Arweiniad

Pennod 5 – Gwahaniaethu anuniongyrchol

Wedi ei gyhoeddi: 2 Hydref 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2024

Dyma ein Cod ymarfer wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar ein diweddariadau, ac rydym angen eich adborth.

Ewch i'n tudalen ymgynghoriad Cod Ymarfer i roi adborth.

Cyflwyniad

5.1 Mae’r bennod hon yn esbonio gwahaniaethu anuniongyrchol a ‘cyfiawnhad gwrthrychol’. Mae cyfiawnhad gwrthrychol yn berthnasol i wahaniaethu anuniongyrchol, gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd, gweithredu cadarnhaol ac i rai o’r eithriadau a ganiateir o dan y Ddeddf (a.19).

5.2 Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn berthnasol i’r holl nodweddion gwarchodedig oni bai am feichiogrwydd a mamolaeth (er y gallai gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw fod yn berthnasol mewn rhai sefyllfaoedd beichiogrwydd a mamolaeth).

5.3 Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn cyfeirio at reolau, arferion, polisïau a darpariaethau eraill sy’n ymddangos fel pe baent yn berthnasol i bawb yn yr un modd ond sydd, yn ymarferol, yn effeithio mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol grwpiau o bobl.

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

5.4 Gallai gwahaniaethu anuniongyrchol ddigwydd pan fydd darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn cymhwyso darpariaeth, maen prawf neu arfer (PCP) sy’n ymddangos yn niwtral sy’n rhoi personau sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais benodol (a.19(1), 19(2)).

Enghraifft

5.5 Mae optegydd yn caniatáu i gwsmer dalu am eu sbectol mewn rhandaliadau ond yn cyfyngu cymhwystra i bobl sydd â swyddi. Mae menyw 69 mlwydd oed, sydd wedi ymddeol, yn tynnu sylw at y ffaith bod hyn yn rhoi pobl hŷn, yn ei chynnwys hi, o dan anfantais gan eu bod nhw’n llai tebygol o fod yn gweithio. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail oed oni bai bod modd ei gyfiawnhau.

5.6 Gall gwahaniaethu anuniongyrchol estyn bellach i’r sawl nad ydynt yn rhannu yr un nodwedd warchodedig â’r grŵp o dan anfantais, cyn belled â’u bod yn profi’n sylweddol yr un anfantais â’r grŵp. Adwaenir hyn fel gwahaniaethu anuniongyrchol ‘yr un anfantais’.

5.7 Bydd y bennod hon yn gyntaf yn ystyried gwahaniaethu anuniongyrchol ‘arferol’ (darllener paragraffau 5.8 i 5.58) ac yna’n ystyried gwahaniaethu anuniongyrchol ‘yr un anfantais’ (darllener paragraffau 5.59 i 5.61) (a.19A).

5.8 I grynhoi, er mwyn i wahaniaethu anuniongyrchol ‘arferol’ ddigwydd, mae’n rhaid i’r pedwar gofyniad canlynol gael eu diwallu (a.19).

  1. Mae darpariaeth, maen prawf neu arfer yn cael ei gymhwyso yn gyfartal: Mae’r darparwr gwasanaeth, y person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn cymhwyso, neu byddai’n cymhwyso, y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn gyfartal i bawb o fewn y grŵp perthnasol yn cynnwys unigolyn penodol (darllener paragraffau 5.9 i 5.18).
  2. Mae defnyddio dull cymharol yn dangos bod yno anfantais (y cyfeirir ato yn aml fel y gofyniad i ddangos ‘anfantais grŵp’): Mae’r ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer yn rhoi, neu byddai’n rhoi, pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol yr unigolyn o dan anfantais benodol o gymharu â phobl sydd heb y nodwedd warchodedig honno (darllener paragraffau 5.19 i 5.41).
  3. Mae anfantais unigol: Mae’r ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer yn rhoi, neu fe fyddai’n rhoi, yr unigolyn o dan yr anfantais honno (darllener paragraffau 5.42 i 5.45).
  4. Ni ellir cyfiawnhau’r ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer: Ni all y darparwr gwasanaeth, y person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ddangos bod y ddarpariaeth, y maen prawf neu arfer wedi ei gyfiawnhau fel modd cymesur o gyflawni nod dilys (darllener paragraffau 5.46 i 5.58).

Mae darpariaeth, maen prawf neu arfer yn cael ei gymhwyso’n gyfartal

Yr hyn sydd gyfystyr â darpariaeth, maen prawf neu arfer

5.9 Y cam cyntaf wrth sefydlu gwahaniaethu anuniongyrchol yw adnabod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer perthnasol (a.19(1)). Ni ddiffinnir yr ymadrodd ‘darpariaeth, maen prawf neu arfer’ gan y Ddeddf ond dylid ei dehongli’n eang i gynnwys, er enghraifft, unrhyw bolisïau, rheolau, arferion, trefniadau, meini prawf, amodau, rhagamodau, cymwysterau neu ddarpariaethau ffurfiol neu anffurfiol. Nid yw’n angenrheidiol i fanylu a yw rhywbeth yn ddarpariaeth, maen prawf neu arfer, cyn belled â bod modd dweud yn iawn fod y polisi, rheol, arfer neu benderfyniad perthnasol yn un o, neu’n gyfuniad o, y tri pheth hynny [troednodyn 32].

5.10 Gallai darpariaeth, maen prawf neu arfer hefyd gynnwys penderfyniadau i wneud rhywbeth yn y dyfodol, megis polisi neu faen prawf nad yw wedi ei gymhwyso eto. Gall penderfyniad ‘untro’ neu benderfyniad yn ôl disgresiwn fod gyfystyr â darpariaeth, maen prawf neu arfer hefyd os, i ryw raddau, ei fod yn adlewyrchu’r modd y gwneir pethau’n gyffredinol neu y byddant yn cael eu gwneud, neu fod rhyw elfen o ailadrodd [troednodyn 33].

