Arweiniad

Pennod 3 – Pwy sydd â rhwymedigaethau o dan Rhan 3 (gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus) a Rhan 7 (cymdeithasau) y Ddeddf?

Wedi ei gyhoeddi: 2 Hydref 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2024

Dyma ein Cod ymarfer wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar ein diweddariadau, ac rydym angen eich adborth.

Ewch i'n tudalen ymgynghoriad Cod Ymarfer i roi adborth.

Cyflwyniad

3.1 Mae’r bennod hon yn darparu trosolwg o bwy sydd â rhwymedigaethau o dan ddarpariaethau Rhannau 3 a 7 o’r Ddeddf.

3.2 Mewn gwirionedd, gall mwy nag un rhwymedigaeth o dan y Ddeddf fod yn berthnasol i berson neu sefydliad, yn ddibynnol ar eu gweithgarwch. Er enghraifft, gallai’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus hefyd fod yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd, neu gyfran o’r cyhoedd. Yn yr achosion hynny byddent yn ddarostyngedig i ddyletswyddau a osodir ar ddarparwyr gwasanaethau. Pan nad ydynt yn darparu gwasanaeth, byddent yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau a osodir ar y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus.

Enghraifft

3.3 Mae awdurdod lleol yn darparu gwasanaeth i alluogi pobl i dalu eu treth cyngor mewn swyddfeydd lleol, lle gallant hefyd dderbyn cyngor am ddim ar ddyled a’u hawl i ystod o wasanaethau a budd-daliadau. Fodd bynnag, pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu defnyddio’i bwerau gorfodi i gasglu dyledion treth y cyngor, mae’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus.

3.4 Mae’r bennod hon hefyd yn esbonio atebolrwydd posibl cyflogwyr a phenaduriaid dros weithredoedd eu cyflogeion ac asiantaethau, yn ogystal ag atebolrwydd dros gyfarwyddo, achosi neu ysgogi torri’r Ddeddf. Bydd perthynas penadur / asiant yn digwydd pan fydd penadur yn rhoi awdurdod i asiant i weithredu ar ei ran. Esbonnir hyn ymhellach ym mharagraffau 3.43 i 3.47.

3.5 Mae’r bennod yn awgrymu camau y gallai darparwyr gwasanaethau, sefydliadau a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ddymuno eu cymryd i sicrhau eu bod yn diwallu eu goblygiadau o dan y Ddeddf.                  

Fel esbonnir ym Mhennod 1, defnyddir y term ‘gwahaniaethu’ i gyfeirio at wahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol a, lle bo’n briodol, gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd, methiant i wneud addasiad rhesymol a gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Gwasanaethau i’r cyhoedd

3.6 Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn gosod goblygiadau ar y sawl sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau i’r cyhoedd, neu i gyfran o’r cyhoedd, pa un ai yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol. Nid oes gwahaniaeth os yw gwasanaethau yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim, megis mynediad i ganolfan siopa, neu’n gyfnewid am dâl, er enghraifft, pryd o fwyd mewn bwyty. Mae’r rhwymedigaeth hefyd yn berthnasol i ddarpariaeth gwasanaethau ar wefan (a.29).

3.7 O dan y Ddeddf, mae darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn cynnwys darparu nwyddau neu gyfleusterau. Gydol y Cod hwn, oni nodir yn wahanol, mae cyfeiriadaeth at ddarparu gwasanaethau yn cynnwys darparu nwyddau neu ddarparu gwasanaethau.

Darperir rhagor o fanylion ar wasanaethau i’r cyhoedd, yn cynnwys eithriadau i’r rhwymedigaethau o dan Rhan 3, ym Mhennod 11 a Phennod 13.

Swyddogaethau cyhoeddus

3.8 Mae Rhan 3 o’r Ddeddf hefyd yn gosod rhwymedigaethau ar unrhyw berson sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, fel diffinnir yn y Ddeddf (a.31(4)).

Mae hyn yn berthnasol i’r sawl sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus nad yw’n golygu darparu gwasanaeth (a.29(6)).

