein Cod ymarfer wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar ein diweddariadau, ac rydym angen eich adborth.

Ewch i'n tudalen ymgynghoriad Cod Ymarfer i roi adborth.

Cyflwyniad

4.1 Mae’r bennod hon yn esbonio’r hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud ynglŷn â gwahaniaethu uniongyrchol yng nghyd-destun darpariaeth gwasanaethau, cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig a gwmpesir gan y Cod hwn. Trafodir sut gellid diwallu’r gofyniad am gymharydd. Cyfeirir hefyd at ddarpariaethau yn y ddeddf sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i drin mam yn anffafriol oherwydd ei beichiogrwydd a mamolaeth.

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

4.2 Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan fydd person yn trin person arall yn llai ffafriol nag y maen nhw’n trin, neu y byddent yn trin, eraill oherwydd nodwedd warchodedig (a.13(1)).

4.3 Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn anghyfreithlon ar y cyfan. Fodd bynnag, gallai fod yn gyfreithiol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • mewn perthynas â nodwedd warchodedig oed, lle caiff person ei drin yn llai ffafriol oherwydd oed ond gall y darparwr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ddangos bod yr ymdriniaeth yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys (darllener paragraffau 4.75 i 4.87) (a.13(2))
  • mewn perthynas â nodwedd warchodedig anabledd, lle caiff person anabl ei drin yn fwy ffafriol na pherson nad yw’n anabl (a.13(3))
  • lle bo’r Ddeddf yn darparu eithriad datganedig sy’n caniatáu yn uniongyrchol ymdriniaeth wahaniaethol a fyddai fel arall yn anghyfreithlon (darllener Pennod 11 a Phennod 13)

Beth yw ymdriniaeth ‘lai ffafriol’?

4.4 Er mwyn penderfynu a yw darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau wedi trin unigolyn yn ‘llai ffafriol’, mae’n rhaid gwneud cymhariaeth â sut maen nhw wedi trin unigolion eraill mewn amgylchiadau tebyg (gall cymharydd fod yn ddamcaniaethol). Os yw’r ymdriniaeth yn rhoi’r unigolyn o dan anfantais o gymharu ag unigolion eraill, yna mae’n debygol y bydd yr ymdriniaeth yn llai ffafriol: er enghraifft, lle gwrthodir gwasanaeth i gwsmer neu lle caiff aelodaeth person â chlwb ei ddirwyn i ben. Gallai ymdriniaeth lai ffafriol hefyd olygu amddifadu person o ddewis neu eu nadu o gyfle (a.31(7)). Os yw ansawdd y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig neu’r modd y caiff ei gynnig yn gymharol wael, gallai hyn hefyd fod gyfystyr ag ymdriniaeth lai ffafriol.

4.5 Mae’r term ‘ymdriniaeth’ yn cynnwys gweithredoedd untro neu anweithiau. Mae hefyd yn cynnwys rheolau ac arferion a’u cymhwysiad mewn achos penodol

Enghraifft

4.6 Mae swyddog diogelwch mewn bar yn gwrthod mynediad i fenyw 65 oed gan ddweud, ‘Sori, rydych chi’n rhy hen’. Mae hon yn weithred untro ac yn ymdriniaeth lai ffafriol o’r fenyw oherwydd ei hoed.

Os nad yw’r bar byth yn caniatáu mynediad i rywun sydd, neu sy’n ymddangos eu bod, dros 60, byddai hon yn rheol neu arfer yn seiliedig ar duedd sydd gyfystyr ag ymdriniaeth lai ffafriol oherwydd oed.

4.7 Nid oes rhaid i unigolion brofi colled ariannol er mwyn i’r ymdriniaeth fod yn llai ffafriol. Mae hi’n ddigon bod yr unigolion yn gallu dweud yn rhesymol y byddai’n well ganddynt pe na fyddent wedi cael eu trin yn wahanol i’r modd y gwnaeth darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau drin – neu y byddent wedi trin – unigolyn arall.

4.8 O dan y Ddeddf nid yw’n bosibl i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus na chymdeithasau gydbwyso neu liniaru ymdriniaeth lai ffafriol, er enghraifft, trwy gynnig gwasanaeth amgen ar ddisgownt.

Enghraifft

4.9 Mae mwy o ddynion na menywod yn defnyddio canolfan hamdden y cyngor. Mae’r tîm rheoli eisiau annog mwy o fenywod i ddefnyddio’r cyfleusterau. Maen nhw’n penderfynu cyfyngu ar y nifer o ddynion sy’n gallu defnyddio’r gampfa ar adegau poblogaidd. Maen nhw hefyd yn cynnig talebau i’w defnyddwyr gwrywaidd ar gyfer digwyddiadau hyfforddi arbennig i wneud yn iawn am hynny. Oherwydd bod y cyfyngiad ond yn berthnasol i ddynion, maen nhw’n cael eu trin yn llai ffafriol oherwydd eu rhyw, er gwaethaf budd ychwanegol y cynnig arbennig.

4.10 Ar gyfer gwahaniaethu uniongyrchol oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth, y prawf yw pa un ai bod yr ymdriniaeth yn ‘anffafriol’, yn hytrach nag yn ‘llai ffafriol’ (a.17). O’r herwydd nid oes angen i’r fam gymharu ei hymdriniaeth â’r ymdriniaeth a brofwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau eraill. Darllener paragraffau 4.53 i 4.72 am ragor o fanylion ynglŷn â gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Gwahanu

4.11 Pan mai hil yw’r nodwedd warchodedig, mae gwahanu unigolyn neu grŵp o unigolion yn fwriadol oddi wrth eraill yn cyfri’n awtomatig fel ymdriniaeth lai ffafriol (a.13(5)). Nid oes angen adnabod cymharydd oherwydd bod gwahanu ar sail hil bob amser yn wahaniaethol. Mae’n rhaid ei fod yn weithredol neu’n bolisi bwriadol yn hytrach na sefyllfa sydd wedi digwydd trwy amryfusedd.

