Arweiniad

Pennod 8 - Aflonyddu

Wedi ei gyhoeddi: 2 Hydref 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2024

Dyma ein Cod ymarfer wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar ein diweddariadau, ac rydym angen eich adborth.

Ewch i'n tudalen ymgynghoriad Cod Ymarfer i roi adborth.

Cyflwyniad

8.1 Mae’r bennod hon yn esbonio prawf cyffredinol y Ddeddf ar gyfer aflonyddu. Mae hefyd yn esbonio’r darpariaethau ar aflonyddu mewn perthynas â nodwedd warchodedig berthnasol, y darpariaethau ar aflonyddu rhywiol, a’r darpariaethau ar ymdriniaeth lai ffafriol o bobl sy’n gwrthod neu’n ildio i aflonyddu.

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

8.2 Mae’r Ddeddf yn gwahardd tri math o aflonyddu, sef:

  • aflonyddu mewn perthynas â ‘nodwedd warchodedig berthnasol’ (a.26(1))
  • aflonyddu rhywiol (a.26(2))
  • ymdriniaeth lai ffafriol o unigolyn oherwydd eu bod yn ildio i neu’n gwrthod aflonyddu mewn perthynas â rhyw neu ailbennu rhywedd (a.26(3))

Esbonnir y rhain mewn manylder yn y bennod hon.

8.3 Y ‘nodweddion gwarchodedig perthnasol’ ar gyfer y Cod hwn (a.26(5)) yw:

  • oed
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • hil
  • rhyw

8.4 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd aflonyddu gan ddarparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus o bobl sy’n iau na 18 oed (a.28(1)). Nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol i gymdeithasau: mae’r sawl sydd o dan 18 wedi eu gwarchod rhag aflonyddu yn y cyd-destun hwn.

8.5 Nid yw beichiogrwydd a mamolaeth wedi eu gwarchod yn uniongyrchol o dan y darpariaethau aflonyddu (a.26(5)). Fodd bynnag, byddai aflonyddu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth gyfystyr ag aflonyddu sy’n gysylltiedig â rhyw.

8.6 Nid yw’r gwaharddiad ar aflonyddu fel disgrifir isod yn gwarchod unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig cyfeiriadaeth rywiol neu grefydd neu gred (a.29(8), a.103(2)). Fodd bynnag, lle bo ymddygiad digroeso mewn perthynas ag unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig hyn yn arwain at berson yn dioddef niwed, mae’n bosibl y gallai’r person hwnnw ddwyn honiad o wahaniaethu uniongyrchol (a.212(5)) (darllener Pennod 4).

Aflonyddu mewn perthynas â nodwedd warchodedig

8.7 Mae’r math hwn o aflonyddu yn digwydd pan fydd darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn ymgymryd ag ymddygiad digroeso mewn perthynas â nodwedd warchodedig berthnasol (a.26(1)(a)), ac sydd â’r pwrpas neu’r effaith o:

  • dramgwyddo urddas unigolyn, neu
  • creu amgylchedd fygythiol, elyniaethus, ddiraddiol, waradwyddus neu sarhaus i unigolyn (a.26(1)(b))

8.8 Ymddygiad a all gael un o’r effeithiau hyn yw aflonyddu hyd yn oed os na fwriadwyd yr effaith. Am ragor o wybodaeth darllener am ‘bwrpas ac effaith’ ym mharagraffau 8.16 i 8.22.

Enghraifft

8.9 Mae tafarnwr yn cyfeirio’n barhaus at ddyn hoyw gan ddefnyddio sarhad homoffobig pan yn gweini arno mewn tafarn. 

Mae’n debygol y byddai’r dyn yn llwyddo mewn honiad o aflonyddu pe byddai modd iddo berswadio’r llys bod gan yr ymddygiad y pwrpas neu’r effaith o dramgwyddo ei urddas neu o greu amgylchedd fygythiol, elyniaethus, ddiraddiol, waradwyddus neu sarhaus iddo. Wrth bennu pa un ai a gafodd yr ymddygiad effaith o’r fath, byddai’n angenrheidiol ystyried canfyddiad y cwsmer, pa un ai yw’n rhesymol bod yr ymddygiad yn cael yr effaith honno ac amgylchiadau eraill yr achos.

