Arweiniad

Pennod 2 - Pwy sydd â hawliau o dan Ran 3 (gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus) a Rhan 7 (cymdeithasau) o'r Ddeddf?

Wedi ei gyhoeddi: 2 Hydref 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2024

Dyma ein Cod ymarfer wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar ein diweddariadau, ac rydym angen eich adborth.

Ewch i'n tudalen ymgynghoriad Cod Ymarfer i roi adborth.

Cyflwyniad

2.1 Fel esboniwyd ym Mhennod 1, defnyddir y term ‘gwahaniaethu’ i gyfeirio at wahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol a, lle bo’n berthnasol, gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd, methiant i wneud addasiad rhesymol a gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd neu famolaeth.

2.2 Mae’r Ddeddf yn gwarchod pobl rhag gwahaniaethu ac aflonyddu sy’n seiliedig ar nodweddion gwarchodedig.

2.3 Y nodweddion gwarchodedig a gwmpesir gan y Cod hwn yw:

  • oed
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadaeth rywiol

Mae’r Ddeddf yn rhestru’r rhain yn nhrefn yr wyddor, ac mae’r Cod hwn yn mabwysiadu yr un drefn (a.4).

2.4 Fel esboniwyd ym Mhennod 1, ni chwmpesir nodwedd warchodedig priodas a phartneriaeth sifil gan y Cod hwn (darllener paragraff 1.12).

2.5 Mae’r Ddeddf hefyd yn gwarchod pobl rhag erledigaeth pan maent wedi gwneud gweithred warchodedig. Mae’r amddiffyniad hwn yn berthnasol waeth beth fo eu nodwedd warchodedig. Darllener Pennod 9 am ragor o wybodaeth ar erledigaeth a gweithredoedd gwarchodedig.

Oed

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

2.6 Mae’r Ddeddf yn diffinio oed gan gyfeirio at grŵp oedran person. Mae grŵp oedran yn cynnwys pobl o’r un oed neu bobl o fewn ystod benodol o oedrannau (a.5).

2.7 Pan fydd y Ddeddf yn cyfeirio at bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig oed, golyga hyn eu bod yn yr un grŵp oedran.

2.8 Gall grwpiau oed fod yn fawr, er enghraifft, ‘pobl o dan 50’ a ‘phobl 50 oed a hŷn’. Gall grŵp oedran fod yn fach hefyd, er enghraifft, ‘pobl 50 oed’, ‘pobl yng nghanol eu 40au’ neu ‘pobl a anwyd yn 1952’. Gall grŵp oedran fod yn gymharol hefyd, er enghraifft, ‘iau nag A’ neu ‘hŷn nag aelodau eraill y clwb’.

2.9 Gall grwpiau oed gael eu hadnabod yn anuniongyrchol hefyd. Gall hyn fod trwy ddefnyddio termau perthnasol i oed megis ‘ifanc’, er y gallai’r ystyr fod yn wahanol yn ddibynnol ar y cyd-destun, er enghraifft, ‘athletwr ifanc’ o’i gymharu â ‘pensiynwr ifanc’. Ffordd arall o adnabod grwpiau oed yn anuniongyrchol yw trwy gyfeirio at ymddangosiad corfforol gwirioneddol neu dybiedig neu nodweddion eraill grwpiau oed penodol, er enghraifft, ‘gwallt llwyd’, ‘mam-gu’ neu ‘tad-cu’.

2.10 Ceir rhywfaint o hyblygrwydd yn y diffiniad o oed person a gellir disgrifio pawb fel eu bod yn perthyn i nifer o wahanol grwpiau oed. O ran rhannu nodweddion gwarchodedig oed, bydd y grŵp oedran perthnasol yn dibynnu ar y cyd-destun.

Enghreifftiau

2.11 Gallai menyw 25 oed gael ei gweld fel pe bai’n rhannu nodwedd warchodedig oed â phobl mewn sawl gwahanol grŵp oedran, yn cynnwys ‘pobl 25 oed’, ‘pobl o dan 30 oed’, ‘pobl dros 25 oed’ ac ‘oedolion ifanc’.

Gellid dweud bod dyn 86 oed yn rhannu nodwedd warchodedig oed â phobl yn y grwpiau oed canlynol: ‘pobl 86 oed’, ‘pobl dros 80 oed’, ‘pobl dros 65 oed’, ‘pensiynwyr’, ‘pobl hŷn’, ‘yr henoed’ a ‘pobl yn ddiweddarach mewn bywyd’.

2.12 Gall grŵp oedran gael ei adnabod yn ôl ffactorau allanol sydd ond yn berthnasol i bobl o grŵp oedran penodol, er enghraifft ‘pobl a aned ar ôl i COVID-19 ddechrau’.