Enghraifft

4.12 Mae clwb ieuenctid wedi profi trafferth gyda gwrthdrawiadau ar sail hil rhwng pobl ifanc. Mae’n penderfynu agor ar ddyddiau Mawrth ac Iau i bobl ifanc Du yn unig, ac ar ddyddiau Mercher a Gwener i bobl ifanc Gwyn yn unig. Oherwydd bod gwahanu defnyddwyr y clwb yn ôl eu hil yn bolisi bwriadol gan y clwb, mae hyn yn debygol o fod gyfystyr â gwahanu a byddai’n anghyfreithlon.

Enghraifft

4.13 Mewn clwb ieuenctid arall lle mae croeso i bob person ifanc ym mhob sesiwn, os yw bechgyn Du yn dewis gwahanu eu hunain oddi wrth fechgyn Gwyn, i chwarae gwahanol chwaraeon neu i wneud dim ond sefyll gyda’i gilydd mewn grŵp, oherwydd mai dewis defnyddwyr y clwb ieuenctid yw hyn ac nid polisi wedi ei orfodi gan y clwb, ni fyddai gyfystyr â gwahanu a ni fyddai’n anghyfreithlon.

4.14 Gallai gwahanu sy’n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig eraill fod gyfystyr ag ymdriniaeth lai ffafriol gan olygu gwahaniaethu uniongyrchol. Bydd yr amgylchiadau’n pennu ai dyma’r achos ai peidio. Nid oes rheol statudol bod gwahanu gyfystyr ag ymdriniaeth lai ffafriol i nodweddion gwarchodedig oni bai am hil.  

4.15 Os taw rhyw yw’r nodwedd warchodedig, gellid caniatáu gwahanu defnyddwyr gwasanaethau gwrywaidd a benywaidd mewn amgylchiadau penodol (darllener am eithriadau i chwaraeon cystadleuol, cyfleusterau cymunol a gwasanaethau ar wahân ym Mhennod 13).

4.16 Ceir eithriadau hefyd ar gyfer cysylltiadau nodweddion unigol (darllener paragraffau 12.66 i 12.74).

Mae nodweddion gwarchodedig y darparwr gwasanaeth yn amherthnasol

4.17 Gall gwahaniaethu uniongyrchol ddigwydd er bod darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn rhannu yr un nodwedd warchodedig sy’n sail i’r ymdriniaeth lai ffafriol gyda defnyddiwr unigol (a.24(1)).

Enghraifft

4.18 Yn dilyn sawl digwyddiad lle’r oedd angen galw’r heddlu, mae perchennog caffi Asiaidd yn gwrthod gweini dynion ifanc Asiaidd ar ôl 7pm ar nosweithiau Gwener a Sadwrn. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil er bod y perchennog yn rhannu yr un nodwedd warchodedig (hil) â’r cwsmeriaid y mae’n gwrthod eu gweini.

‘Oherwydd’ nodwedd warchodedig

4.19 Mae gan ‘oherwydd’ nodwedd warchodedig yr un ystyr â’r ymadrodd ‘ar sail’. Mae’r geiriad yn gofyn y cwestiwn pam i’r gwahaniaethwr honedig weithredu fel y gwnaethant, boed hynny’n ymwybodol neu’n anymwybodol [troednodyn 17].

4.20 Mae angen i’r nodwedd fod yn rheswm dros yr ymdriniaeth lai ffafriol ond nid oes rhaid iddi fod yr unig reswm. Mae’n ddigonol bod gan y nodwedd warchodedig ddylanwad sylweddol [troednodyn 18].

Enghraifft

4.21 Yn dilyn digwyddiad ar adain carchar yn cynnwys dau garcharor Sikhaidd a thri charcharor nad oeddent yn Sikhiaid, lle cafodd eiddo’r carchar ei niweidio, mae’r carchar yn cyfyngu ar amser cymdeithasu’r ddau garcharor Sikhaidd ond nid yw’n gosod cyfyngiad tebyg ar y tri charcharor nad ydynt yn Sikhiaid. Os yw crefydd neu gred y carcharorion Sikhaidd yn un o achosion yr ymdriniaeth lai ffafriol, yna nid oes gwahaniaeth bod eu hymddygiad diweddar yn achos arall.

4.22 Mewn rhai enghreifftiau, bydd y rheswm dros yr ymdriniaeth lai ffafriol yn amlwg o’r ymdriniaeth ei hun. Enghraifft fyddai pan fydd darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau yn gwrthod gweini unigolyn yn benodol oherwydd nodwedd warchodedig [troednodyn 19].

Enghraifft

4.23 Gwrthodir gweini cwpwl Roma mewn tafarn a dywedir wrthynt fod hyn oherwydd bod gan y dafarn bolisi ‘Dim Sipsiwn, Roma a Theithwyr’. Mae’r dafarn hefyd yn hongian arwydd ar y drws yn amlinellu’r polisi hwn. Mae hi’n amlwg o’r arwydd ar y drws a’r ymdriniaeth o’r cwpwl Roma bod eu hymdriniaeth lai ffafriol oherwydd eu hil.

4.24 Mewn achosion eraill, bydd y cysylltiad rhwng y nodwedd warchodedig a’r ymdriniaeth yn llai clir. Yn yr achosion hyn, bydd hi’n bwysig ystyried pa un ai y dylanwadodd yn sylweddol ar brosesau meddwl y gwahaniaethwr honedig [troednodyn 20].

Enghraifft

4.25 Mae cwpwl lesbiaidd yn eistedd mewn bwyty yn aros i aelod o staff gymryd eu harcheb. Maen nhw’n gwylio’r staff yn gweini ar gyplau eraill a gyrhaeddodd ar eu hôl nhw. Yn yr achos hwn bydd hi’n angenrheidiol edrych ar pam na wnaeth staff y bwyty weini’r cwpwl o’r un rhyw er mwyn pennu a oedd eu hymdriniaeth lai ffafriol oherwydd cyfeiriadaeth rywiol.