Ystyr ‘ymddygiad digroeso’

8.10 Mae ymddygiad digroeso yn cwmpasu ystod eang o ymddygiad, yn cynnwys:

  • geiriau llafar neu ysgrifenedig neu gamdriniaeth
  • ‘cellwair’ (siarad pryfoclyd neu gellweirus a fwriadwyd i fod yn ddoniol neu gyfeillgar)
  • delweddaeth
  • graffiti
  • ystumiau corfforol
  • mynegiant wyneb
  • dynwared
  • jôcs
  • castiau
  • gweithredoedd sy’n effeithio ar amgylchoedd person neu ymddygiad corfforol arall

8.11 Gallai’r ymddygiad fod wyneb yn wyneb, dros y ffôn, mewn negeseuon testun neu ar-lein, er enghraifft trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu sgwrsio ar-lein. Mae ymddygiad digroeso hefyd yn cynnwys anweithgarwch ar ran darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas, os yw’r anweithgarwch honno mewn perthynas â nodwedd warchodedig [troednodyn 62].

Enghraifft

8.12 Mae rheolwr canolfan hamdden yn sefyll wrth y dderbynfa gyda chydweithiwr. Mae un o ddefnyddwyr y gampfa yn cyrraedd, ac mae’r cydweithiwr yn gwneud hwyl o’i wallt affro o flaen defnyddwyr eraill y gampfa. Mae defnyddiwr y gampfa yn ymddangos wedi cynhyrfu ac yn cerdded i ffwrdd. Dydy’r rheolwr ddim yn dweud unrhyw beth oherwydd eu bod yn ystyried mai cellwair oedd y sylwad.

Gallai methiant y rheolwr i wneud unrhyw beth ynglŷn â sylwadau eu cydweithiwr fod gyfystyr ag aflonyddu. Gallai steiliau gwallt a fabwysiedir gan grwpiau ethnig penodol fod yn gysylltiedig â hil. Gallai anweithgarwch y rheolwr fod wedi cyfrannu at dramgwyddo urddas defnyddiwr y gampfa neu greu amgylchedd fygythiol, elyniaethus, ddiraddiol, waradwyddus neu sarhaus iddynt.

8.13 Mae’r gair digroeso yn ei hanfod yn golygu yr un fath â ‘diwahoddiad’ a golyga ei fod yn ‘ddigroeso gan y derbynnydd’. Dylai gael ei ystyried o’u safbwynt goddrychol nhw. Fodd bynnag, gallai llys ystyried ffactorau allanol wrth benderfynu pa un ai yw’n derbyn bod yr ymddygiad, yn wrthrychol, yn ddigroeso.

8.14 Nid yw’n angenrheidiol bod unrhyw wrthwynebiad wedi ei wneud i’r ymddygiad er mwyn iddo fod yn ‘ddigroeso’. Fodd bynnag, pan yn pennu pa un ai yw ymddygiad yn ddigroeso gallai llys ystyried a fu gwrthwynebiad (ymysg pethau eraill). Gall digwyddiad untro difrifol fod gyfystyr ag aflonyddu.

Enghraifft

8.15 Gwnaeth dau weithiwr siop gwrywaidd sylwadau ar faint bronnau siopwr benywaidd. Gallai hyn fod gyfystyr ag aflonyddu. Gallai sylwadau o’r fath fod yn amlwg ddigroeso, ac ni fyddai rhaid iddi wrthwynebu iddo cyn iddo gael ei bennu yn aflonyddu anghyfreithiol.

‘Pwrpas neu effaith’

8.16 Er gwaethaf unrhyw bwrpas a fwriadwyd, ar gyfer pob un o’r tri math o aflonyddu a amlinellir ym mharagraff 8.2, os yw gwneud yr unigolyn yn destun yr ymddygiad digroeso yn cael yr effaith o dramgwyddo urddas yr unigolyn, neu greu amgylchedd fygythiol, elyniaethus, ddiraddiol, waradwyddus neu sarhaus iddynt, bydd hyn yn ddi.on er mwyn sefydlu aflonyddu anghyfreithlon. Mae’r pwrpas a fwriadwyd neu’r cymhellion y tu ôl i’r ymddygiad yn amherthnasol.