Darperir rhagor o fanylion am wasanaethau i’r cyhoedd, yn cynnwys eithriadau i’r rhwymedigaethau o dan Rhan 3, ym Mhennod 11 a Phennod 13.

Cymdeithasau

3.9 Mae Rhan 7 o’r Ddeddf yn gosod rhwymedigaethau ar unrhyw gymdeithas o bobl, os:

  • oes ganddo 25 neu ragor o aelodau 
  • yw mynediad i’w aelodaeth yn cael ei reoleiddio gan ei reolau a bod yno Broses ddewis (a.107)
  • nad yw’n sefydliad masnach, megis busnes neu sefydliad proffesiynol neu undeb llafur (a.100)

Mae Rhan 5 o’r Ddeddf yn berthnasol i sefydliadau masnach, ac mae dyletswyddau sefydliadau masnach o dan y Ddeddf y tu hwnt i gwmpas y Cod hwn.

Nid oes gwahaniaeth pa un ai yw’r gymdeithas yn gorfforedig ai peidio, neu os cyflawnir unrhyw rai o’i gweithgareddau am elw.

Darperir rhagor o fanylion am gymdeithasau, yn cynnwys eithriadau i’r rhwymedigaethau o dan Rhan 7, ym Mhennod 12 a Phennod 13.

Perthnasau sydd wedi dirwyn i ben

3.10 Mae hi’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid [troednodyn 11] rhywun ar ôl i berthynas a gwmpesir gan y Ddeddf ddirwyn i ben, lle bo’r ymdriniaeth yn deillio o ac â chysylltiad agos â’r berthynas honno ac y byddai’r ymdriniaeth wedi ei wahardd pe byddai’r berthynas yn parhau (a.108).

3.11 Gall person orfodi amddiffyniad yn erbyn gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth fel pe byddent yn parhau yn y berthynas sydd wedi dirwyn i ben.

Enghraifft

3.12 Ar ôl i’w perthynas fusnes ddirwyn i ben, mae adeiladwr yn gwneud sylwadau ymosodol a gelyniaethus am gyn-gwsmer oherwydd ei hil. Byddai hyn yn aflonyddu.

3.13 Mae’n rhaid i addasiadau rhesymol gael eu gwneud i bobl anabl hyd yn oed ar ôl i berthynas ddod i ben os oes risg y byddant yn cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl heb anabledd.  

Enghraifft

3.14 Cwblhaodd menyw â nam golwg gwrs blasu gwin gyda manwerthwr gwin. Pan gofrestrodd y fenyw ar gyfer y cwrs yn y lle cyntaf, rhoddodd wybod i’r manwerthwr ei bod yn dymuno i unrhyw wybodaeth gael ei anfon ati ar e-bost ac fe wnaethant gytuno i wneud yr addasiad rhesymol hwn. Chwe mis yn ddiweddarach, anfonodd y manwerthwr lythyron at bawb a fynychodd y cwrs yn cynnig gostyngiad o 50 y cant oddi ar y cwrs nesaf pe byddent yn dychwelyd y ffurflen amgaeedig. Nid oedd modd i’r fenyw fwynhau’r gostyngiad oddi ar y cwrs nesaf a roddwyd i’r mynychwyr eraill, gan iddo gael ei anfon ati trwy lythyr yn unig.

Mae methu â sicrhau iddi dderbyn y cynnig a bod modd iddi ymateb iddo mewn fformat priodol yn debygol o fod gyfystyr â methiant ar ran y manwerthwr i wneud addasiad rhesymol, er nad yw’r fenyw bellach yn dilyn cwrs gyda nhw.  

Contractau

3.15 Mae’r Ddeddf yn atal darparwyr gwasanaethau, cymdeithasau a’r sawl sy’n cyflawni dyletswyddau cyhoeddus rhag osgoi eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf trwy geisio llunio cytundebau sy’n eu caniatáu i wahaniaethu, aflonyddu, erlid neu gyflawni gweithredoedd anghyfreithlon eraill (a.142 i 144).

Telerau anorfodadwy

3.16 Mae telerau contract sy’n hyrwyddo neu’n darparu ar gyfer ymdriniaeth sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf yn anorfodadwy (a.142). Fodd bynnag, ni fydd hyn yn atal person sydd neu a fyddai o dan anfantais gan delerau anorfodadwy rhag dibynnu arno er mwyn derbyn unrhyw fudd-dal y mae ganddynt yr hawl iddo.