4.26 Fodd bynnag, mae gwahaniaethu uniongyrchol yn anghyfreithlon, waeth beth fo cymhelliad neu fwriad y darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau, ac ni waeth a yw’r ymdriniaeth lai ffafriol o’r unigolyn yn ymwybodol ai peidio. Gall fod gan ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau ragfarnau nad ydynt yn eu cyfaddef wrthyn nhw eu hunain neu gallent fod yn gweithredu yn llawn bwriadau da. Yn syml gallent fod yn anymwybodol eu bod yn trin y defnyddiwr gwasanaeth yn wahanol oherwydd nodwedd warchodedig

Enghraifft

4.27 Mae cymdeithas ddrama amaturaidd sy’n trefnu tripiau theatr ar gyfer ei aelodau yn gwrthod cais am aelodaeth gan ddynes â nam clyw oherwydd eu bod nhw’n credu na fyddai’n cael yr un bydd ag aelodau eraill. Er ei bod yn bosibl bod y gymdeithas yn llawn bwriadau da wrth wrthod ei chais am aelodaeth, mae hyn yn debygol o fod gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd.

4.28 Mae gwahaniaethu uniongyrchol hefyd yn cynnwys ymdriniaeth lai ffafriol o berson yn seiliedig ar stereoteip mewn perthynas â nodwedd warchodedig, pa un ai yw’r stereoteip yn gywir ai peidio.

Enghraifft

4.29 Stereoteip gyffredin yw bod gan fenywod llai o ddiddordeb mewn chwaraeon na dynion. Mae banc yn cynnig siawns i gwsmeriaid gwrywaidd ennill tocyn i ddigwyddiadau chwaraeon pan fyddan nhw’n dod i mewn i drafod materion ariannol. Nid ydynt yn cynnig yr un cyfle i gwsmeriaid benywaidd. Mae hyn yn debygol o fod yn ymdriniaeth lai ffafriol oherwydd rhyw.

4.30 Mi all darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau seilio eu hymdriniaeth ar faen prawf arall sy’n wahaniaethol, er enghraifft, lle bo’r ymdriniaeth o dan sylw yn seiliedig ar benderfyniad i ddilyn rheol allanol wahaniaethol.

Enghraifft

4.31 Mae asiantaeth deithio i fyfyrwyr yn ymwybodol bod y brifysgol leol yn codi ffioedd uwch ar fyfyrwyr rhyngwladol na myfyrwyr o’r DU, fel darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau. Mae’r asiantaeth deithio yn penderfynu mabwysiadu yr un ymagwedd ac yn cynnig gwyliau arbennig i fyfyrwyr am bris o £200 i fyfyrwyr o’r DU, a £275 i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae’r rheoliadau sy’n caniatáu ffioedd uwch i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol ond yn berthnasol i sefydliadau addysg bellach ac uwch ac nid ydynt yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau masnachol. O’r herwydd, tra bo’r ffioedd gwahaniaethol a gyflwynir gan y brifysgol wedi eu hawdurdodi mewn statud, nid oes sail statudol gyfatebol i’r asiantaeth deithio efelychu’r ymdriniaeth wahanol hon. Mae prisio gwahaniaethol yr asiantaeth deithio yn debygol o fod yn ymdriniaeth lai ffafriol oherwydd cenedligrwydd nad yw o’r DU.

4.32 Nid oes rhaid i ddefnyddiwr gwasanaeth sy’n profi ymdriniaeth lai ffafriol ‘oherwydd nodwedd warchodedig’ feddu ar y nodwedd eu hunain. Er enghraifft, gallai’r person fod yn gysylltiedig â rhywun sydd â nodwedd (‘gwahaniaethu ar sail cysylltiad’) neu gallai’r person gael ei weld, trwy gam, i feddu ar y nodwedd (‘gwahaniaethu ar sail canfyddiad’) [troednodyn 21].

Cymaryddion

4.33 Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae gwahaniaethu uniongyrchol yn golygu bod ymdriniaeth darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau o unigolion yn llai ffafriol na’r modd y gwnaethant drin neu y byddent wedi trin unigolyn arall sydd heb y nodwedd warchodedig (a.13(1)). Cyfeirir at y person arall hwn fel ‘cymharydd’.

Pwrpas adnabod cymharydd yw i ddarparu teclyn dadansoddol ar gyfer ystyried pa un ai yw rhywun wedi profi ymdriniaeth lai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig. Dylid nodi nad oes angen cymharydd mewn achosion o wahanu ar sail hil (darllener paragraff 4.11) neu wahaniaethu ar sil beichiogrwydd a mamolaeth (darllener paragraffau 4.53 i 4.72). Yn ogystal, nid yw adnabod cymharydd bob amser yn angenrheidiol mewn achosion eraill, yn enwedig os yw’r cwestiwn o pa un ai oedd yr ymdriniaeth y gwnaed cwyn amdani ‘oherwydd’ nodwedd warchodedig eisoes wedi ei ateb [troednodyn 22].

Pwy fydd yn gymharydd priodol?

4.34 Dywed y Ddeddf, pan fyddwn yn cymharu pobl at ddiben adnabod gwahaniaethu uniongyrchol, rhaid nad oes gwahaniaeth perthnasol rhwng yr amgylchiadau sy’n berthnasol i bob achos (a.23(1)). Fodd bynnag, nid yw’n angen rheidiol i amgylchiadau’r ddau berson (hynny yw, y darparwr gwasanaeth a’r cymharydd) i fod yr un fath yn union ym mhob ffordd. Gwahaniaeth perthnasol yw un sy’n arwyddocaol a pherthnasol [troednodyn 23].