2.13 Lle bo’n angenrheidiol cymharu sefyllfa person sy’n perthyn i grŵp oedran penodol ag eraill, nid yw’r Ddeddf yn manylu ynghylch â pha grŵp oedran y dylid gwneud y gymhariaeth. Gallai fod yn bawb y tu allan i grŵp oedran ond, mewn nifer o achosion, bydd y dewis o grŵp oedran cymaradwy yn fwy penodol. Caiff hyn ei arwain yn aml gan y cyd-destun a’r amgylchiadau.

Enghraifft

2.14 Gallai’r dyn 86 oed ei gymharu ei hun â’r ‘rhai 85 oed ac iau’, ‘y rhai o dan 86 oed’, y ‘rhai o dan 80 oed’, pobl nad ydynt yn bensiynwyr, neu bobl iau, yn ddibynnol ar amgylchiadau.

2.15 Amlinellir rhagor o fanylion ynghylch sut i adnabod cymharydd mewn achosion o wahaniaethu uniongyrchol ym Pennod 4.

2.16 Nid yw pobl o dan 18 oed wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail oed ac aflonyddu mewn perthynas ag oed gan ddarparwyr gwasanaethau a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus (a.28(1)(a)).

2.17 Mae pob grŵp oedran, yn cynnwys y rheiny o dan 18 oed, wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail oed ac aflonyddu mewn perthynas ag oed gan gymdeithas.

Anabledd

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

2.18 Dim ond person sy’n diwallu diffiniad y Ddeddf o anabledd sydd â nodwedd warchodedig anabledd (a.6). Pan mae’r Ddeddf yn cyfeirio at bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig mewn perthynas ag anabledd, golyga eu bod yn rhannu yr un anabledd (a.6(3)).

2.19 Dywed y Ddeddf bod gan berson anabledd os oes ganddynt nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol (a.6(1)). Mae namau corfforol neu feddyliol yn cynnwys namau synhwyraidd megis rhai sy’n effeithio ar olwg neu glyw. Wrth ystyried a oes gan unigolyn nam o’r fath, dylai’r ffocws fod ar y pethau na allant eu gwneud, neu y gallant eu gwneud ond bod hynny’n anodd, yn hytrach nag ar y pethau y gall y person eu gwneud [troednodyn 1]. Mae hi’n anghywir cynnal ymarfer sy’n cydbwyso yr hyn y gall person ei wneud yn erbyn yr hyn na allant ei wneud [troednodyn 2].

2.20 Mae ‘hirdymor’ yn golygu bod y man wedi para, neu ei fod yn debygol o bara, am o leiaf 12 mis neu am weddill bywyd y person a effeithir (At. 1, para 2(1)). Dylai asesu a yw nam yn debygol o bara am o leiaf 12 mis trwy edrych ar y ffeithiau a’r amgylchiadau ar ddyddiad y weithred wahaniaethol honedig [troednodyn 3].

2.21 Caiff nam sy’n cynnwys anffurfio sylweddol ei drin fel nam sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar allu’r person i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol.

2.22 Golyga sylweddol mwy na mân neu ddibwys (a.212(1)). Os nad yw effaith niweidiol nam yn fân neu ddibwys, yna mae’n rhaid ei drin fel sylweddol [troednodyn 4].

2.23 Mae namau ‘cudd’ yn anableddau nad ydynt yn amlwg yn syth, megis cyflyrau iechyd meddwl, diabetes ac epilepsi. Bydd pobl â namau cudd wedi eu gwarchod lle byddant yn diwallu’r diffiniad yn y Ddeddf.

Enghraifft

2.24 Mae gan ddyn amrywiol symptomau syndrom blinder cronig, sy’n cynnwys blinder eithafol, diffyg symudedd ac anhunedd. Bellach mae angen cymorth arno gyda thasgau megis coginio, smwddio a siopa. Os yw ei symptomau wedi para neu’n debygol o bara am o leiaf 12 mis, neu am weddill ei fywyd, yna gallai ei gyflwr ddiwallu’r diffiniad yn y Ddeddf.

Enghraifft

2.25 Mae hi’n profi cyfnodau o deimlo’n boeth, cwsg gwael, blinder, gorbryder a phroblemau gyda’r cof a chanolbwyntio. O ganlyniad, nid oes modd iddi wneud ymarfer corff fel y gallai cynt. Mae hi’n arafach wrth ddarllen ac ysgrifennu, yn bell ei meddwl pan yn cyflawni tasgau neu’n rhan o sgwrs, ac yn ei chael yn anodd cofio pethau megis rhif plât cofrestru ei char. Os yw ei symptomau wedi para neu’n debygol o bara am o leiaf 12 mis, neu am weddill ei bywyd, yna gallai ei chyflwr ddiwallu’r diffiniad yn y Ddeddf.