3.17 Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi bod telerau contract sy’n ceisio diddymu neu gyfyngu ar ddarpariaethau gwrth-wahaniaethu, gwrth-aflonyddu neu wrth-erledigaeth y Ddeddf yn anorfodadwy gan berson y byddai’n gweithredu er ei fudd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal y partïon rhag honni mewn llys sirol, llys siryf, neu dribiwnlys cyflogaeth rhag llunio cytundeb sydd â’r effaith o setlo’r honiad. Ar gyfer honiad mewn tribiwnlys cyflogaeth, rhaid i’r cytundeb gael ei wneud naill ai gyda chymorth swyddog cymodi neu ei fod yn gytundeb setlo cymwys (a.144 a a.147 o’r Ddeddf).

Diddymu neu addasu telerau

3.18 Gallai person sydd â diddordeb mewn, neu a effeithir gan, gontract sy’n cynnwys telerau anorfodadwy wneud cais i lys sirol neu lys siryf am orchymyn i ddiddymu neu addasu’r telerau hynny. Fodd bynnag, ni wneir unrhyw orchymyn oni bai bod pob person a allai gael eu heffeithio gan y gorchymyn wedi derbyn rhybudd o’r cais ac yn medru gwneud sylwadau. 

Gall gorchymyn sy’n diddymu neu’n addasu’r telerau anorfodadwy fod yn ôl-weithredol o ran ei effaith (a.143).

Cwmpas tiriogaethol

3.19 Mae’r Ddeddf yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr. Oni bai am adran 190 (gwelliannau i aneddiadau a osodir) a Rhan 15 (eiddo teulu), mae hefyd yn berthnasol i’r Alban (a.217).

Nid yw darpariaethau Rhannau 3 a 7 yn berthnasol i Ogledd Iwerddon.

3.20 Ceir rhagdybiaeth gyffredinol nad yw Ddeddfau’r Senedd yn cael effaith y tu allan i’r DU oni bai:

  • bod darpariaeth benodol yn y ddarpariaeth iddi fod yn berthnasol y tu allan i’r DU
  • ei bod yn angenrheidiol iddi fod yn berthnasol u tu allan i’r DU i roi effaith i’r gyfraith fel bwriadwyd gan y Senedd [troednodyn 12]

3.21 Mae’r Ddeddf yn cynnwys y darpariaethau penodol canlynol sy’n berthnasol y tu allan i’r DU:

  • at ddiben a.29(6) (cyflawni swyddogaethau cyhoeddus), mewn perthynas â chaniatáu clirio mynediad (a.29(9)), cyn belled â’i fod yn berthnasol i hil neu grefydd neu gred, nid oes gwahaniaeth os yw’r weithred y cwynir amdani yn digwydd y tu allan i’r DU
  • at ddiben adran 30 (cludo pobl a darparu gwasanaethau ar fwrdd llongau a hofrenfadau mewn amgylchiadau wedi eu presgripsiynu) (a.30(3))
  • gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth cymdeithas wybodaeth, lle mae gwahanol reolau tiriogaethol yn berthnasol (darllener paragraffau 11.76 i 11.81 am ragor o fanylion o’r ddarpariaeth hon) (At. 25)

3.22 Oni bai am yr eithriadau penodol hyn bydd y rhagdybiaeth yn berthnasol. Mae’r Goruchaf Lys wedi nodi: ‘Yn absenoldeb geiriau union, gallai cymhwysiad alldiriogaethol o ddeddfwriaeth gael ei weithredu ond mae’n drothwy uchel sy’n rhaid ei oresgyn' [troednodyn 13].

3.23 Y llysoedd fydd yn pennu pa un ai bod gweithred sy’n digwydd y tu allan i Brydain Fawr wedi ei gwmpasu gan ddarpariaethau’r Ddeddf ai peidio, gan gymhwyso’r rhagdybiaeth hon.