Enghraifft

4.35 Nid yw dyn yn cael ei dderbyn yn aelod o glwb beicio mawr ei fri, ac mae menyw a wnaeth gais ar yr un pryd yn cael ei derbyn. Yn ddiweddar prynodd y dyn ei feic cyntaf ac fe feiciodd y fenyw o Land’s End i John O’Groats. Oherwydd bod profiad o feicio yn amgylchiad priodol, sy’n wahanol i’r dyn a’r fenyw, ni fyddai o gymorth i’r dyn ddewis cyfeirio at y fenyw fel cymharydd priodol. Er mwyn profi ei honiad o wahaniaethu uniongyrchol yn fwy effeithiol, byddai’n hanfodol iddo gyfeirio at fenyw â’r un lefel o brofiad seiclo fel cymharydd priodol.

Enghraifft

4.36 Mae menyw a’i gŵr yn chwarae pŵl i’r un safon. Mae’r ddau yn gofyn am gael ymuno â thîm eu tafarn leol. Mae’r dyn yn cael ei dderbyn ond dydy ei wraig ddim oherwydd ‘nad oes menywod eraill yn chwarae yn eu cynghrair’. Gallai’r fenyw gyfeirio at ei gŵr fwl cymharydd mewn honiad o wahaniaethu uniongyrchol oherwydd rhyw.

Enghraifft

4.37 Mae caffi yn caniatáu i berson yfed ei goffi yn yr ardd yn unig yn hytrach nag yn y prif gaffi, oherwydd bod ganddo anffurfiad difrifol ar ei wyneb y mae perchennog y caffi yn credu gallai peri gofid i gwsmeriaid eraill. Mae’r cwsmer yn cael ei drin yn llai ffafriol na chwsmer arall sydd hwb anffurfiad ac sy’n cael dewis ynglŷn â ble maen nhw’n yfed eu coffi. Gellir defnyddio’r cwsmer heb anffurfiad fel cymharydd mewn honiad o wahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd.

Cymaryddion damcaniaethol

4.38 Yn ymarferol, nid yw bob amser yn bosibl adnabod person go iawn sydd ag amgylchiadau perthnasol yr un fath, neu nad ydynt yn faterol wahanol, felly bydd angen gwneud y gymhariaeth â chymharydd damcaniaethol.

4.39 Mewn rhai achosion, daw i’r amlwg bod gan berson a adwaenwyd fel cymharydd gwirioneddol amgylchiadau nad ydynt yr un fath yn faterol. Fodd bynnag, gallai eu hymdriniaeth fod o gymorth wrth lunio cymharydd damcaniaethol.

4.40 Gallai llunio cymharydd damcaniaethol olygu ystyried elfennau o’r ymdriniaeth o nifer o bobl ag amgylchiadau tebyg i rai’r hawlydd, ond nad ydynt yr un fath. O edrych ar yr elfennau hyn gyda’i gilydd, gallai llys ddod i’r casgliad i’r hawlydd gael ei drin yn llai ffafriol nag y byddai cymharydd damcaniaethol wedi cael ei drin.

Enghraifft

4.41 Fe gofrestrodd menyw ifanc Ddu ar gwrs cyfrifiaduron 10 wythnos o hyd mewn coleg busnes preifat. Fe gyrhaeddodd yn hwyr i’r tri dosbarth cyntaf. Dywedodd rheolwr y coleg wrthi fod y ffaith ei bod yn cyrraedd yn hwyr yn tarfu ar ganolbwyntio’r myfyrwyr eraill a phe byddai’n cyrraedd yn hwyr am y pedwerydd tro, ni fyddai modd iddi barhau a byddai’n fforffedu ei ffi.                              

Yn absenoldeb cymharydd gwirioneddol gallai’r fyfyrwraig Ddu gymharu ei hymdriniaeth i’r ymdriniaeth o ddau fyfyriwr Gwyn mewn amgylchiadau rhywfaint yn wahanol. Roedd un myfyriwr Gwyn wedi cyrraedd yn feddw ar ddau achlysur ac wedi tarfu ar y dosbarth am ddwy awr ond ni roddwyd rhybudd terfynol iddo. Fe adawodd y myfyriwr Gwyn arall y dosbarth ar ddau achlysur dri deg munud yn gynnar gan dynnu sylw’r tiwtor a’r myfyrwyr – ni chafodd hithau rybudd terfynol chwaith. Gallai elfennau o’r ymdriniaeth o’r ddau gymharydd hyn ganiatáu llys i lunio cymharydd damcaniaethol i brofi a gafodd y fyfyrwraig Ddu ei thrin yn llai ffafriol oherwydd ei hil.

Cymaryddion mewn achosion anableddd

4.42 Mewn achosion anabledd, bydd cymharydd priodol yn berson sydd heb nam y person anabl ond sydd â’r un galluoedd neu sgiliau â’r person anabl, ni waeth a yw’r galluoedd neu’r sgiliau hynny’n deillio o’r anabledd ei hun (a.23(2)(a)).

Enghraifft

4.43 Mae dyn anabl â chyflwr calon cronig yn aelod o glwb tennis. Mae’n gofyn a all ymuno â thîm twrnament y clwb ond mae’n cael gwybod nad yw ei gêm yn ddigon da. Mae aelod arall o’r tîm sydd wedi ei raddio yr un fath ag ef, sydd heb yr anabledd hwn, yn cael ei ddewis i’r tîm. Gallai’r aelod newydd hwn fod yn gymharydd i’r dyn ag anabledd.

4.44 Mae hi’n bwysig canolbwyntio ar yr amgylchiadau hynny sy’n berthnasol i’r ymdriniaeth lai ffafriol. Er y gallai galluoedd penodol fod yn ganlyniad i’r anabledd mewn rhai achosion, mae’n bosibl na fyddai’r rhain yn amgylchiadau perthnasol at ddiben cymharu.