Enghraifft

5.11 Mae cadwyn o siopau yn poeni am ddiogelwch ac yn cyfarwyddo’i staff i ofyn i bobl sy’n dod i mewn i’r siop i dynnu unrhyw benwisgoedd. Mae swyddog diogelwch yn esbonio wrth Rastaffariad ei fod yn bolisi gan y siop bod yn rhaid iddo dynnu ei het. Oni bai bod modd i’r siop gyfiawnhau’r polisi hwn, bydd hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol oherwydd crefydd.

Ydy’r ddarpariaeth, maen prawf, neu arfer yn un niwtral?

5.12 Mae’n rhaid i’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer fod yn niwtral ar yr wyneb, sy’n golygu na alla fod ynglŷn â nodwedd neu nodweddion gwarchodedig penodol. Os nad yw’n niwtral, ac os yw’n arbennig yn berthnasol i bobl â nodwedd warchodedig benodol, mae’n debygol o gael ei gyfri yn wahaniaethu uniongyrchol.

Enghraifft

5.13 Mae practis meddyg teulu yn penderfynu na fydd yn gweld cleifion Albaniaidd. Byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol yn erbyn grŵp hil.

Enghraifft

5.14 Mae banc yn gofyn am dystiolaeth o breswylfa barhaol cyn iddo ganiatáu i gyfri gael ei agor. Mae ceisiwr lloches yn ceisio agor cyfri. Mae’r banc yn nodi nad oes gan y ceisiwr lloches breswylfa barhaol ac yn gwrthod y cais. Mae’r gofyniad am breswylfa barhaol yn un niwtral ond mae’n debygol o roi unigolion o ddinasyddiaethau penodol o dan anfantais benodol. Yn hynny o beth byddai hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil oni bai bod modd ei gyfiawnhau.

Beth mae 'byddai'n ei roi' yn ei olygu?

5.15 Mae’n ofynnol o dan y Ddeddf bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi neu y byddai’n rhoi pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yr unigolyn o dan anfantais benodol, o gymharu â phobl heb y nodwedd honno (a.19(2)(c)). Mae’r Ddeddf hefyd yn gofyn ei fod yn rhoi neu y byddai’n rhoi yr unigolyn penodol o dan yr anfantais honno. Mae hyn yn caniatáu heriadau i ddarpariaethau, meini prawf neu arferion nad ydynt wedi eu cymhwyso eto, ond a fyddai’n cael effaith wahaniaethol pe byddent.

5.16 Fodd bynnag, er mwyn i honiad o wahaniaethu anuniongyrchol lwyddo, rhaid i’r unigolyn ddangos y byddent yn profi anfantais pe byddai’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn cael ei gymhwyso iddyn nhw (darllener paragraff 5.42 ac enghraifft 5.43).

Enghraifft

5.17 Mae awdurdod lleol yn ymgynghori â thrigolion ar ei gynlluniau arfaethedig ar gyfer gwaith adnewyddu adeiladau. Mae’n cyhoeddi y bydd gwaith adnewyddu yn cael ei gwblhau ar floc o fflatiau, sy’n golygu y bydd y mynedfeydd â rampiau ar gau wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Gan fod menywod yn fwy tebygol o fod yn ofalwyr ar blant ifanc, mae menyw yn tynnu sylw at y ffaith y bydd y cynllun hwn yn ei gwneud yn anoddach i fenywod sy’n defnyddio cadair wthio, yn ei chynnwys hi ei hun, i fynd i mewn ac allan o’r bloc. Er nad yw’r gwaith wedi dechrau eto, bydd hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw oni bai bod modd i’r cyngor gyfiawnhau ei benderfyniad.

Enghraifft

5.18 Mae person Iddewig gweithredol yn dymuno ymuno â dosbarth ioga a gynhelir ar nosweithiau Mercher, ond mae’r cyfarwyddiadau ymuno yn nodi bod yn rhaid i bob aelod newydd gymryd rhan mewn sesiwn gynefino diwrnod cyfan o hyd yn gyntaf, sydd ond ar gael ar ddydd Sadwrn. Mae e felly’n cael ei atal rhag ymuno â’r dosbarth oherwydd ei fod ynn ufuddhau i’r Saboth Iddewig. Bydd hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol oni bai bod modd cyfiawnhau’r polisi.

Anfantais a’r dull cymharol

5.19 Yr ail ofyniad mewn honiad o wahaniaethu anuniongyrchol yw sefydlu pa un ai yw’r ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer yn rhoi, neu y byddai’n rhoi, unigolyn o dan anfantais penodol o gymharu ag eraill nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig yr unigolyn. Er ein bod, er hwylustod, yn trafod anfantais a’r dull cymharol ar wahân isod, mae hi’n bwysig nodi nad yw’r rhain yn brofion ar wahân. Mae’r prawf yn un holistaidd; pa un ai yw’r unigolyn yn profi anfantais penodol mewn cymhariaeth â phersonau sydd heb y nodwedd honno. Mewn geiriau eraill, y cwestiwn yw a brofodd yr unigolyn anfantais gymharol, nid anfantais yn yr haniaethol.

Beth yw anfantais?

5.20 Ni ddiffinnir ‘anfantais’ gan y Ddeddf. Gallai gynnwys amddifadu o gyfle neu ddewis, atal, gwrthod neu wahardd. Mae’r llysoedd wedi canfod bod ‘niwed’, cysyniad tebyg, yn rhywbeth y byddai person rhesymol yn cwyno yn ei gylch. Ni fyddai synnwyr digyfiawnhad o gwyno yn gymwys. Nid oes rhaid i anfantais fod yn fesuradwy. Nid oes angen iddo ymwneud â cholled wirioneddol (economaidd neu fel arall). Mae’n ddigon bod person yn gallu dweud yn rhesymol y byddai’n well ganddynt pe byddent wedi cael eu trin yn wahanol.