3.24 Mae trefnydd teithiau yn y DU wedi ei ddal yn atebol am wahaniaethu a ddigwyddodd mewn trydedd wlad yn seiliedig ar ffeithiau penodol yr achos [troednodyn 14].

Beth sydd ddim yn cael ei gwmpasu gan y Cod?

Addysg

3.25 Mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth mewn perthynas ag addysg a ddarperir gan ‘gyrff cyfrifol’ penodedig mewn amgylchiadau penodedig. Mae’r cyrff hynny yn cynnwys cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch (a.84 i 94). Nid ymdrinnir â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth o dan Rhan 6 yn y Cod hwn.

3.26 Mae rhai cyfleusterau hamdden a hyfforddi a ddarperir gan awdurdodau lleol hefyd yn disgyn o fewn Rhan 6, yn ogystal â swyddogaethau cyrff cyfleusterau cyffredinol.

3.27 Lle mae gweithgareddau yn disgyn o fewn Rhan 6, ni fydd Rhan 3 yn berthnasol. Fodd bynnag, bydd gwasanaethau a swyddogaethau yn cael eu cyflawni gan gyrff addysgol, a chyfleusterau hamdden a hyfforddi nad ydynt yn disgyn o fewn Rhan 6, ac y bydd Rhan 3 felly’n berthnasol iddynt (a.95 i 97). Trafodir y rhain ym Mhennod 11.

Eiddo

3.28 Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu, erledigaeth ac aflonyddu mewn perthynas â defnyddio a rheoli eiddo mewn amgylchiadau penodol. Mae hyn yn cwmpasu, er enghraifft, y sawl sy’n darparu eiddo ar rent yn ogystal â gwerthu eiddo (a.32 i 38). Nid yw’r Cod hwn yn ymdrin â Rhan 4 o’r Ddeddf.

3.29 Nid yw Rhan 4 o’r Ddeddf yn berthnasol yn yr amgylchiadau canlynol, ond gallai’r rhain ddisgyn o dan Rhan 3:

  • lle mae’r ddarpariaeth o lety yn gyffredinol at ddiben arosiadau byr gan unigolion sy’n byw mewn man arall (a.32(3)(a))
  • lle darperir llety at ddiben darparu gwasanaeth neu gyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn unig (a.32(3)(b))

3.30 Er enghraifft, darperir llety mewn carchardai at ddiben cyflawni’r swyddogaeth gyhoeddus o gadw troseddwyr collfarnedig a phobl ar remand. Bydd hyn yn ddarostyngedig i Rhan 3 o’r Ddeddf. Yn yr un modd, byddai darparu llety dros nos mewn gwesty yn ddarostyngedig i Rhan 3 o’r Ddeddf.

Trafnidiaeth

3.31 Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn berthnasol i seilwaith drafnidiaeth benodol (megis gorsafoedd a meysydd awyr), gwasanaethau (er enghraifft, rhoi tocynnau) a cherbydau (At. 3 Rhan 9).

Mae Rhan 12 o’r Ddeddf wedi cael ei diwygio gan Ddeddf Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Pobl Anabl) 2022. Mae hyn yn gwneud darpariaethau ar gyfer dyletswyddau penodol ar yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.

Fodd bynnag, nid yw’r Cod hwn yn cwmpasu’r darpariaethau hyn.

Cychod a hofrenfadau

3.32 Nid yw’r darpariaethau gwasanaethau yn berthnasol i gychod a hofrenfadau. Mae’r Ddeddf yn darparu y gallai darparwyr gael eu gorfodi i wneud hynny, ond nid oes darpariaethau wedi eu gwneud eto.

Mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau cyhoeddus nad ydynt yn cynnwys darparu gwasanaeth i’r cyhoedd, mae dyletswydd i beidio â gwneud unrhyw beth sy’n cyfri fel gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth yn berthnasol i gychod a hofrenfadau ym mhob achos oni bai am wahaniaethu ar sail anabledd, y bydd angen rheoliadau ar ei gyfer yn ogystal (a.30).