Enghraifft

8.17 Gallai jôcs hiliol ymysg staff ysbyty tra ar ddyletswydd dramgwyddo urddas, neu greu amgylchedd fygythiol. elyniaethus, ddiraddiol, waradwyddus neu sarhaus, i glaf neu ymwelydd â’r ysbyty sy’n digwydd clywed y sylwadau hyn, er gwaetha’r ffaith nad oedd yr ymddygiad hwn wedi ei gyfeirio at y claf neu’r ymwelydd eu hunain.

Enghraifft

8.18 Mewn cyfarfod clwb, mae rheolwr y clwb yn gwneud sylwadau a jôcs bychanol am fenywod wrth gynulleidfa gymysg o ddynion a menywod. Nid yw rheolwr y clwb yn bwriadu tramgwyddo neu sarhau unrhyw un yn y gynulleidfa, fodd bynnag gallai hyn fod gyfystyr ag aflonyddu lle bo effaith y jôcs a’r sylwadau yn creu amgylchedd sarhaus neu dramgwyddus i ddyn neu ddynes yn y gynulleidfa.

8.19 Wrth benderfynu a yw ymddygiad yn cael yr effaith o greu unrhyw un o’r amgylchiadau a ddiffinnir ym mharagraff 8.16, rhaid i bwyntiau 1) i 3) isod gael eu hystyried (a.26(4)).

  1. Canfyddiad yr unigolyn (a.26(4)(a)); oedden nhw’n ei weld fel tramgwydd ar eu hawliau neu greu amgylchedd fygythiol (ayyb) iddyn nhw?
    Mae’r rhan hwn o’r prawf yn gwestiwn goddrychol ac yn ddibynnol ar sut mae’r unigolyn yn gweld yr ymddygiad. Os nad yw’r unigolyn yn gweld bod eu hurddas wedi ei dramgwyddo, neu fod amgylchedd wrthwynebus wedi ei chreu, yna ni ddylid canfod bod yr ymddygiad yn cael yr effaith a ddisgrifir ym mharagraff 8.7 [troednodyn 63].
  2. Amgylchiadau eraill yr achos (a.26(4)(b)). Gall amgylchiadau a allai fod yn berthnasol ac sydd angen eu hystyried gynnwys:
    • amgylchiadau personol yr unigolyn sy’n profi’r ymddygiad, er enghraifft, eu hiechyd, yn cynnwys iechyd meddwl, eu galluedd meddyliol, cefndir diwylliannol, hil neu ethnigrwydd, crefydd, cred neu brofiad blaenorol o aflonyddu
    • yr amgylchedd lle digwyddodd yr ymddygiad, er enghraifft, lle bo’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas mewn safle o awdurdod gyda’r unigolyn, neu’n dal unrhyw fath arall o bŵer drostyn nhw
    • pa un bod yr ymddygiad o fewn mudiad neu sefydliad lle ceir perthynas reolaidd a pharhaus rhwng y mudiad a’r sefydliad hwnnw a’r unigolyn, megis ysbyty neu sefydliad gofal preswyl, cartref cymunedol neu garchar
    • pa un ai y bwriadwyd yr ymddygiad i greu tramgwydd. Mae ymddygiad sy’n amlwg wedi ei fwriadu i achosi tramgwydd llawer yn fwy tebygol o gael ei ganfod i fod â’r effaith a ddisgrifir ym mharagraff 8.7 [troednodyn 64]
  3. Pa un ai ei bod yn rhesymol i’r ymddygiad gael yr effaith honno (a.26(4)(c)); mae hwn yn brawf  gwrthrychol.
    Mae llysoedd yn annhebygol o ganfod bod yr ymddygiad digroeso yn cael yr effaith o, er enghraifft, dramgwyddo defnyddiwr gwasanaeth os yw’r llys yn ystyried bod y defnyddiwr gwasanaeth yn orsensitif ac na fyddai person arall a brofodd yr un ymddygiad wedi cael eu tramgwyddo.

8.20 Mae hi’n berthnasol ystyried pa un ai yw’r aflonyddwr honedig yn arfer unrhyw hawliau. Er enghraifft, os ydynt yn mynegi barn mewn perthynas â chred grefyddol neu athronyddol, gallent gael eu gwarchod rhag gwahaniaethu ac aflonyddu oherwydd neu mewn perthynas â’r gred honno. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â nodwedd warchodedig crefydd a chred darllener paragraffau 2.65 i 2.80.