Oes rhaid i’r person brofi’r rheswm dros yr anfantais?

5.21 Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn gofyn bod cysylltiad anffurfiol rhwng y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer a’r anfantais benodol a brofwyd gan y grŵp a’r unigolyn [troednodyn 34]. Nid oes rhaid i’r unigolyn sefydlu’r rheswm pam bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn eu rhoi nhw neu’r grŵp o dan yr anfantais honno. Mae’n ddigon ei fod yn gwneud [troednodyn 35].

Anfantais grŵp ac unigolyn

5.22 Fel esbonnir ym mharagraff 5.15, mae’n rhaid i’r unigolyn ddangos bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi neu y byddai’n rhoi pobl sy’n rhannu eu nodwedd warchodedig o dan anfantais penodol (‘anfantais grŵp’), a’i fod yn eu rhoi nhw yn bersonol o dan yr anfantais honno (‘anfantais unigol’).

Ydy’r grŵp yn cael ei roi o dan anfantais?

5.23 Weithiau, mae darpariaeth, maen prawf neu arfer yn hanfodol debygol o roi grŵp â nodwedd warchodedig benodol o dan anfantais. Ond nid yw’n ofynnol bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi pob aelod o’r grŵp o dan anfantais. Mae’n nodwedd nodweddiadol o wahaniaethu anuniongyrchol na fydd rhai aelodau o’r grŵp yn profi’r anfantais benodol [troednodyn 36].

Enghraifft

5.24 Pan fydd cyngor lleol yn cynnal ei gyfarfodydd ymgynghori ar noson yn yr wythnos, mae’n darganfod bod llai o fenywod na dynion yn gallu mynychu. Mae menyw yn cwyno bod hyn oherwydd nad yw rhai menywod, yn ei chynnwys hi ei hun, yn gallu dod oherwydd cyfrifoldebau gofal plant. Cyn belled â’i bod hi’n gallu arddangos bod rhai menywod o dan anfantais neu y byddent o dan anfantais oherwydd y polisi, nid oes rhaid iddi ddangos bod absenoldeb menywod yn neu y byddai’n briodoladwy, ym mhob achos, i gyfrifoldebau gofal plant.

5.25 Fel esboniwyd uchod (darllener paragraff 5.21), nid yw’n ofynnol i ddangos pam bod darpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi un grŵp sy’n rhannu nodwedd warchodedig benodol o dan anfantais o gymharu ag eraill. Ond mae yn angenrheidiol i arddangos cysylltiad anffurfiol rhwng y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer a’r anfantais benodol a brofwyd. Y cwestiwn hanfodol yw pa un ai yw’r anfantais yn cael ei achosi gan y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer. Mewn rhai sefyllfaoedd, gallai’r cysylltiad anffurfiol rhwng y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer fod yn amlwg a’r amlwg; er enghraifft, gallai cod gwisg greu anfantais i unigolion â chredoau crefyddol penodol. Mewn sefyllfaoedd eraill, bydd yn llai amlwg sut mae’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi neu y byddai’n rhoi pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais. Yn yr achos hwn, gallai ystadegau, tystiolaeth arbenigol neu dystiolaeth bersonol helpu i arddangos bod anfantais yn bodoli. Darllener paragraffau 5.36 i 5.41 am ragor o wybodaeth ynglŷn â chynnal ymarfer cymharu ffurfiol.

Enghraifft

5.26 Mae campfa yn cyflwyno prawf ffitrwydd sy’n cynnwys gofyniad i bobl sy’n aros i ymuno medru gwneud 30 ymwthiad. Mae dyn 70 oed yn darparu tystiolaeth ystadegol o ffynhonnell ddibynadwy fod pobl yn ei grŵp oedran ef yn annhebygol o fedru gwneud 30 ymwthiad gan fod cryfder rhan uchaf y corff yn lleihau wrth fynd yn hŷn. Os na all y gampfa gyfiawnhau’r gofyniad yn wrthrychol, bydd yn anghyfreithlon.

Y dull cymharol

5.27 Pan yn ystyried cymhariaeth rhwng unigolion sydd â’r nodwedd warchodedig a’r sawl sydd hebddo, mae’n rhaid i amgylchiadau’r ddau grŵp fod yn ddigon tebyg i wneud cymhariaeth (a.19(2)(b)) ac mae’n rhaid nad oes unrhyw wahaniaethau perthnasol yn eu hamgylchiadau (a.23(1)).

5.28 Mae hi’n bwysig bod yn glir pa nodwedd warchodedig sy’n berthnasol. Yn achos anabledd, ni fyddai hyn yn golygu pob person anabl, ond pobl anabl ag amhariad penodol, er enghraifft, amhariad gweledol cyfatebol. Gyda hil, byddai’n golygu pob person Affricanaidd neu ddim ond Somalïaid, er enghraifft.

Enghraifft

5.29 Mae gan gartref nyrsio bolisi i wrthod gofal i unrhyw un ag anaemia’r crymangelloedd. Mae hyn yn eithrio nifer fwy o bobl o grwpiau ethnig Ewropeaidd penodol a grwpiau ethnig Affricanaidd penodol ond nid yw’n eithrio pob grŵp ethnig Affricanaidd. Os yw’r gymhariaeth yn cael ei gwneud rhwng Affricaniaid a phobl nad ydynt yn Affricaniaid, gallai’r llys feddwl trwy gamgymeriad nad oes anfantais penodol i’r grŵp yn cael ei ddatgelu. Fodd bynnag, os yw’r gymhariaeth rhwng y rhai o’r grwpiau ethnig a effeithir yn gyffredin a’r rhai nad ydynt wedi eu heffeithio, fe ddaw goblygiadau hil y polisi i’r amlwg a bydd yn rhai i’r cartref nyrsio ei gyfiawnhau.