2.26 Os yw nam yn debygol o gael effaith niweidiol sylweddol ar allu person i gyflawni eu gweithgareddau bob dydd arferol, oni bai am fesurau a gymerir i’w drin neu ei gywiro, yna dylid ei drin fel pe bai’n cael yr effaith hon (At. 1, para 5). Nid yw hyn yn cynnwys y defnydd o sbectol neu lensys cyffwrdd.

Enghraifft

2.27 Mae dyn yn profi gorbryder ac iselder sydd gyfystyr ag anabledd o dan y Ddeddf. Caiff ei bresgripsiynu â gwrth-iselyddion a chwnsela sy’n lliniaru ei symptomau. Heb y feddyginiaeth a chwnsela, byddai ei orbryder a’i iselder yn dychwelyd. Byddai ei orbryder a’i iselder yn parhau i gael eu trin fel pe baent yn cael effaith niweidiol sylweddol ar ei allu i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol oherwydd byddai’n debygol o gael yr effaith honno heb ei driniaeth barhaus.

2.28 Lle bydd nam yn cael effaith niweidiol sylweddol ar allu person i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol, gall ddiwallu’r diffiniad yn y Ddeddf hyd yn oed os oes ganddynt strategaeth ymdopi sy’n cynnwys osgoi’r gweithgaredd honno [troednodyn 5]. Pe byddai strategaeth ymdopi yn torri i lawr mewn rhai amgylchiadau, megis pan fydd person o dan straen, mae hyn yn berthnasol pan yn ystyried effeithiau’r nam [troednodyn 6].

2.29 Mae canser, haint HIV a sglerosis ymledol yn cael eu hystyried yn anableddau o dan y Ddeddf o bwynt y diagnosis (At. 1, para 6). Mewn rhai amgylchiadau, mae pobl sydd â nam bychan yn cael eu trin yn awtomatig o dan y Ddeddf fel pe baent yn anabl (Deddf Cydraddoldeb 2010 (Anabledd) Rheoliadau 2010/2128 Rh. 7).

2.30 Bydd cyflyrau cynyddol a’r rhai ag effeithiau cyfnodol a mynych gyfystyr ag anableddau mewn amgylchiadau penodol, hyd yn oed os nad yw’r nam yn cael effaith niweidiol sylweddol ar allu person i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol ar hyn o bryd (At. 1 para 2(2) ac 8).

2.31 Nid yw cyflyrau penodol yn cael eu gweld fel anableddau o dan y Ddeddf (Deddf Cydraddoldeb 2010 (Anabledd) Rheoliadau 2010/2128 Rh. 3 a 4). Y cyflyrau hyn yw:

  • caethiwed i, neu ddibyniaeth ar, alcohol, nicotin, neu unrhyw sylwedd arall, oni bai lle daeth caethiwed yn sgil presgripsiynu neu driniaeth meddygol  
  • rhinitis alergol tymhorol megis clefyd y gwair, oni bai lle bo’n gwaethygu cyflwr arall
  • tueddiad i gynnau tanau, dwyn neu gam-drin person arall yn gorfforol neu yn rhywiol
  • arddangosiaeth
  • voyeuriaeth

2.32 Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd gan berson nodwedd warchodedig anabledd os ydynt wedi cael anabledd yn y gorffennol, hyd yn oed os nad yw’r anabledd ganddynt bellach, oni bai mewn perthynas â Rhan 12 (trafnidiaeth) ac adran 190 (gwelliannau i anhedd-dai) (a.6(4)).

2.33 Caiff pobl nad ydynt yn anabl eu gwarchod rhag gwahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd dim ond pan ystyrir bod ganddynt anabledd neu os oes ganddynt gysylltiad â pherson anabl (darllener paragraffau 4.48 i 4.52). Mewn rhai amgylchiadau gallai person nad yw’n anabl gael ei gwarchod os ydynt yn profi aflonyddu (darllener Pennod 8) neu weithred anghyfreithlon arall megis erledigaeth (darllener Pennod 9).

2.34 I gael dealltwriaeth lawnach o’r cysyniad o anabledd o dan y Ddeddf, dylid cyfeirio at Atodiad y Cod hwn.                               

Ailbennu rhywedd

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

2.35 Mae’r Ddeddf yn diffinio ailbennu rhywedd fel nodwedd warchodedig (a.7(1)). Mae gan bobl sy’n bwriadu mynd trwy, sydd yn mynd trwy neu sydd wedi mynd trwy broses (neu ran o broses) i ailbennu eu rhywedd trwy newid priodweddau ffisiolegol neu briodweddau rhyw eraill nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd.

2.36 At ddiben y Cod hwn, mae cyfeiriad at berson traws yn gyfeiriad at berson sydd â nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd (a.7(2)).