8.21 Mae hefyd yn berthnasol ystyried pa un ai oedd yr aflonyddwr honedig yn arfer unrhyw rai o’u hawliau confensiwn a ddiogelir o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Er enghraifft, bydd angen i hawl yr aflonyddwr honedig i ryddid mynegiant, cydwybod a chrefydd neu ei hawl i ryddid mynegiant gael eu hystyried wrth bwyso a mesur holl amgylchiadau perthnasol yr achos.

8.22 Mae’n ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus hefyd o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 i beidio â gweithredu’n anghydnaws â hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Hyd yn oed lle nad yw’r aflonyddwr honedig yn awdurdod cyhoeddus, mae’n rhaid i’r llys neu dribiwnlys sicrhau ei fod yn dehongli’r Ddeddf yn gydnaws â hawliau’r Confensiwn lle gall wneud hynny (darllener paragraffau 1.16 i 1.18).

‘Mewn perthynas â’

8.23 Mae ystyr eang i ymddygiad digroeso ‘mewn perthynas â’ nodwedd warchodedig berthnasol. Gall gynnwys nifer o sefyllfaoedd, megis y rhai a ddisgrifir ym mharagraffau 8.24 i 8.34.

8.24 Gall aflonyddu yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig unigolyn ei hun.

Enghraifft

8.25 Mae menyw sy’n defnyddio’r offer camfa yn ei chanolfan hamdden leol yn destun sylwadau cyson gan aelodau gwrywaidd o staff megis ‘gwylia beth rwyt ti’n ei ddweud o’i blaen hi, mae’n adeg y mis iddi eto’. Gallai hyn fod gyfystyr ag aflonyddu.

8.26 Mae amddiffyniad rhag aflonyddu hefyd yn berthnasol lle bo person yn gyffredinol ddifrïol ond, mewn perthynas ag unigolyn penodol, mae ffurf yr ymddygiad digroeso yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig yr unigolyn hwnnw.

Enghraifft

8.27 Mae person trin gwallt yn ddigywilydd tuag at ei gwsmeriaid yn aml ond mae’n ystyried ei sylwadau yn gellwair cyfeillgar. Er enghraifft, mae’n aml yn gwneud sylwadau digywilydd am swyddi, pwysau, taldra a mannau geni cwsmeriaid. Mae sylwadau ynglŷn â swyddi, pwysau neu daldra yn annhebygol o fod yn anghyfreithlon oherwydd maen nhw’n annhebygol o fod yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig. Fodd bynnag, gallai sylwad digywilydd ynglŷn â man geni person fod yn gysylltiedig â hil a gallai fod gyfystyr ag aflonyddu os yw cwsmer yn gweld y sylwadau yn fychanol neu dramgwyddus. Nid oes gwahaniaeth bod y person trin gwallt yn ddigywilydd gyda’i holl gwsmeriaid ac nad oedd yn bwriadu achosi tramgwydd i unigolyn penodol.

8.28 Nid oes rhaid i unigolyn feddu ar y nodwedd warchodedig berthnasol eu hunain er mwyn i amddiffyniad rhag aflonyddu godi. Gall hyn ddigwydd mewn nifer o wahanol sefyllfaoedd.

  1. Gall unigolyn fod yn gysylltiedig â rhywun sydd â nodwedd warchodedig.

    Enghraifft

    Mae criw o oedolion ag anawsterau dysgu yn cael pryd o fwyd mewn bwyty ar y cyd â’u gweithwyr cefnogi. Mae rhai o staff y bwyty yn gwneud hwyl am ben y criw ag ystumiau a thrwy eu dynwared yn dawel. Mae’r gweithwyr cefnogi wedi eu cynhyrfu’n arw gan ymddygiad y staff gan iddynt greu amgylchedd ddiraddiol a gwaradwyddus iddyn nhw, yn ogystal ag i’r oedolion maen nhw’n eu cefnogi.