Y ‘gronfa i’w chymharu’

5.30 Cyfeirir fel arfer at y bobl a ddefnyddir yn yr ymarfer cymharu fel y’ gronfa i’w chymharu’.

Yn gyffredinol, dylai’r gronfa gynnwys y grŵp mae’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn effeithio arno, neu y byddai’n effeithio arno, naill ai’n gadarnhaol neu’n negyddol, tra’n hepgor pobl nad ydynt wedi eu heffeithio ganddo, boed hynny’n gadarnhaol neu’n negyddol. Golyga hyn y bydd adnabod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer fel arfer yn golygu adnabod y gronfa i’w chymharu hefyd [troednodyn 37]. Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, mae’n debygol mai un gronfa briodol yn unig fydd, ond fe ellid bod amgylchiadau lle bydd mwy nag un gronfa. Os mai dyma’r achos, bydd y llys yn penderfynu pa gronfa sydd fwyaf addas i’w defnyddio er mwyn profi’n realistig ac effeithiol yr honiad o wahaniaethu anuniongyrchol a wneir [troednodyn 38].

Enghraifft

5.31 Mae awdurdod lleol yn bwriadu cyflwyno taflen wybodaeth am ei wasanaethau i drigolion lleol. Er mwyn arbed arian, nid yw’n cynhyrchu fersiwn hawdd ei darllen o’r ddogfen. Mae person ag anabledd dysgu yn cwyno, oherwydd nad yw’r taflenni ar gael mewn fformatau hygyrch, na fyddai modd iddo gael mynediad i wasanaethau’r cyngor. Mae’n cwyno bod y polisi o gynhyrchu taflenni gwybodaeth heb fersiynau hawdd eu darllen yn rhoi pobl ag anableddau dysgu o dan anfantais benodol, gan wahaniaethu’n anuniongyrchol yn eu herbyn o ganlyniad. Gwneir y gymhariaeth o fewn y gronfa o bawb a fyddai â siawns resymol o ddefnyddio gwasanaethau’r awdurdod lleol, yn hytrach na’r boblogaeth genedlaethol, gan na fyddai gan y rhan fwyaf o’r boblogaeth genedlaethol unrhyw ddiddordeb mewn defnyddio gwasanaethau’r awdurdod lleol.

Dylid nodi bod yr awdurdod lleol hefyd o dan ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ac felly fe ddylent fod wedi ystyried sicrhau bod yr wybodaeth ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen fel addasiad rhesymol

Enghraifft

5.32 Mae awdurdod lleol yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’i wasanaeth llyfrgell deithiol trwy rannu pamffledi mewn canolfannau dydd. Defnyddir y rhain fel arfer gan bobl dros 65 oed. Mae preswylydd 55 oed yn cwyno bod y dull o rannu yn gwahaniaethu’n uniongyrchol yn erbyn pobl sydd o dan 65 oed. Y gronfa i’w chymharu yw’r sawl sy’n byw yn ardal yr awdurdod lleol a allai fod â diddordeb mewn defnyddio’r llyfrgell deithiol. Nid y boblogaeth genedlaethol na phoblogaeth gyffredinol yr awdurdod lleol.

Gwneud y gymhariaeth

5.33 Gan edrych ar y gronfa, rhaid i’r gymhariaeth gael ei gwneud wedyn rhwng effaith y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer ar bobl heb y nodwedd warchodedig berthnasol.

5.34 Gellir sefydlu a oes anfantais grŵp mewn honiad o wahaniaethu anuniongyrchol mewn sawl ffordd.

Er enghraifft:

  • gall fod tystiolaeth ystadegol neu arall o anfantais
  • gallai’r ffaith fod yno anfantais benodol awgrymu anfantais grŵp 
  • gallai’r anfantais fod yn hanfodol yn y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer o dan sylw
  • gall fod ffactorau perthnasol, megis y proffil rhywedd mewn perthynas â chyfrifoldeb sylfaenol dros ofal plant, y bydd y llys yn eu cymryd i ystyriaeth [troednodyn 39]

5.35 Bydd y modd y cynhelir y gymhariaeth yn dibynnu ar yr amgylchiadau, yn cynnwys y nodwedd warchodedig o dan sylw (a.19(2)(c)). Fe allai, mewn rhai amgylchiadau, fod yn angenrheidiol i gynnal ymarfer cymharu ffurfiol gan ddefnyddio tystiolaeth ystadegol.

Cynnal ymarfer cymharu ffurfiol

5.36 Gall ystadegau ddarparu mewnwelediad i’r cysylltiad rhwng y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer a’r anfantais mae’n ei achosi. Gallai hefyd fod yn bosibl defnyddio ystadegau cenedlaethol neu ranbarthol er mwyn arddangos natur a graddau’r anfantais benodol.

5.37 Fodd bynnag, efallai nad yw dadansoddiad ystadegol yn briodol neu’n ymarferol, yn enwedig pan nad oes tystiolaeth ddigonol neu ddibynadwy, neu os yw’r niferoedd o bobl yn rhy isel i ganiatáu cymhariaeth ystadegol arwyddocaol. Yn y sefyllfa hon, gallai’r llys ei gweld yn ddefnyddiol i arbenigwr ddarparu tystiolaeth ar pa un ai bod unrhyw anfantais ac, os oes, natur yr anfantais.

5.38 Mae achosion eraill lle gallai fod yn ddefnyddiol i gael tystiolaeth (yn cynnwys, lle bo’n briodol, gan arbenigwr) i gynorthwyo’r llys i ddeall natur y nodwedd warchodedig neu ymddygiad y grŵp sy’n rhannu’r nodwedd – er enghraifft, tystiolaeth ynglŷn ag egwyddorion cred grefyddol benodol.