4.45 Os na all hawlwyr anabl ddwyn honiad o wahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd, mae’n bosibl y gallent ddwyn honiad o wahaniaethu yn deillio o anabledd cyn belled â’i fod yn diwallu’r meini prawf perthnasol (a.15). Mewn honiad o wahaniaethu yn deillio o anabledd, nid oes angen cymharu’r ymdriniaeth o berson anabl â’r ymdriniaeth o berson arall. Mae hi ond yn hanfodol arddangos bod yr ymdriniaeth anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n deillio o ganlyniad i’w hanabledd. Mae meini prawf eraill sy’n berthnasol i honiad o wahaniaethu yn deillio o anabledd. Am ragor o wybodaeth, darllener Pennod 6.

Cymaryddion mewn achosion cyfeiriadaeth rywiol

4.46 Ar gyfer cyfeiriadaeth rywiol, mae’r Ddeddf yn nodi nad yw’r ffaith bod un person yn bartner sifil tra bo’r llall yn briod yn wahaniaeth perthnasol rhwng yr amgylchiadau sy’n berthnasol i bob achos (a.23(3)). Mae’r Goruchaf Lys wedi cadarnhau hyn [troednodyn 24].

Enghraifft

4.47 Mae menyw briod yn bwcio gwyliau i ddathlu pen-blwydd priodas gyda’i gŵr. Oherwydd ei bod yn ben-blwydd priodas arni, mae’r cwmni teithio yn cynnig ystafell well am bris gostyngol. Mae menyw sydd mewn partneriaeth sifil yn bwcio gwyliau i ddathlu pen-blwydd priodas gyda’i phartner benywaidd gyda’r un asiantaeth deithio, ond nid yw hi’n cael cynnig yr ystafell well. Ni fyddai’r ffaith fod yr ail fenyw yn bartner sifil tra bo’r fenyw gyntaf yn briod yn wahaniaeth perthnasol yn yr amgylchiadau, felly byddai modd i’r ail fenyw gyfeirio at y cyntaf fel cymharydd yn yr achos hwn.

Gwahaniaethu ar sail cysylltiad

4.48 Mae’n wahaniaethu uniongyrchol os yw darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau yn trin unigolyn yn llai ffafriol oherwydd cysylltiad yr unigolyn ag unigolyn arall sydd â nodwedd warchodedig. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol i feichiogrwydd a mamolaeth. Gall gwahaniaethu ar sail cysylltiad ddigwydd mewn amrywiol ffyrdd, er enghraifft, lle bo gan yr unigolyn berthynas rhiant, plentyn, partner, gofalwr neu ffrind i rywun â nodwedd warchodedig. Y cwestiwn allweddol yw pa un ai mai nodwedd warchodedig yr unigolyn arall oedd achos yr ymdriniaeth lai ffafriol.

Enghraifft

4.49 Mae bachgen yn dymuno ymuno â’i glwb pêl-droed lleol, ond caiff ei wrthod oherwydd bod ei rieni yn gwpwl lesbiaidd. Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail cysylltiad oherwydd cyfeiriadaeth rywiol o ganlyniad i gysylltiad y bachgen â’i rieni.

Enghraifft

4.50 Mae grŵp o bedwar dyn ifanc yn ceisio cael mynediad i’w clwb nos lleol. Mae tri o’r dynion yn Bwyliaid ac mae un ohonynt yn Sais. Dywedir wrthynt fod y clwb nos yn llawn ac felly ni allant gael mynediad. Yna, mae’r dyn wrth y drws yn gadael grŵp o bedwar dyn sy’n siarad ag acenion Saesneg i mewn i’r clwb. Gallai’r grŵp cyntaf gwyno eu bod nhw i gyd wedi cael eu trin yn llai ffafriol oherwydd hil, y Sais oherwydd, y Sais oherwydd ei gysylltiad â’i ffrindiau Pwylaidd. Os, fodd bynnag, mai’r unig reswm na chafodd y grŵp fynediad oedd oherwydd nad oedd gan y tri dyn o wlad Pwyl ddigon o arian i dalu’r tâl mynediad, yna ni allai’r Sais honni mai hil oedd y rheswm dros ei ymdriniaeth lai ffafriol.

Gwahaniaethu ar sail canfyddiad

4.51 Mae hefyd yn wahaniaethu uniongyrchol os yw darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau yn trin unigolyn yn llai ffafriol oherwydd bod y darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau yn meddwl trwy gamgymeriad bod gan yr unigolyn nodwedd warchodedig. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol i nodwedd warchodedig beichiogrwydd a mamolaeth.

Enghraifft

4.52 Mae pobl â chyfenwau Gwyddelig penodol yn destun gwiriadau mwy llym gan gwmni gwyliau, ac yna’n cael eu gwahardd rhag archebu gwyliau oherwydd y dybiaeth eu bod yn Deithwyr Gwyddelig. Mae hyn yn ymdriniaeth lai ffafriol oherwydd hil.

Gwahaniaethu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth

4.53 Mae’r Ddeddf yn darparu amddiffyniad yn erbyn gwahaniaethu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth yn narpariaeth gwasanaethau, cyflawniad swyddogaethau cyhoeddus ac mewn cymdeithasau (a.17).

4.54 Pan yn esbonio’r darpariaethau hyn byddwn yn defnyddio yr un iaith â’r Ddeddf, sy’n cyfeirio at wahaniaethu yn erbyn menywod ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Mae’n bosibl y gallai dyn traws y mae ei ryw cyfreithlon yn wryw – wedi iddo dderbyn Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC) – hefyd brofi beichiogrwydd a mamolaeth. Mae’r llysoedd [troednodyn 25wedi dyfarnu bod mamolaeth yn cael ei ddiffinio i fod wedi bod yn feichiog a rhoi genedigaeth, waeth a yw’r person o dan sylw yn cael ei ddiffinio fel dyn neu fenyw yn ôl y gyfraith.

Mae dyn traws sy’n disgyn yn feichiog yn debygol o gael ei warchod o dan nodwedd warchodedig beichiogrwydd a mamolaeth [troednodyn 26].