2.37 Mae’r Ddeddf yn defnyddio’r term ‘trawsrywiol’ ar gyfer unigolion sydd â nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd. Rydym yn cydnabod bod rhai pobl yn ystyried bod y term hwn wedi dyddio, felly rydym wedi defnyddio’r term ‘traws’ i gyfeirio at berson sydd â nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd. Mae hyn ond yn cyfeirio at bersonau sy’n disgyn o fewn diffiniad y Ddeddf o ailbennu rhywedd, nid yw’n cynnwys personau a allai uniaethu fel person traws neu drawsrhyweddol ond sydd y tu allan i’r diffiniad hwn.

2.38 Mae person traws wedi ei warchod rhag gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd ar unrhyw gyfnod yn ystod eu proses drawsnewid, o fynegi bwriad i ailbennu rhyw, mynd trwy broses o ailbennu, i fod wedi cwblhau’r broses. Nid oes angen i berson traws fod wedi mynd trwy driniaeth neu lawdriniaeth feddygol i gael eu gwarchod. Nid oes gwahaniaeth chwaith a yw person traws wedi gwneud cais am, neu wedi derbyn, Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC), sef y ddogfen sy’n cadarnhau newid rhyw cyfreithiol person.

Mae’r Ddeddf yn gwarchod pobl rhag erledigaeth pan fyddant wedi gwneud gweithred warchodedig. Mae’r amddiffyniad hwn yn berthnasol waeth beth fo’u nodwedd warchodedig. Darllener Pennod 9 am ragor o wybodaeth am erledigaeth a gweithredoedd gwarchodedig.

Enghraifft

2.39 Mae gan berson a gafodd eu cofrestru fel menyw adeg eu genedigaeth ac sydd wedi penderfynu treulio gweddill ei fywyd fel dyn nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd.

Enghraifft

2.40 Mae gan berson a gafodd eu cofrestru’n wryw adeg eu genedigaeth ac sydd wedi bod yn byw fel menyw am beth amser ac sydd wedi derbyn Tystysgrif Ailbennu Rhywedd nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd.

2.41 Nid oes isafswm oed ar gyfer nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd sy’n golygu bod plant a phobl ifanc wedi eu gwarchod os ydynt yn bwriadu mynd trwy, neu wedi mynd trwy broses o ailbennu rhywedd.

2.42 Bydd pobl sydd â hunaniaethau anneuaidd neu ryweddhylifol ond wedi eu gwarchod os ydynt yn diwallu’r diffiniad o ailbennu rhywedd a ddiffinnir yn y Ddeddf. Gallent gael eu gwarchod hefyd yn erbyn gwahaniaethu ar sail canfyddiad (darllener paragraff 4.51 a pharagraff 4.52).  

Enghraifft

2.43 Mae person yn hysbysu eu practis meddyg teulu eu bod yn ‘rhyweddhylifol’ tra eu bod yn trawsnewid o un rhyw i’r llall ac ar rai dyddiau byddant yn uniaethu fel menyw ac ar ddyddiau eraill fel gwryw. Mae’r derbynnydd yn y practis yn dechrau trin yr unigolyn yn amhleserus, er enghraifft trwy wneud sylwadau sy’n cyfeirio at yr unigolyn fel ‘peth’ma’. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail ailbennu rhywedd. Mae’r person yn debygol o gael eu gwarchod oherwydd eu bod wedi mabwysiadau hunaniaeth ‘rhyweddhylifol’ fel rhan o broses o ailbennu eu rhywedd.

2.44 Bydd person sy’n uniaethu mewn modd nad yw’n cydymffurfio â rhywedd, megis ‘trawswisgo’, yn cael eu gwarchod pan fyddant yn gwneud hynny fel rhan o broses o ailbennu eu rhywedd. Nid yw’r Ddeddf yn diffinio’r hyn a olygir gan ailbennu rhywedd. Nid oes rhaid iddi fod yn broses feddygol – er y bydd rhai pobl yn cymryd camau meddygol neu lawdriniaethol – ond mae’n debygol o gynnwys newidiadau mwy parhaol, o leiaf, megis newid rhagenwau a gwisgo ac uniaethu yn gyson fel person o’r rhyw arall. Nid oes gan berson sy’n uniaethu mewn modd nad yw’n cydymffurfio â rhywedd am reswm arall nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd. Fodd bynnag, gallent gael eu gwarchod rhag aflonyddu, a gwahaniaethu ar sail canfyddiad (darllener paragraff 4.51 a pharagraff 4.52).   

Enghraifft

2.45 Mae grŵp o ddynion sydd wedi eu gwisgo mewn dillad menywod ar gyfer parti stag yn cael eu gwrthod rhag cael mynediad i glwb nos sydd â chod gwisg. Mae’n annhebygol bod hyn yn wahaniaethu ar sail nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd.