Enghraifft

5.39 Mae gan berson gred fod cig porc yn eu gwneud yn frwnt yn ôl defod at ddiben hawliau eu crefydd am gyfnod amser penodol. Mae ganddynt gyflwr meddygol ac mae angen meddyginiaeth arnynt. Maent yn honni bod eu meddyg teulu yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn eu herbyn trwy bresgripsiynu tabledi label generig yn unig, sy’n gynnwys gelatin cig porc, er bod tabledi label wedi eu brandio ar gael sy’n cynnwys yr un cynhwysion actif ond nad ydynt yn cynnwys cynhyrchion porc. Byddai o gymorth i’r llys dderbyn tystiolaeth o arwyddocâd y gred hon yng nghrefydd y person er mwyn sefydlu bod presgripsiynu tabledi label generig sy’n cynnwys gelatin cig porc gyfystyr ag anfantais benodol.

5.40 Yn ei hanfod, mae angen sefydlu bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi cyfran uwch o’r sawl sydd â’r nodwedd warchodedig berthnasol o dan anfantais, o gymharu â’r gyfran o’r rheiny sydd heb y nodwedd warchodedig sydd o dan anfantais. Mae angen dangos bod y grŵp sydd â’r nodwedd warchodedig yn profi ‘anfantais benodol’ o gymharu ag eraill. Mae pa un ai yw gwahaniaeth yn arwyddocaol yn dibynnu ar y cyd-destun, megis maint y gronfa a’r niferoedd gwirioneddol y tu ôl i’r cymesureddau. Fel esboniwyd ym mharagraff 5.23, nid yw’n angenrheidiol dangos bod pawb, neu’r mwyafrif o’r rheiny o fewn y gronfa sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig, wedi eu gosod o dan anfantais.

Enghraifft

5.41 Mae awdurdod lleol yn sicrhau bod neuadd ar gael ar gyfer cyfarfodydd preswylwyr i’r sawl sy’n byw yn ward yr awdurdod lleol. Mae’r neuadd ar gael ar nosweithiau Gwener yn unig. Mae sicrhau bod y neuadd ar gael ar nosweithiau Gwener yn arfer niwtral. Mewn honiad o wahaniaethu anuniongyrchol, mae’n rhaid i lys gynnal ymarfer cymharu er mwyn penderfynu a yw’r polisi yn rhoi, neu y byddai’n rhoi, preswylwyr Iddewig, er enghraifft, o dan anfantais benodol, o gymharu â grwpiau crefyddol eraill.

  1. Mae’r llys yn edrych ar yr wybodaeth ar wneuthuriad crefyddol y ‘gronfa’. Mae 5,000 o breswylwyr yn byw yn y ward. O’r rhain, mae 1,000 eu bod yn dilyn y grefydd Iddewig, sy’n nodwedd warchodedig. Mae’r gyfran o’r gronfa sydd â’r nodwedd warchodedig benodol yn un pumed.
  2. Mae’r llys yn gwybod bod y rhan fwyaf o breswylwyr nad ydynt yn Iddewon yn annhebygol o gael eu hatal rhag defnyddio’r neuadd ar nos Wener yn sgil eu credoau crefyddol. Yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ganddo ynglŷn â chredoau crefyddol y preswylwyr, mae’n amcangyfrif na fydd y rhan fwyaf o’r 4,000 o breswylwyr nad ydynt yn Iddewon o dan anfantais oherwydd yr arfer hwn.
  3. Fodd bynnag, bydd o leiaf 500 o breswylwyr Iddewig – y sawl sy’n dal credoau Uniongred – yn cael eu hatal gan eu crefydd rhag defnyddio’r neuadd.
  4. Felly, bydd 50 y cant o breswylwyr Iddewig o dan anfantais oherwydd yr arfer.  
  5. Yna mae’r llys yn cymharu’r gyfran o bobl Iddewig sydd o dan anfantais oherwydd yr arfer (hanner ohonynt) â’r gyfran o’r rheiny sydd o dan anfantais ond nad ydynt yn Iddewon (ychydig iawn). Ar sail y gymhariaeth hon, daw’r llys i’r casgliad bod y grŵp sydd â’r nodwedd warchodedig o ddilyn y gred Iddewig yn profi anfantais benodol, ac yn cydnabod bod yn rhaid i’r awdurdod lleol gyfiawnhau yr arfer neu ei newid er mwyn osgoi gweithredu’n anghyfreithlon. Mae’r awdurdod lleol yn dewis sicrhau bod y neuadd ar gael ar noson arall oni bai am nos Wener.

Anfantais unigol

Ydy’r unigolyn o dan sylw yn cael ei roi o dan yr anfantais honno?

5.42 Nid yw’n ddigon bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi, neu y byddai’n rhoi, grŵp o bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais benodol. Mae’n rhaid iddo hefyd gael yr effaith honno (neu fedru cael yr effaith honno) ar yr unigolyn o dan sylw. Felly, nid yw’n ddigon bod unigolyn ond yn sefydlu eu bod yn aelod o’r grŵp perthnasol. Rhaid iddynt ddangos hefyd eu bod wedi profi yn bersonol (neu y gallent brofi) yr anfantais benodol fel unigolyn (darllener paragraff 5.15 a pharagraff 5.18). Fel gydag anfantais grŵp (darllener paragraff 5.21), nid oes rhaid i’r unigolyn brofi’r rheswm dros yr anfantais maen nhw’n ei phrofi yn bersonol; dim ond ei fod yn ganlyniad i gymhwysiad y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer.