Gwasanaethau cyflogaeth

3.33 Ymdrinnir â gwasanaethau cyflogaeth, sy’n cynnwys canllawiau galwedigaethol neu wasanaethau hyfforddi neu wasanaethau sydd wedi eu cynllunio i gynorthwyo pobl i ddod o hyd i neu gadw swyddi neu i’w sefydlu eu hunain mewn hunangyflogaeth, yn Rhan 5 o’r Ddeddf, o dan ‘gwaith’ (a.55 i 56). Cwmpesir y darpariaethau hyn yn y Cod Ymarfer Statudol Cyflogaeth.

Eithriadau

3.34 Trafodir eithriadau cyffredinol sy’n berthnasol i bob un neu rai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, a chymdeithasau, ym Mhennod 13. Trafodir eithriadau penodol sydd ond yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ym Mhennod 11.

Atebolrwydd cyflogwyr a phenaduriaid

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

3.35 Mae’r Ddeddf yn gwneud cyflogwyr yn gyfrifol yn gyfreithiol am weithredoedd o wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth a gyflawnir gan eu cyflogeion yn ystod eu cyflogaeth. Mae penaduriaid (yn cynnwys cyflogwyr) hefyd yn atebol am weithredoedd a gyflawnir gan eu hasiantaethau tra’n gweithredu o dan awdurdod y penadur. Nid oes gwahaniaeth pa un ai yw’r cyflogwr neu’r penadur yn gwybod am neu’n cymeradwyo gweithredoedd eu cyflogai neu asiant (a.109).

3.36 Ni fydd darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn ddirprwyol gyfrifol am wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth gan rywun oni bai am eu cyflogai neu asiant. Fodd bynnag, fe allent fod yn atebol yn uniongyrchol os ydynt yn methu â gweithredu ynghylch rhywbeth a wneir gan drydydd parti, a bod y rheswm dros eu hanweithgarwch yn nodwedd warchodedig [troednodyn 15] [troednodyn 16].

Enghraifft

3.37 Gelwir aelod Du o gampfa yn derm hiliol gan aelod arall. Maen nhw’n cwyno wrth berchennog y gampfa sy’n ddiystyriol o’r gŵyn ac sy’n cyfiawnhau y defnydd o’r term. Gallai perchennog y gampfa fod yn atebol am aflonydd mewn perthynas â hil oherwydd bod y sylwadau i’r aelod Du o’r gampfa wedi creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol a / neu sarhaus i’r aelod Du o’r gampfa.

3.38 Nid yw atebolrwydd cyflogwyr a phenaduriaid yn ymestyn i droseddau o dan y Ddeddf. Yr unig eithriad i hyn yw troseddau mewn perthynas â phobl anabl a thrafnidiaeth o dan Rhan 12 o’r Ddeddf.

Pryd fydd gweithred ‘yng nghwrs cyflogaeth’ neu ‘ag awdurdod penadur’?

3.39 Mae ystyr eang i’r ymadrodd ‘yng nghwrs cyflogaeth’: bydd cyflogeion darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau sy’n cyflawni gweithredu anghyfreithlon yn erbyn unigolion tra’n cyflawni dyletswyddau neu tra’n darparu neu weithredu gwasanaethau, yn cael eu hystyried i fod yn gweithredu yng nghwrs eu cyflogaeth. Dylid rhoi yr un ehangder ystyr i weithredu ‘ag awdurdod y penadur’ yn achos asiantwyr.

Amddiffyniad y cyflogwr

3.40 Ni fydd cyflogwr yn atebol am weithredoedd anghyfreithlon a gyflawnir gan eu cyflogeion yn nghwrs eu cyflogaeth lle bo’r cyflogwr wedi cymryd pob cam rhesymol i atal gweithredoedd o’r fath.

3.41 Byddai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, a chymdeithasau yn cael eu hystyried i fod wedi cymryd pob cam rhesymol pe na fyddai unrhyw gamau pellach y gellid bod disgwyl iddynt fod wedi eu cymryd. Wrth benderfynu a yw cam yn rhesymol, dylai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau ystyried ei effaith debygol a pha un ai y byddai cam arall yn fwy effeithiol. Hyd yn oed os nad yw’r camau a gymerir yn atal gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth rhag digwydd yn ymarferol, gallai cyflogwr barhau i osgoi atebolrwydd os gallant ddangos bod y camau a gymerwyd yn diwallu’r trothwy ‘pob cam rhesymol’.