4.55 Mae’n wahaniaethu os yw menyw yn cael ei thrin yn anffafriol:         

  • oherwydd ei beichiogrwydd
  • oherwydd ei bod wedi rhoi genedigaeth, a bod yr ymdriniaeth anffafriol yn digwydd o fewn cyfnod o 26 wythnos yn cychwyn ar y diwrnod pan roddodd enedigaeth
  • oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron, a bod yr ymdriniaeth anffafriol yn digwydd o fewn y cyfnod o 26 wythnos yn cychwyn ar y diwrnod pan roddodd enedigaeth

4.56 Mae mamau’n cael eu gwarchod hyd yn oed os yw eu baban yn farwanedig, os parodd y beichiogrwydd am o leiaf 24 wythnos cyn iddynt roi genedigaeth.

4.57 Y tu allan i’r cyfnod 26 wythnos, gallai mam gael ei gwarchod gan y darpariaethau gwahaniaethu ar sail rhyw (darllener paragraffau 4.66 i 4.71).

4.58 Bydd unrhyw ymdriniaeth anffafriol yn wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth pe na fyddai’r ymdriniaeth wedi digwydd oni bai am feichiogrwydd y fenyw, y ffaith iddi roi genedigaeth o fewn y 26 wythnos flaenorol neu ei bod yn bwydo baban ar y fron nad yw’n hŷn na 26 wythnos oed

Beth yw ystyr ‘anffafriol’? 

4.59 Er mwyn i wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth ddigwydd, mae’n rhaid bod mam wedi cael ei thrin yn ‘anffafriol’. Golyga hyn bod yn rhaid i’r ymdriniaeth arwain at niwed neu anfantais. Os yw’r niwed yn amlwg, bydd yn amlwg i’r ymdriniaeth fod yn anffafriol. Er enghraifft, efallai i wasanaeth gael ei wrthod iddi, efallai iddi dderbyn gwasanaeth salach neu iddi dderbyn gwasanaeth mewn modd gwahanol i’r hyn a fyddai wedi ei dderbyn oni bai am ei beichiogrwydd neu ei mamolaeth.

4.60 Mae amddifadu rhywun o ddewis neu eu hallgáu o gyfle hefyd yn debygol o fod yn ymdriniaeth anffafriol. Hyd yn oed os yw darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn meddwl eu bod yn gweithredu er budd pennaf unigolyn, gallai gwadu, neu wahardd rhag, gwasanaeth, swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas barhau i fod gyfystyr ag ymdriniaeth anffafriol oherwydd beichiogrwydd neu famolaeth, yn cynnwys bwydo ar y fron.

Enghraifft

4.61 Mae derbynnydd arian, sy’n bryderus ynghylch yr hyn mae hi’n ei dybio i fod yn risgiau posibl meddyginiaeth nad yw ar bresgripsiwn i fenywod beichiog, yn gwrthod gwerthu paracetamol i fenyw feichiog. Mae hyn yn debygol o fod yn ymdriniaeth anffafriol oherwydd beichiogrwydd. Gan nad yw’r derbynnydd yn gwrthod gwerthu paracetamol neu nwyddau eraill i bobl eraill â chyflyrau corfforol eraill, ni all ddibynnu ar yr eithriad iechyd a diogelwch (paragraffau 13.140 i 13.149).

Ystyr ‘oherwydd’ mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth

4.62 Dylai ‘oherwydd’ yn y cyswllt hwn gael ei ddeall yn yr un modd â ‘oherwydd’ mewn perthynas â gwahaniaethu uniongyrchol, a drafodir ym mharagraffau 4.19 i 4.32. Mae angen i feichiogrwydd a mamolaeth fod yn achos yr ymdriniaeth anffafriol ond nid oes angen iddo fod yr unig achos – mae’n ddigonol os oes gan feichiogrwydd a mamolaeth ddylanwad sylweddol [troednodyn 27].

Mae cymhelliad y darparwr gwasanaeth yn amherthnasol, ac nid oes gwahaniaeth a fwriadwyd yr ymdriniaeth anffafriol ai peidio.

Enghraifft

4.63 Mae menyw yn gwneud cais am forgais gan ei chymdeithas adeiladu leol ac yn datgelu ei bod yn feichiog. O ganlyniad mae hi’n cael ei gwrthod am forgais ac yn gofyn am esboniad. Dywed y rheolwr benthyciadau eu bod yn bryderus y gallai hi fethu â chynnal ad-daliadau ac yn crybwyll nifer o bryderon, yn cynnwys ei beichiogrwydd. Mae’r gwrthodiad yn debygol o fod yn wahaniaethu ar sail beichiogrwydd.

4.64 Mae gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn cynnwys ymdriniaeth anffafriol o fenyw yn seiliedig ar ragdybiaeth neu stereoteip ynglŷn â beichiogrwydd neu famolaeth, pa un ai ei fod yn gywir ai peidio.

Enghraifft

4.65 Mae clwb sy’n trefnu nosweithiau dawnsio salsa yn dileu menyw o’u rhestr oherwydd eu bod nhw’n dod i wybod ei bod hi’n feichiog, ar sail y rhagdybiaeth nad yw menywod beichiog yn cymryd rhan mewn ymarfer corff actif o’r math hwn, ac felly na fyddai’n dymuno dod i nosweithiau salsa yn ystod ei beichiogrwydd. Mae’r penderfyniad hwn, sy’n arwain at ymdriniaeth anffafriol yn seiliedig ar stereoteip, yn debygol o fod yn wahaniaethu ar sail beichiogrwydd.

Gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth y tu allan i’r cyfnod amser gwarchodedig

4.66 Y cyfnod gwarchodedig mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth yw 26 wythnos. Os yw menyw yn cael ei thrin yn llai ffafriol oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron ar ôl y 26 wythnos, byddai hyn yn parhau yn anghyfreithlon ond byddai ei honiad yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw, yn hytrach na gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth, gan ei bod hi y tu allan i’r cyfnod gwarchodedig.