Enghraifft

5.43 Mae lleoliad yn ei gwneud yn ofynnol bod cwsmeriaid yn mynd trwy synhwyrydd metel cyn cael mynediad. Mae Sikh yn cwyno bod y polisi hwn yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn Sikhiaid trwy eu hatal rhag gwisgo’r freichled Kara. Fodd bynnag, nid yw bellach yn ufuddhau i’r eitem hon o’r grefydd Sikh. Nid yw felly wedi ei roi o dan anfantais benodol. Ni allai ddwyn achos llwyddiannus o wahaniaethu anuniongyrchol.

Mae’r bwriad y tu ôl i’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn amherthnasol

5.44 Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn anghyfreithlon, hyd yn oed pan nad yw effaith wahaniaethol y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn fwriadol, oni bai bod modd ei gyfiawnhau yn wrthrychol (a.119(5)). Os yw darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn cymhwyso’r ddarpariaeth, maen prawf neu swyddogaeth gyhoeddus heb y bwriad o wahaniaethu yn erbyn yr unigolyn, gallai’r llys benderfynu peidio â gorchymyn iawndal (darllener Pennod 14 ar Orfodaeth) (a.119(6)).

Enghraifft

5.45 Mae darparwr gwasanaethau cyfreithiol yn creu gwefan er mwyn galluogi’r cyhoedd i gael mynediad rhwydd i’w wasanaethau. Fodd bynnag, mae holl destun y wefan wedi ei fewnblannu â graffigau. Er nad oedd yn bwriadu gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn pobl ag amhariad ar y golwg, mae hyn yn gosod y sawl sydd ag amhariad ar y golwg o dan anfantais benodol gan na allant newid maint y ffont na chymhwyso meddalwedd adnabod testun-i-lais ac felly ni allant gael mynediad i’r wefan. Yn ogystal â rhoi sail i rwymedigaeth i wneud addasiad rhesymol i’w gwefan, bydd yr arfer hwn yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail anabledd oni bai bod modd i’r darparwr ei gyfiawnhau.

Cyfiawnhad Gwrthrychol

Pryd gellir cyfiawnhau darpariaeth, maen prawf neu arfer yn wrthrychol?

5.46 Os gall y person sy’n cymhwyso’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer ddangos ei fod yn ‘ddull cymesur o gyflawni nod dilys’, yna ni fydd gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol (a.19(2)(d)). Adwaenir hyn yn aml fel y prawf ‘cyfiawnhad gwrthrychol’. Mae’r prawf yn berthnasol i wahaniaethu anuniongyrchol ‘yr un anfantais’ hefyd (darllener paragraffau 5.59 i 5.61) ac i feysydd eraill o gyfraith gwahaniaethu, er enghraifft gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd.

5.47 Pe caiff ei herio yn y llysoedd, lle darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yw cyfiawnhau’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer ac i gynhyrchu tystiolaeth i gefnogi eu honiad ei fod wedi ei gyfiawnhau. Ni fydd cyffredinoliadau yn ddigonol er mwyn darparu cyfiawnhad. Nid yw’n angenrheidiol i’r cyfiawnhad fod wedi ei amlinellu’n llawn adeg cymhwyso’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer. Pe caiff ei herio, gall y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas amlinellu’r cyfiawnhad wrth y llys.

5.48 Dylid mynd i’r afael â’r cwestiwn o pa un ai yw’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn ddull cymesur o gyflawni nod dilys mewn camau:

  1. Ydy nod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn gyfreithiol ac anwahaniaethol, ac yn un sy’n cynrychioli ystyriaeth real, wrthrychol?
  2. Os yw’r nod yn ddilys, ydy’r modd o’i gyflawni yn gymesur?

Beth yw nod dilys?

5.49 Ni ddiffinnir y cysyniad o ‘nod dilys’ gan y Ddeddf. Fodd bynnag, mae cyfraith achos wedi sefydlu y dylai nod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer, er mwyn bod yn ddilys, fod yn gyfreithiol, na ddylai fod yn wahaniaethol ohono’i hun, ac mae’n rhaid iddo gynrychioli ystyriaeth real, wrthrychol.

5.50 Er y gallai anghenion busnes rhesymol ac effeithlonrwydd economaidd fod yn nodau dilys, ni all darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas sydd â nod o leihau costau yn unig ddisgwyl bodloni’r prawf [troednodyn 40]. Er enghraifft, ni allant ddadlau yn unig fod gwahaniaethu yn rhatach na pheidio â gwahaniaethu.

5.51 Mae enghreifftiau o nodau dilys yn cynnwys:

  • sicrhau bod gwasanaethau a buddion yn targedu’r sawl sydd eu hangen fwyaf
  • gweithredu pwerau yn deg
  • sicrhau iechyd a diogelwch, er enghraifft, iechyd a diogelwch y sawl sy’n defnyddio gwasanaeth neu sy’n cael mynediad i swyddogaeth gyhoeddus, cyn belled â bod risgiau wedi eu manylu’n benodol  
  • atal twyll neu ffurfiau eraill o gamdriniaeth a/neu ddefnydd amhriodol o wasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus
  • sicrhau llesiant neu urddas aelodau o gymdeithas neu bobl sy’n defnyddio gwasanaeth neu sy’n cael mynediad i swyddogaeth gyhoeddus

Beth yw cymesur?

5.52 Hyd yn oed os yw’r nod yn un dilys, rhaid i’r modd o’i gyflawni fod yn gymesur.

5.53 Mae cymesuroldeb yn gofyn am ymarfer cydbwyso rhwng y nod y ceisir ei gyflawni a’r effaith wahaniaethol y gallai ei gael. Mae’n rhaid nad yw’r anfanteision a achosir yn anghymesur i’r nodau a geisir.