  2. Gall y canfyddiad bod gan unigolyn nodwedd warchodedig benodol fod yn anghywir.

    Enghraifft

    Mae menyw yn ei 50au yn edrych yn hŷn yn sgil salwch blaenorol. Pan wna gais am aelodaeth o’i chlwb cymdeithaso lleol, mae’r ysgrifenydd aelodaeth yn gwneud sylwadau tuag ati megis, ‘Dydy’r clwb hwn ddim yn addas i bensiynwyr’ a ‘Fyddai aelodau ddim yn teimlo’n gyffyrddus â rhywun fel chi yn nigwyddiadau’r clwb’. Mae’r fenyw yn gweld y sylwadau hyn yn hynod waradwyddus ac fe allent fod gyfystyr ag aflonyddu mewn perthynas ag oed – er bod y canfyddiad ei bod hi’n perthyn i grŵp oed hŷn yn anghywir.

  3. Gallai fod yn wybyddus nad oes gan unigolyn nodwedd warchodedig benodol ond serch hynny gallai fod yn destun aflonyddu mewn perthynas â’r nodwedd honno.

    Enghraifft

    Mae aelod o staff mewn siop leol yn cyfeirio at fachgen yn ei arddegau trwy ddefnyddio sarhad hiliol pan ddaw i mewn. Mae’r aelod o staff yn gwybod nad yw’r bachgen yn aelod o’r hil honno, ac mae e’n gweld y galw enwau hyn yn ddim ond jôc. Mae’r bachgen bellach yn casáu mynd i’r siop, yn enwedig gyda’i ffrindiau, oherwydd ei fod yn ofni cael ei sarhau a’i gam-drin yn eiriol.

8.29 Gall amddiffyniad rhag aflonyddu ddeillio pan nad yw ymddygiad digroeso mewn perthynas â nodwedd warchodedig wedi ei gyfeirio at unigolyn penodol, ond at berson arall neu at neb.

Enghraifft

8.30 Mae gweinydd mewn bwyty yn cam-drin cwsmer Du yn eiriol. O ganlyniad i’r cam-drin geiriol, mae cwsmer Gwyn yn teimlo wedi ei dramgwyddo a gallai ddwyn honiad o aflonyddu ar sail hil.

8.31 Mae amddiffyniad rhag aflonyddu yn berthnasol lle nad yw ymddygiad yn agored oherwydd nodwedd warchodedig ond lle bo’n gysylltiedig â hi.

Enghraifft

8.32 Mae menyw Sikh sy’n gwisgo breichled Kara yn cerdded heibio i ddau aelod ifanc o staff sy’n rhoi nwyddau ar silffoedd mewn siop. Maen nhw’n syllu arni wrth iddi gerdded heibio, ac yna’n siarad â’i gilydd gan wneud hwyl o’r ffaith ei bod hi’n gwisgo breichled, o fewn clyw y fenyw Sikh. Mae’r freichled Kara yn gysylltiedig â’i hethnigrwydd Sikh felly gallai hyn fod gyfystyr ag aflonyddu mewn perthynas â hil.

8.33 Mae amddiffyniad rhag aflonyddu yn berthnasol lle nad yw ymddygiad yn agored oherwydd nodwedd warchodedig, ond mae cymhellion yr aflonyddwr yn golygu ei fod mewn perthynas â hi.

Enghraifft

8.34 Mae defnyddiwr llyfrgell gwrywaidd yn cwyno wrth reolwr y llyfrgell bod llyfrgellydd benywaidd wedi gwneud  awgrymiadau rhywiol wrtho. Mae’r rheolwr yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad ffurfiol i’r gŵyn. Nid yw hi’n cymryd y gŵyn o ddifri oherwydd iddi gael ei gwneud gan ddyn. Mae methiant y rheolwr i gynnal ymchwiliad ffurfiol yn gysylltiedig â rhyw y troseddwr a gallai fod gyfystyr ag aflonyddu mewn perthynas â rhyw [troednodyn 65].

Aflonyddu rhywiol

8.35 Mae aflonyddu rhywiol yn digwydd pan fydd person yn ymwneud ag ymddygiad digroeso o natur rywiol, sydd â naill ai’r pwrpas neu effaith a ddisgrifir ym mharagraff 8.7 (a.26)(2)). Esbonnir y cysyniad o ‘ymddygiad digroeso’ ym mharagraffau 8.10 i 8.15.