2.46 Pan fydd gan unigolyn ddysfforia rhywedd a bod y cyflwr yn cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol, byddant hefyd wedi eu gwarchod o dan ddarpariaethau gwahaniaethu ar sail anabledd y Ddeddf (darllener Pennod 6 a Phennod 7).                             

Tystysgrifau Cydnabod Rhywedd

2.47 Mae Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 (GRA) yn nodi, lle bod gan berson GRC, bod eu rhyw gyfreithiol yn dod yr un fath â’u rhywedd a gafaelwyd a gallant gael tystysgrif geni newydd sy’n adlewyrchu’r rhyw gyfreithiol hon. Cyfeirier ar y GRA am fanylion llawn o’r meini prawf ar gyfer caffael GRC a’i effaith gyfreithiol.

Nid oes angen GRC ar berson traws i gael eu gwarchod rhag gwahaniaethu oherwydd ailbennu rhywedd.

2.48 Nid yw’r GRA na’r Ddeddf yn gwahardd yn uniongyrchol gofyn am brawf o ryw rhywun adeg eu geni nac am brawf o’u rhyw gyfreithiol. Fodd bynnag, gallai datgelu’r wybodaeth honno o hynny ymlaen fod yn drosedd mewn rhai amgylchiadau. Dylai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ystyried hawliau unigolion i breifatrwydd pan yn ystyried a yw’n rhesymol ac angenrheidiol i ofyn am dystiolaeth o hawl gyfreithiol neu ryw adeg geni ac ni ddylid gofyn am yr wybodaeth hon fel mater o drefn oni bai ei bod yn angenrheidiol at ddiben penodol. Pan fydd prawf ddogfennol o ryw gyfreithiol yn ofynnol, dylai tystysgrif geni person (ac os oes angen dull adnabod ffotograffig i gyd-fynd â hi) fod yn gadarnhad ddigonol.

Darllener hefyd Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU sy’n ymdrin â phrosesu data personol.    

Beichiogrwydd a Mamolaeth

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

2.49 Mae’r Ddeddf yn rhestru beichiogrwydd a mamolaeth fel nodweddion gwarchodedig (a.4). Ystyrir gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth ym mharagraffau 4.53 i 4.72.

Hil

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

2.50 Mae’r Ddeddf yn diffinio ‘hil’ i gynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiadau ethnig neu genedlaethol (a.9(1)).

2.51 Mae gan berson nodwedd warchodedig hil os ydynt yn disgyn o fewn grŵp hil penodol (a.9(2)). Gall grŵp hil gynnwys dau neu ragor o grwpiau hil mwy pendant hefyd. Darllener paragraffau 2.61 i 2.64 i gael ystyr ‘grŵp hil’. 

Cenedligrwydd

2.52 Cenedligrwydd (neu ddinasyddiaeth) yw’r berthynas gyfreithiol benodol rhwng person a gwladwriaeth trwy enedigaeth neu ddinasyddio (a.9(1)(b)). Mae’n wahanol i darddiadau cenedlaethol (darllener paragraffau 2.58 i 2.60).

Tarddiadau ethnig

2.53 Mae gan bawb darddiad ethnig, ond bydd darpariaethau’r Ddeddf ond yn berthnasol pan fydd person yn perthyn i ‘grŵp ethnig’ fel diffinnir gan y llysoedd (a.9(1)(c)). Golyga hyn fod yn rhaid i berson berthyn i grŵp ethnig sy’n ei ystyried ei hun ac sy’n cael ei ystyried gan eraill fel cymuned wahanol ac ar wahân oherwydd nodweddion penodol. Bydd y nodweddion hyn fel arfer yn gosod y grŵp ar wahân i’r gymuned o’u cwmpas.

2.54 Mae dwy nodwedd hanfodol mae’r llysoedd wedi sefydlu y mae’n rhaid i grŵp ethnig eu cael: hanes hir ar y cyd a’i draddodiad diwylliannol ei hun [troednodyn 7]. Yn ogystal, gall grŵp ethnig fod ag un neu ragor o’r nodweddion canlynol:

  • iaith gyffredin
  • llenyddiaeth gyffredin
  • crefydd gyffredin
  • tarddiad daearyddol cyffredin
  • bod yn grŵp lleiafrifol neu wedi’i ormesu

2.55 Gallai grŵp ethnig neu grŵp cenedlaethol gynnwys aelodau sy’n newydd i’r grŵp, er enghraifft, person sy’n priodi i mewn i’r grŵp. Mae hi hefyd yn bosibl i adael grŵp ethnig.