Mae’r llysoedd wedi torri hyn i lawr yn brawf pedwar cam. Er mwyn i fesur fod yn gymesur [troednodyn 41]:

  1. Mae’n rhaid i’r nod fod yn ddigon pwysig i gyfiawnhau cyfyngu ar hawl sylfaenol.
  2. Mae’n rhaid i’r mesur fod wedi ei gysylltu’n rhesymegol â’r nod a geisir. Golyga hyn bod disgwyl rhesymol i’w weithrediad gyfrannu at wireddu’r nod hwnnw [troednodyn 42].
  3. Mae’n rhaid nad yw’r modd a ddewiswyd yn fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni’r nod. Bydd y llys yn ystyried a ellid bod wedi defnyddio mesur llai ymwthiol heb gyfaddawdu cyflawniad y nod yn annerbyniol.
  4. Mae’n rhaid i effaith y tor-hawliau fod yn gymesur i fudd tebygol y mesur.

5.54 Ni all cost ariannol uwch defnyddio dull llai gwahaniaethol, ar ei ben ei hun, ddarparu cyfiawnhad dros gymhwyso darpariaeth, maen prawf neu arfer benodol [troednodyn 43]. Gellir ond ystyried cost fel rhan o gyfiawnhad y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas, os oes yna resymau da eraill dros ei fabwysiadu.

Enghraifft

5.55 Mae canolfan awyr agored yn darparu amrywiaeth o weithgareddau, o deithiau cerdded ar ardaloedd graeanog i deithiau sy’n cynnwys ymdrech gorfforol egnïol. Ar sail diogelwch, mae’n gofyn am dystysgrif meddygol o iechyd da ar gyfer pawb sy’n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a gynigir ganddynt, hyd yn oed os nad ystyrir y weithgaredd yn un egnïol. Mae’r polisi hwn yn cael yr effaith o ata; nifer o bobl anabl rhag defnyddio’r ganolfan. Er bod sicrhau iechyd a diogelwch yn nod dilys, mae’r dull hollgynhwysfawr o gymhwyso’r polisi yn debygol o fod yn ddigyfiawnhad oherwydd fe allai atal pobl anabl sydd â chyflyrau na fyddai meddygon yn eu dosbarthu fel ‘iechyd da’ ond na fyddai, yn ymarferol,  yn eu rhwystro rhag cymryd rhan yn y gweithgareddau egnïol a llai egnïol. O ganlyniad, ni fyddai’r dystysgrif iechyd da yn fodd y gellid ei gyfiawnhau o gyflawni’r nod dilys.

5.56 Mewn achos sy’n ymwneud ag anabledd, os nad yw’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol perthnasol, bydd yn anodd iddynt ddangos bod yr ymdriniaeth yn gymesur.

5.57 Po fwyaf difrifol yr anfantais a achosir gan y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer gwahaniaethol, y mwyaf argyhoeddiadol y mae’n rhaid i’r cyfiawnhad gwrthrychol fod.

Enghraifft

5.58 Nid yw dinesydd Prydeinig yn gymwys am daliad cynllun ex-gratia i bobl a gaethiwyd gan y Japaneaid yn ystod y rhyfel, ar y sail nad yw’n medru bodloni’r meini prawf o fod wedi ei geni yn y DU neu fod o leiaf un o’i rhieni neu ei neiniau neu deidiau wedi ei geni yn y DU. Byddai hyn gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil os na ellir ei gyfiawnhau yn wrthrychol. Er bod y meini prawf yn ymddangosiadol niwtral, maen nhw wedi eu cysylltu’n agos â hil ac felly fe allent fod yn anodd i’w cyfiawnhau.

Gwahaniaethu Anuniongyrchol: yr un anfantais

5.59 Gall gwahaniaethu anuniongyrchol ddigwydd hefyd pan fydd unigolyn sydd heb y nodwedd warchodedig berthnasol yn profi anfantais ochr yn ochr â phersonau sydd â’r nodwedd warchodedig berthnasol. Cyn belled ag y byddai’r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer gwahaniaethol yn eu rhoi, neu y byddai’n eu rhoi, yn sylweddol o dan yr un anfantais â phobl sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig berthnasol [troednodyn 44], gallai unigolyn o’r fath ddwyn honiad o wahaniaethu anuniongyrchol ‘yr un anfantais’. Mae cyfiawnhad gwrthrychol yn berthnasol i wahaniaethu anuniongyrchol yr un anfantais (darllener paragraffau 5.46 i 5.58).

5.60 Er y cyfeirir weithiau at y math hwn o wahaniaethu anuniongyrchol fel ‘gwahaniaethu anuniongyrchol cysylltiadol’, nid yw’n angenrheidiol bod unrhyw berthynas neu gysylltiad rhwng y grŵp â’r nodwedd warchodedig berthnasol a’r unigolyn nad yw’n ei rhannu. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r unigolyn sydd heb y nodwedd warchodedig berthnasol ddangos bod yr anfantais maen nhw’n ei phrofi yn ei hanfod yr un fath â’r hyn a brofir gan y grŵp sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig.

Enghraifft

5.61 Mae awdurdod lleol yn defnyddio algorithm er mwyn cynorthwyo i adnabod twyll budd-daliadau tai. Mae’r algorithm yn adnabod mwy o achosion o dwyll budd-daliadau tai mewn ardal cod post benodol. Yn seiliedig ar hyn, mae’r cyngor yn cyflwyno gwiriadau ychwanegol a chamau gwirio ar geisiadau a dderbynnir gan breswylwyr sy’n byw yn yr ardal cod post benodol honno. Mae hyn yn arwain at oedi wrth brosesu’r ceisiadau hynny.  