4.67 Lle bo’r honiad yn un o wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw, bydd angen iddi ddangos fel arfer ei bod wedi ei thrin yn llai ffafriol nag y mae eraill, neu y byddai eraill, yn cael eu trin mewn amgylchiadau cymaradwy ac felly bydd angen i gymharydd gael ei adnabod. Gan fod hwn yn honiad o wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw, mae’r cymharydd priodol yn debygol o fod yn ddyn. Am ragor o drafod ynglŷn â chymharwyr, darllener paragraffau 4.32 i 4.47.

4.68 Lle bo amgylchiadau ffeithiol honiad yn ei gwneud yn anodd i fenyw wneud cymhariaeth â dyn, weithiau bydd llysoedd yn cael gwared ar y gofyniad am gymharydd ac yn syml yn ystyried a oedd yr ymdriniaeth lai ffafriol a brofwyd gan y fenyw oherwydd ei rhyw [troednodyn 28].

4.69 Gallai ymddygiad mewn perthynas â bwydo ar y fron olygu aflonyddu anghyfreithlon ar sail rhyw yn ogystal, darllener Pennod 8 am ragor o wybodaeth [troednodyn 29].

4.70 Wrth ystyried gwahaniaethu yn erbyn dyn, nid yw’n berthnasol ystyried unrhyw ymdriniaeth arbennig o fenyw sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd neu eni plant.

Enghraifft

4.71 Mae siop adrannol fawr yn darparu ardal orffwyso preifat i fenywod sy’n feichiog neu sy’n bwydo ar y fron. Mae dyn sy’n teimlo’n flinedig yn cwyno nad oes ganddo fynediad i gyfleuster tebyg. Nid yw hyn yn wahaniaethu oherwydd ni ellir cymryd ymdriniaeth arbennig ar gyfer beichiogrwydd a mamolaeth i ystyriaeth mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail rhyw.

Eithriadau ar gyfer beichiogrwydd a mamolaeth

4.72 Darllener Pennod 13 ar gyfer yr amgylchiadau cyfyngedig sy’n caniatáu i ddarparwr gwasanaeth neu gymdeithas drin menyw yn wahanol oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth, trwy wrthod darparu gwasanaeth neu ei gynnig neu ei ddarparu yn amodol.

Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oed

4.73 Mae ymdriniaeth wahanol yn berthnasol i oed, o’i gymharu â nodweddion gwarchodedig eraill, yn y ffaith nad yw ymdriniaeth lai ffafriol oherwydd oed yn anghyfreithlon os oes modd i’r ymdriniaeth gael ei gyfiawnhau yn wrthrychol (a.13(2)).

4.74 Mae pa un ai yw ymdriniaeth lai ffafriol oherwydd oed, yn cynnwys rheol neu arfer yn seiliedig ar oed, wedi ei gyfiawnhau yn wrthrychol yn dibynnu a yw’n ddull cymesur o gyflawni nod dilys. Darllener paragraffau 5.52 i 5.58 o Bennod 5 am ragor o wybodaeth ar gymesuredd.

Y nod Dilys

4.75 Os yw’r ymdriniaeth yn llai ffafriol oherwydd oed, gellir ei gyfiawnhau dim ond os oes ganddo nod dilys. Mae’r ystod o nodau sy’n gallu cyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oed yn gulach na’r ystod o nodau sy’n gallu cyfiawnhau gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail oed [troednodyn 30]. Yng nghyd-destun gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oed, mae’n rhaid i nodau fod yn gymdeithasol gadarnhaol, neu er budd y cyhoedd, i fod yn ddilys. Er y gall anghenion busnes rhesymol ac effeithlonrwydd economaidd fod yn nodau dilys, byddai angen ffactorau cymdeithasol ehangach hefyd os ydyn nhw i gael eu cyfiawnhau.

4.76 Mae’r canlynol yn enghreifftiau o nodau sy’n debygol o fod yn ddilys:

  • galluogi pobl o grŵp(iau) oed penodol i gymdeithasu gyda’i gilydd, er enghraifft, ymweliadau, digwyddiadau neu gyngherddau
  • galluogi pobl o grŵp(iau) oed penodol i fwynhau gweithgareddau gyda’i gilydd, er enghraifft, heicio neu gyngherddau 
  • sicrhau iechyd a diogelwch unigolion, cyn belled â bod risgiau wedi eu pennu’n glir
  • atal twyll neu ffurfiau eraill o gamdriniaeth neu ddefnydd amhriodol o wasanaethau neu swyddogaethau a ddarperir gan y darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau
  • sicrhau llesiant neu urddas y sawl sy’n defnyddio’r gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus neu aelodau o gymdeithasau
  • sicrhau bod gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau wedi eu targedu at y sawl sydd eu hangen fwyaf

Enghraifft

4.77 Mae clwb cerdded lleol yn trefnu teithiau cerdded rheolaidd ar benwythnosau i bobl o dan 25 oed. Mae’r clwb eisiau hyrwyddo ffordd iach o fyw i aelodau o’r grŵp oed hwn, yn ogystal â rhoi’r cyfle iddyn nhw gymdeithasu â phobl o’r un oed. Byddai’r nodau hyn yn ddilys.

Enghraifft

4.78 Mae awdurdod lleol yn datblygu manyleb contract i gomisiynu gwasanaeth canolfan ddydd sydd wedi ei dargedu’n bennaf at bobl 75 oed a hŷn. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pobl yn y grŵp oed hwn yn fwy tebygol o elwa o’r ganolfan oherwydd ynysigrwydd cymdeithasol a chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol. Byddai sicrhau bod gwasanaethu priodol ar gael i’r grŵp oed hwn yn nod dilys.

4.79 Ar adeg y gwahaniaethu honedig, nid yw’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ystyried y nod a roddant gerbron fel cyfiawnhad. Fodd bynnag, mae’n arfer da iddynt gadw cofnod o’u nod a’u cyfiawnhad, yn cynnwys unrhyw dystiolaeth gefnogi, ar yr adeg y byddant yn mabwysiadu rheol neu arfer sy’n trin defnyddwyr gwasanaeth penodol yn llai ffafriol nag eraill oherwydd oed.