2.56 Mae’r llysoedd wedi canfod bod y canlynol yn grwpiau ethnig gwarchodedig:

  • Sikhiaid
  • Pobl Iddewig
  • Sipsiwn Romani a Roma Ewropeaidd
  • Teithwyr Gwyddelig
  • Sipsiwn / Teithwyr Albanaidd

Nid yn hon yn rhestr gyflawn o’r grwpiau ethnig sy’n debygol o gael eu gwarchod. 

2.57 Mae’r llysoedd hefyd wedi cadarnhau bod ‘tarddiadau ethnig’ yn derm eang a hyblyg sy’n gallu cynnwys dosbarth person [troednodyn 8].

Mae dosbarth yn ffurf o hunaniaeth a ddefnyddir fel sail i wahaniaethu cymdeithasol. Fel arfer ystyrir ei fod yn cael ei gaffael adeg geni ac yn cael ei gynnal gan fewnbriodas (lle cyfyngir priodas i unigolion o’r un dosbarth).

Tarddiadau cenedlaethol

2.58 Mae’n rhaid bod gan darddiadau cenedlaethol elfennau adnabyddadwy, rhai hanesyddol a daearyddol, sydd o leiaf ar un adeg yn mynegi bodolaeth neu fodolaeth flaenorol cenedl (a.9(1)(c)). Er enghraifft, gan nad oedd Lloegr a’r Alban ar un adeg yn rhan o Brydain Fawr na’r Deyrnas Unedig mae gan y Saeson a’r Albanwyr darddiadau cenedlaethol ar wahân. Gall tarddiadau cenedlaethol gynnwys tarddiadau mewn cenedl nad yw’n bodoli mwyach (er enghraifft, Tsiecoslofacia) neu mewn ‘cenedl’ nad oedd byth yn genedl wladwriaeth yn yr ystyr modern.

2.59 Mae tarddiad cenedlaethol yn wahanol i genedligrwydd. Er enghraifft, gall pobl o darddiad cenedlaethol Tsieineaidd fod yn ddinasyddion Tsieina, ond mae nifer yn ddinasyddion gwledydd eraill.

2.60 Nid yw tarddiad cenedlaethol person yn rhywbeth y gellir ei newid, er y gall tarddiad cenedlaethol newid trwy’r cenedlaethau.

Ystyr ‘Grŵp Hil’

2.61 Mae grŵp hil yn grŵp o bobl sy’n meddu ar neu’n rhannu lliw, cenedligrwydd neu darddiadau ethnig neu genedlaethol (a.9(3)). Er enghraifft, gallai grŵp hil fod yn bobl ‘Prydeinig’. Mae pob grŵp hil wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ac aflonyddu anghyfreithlon o dan y Ddeddf.

2.62 Gall person ddisgyn i fwy nag un grŵp hil. Er enghraifft, gall person ‘Nigeraidd’ gael ei ddiffinio yn ôl lliw, cenedligrwydd neu darddiadau ethnig neu genedlaethol.

2.63 Gall grŵp hil gynnwys ddau neu ragor o grwpiau hil gwahanol (a.9(4)). Er enghraifft, gallai grŵp hil fod yn ‘Brydeinwyr du’ a fyddai’n cwmpasu’r bobl hynny sy’n ddu ac yn ddinasyddion Prydeinig. Gallai grŵp hil arall fod yn ‘De Asiaidd’ a allai gynnwys Indiaid, Pacistaniaid, Bangladeshiaid a Sri Lankiaid.

2.64 Gellir diffinio grwpiau hil yn ôl eithriadau hefyd. Er enghraifft, mae’r llysoedd wedi derbyn bod ‘dinasyddion nad ydynt o’r DU’ yn ddosbarth o bobl sy’n rhannu nodwedd hil.

Crefydd neu gred

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

2.65 Mae nodwedd warchodedig crefydd neu gred yn cynnwys unrhyw grefydd ac unrhyw gred grefyddol neu athronyddol. Mae hefyd yn cynnwys diffyg unrhyw grefydd neu gred o’r fath (a.10(1) a (2)).

2.66 Er enghraifft, caiff Cristnogion eu gwarchod rhag gwahaniaethu oherwydd eu Cristnogaeth a chaiff pobl nad ydynt yn Gristnogion eu gwarchod rhag gwahaniaethu oherwydd nad ydynt yn Gristnogion, heb ystyried unrhyw grefydd neu gred arall a allai fod ganddynt neu ddiffyg un.

2.67 Mae ystyr crefydd a chred yn y Ddeddf yn eang ac yn gyson ag Erthygl 9 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (sy’n sicrhau rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd).