Mae gan yr ardal boblogaeth fawr o breswylwyr Bangladeshaidd sy’n cael eu gosod o dan anfantais oherwydd y gwiriadau datgelu twyll, cod-post-benodol ychwanegol pan yn ymgeisio am fudd-dal tai. Oni bai bod modd i’r awdurdod lleol gyfiawnhau’r polisi, gallai fod ganddynt achos i honni gwahaniaethu anuniongyrchol. 

Mae menyw wyn o gefndir Gwyddelig sy’n byw yn yr un ardal cod post yn destun y gwiriadau twyll newydd ac mae ei chais hithau yn profi oedi hefyd. Oni bai bod modd i’r awdurdod lleol gyfiawnhau’r polisi, gallai fod gan y fenyw sail i honni gwahaniaethu anuniongyrchol hefyd

Awdurdodau cyhoeddus a chyfiawnhad o wahaniaethu anuniongyrchol

5.62 Lle bo awdurdod cyhoeddus yn ceisio cyfiawnhau gwahaniaethu anuniongyrchol, mae tystiolaeth ynghylch sut maen nhw wedi talu sylw i faterion effaith a chyfiawnhad gwahaniaethu posibl o dan eu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn debygol o fod yn berthnasol.

Enghraifft

5.63 Mewn enghraifft flaenorol (paragraff 5.58), mae’n rhaid i adran y llywodraeth sy’n goruchwylio’r cynllun taliad ex-gratia, o dan ei ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, roi sylw dyladwy i’r angen i ddiddymu gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail hil ac i hyrwyddo cydraddoldeb cyfleoedd a chysylltiadau hil da. Mae tystiolaeth o sut y cyflawnwyd y ddyletswydd hon yn debygol o fod yn berthnasol pan yn ystyried unrhyw gyfiawnhad o feini prawf y cynllun iawndal.

Gwahaniaethu anuniongyrchol a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl

5.64 Yn ogystal â bod â rhwymedigaeth i beidio â gwahaniaethu’n uniongyrchol yn erbyn pobl anabl, mae gan ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ddyletswydd rhagddyfalus i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl. Rhoddir rhagor o fanylion ynglŷn â hyn ym Mhennod 7. Mae’r ddwy ddyletswydd hon yn gorgyffwrdd yn aml, ac mae’n synhwyrol eu hystyried gyda’i gilydd.

5.65 Pan yn cynllunio, bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ystyried a yw eu harferion yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn pobl anabl. Os yw arfer yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn pobl anabl, yna mae’n rhaid i’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ystyried a oes modd cyfiawnhau’r arfer.

Enghraifft

5.66 Mae plasty yn cynnal teithiau tywys o’r gerddi sy’n cychwyn bob 30 munud. Dywedir wrth y tywyswyr am ddilyn amserlen gaeth a chwblhau’r teithiau o fewn 45 munud. Mae’r arfer hwn yn rhoi pobl anabl ag amhariadau symudedd o dan anfantais. O gael eu herio gan grŵp o bobl anabl, mae rheolwyr y plasty yn sylweddoli:   

  • bod yr arfer yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn pobl anabl ag amhariadau symudedd a bod angen iddynt ystyried a oes unrhyw gyfiawnhad dros yr arfer
  • y byddai gwneud addasiadau rhesymol trwy ganiatáu rhagor o amser i un grŵp yn anghydnaws â’r polisi, gan y byddai grwpiau sy’n dilyn y grŵp arafaf yn cael eu dal yn ôl
  • y gallent sicrhau yr un lefel o elw o deithiau tywys trwy gael gwared ar yr amserlen gaeth a chaniatáu i deithiau orgyffwrdd
  • nid yw effaith y gwahaniaethu anuniongyrchol ar bobl ag amhariad symudedd yn angenrheidiol oherwydd gallant gyflawni eu nod busnes o wneud elw trwy fabwysiadu dulliau eraill o sicrhau niferoedd ar y teithiau tywys

O ganlyniad, maen nhw’n newid eu harfer ac yn dechrau cynnal eu holl deithiau ar sail gorgyffwrdd, yn ogystal ag ymestyn hyd pob taith.  

5.67 Os yw’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn cynllunio i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl ac yn gwneud yr addasiadau hynny, yna ni fydd angen iddynt newid yr arfer ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl, oni bai bod y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer yn cael effaith wahaniaethol mewn perthynas â nodwedd warchodedig perthnasol arall.

5.68 Mewn nifer o achosion, pan fydd y darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn ystyried a oes modd cyfiawnhau arfer er gwaethaf ei effaith ar bobl anabl, byddant yn dod o hyd i ffyrdd o wneud addasiadau rhesymol rhagddyfalus.

Pennod 5 troednodiadau

  1. Chief Constable of West Midlands Police and ors v Harrod and ors [2017] IRLR 539
  2. Ishola v Transport for London [2020] EWCA Civ 112
  3. Essop v Home Office [2017] UKSC 27
  4. Essop v Home Office [2017] UKSC 27
  5. Essop v Home Office [2017] UKSC 27
  6. Essop v Home Office [2017] UKSC 27
  7. Ministry of Defence v DeBique [2010] IRLR 471
  8. Dobson v North Cumbria Integrated Care NHS Foundation Trust [2021] IRLR 729
  9. Heskett v Secretary of State for Justice [2020] EWCA Civ 1487, Hill v Revenue Comrs [1999] ICR 48
  10. Bank Mellat [2013] UKSC 39; Akerman-Livingstone v Aster Communities Ltd [2015] 3 All ER 725)
  11. Bank Mellat [2013] UKSC 39
  12. Heskett v Secretary of State for Justice [2020] EWCA Civ 1487, Hill v Revenue Comrs [1999] ICR 48
  13. Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Diwygio) 2023 yn cadarnhau C-83/14 CHEZ Razpredeleine Bulgaria AD v Komisia za zashtita ot diskriminatsia (CHEZ)

Diweddariadau tudalennau