8.36 Gall ymddygiad o ‘natur rywiol’ gwmpasu ymddygiad geiriol, dieiriau neu gorfforol, yn cynnwys:

  • sylwadau neu gwestiynau rhywiol digroeso
  • awgrymiadau rhywiol
  • syllu neu giledrych
  • cyffwrdd           
  • amneidiadau
  • ymosodiad rhywiol
  • jôcs rhywiol
  • dangos fideos, ffotograffau, darluniau neu ddelweddau rhywiol neu erotig

8.37 Gall aflonyddu rhywiol ddigwydd wyneb yn wyneb, mewn galwadau ffôn, negeseuon testun neu ar-lein, megis ar y cyfryngau cymdeithasol neu sgwrsio ar-lein.

8.38 Gall ymddygiad o natur rywiol ddod gan rywun o’r un rhyw neu’r rhyw arall. Gallai ymddygiad a gafodd ei groesawu yn y gorffennol ddod yn ddigroeso, er enghraifft, lle bu dau berson mewn perthynas rywiol yn y gorffennol, sydd bellach wedi dod i ben.

Enghraifft

8.39 Mae menyw yn mynd i mewn i garej ceir ac yn gweld tri aelod gwrywaidd o staff yn eistedd wrth gyfrifiadur yn gwylio fideo ar y cyfryngau cymdeithasol â menywod bronnoeth ynddo. Mae’r fideo yng ngolwg llawn y cwsmer ac mae staff y garej yn chwerthin ac yn gwneud sylwadau anweddus am y fideo. Gallai hyn greu amgylchedd dramgwyddol, fygythiol neu ddiraddiol i’r cwsmer benywaidd a gallai felly fod gyfystyr ag aflonyddu rhywiol.

Ymdriniaeth lai ffafriol am ymwrthod â neu ildio i ymddygiad digroeso

8.40 Mae’r trydydd math o aflonyddu yn digwydd pan fydd unigolyn yn cael ei drin yn llai ffafriol gan ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas oherwydd bod yr unigolyn hwnnw wedi ildio i neu wrthod ymddygiad digroeso o natur rywiol, neu ymddygiad digroeso mewn perthynas â rhyw neu ailbennu rhywedd, a bod yr ymddygiad digroeso yn creu unrhyw rai o’r amgylchiadau a ddiffinnir ym mharagraff 8.7 iddynt (a.26(3)).

8.41 O dan y math hwn o aflonyddu, gallai yr un person ag sy’n gyfrifol am yr ymddygiad digroeso cychwynnol fod yn gyfrifol hefyd am yr ymdriniaeth anffafriol ddilynol, neu gallai fod yn berson gwahanol (a.26(3)(a)).

Enghraifft

8.42 Mae carcharor benywaidd yn gwrthod awgrymiadau rhywiol a chyffwrdd digroeso gan swyddog carchar gwrywaidd. O ganlyniad mae’r swyddog carchar yn argymell wrth y rheolwr cynorthwyol bod oriau gwaith â thâl y carcharor yn cael eu cwtogi, ac mae’r rheolwr cynorthwyol yn gweithredu ar yr argymhelliad. Gallai hyn fod gyfystyr ag ymdriniaeth lai ffafriol am wrthod ymddygiad digroeso.

Enghraifft

8.43 Mae aelod benywaidd o glwb athletau yn goddef neu yn derbyn jôcs rhywiol aelod arall, er eu bod yn ddigroeso. Mae ysgrifenydd cymdeithasol y clwb yn penderfynu peidio â’i gwahodd hi i ddigwyddiadau cymdeithasol ar ôl ei gweld yn derbyn y jôcs rhywiol. Gallai hyn fod gyfystyr ag ymdriniaeth lai ffafriol am ildio i ymddygiad digroeso.

Amddiffyniad statudol

Atebolrwydd cyflogwyr a phenaduriaid

8.44 Gall cyflogwyr a phenaduriaid (fel darparwyr gwasanaeth, personau sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithasau) osgoi atebolrwydd am aflonyddu a gyflawnir gan eu cyflogeion neu asiantwyr os byddant yn cymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhag digwydd (a.109(4)). Darllener paragraffau 3.40 i 3.42 am ragor o fanylion.

Troednodiadau Pennod 8

  1. Conteh v Parking Partners Ltd [2011] EqLR 332
  2. Pemberton v Inwood [2018] ICR 1291
  3. Pemberton v Inwood [2018] ICR 1291
  4. Uno'r Undeb v Nailard [2018] EWCA Civ 1203

Diweddariadau tudalennau