Beth yw cymesur?

4.80 Nid yw’n ddigon i fod â nod dilys yn unig; mae’n hanfodol hefyd i’r dull o gyflawni’r nod dilys fod yn gymesur. Mae cymesuredd yn gofyn am ymarfer cydbwyso rhwng y nod y ceisir ei gyflawni a’r effaith wahaniaethol y gallai ei gael. Mae’n rhaid nad yw’r anfanteision a achosir yn anghymesur i’r nodau a geisir.

4.81 Esbonnir cymesuredd mewn rhagor o fanylion ym Mhennod 5 (darllener paragraffau 5.52 i 5.58).

Enghraifft

4.82 Gyda’r nod o ddarparu gwersi hedfan diogel, mae clwb hedfan yn dewis 59 fel uchafswm cyfyngiad oed. Bydd angen i’r clwb allu dangos bod cyflwyno’r cyfyngiad oed hwn yn gymesur er mwyn cyflawni nod dilys diogelwch. Gan fod yr awyrennau a ddefnyddir yn y gwersi yn beiriannau rheolaeth ddeuol a bod y bobl sy’n cymryd y gwersi yn gwneud hynny ar y cyd â hyfforddwr, mae’r dulliau a fabwysiedir yn annhebygol o fod yn gymesur er mwyn cyflawni’r nod o gynnal diogelwch.

4.83 Ni all y gost ariannol uwch o ddefnyddio dull llai gwahaniaethol ddarparu cyfiawnhad ar ei ben ei hun dros ymdriniaeth lai ffafriol oherwydd oed [troednodyn 31].

Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a chyfiawnhad dros ymdriniaeth lai ffafriol oherwydd oed

4.84 Lle bo awdurdod cyhoeddus yn ceisio cyfiawnhau ymdriniaeth lai ffafriol oherwydd oed, mae tystiolaeth o sut maen nhw wedi rhoi sylw i’r materion o dan eu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn debygol o fod yn berthnasol (a.149).

4.85 I gydymffurfio â’r ddyletswydd, mae angen i gorff perthnasol feddu ar dystiolaeth ddigonol o effaith ei bolisïau ac arferion ar bobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig, yn cynnwys oed. Mae meddu ar sylfaen dystiolaeth ddibynadwy yn caniatáu corff sy’n atebol i’r ddyletswydd i ystyried a oes ffyrdd o liniaru unrhyw effaith niweidiol y mae’r dystiolaeth yn ei hadnabod.

Triniaeth fwy ffafriol o bobl anabl

4.86 Mewn perthynas â gwahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd, mae’r Ddeddf ond yn gwarchod pobl anabl, felly nid yw’n wahaniaethu uniongyrchol i drin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw’n anabl (a.13(3)).

Am wybodaeth am ddarpariaethau gwahaniaethu anuniongyrchol, darllener Pennod 11.

Enghraifft

4.87 Mae amgueddfa yn cynnig ffi mynediad consesiynol i bobl anabl ar gyfer arddangosfa arbennig, ac ar ddyddiau Mawrth ac Iau yn cynnal sesiynau gwylio o flaen llaw fel bod modd i bobl anabl a’u teuluoedd gael mynediad i’r arddangosfa 30 munud cyn deiliaid tocynnau eraill, Ni fyddai hyn gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol oherwydd anabledd.

Hysbysebu bwriad i wahaniaethu

4.88 Os yw darparwr gwasanaeth yn hysbysebu eu bod, wrth gynnig gwasanaeth, yn trin ymgeiswyr yn llai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig, byddai hyn gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol. Mae’r cwestiwn o pa un ai yw hysbyseb yn wahaniaethol yn dibynnu a fyddai person rhesymol yn ystyried ei fod. Gall hysbyseb gynnwys hysbysiad neu gylchlythyr, boed hynny i’r cyhoedd ai peidio, mewn unrhyw gyhoeddiad, ar y radio, y teledu neu mewn sinemâu, trwy’r rhyngrwyd neu mewn arddangosfa.

Enghraifft

4.89 Mae clwb nos yn cyhoeddi ar orsaf radio lleol y bydd mynediad am ddim i fenywod y noson honno, ond bydd dynion yn parhau i dalu’r ffi mynediad arferol o £5. Byddai peron rhesymol yn debygol o ystyried hyn fel hysbysebu bwriad i wahaniaethu oherwydd rhyw.

Pennod 4 troednodiadau

  1. Prif Gwnstabl Heddlu Gorllewin Swydd Efrog v Khan [2001] UKH
  2. Nagarajan v London Regional Transport [2000] 1 AC 501
  3. Reynolds v CLFIS (UK) Ltd ac eraill [2015] EWCA Civ 439
  4. Reynolds v CLFIS (UK) Ltd ac eraill [2015] EWCA
  5. Bennett v Mitac Europe Ltd [2022] IRLR 2
  6. Shamoon v Prif Gwnstabl Cwnstabliaeth Frenhinol Ulster [2003] ICR 337
  7. Pris v Cyngor Sir Powys [2021] ICR 1246
  8. Bull & Another v Hall & Another [2013] UKSC 73
  9. R (McConnell) v Cofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr [2020] EWCA Civ 559 yn [14] a [28]-[39]
  10. For Women Scotland v Gweinidogion yr Alban [2023] CSih 37 P578/22
  11. Nagarajan v London Regional Transport [2001] 1 AC 501
  12. Shamoon v Prif Gwnstabl Cwnstabliaeth Frenhinol Ulster [2003] IRLR 285, HL a Tudalen v Awdurdod Datblygu Ymddiriedolaeth GIG 2021 ICR 941
  13. Mellor v Ymddiriedolaeth Academïau MFG 1802133/2021
  14. Seldon v Clarkson Wright & Jakes [2012] UKSC 16
  15. Woodcock v Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Cumbria

Diweddariadau tudalennau