Ystyr crefydd

2.68 Mae ‘crefydd’ yn golygu unrhyw grefydd ac yn cynnwys diffyg crefydd (a.10(1)). Mae’r term ‘crefydd’ yn cynnwys y crefyddau a adwaenir fel y rhai mwyaf cyffredin yn y DU megis y ffydd Baha’i, Bwdhaeth, Cristnogaeth, Hindwaeth, Islam, Jainiaeth, Iddewiaeth, Rastaffariaeth, Sikhiaeth a Zoroastriaeth. Lle’r llysoedd yw pennu yr hyn sy’n gwneud crefydd.

2.69 Nid oes angen i grefydd fod yn brif ffrwd nac yn adnabyddus i ennyn amddiffyniad fel crefydd. Fodd bynnag, mae’n rhaid fod ganddi strwythur a system gred glir. Gallai enwadau neu sectau o fewn crefyddau, megis Methodistiaid o fewn Cristnogaeth neu Swnnïaid o fewn Islam, gael eu hystyried yn grefydd at ddiben y Ddeddf.

Ystyr cred

2.70 Mae cred yn golygu unrhyw gred grefyddol neu athronyddol ac yn cynnwys diffyg cred (a.10(2)).

2.71 Mae ‘cred grefyddol’ yn mynd y tu hwnt i gredoau ynglŷn ag ymglymiad i grefydd neu ei erthyglau ffydd canolog a gall amrywio o berson i berson o fewn yr un grefydd.

2.72 Gall cred nad yw’n gred grefyddol fod yn gred athronyddol. Mae enghreifftiau o gredoau athronyddol yn cynnwys Dyneiddiaeth, Anffyddiaeth a Feganiaeth Foesegol.

2.73 Nid oes angen i gred gynnwys ffydd nac addoli Duw neu Dduwiau ond rhaid iddo effeithio ar y modd mae person yn byw ei fywyd neu’n gweld y byd.

2.74 Er mwyn i gred athronyddol gael ei gwarchod o dan y Ddeddf:

  • rhaid iddi gael ei chynnal go iawn
  • rhaid iddi fod yn gred, ac nid yn farn neu safbwynt sy’n seiliedig ar yr wybodaeth gyfredol sydd ar gael
  • rhaid iddi fod yn gred ynglŷn ag agwedd bwysig a sylweddol o fywyd ac ymddygiad dynol
  • rhaid iddi ennyn lefel benodol o argyhoeddiad, difrifoldeb, cydlyniad a phwysigrwydd
  • rhaid iddi fod yn deilwng o barch mewn cymdeithas ddemocrataidd, heb fod yn anghydnaws ag urddas dynol a heb wrthdaro â hawliau sylfaenol pobl eraill

2.75 Mae’r trothwy er mwyn i gred gael ei hystyried yn deilwng o barch mewn cymdeithas ddemocrataidd yn gymharol isel. Yr unig reswm na fyddai’r gred yn cael ei gwarchod o dan y Ddeddf yw pe byddai’n golygu tramgwyddo difrifol o hawliau pobl eraill, sydd gyfystyr â difrodi’r hawliau hynny [troednodyn 9].

Enghraifft

2.76 Mae person yn credu mewn athroniaeth o ragoriaeth hil i grŵp hil penodol. Mae’r gred hon yn ganolog i’r penderfyniadau pwysig yn eu bywyd. Nid yw hyn yn cyd-fynd ag urddas dynol ac mae’n gwrthdaro â hawliau sylfaenol pobl eraill. O ganlyniad ni fyddai’n golygu ‘cred’ at ddiben y Ddeddf.

Amlygu crefydd neu gred

2.77 Tra bod gan bobl hawl gyfangwbl i ddal crefydd neu gred o dan Erthygl 9 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae amlygu’r grefydd neu’r gred honno yn hawl cymwys a allai fod yn gyfyngedig mewn amgylchiadau penodol. Er enghraifft, gellid bod angen ei chydbwyso yn erbyn hawliau eraill y Confensiwn megis yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol (Erthygl 8) a’r hawl i ryddid mynegiant (Erthygl 10).

2.78 Gallai amlygu crefydd neu gred gynnwys:

  • trin dyddiau penodol fel dyddiau addoli neu orffwys
  • dilyn cod gwis penodol
  • dilyn deiet benodol                
  • mynegi safbwyntiau sy’n feirniadol o rywedd ar-lein
  • cynnal neu osgoi arferion penodol

Gallai gosod cyfyngiadau ar hawl person i amlygu eu crefydd neu eu cred fod gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon.

Enghraifft

2.79 Mae gemydd yn gwrthod gadael unrhyw un â gorchudd wyneb i mewn i’w siop. Byddai hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol yn erbyn menywod Mwslimaidd sy’n gwisgo’r burqa, oni bai bod modd cyfiawnhau’r polisi yn wrthrychol.