Enghraifft

3.42 Daw perchennog siop yn ymwybodol bod ei chyflogai yn gwrthod gweini cwsmer traws. Mae’r cyflogwr yn cyfarwyddo’r cyflogai i drin cwsmeriaid traws yn yr un modd â chwsmeriaid eraill ac yn cynghori’r cyflogai bod gwahaniaethu yn drosedd ddisgyblu. Fodd bynnag, mae’r cyflogai yn parhau i drin cwsmeriaid traws yn llai ffafriol. Mae cwsmer traws arall yn dwyn honiad yn erbyn y cyflogai a’r cyflogwr. Gallai’r cyflogwr osgoi atebolrwydd os gallant ddangos iddynt gymryd pob cam rhesymol i atal y cyflogai rhag gweithredu mewn modd gwahaniaethol. Mae paragraffau 3.48 i 3.52 yn rhestru rhai camau a allai, yn ddibynnol ar yr holl amgylchiadau, gael eu hystyried yn rhesymol. Bydd cwestiynau a allai godi yn y cyd-destun hwn yn cynnwys pa gamau a gymerodd y cyflogwr i fonitro effeithlonrwydd ei weithredu ac i gymryd camau disgyblu mewn perthynas ag unrhyw achosion yn y dyfodol.

Atebolrwydd cyflogeion ac asiantwyr

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

3.43 Gallai cyflogeion unigol gael eu dal yn atebol yn bersonol o dan y Ddeddf am weithredoedd anghyfreithlon y byddant yn eu cyflawni yng nghwrs cyflogaeth, pa un ai bod gan y cyflogwr amddiffyniad yn erbyn atebolrwydd ai peidio (darllener paragraffau 3.40 i 3.42). Gallai asiantwyr gael eu dal yn atebol yn bersonol am weithredoedd anghyfreithlon y byddant yn eu cyflawni o dan awdurdod eu penadur, pa un ai y gwnaeth y penadur esgusodi’r gweithredoedd ai peidio (a.110).

Gwybodaeth bod y ddeddf yn anghyfreithlon

3.44 Nid yw’n angenrheidiol i’r cyflogai neu’r asiant wybod eu bod yn gweithredu’n anghyfreithlon i fod yn atebol am eu gweithredoedd.

3.45 Fodd bynnag, os yw’r cyflogai neu’r asiant yn dibynnu’n rhesymol ar ddatganiad gan y cyflogwr neu benadur nad yw gweithred yn anghyfreithlon, yna nid yw’r cyflogai neu’r asiant yn atebol am y weithred anghyfreithlon.

3.46 Mae hi’n drosedd y gellid ei chosbi â dirwy i ddarparwr gwasanaeth, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, neu gymdeithas i wneud datganiad ffug neu gamarweiniol, boed hynny’n fwriadol neu’n ddi-hid, y mae’r cyflogai neu’r asiant yn dibynnu arno i gyflawni gweithred anghyfreithlon.

Atebolrwydd am gyfarwyddo, achosi, ysgogi neu helpu yn fwriadol

3.47 Mae’n bosibl y bydd rhywun sy’n cyfarwyddo, achosi neu ysgogi rhywun arall i wahaniaethu, aflonyddu neu erlid rhywun arall yn anghyfreithlon yn atebol am wahaniaethu, aflonyddu neu erlid (a.111). Dyma’r achos hefyd i rywun sy’n helpu person arall i ‘yn fwriadol’ i wahaniaethu yn erbyn, erlid neu aflonydd person arall (a.112). Fodd bynnag, os yw person yn dibynnu’n rhesymol ar ddatganiad gan y person sy’n eu cyfarwyddo nad yw hyn yn torri’r Ddeddf, ni fyddant yn atebol.

Cwmpesir hyn mewn rhagor o fanylion ym Mhennod 9.

Diwallu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf: osgoi gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, ac arfer da

3.48 Mae angen i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau gymryd camau er mwyn sicrhau nad yw gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth yn digwydd.

3.49 Fel esboniwyd uchod, bydd darparwr gwasanaeth, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn atebol am weithredoedd anghyfreithlon a gyflawnir gan eu cyflogeion oni bai eu bod wedi cymryd camau rhesymol i atal gweithredoedd o’r fath.

3.50 Mae darparwyr gwasanaethau, pobl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn fwy tebygol o fedru cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan y Ddeddf ac atal eu cyflogeion rhag gwahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid unigolion os ydynt yn cymryd y camau canlynol:

  • sefydlu polisi i sicrhau ansawdd mynediad i a mwynhad o’u gwasanaethau gan unigolion o bob grŵp mewn cymdeithas
  • cyfathrebu’r polisi â phob aelod o staff, gan sicrhau eu bod yn gwybod ei bod yn anghyfreithlon i wahaniaethu pan fyddant yn darparu gwasanaethau
  • hyfforddi pob aelod o staff, yn cynnwys y rhai nad ydynt yn darparu gwasanaeth uniongyrchol i’r cyhoedd, i ddeall y polisi, ystyr cydraddoldeb yn y cyd-destun hwn a’u rhwymedigaethau cyfreithiol
  • monitro gweithrediaeth ac effeithlonrwydd y polisi
  • mynd i’r afael â gweithredoedd o wahaniaethu, aflonyddu neu erlid gan staff fel rhan o’u rheolau a gweithdrefnau disgyblu
  • sicrhau bod systemau rheoli perfformiad yn mynd i’r afael â chydraddoldeb a diffyg gwahaniaethu, diffyg aflonyddu a diffyg erlid
  • cynnal proses gwyno hawdd ei defnyddio sydd wedi ei rhannu’n effeithiol
  • adolygu arferion i sicrhau nad ydynt yn rhoi grwpiau penodol o dan anfantais heb gyfiawnhad
  • ymgynghori â chwsmeriaid, staff a sefydliadau sy’n cynrychioli grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig mewn perthynas ag ansawdd a chydraddoldeb eu gwasanaethau a sut y gallent fod yn fwy cynhwysol

3.51 Mewn perthynas â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i bobl anabl, bydd y camau gweithredu canlynol o gymorth i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, a chymdeithasau i ddiwallu eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf:

  • adolygu’n rheolaidd pa un ai yw gwasanaethau yn hygyrch i bobl anabl
  • cynnal a gweithredu ar ganlyniadau archwiliad mynediad wedi ei gynnal gan berson cymwys addas
  • darparu hyfforddiant rheolaidd i staff sy’n berthnasol i’r addasiadau sydd i’w gwneud
  • adolygu’n rheolaidd effeithlonrwydd addasiadau rhesymol a gweithredu ar ganfyddiadau’r adolygiadau hynny

3.52 Gallai busnesau a sefydliadau bychain sy’n darparu gwasanaethau, cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu sy’n gymdeithasau ganfod bod dull llai ffurfiol yn ddigonol, megis siarad ag unigolion ac ystyried a yw eu gwasanaethau yn cael eu defnyddio gan bob sector o’r gymuned. Bydd y pwyntiau uchod yn ymwneud â chyfathrebu’n glir â staff ynglŷn ag annerbynioldeb gwahaniaethu, erledigaeth ac aflonyddu yn parhau’n hanfodol.

Pennod 3 troednodiadau

  1. Rowstock Limited & Another v Jessemey [2014] EWCA Civ 185
  2. R (Marouf) v Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref UKSC [2023] 23
  3. R (Marouf) v Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref UKSC [2023] 23
  4. Thomas Cook Tour Operators Ltd v Campbell (Rhif 1) [2014] EWCA Civ 1668, Hydref 30, 2014; Campbell v Thomas Cook Tour Operations Ltd (Rhif 2) Llys Sirol Sheffield, Achos Rhif 2 YK 74402 [2014] EqLR 655, Medi 29, 2014
  5. Unite the Union v Nailard [2018] EWCA Civ 1203
  6. Cyngor Dinas Sheffield v Norouzi [2011] IRLR 897 a'r Comisiwn Cyfle Cyfartal v yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant [2007] IRLR 327

Diweddariadau tudalennau