2.80 Nid oes rhaid i berson brofi bod amlygu eu crefydd neu gred yn greiddiol i’w crefydd neu gred athronyddol. Gallai fod yn fodd o fynegi eu hymglymiad i’w ffydd grefyddol. Fodd bynnag, rhaid bod cysylltiad digon agos ac uniongyrchol rhwng yr amlygu a’r gred sylfaenol [troednodyn 10].

Rhyw

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

2.81 Mae rhyw yn nodwedd warchodedig ac mae’n cyfeirio at wryw neu fenyw o unrhyw oed. Mewn perthynas â grŵp o bobl mae’n cyfeirio at naill ai dynion a / neu fechgyn, neu fenywod a / neu ferched (a.11(a) a (b) a a.212(1)).

2.82 Cymharydd at ddiben dangos gwahaniaethu ar sail rhyw fydd person o’r rhyw arall. Nid yw rhyw yn cynnwys ailbennu rhywedd (darllener paragraffau 2.35 i 2.48) na chyfeiriadaeth rywiol (darllener paragraffau 2.84 i 2.88).

2.83 Mae darpariaethau penodol sy’n berthnasol lle caiff menyw ei thrin oherwydd ei beichiogrwydd a’i mamolaeth, neu oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron (darllener paragraffau 4.53 i 4.74) (a.13(6)(a) a a.13(7)).

Cyfeiriadaeth rywiol

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

2.84 Mae cyfeiriadaeth rywiol yn nodwedd warchodedig (a.12(1)). Mae’n golygu cyfeiriadaeth rywiol person tuag at:

  • bersonau o’r un rhyw (er enghraifft, mae’r person yn ddyn hoyw)
  • person o’r rhyw arall (hynny yw, mae’r person yn heterorywiol) neu
  • bersonau o’r naill ryw neu’r llall (er enghraifft, mae’r person yn ddeurywiol)

2.85 Mae cyfeiriadaeth rywiol yn ymwneud â sut mae pobl yn teimlo yn ogystal â’u gweithredoedd.

2.86 Mae gwahaniaethu ar sail cyfeiriadaeth rywiol yn cynnwys gwahaniaethu oherwydd bod rhywun o gyfeiriadaeth rywiol benodol, ac mae hefyd yn cwmpasu gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag amlygu’r gyfeiriadaeth rywiol honno. Gallai’r rhain gynnwys edrychiad rhywun, y llefydd maen nhw’n ymweld â hwy neu’r bobl maen nhw’n ymwneud â hwy.

2.87 Pan fydd y Ddeddf (a.12(2)) yn cyfeirio at nodwedd warchodedig cyfeiriadaeth rywiol, mae’n golygu’r canlynol:

  • mae cyfeiriadaeth at berson sydd â nodwedd warchodedig benodol yn gyfeiriadaeth at berson sydd o gyfeiriadaeth rywiol benodol
  • mae cyfeiriadaeth at bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn gyfeiriadaeth at bobl sydd o’r un gyfeiriadaeth rywiol

2.88 Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd warchodedig ar wahân ac nid yw’n gysylltiedig â chyfeiriadaeth rywiol, er eu bod yn cael eu grwpio gyda’i gilydd yn aml (er enghraifft o dan yr acronym ‘pobl LHDTC+’) (darllener paragraffau 2.35).

Cyfyngiadau ar amddiffyniadau o dan y Ddeddf

2.89 Mae’r Ddeddf yn cynnwys sawl eithriad i’r amddiffyniad a ddarperir ganddi rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth wrth ddarparu gwasanaethau, gweithredu swyddogaethau cyhoeddus a gweithredoedd cymdeithasau. Cwmpesir y rhain mewn mannau eraill yn y Cod hwn.

Pennod 2 troednodiadau

  1. Elliott v Cyngor Sir Dorset [2021] IRLR 880
  2. Elliott; Ahmed v Metroline Travel Ltd [2011] 2 WLUK 278
  3. Pob Ateb Cyf v W [2021] EWCA Civ 606
  4. Aderemi v London and South East Railway Limited [2013] ICR 591 yn §14 ac Elliott yn §28
  5. Elliott v Cyngor Sir Dorset [2021] IRLR 880
  6. Elliott v Cyngor Sir Dorset [2021] IRLR 880
  7. Mandla v Dowell Lee [1983] 2 AC 548
  8. Chandhok v Tirkey [2015] ICR 527
  9. Forstater v CGD Ewrop [2021] ICR 1 a Mackereth v DWP [2022] EAT 99
  10. Mba v Maer a Bwrdeisiaid Bwrdeistref Merton yn Llundain [2013] EWCA Civ 1562 ac Eweida, Chaplin, Ladele & McFarlane v Deyrnas Unedig (2013) rhifau ceisiadau 48420/10, 59842/10, 51671/10 a 36516/1

Diweddariadau tudalennau