Arweiniad

Cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau: ymgynghoriad 2024

Wedi ei gyhoeddi: 2 Hydref 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2024

Am y Cod Ymarfer hwn

Mae’r cod hwn yn ymdrin â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth mewn gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, fel y nodir yn Rhan 3 o’r Ddeddf, a gwahaniaethu gan gymdeithasau, fel y nodir yn Rhan 7 o’r Ddeddf. Mae'n cynnwys camau y dylid eu cymryd i sicrhau nad yw'r rhai sy'n darparu gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn gwahaniaethu yn erbyn pobl. Mae’n egluro sut mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gweithio mewn perthynas â’r gweithgareddau hyn ac yn cymhwyso’r cysyniadau cyfreithiol yn y Ddeddf i sefyllfaoedd bob dydd.

Am yr ymgynghoriad

Rydym wedi diweddaru'r cod i adlewyrchu datblygiadau sylweddol mewn deddfwriaeth a chyfraith achosion ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf yn 2011. Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn i gasglu adborth ar y cod wedi'i ddiweddaru.

Rydyn ni eisiau deall:

  • a yw ein dehongliad o'r gyfraith wedi'i fynegi'n glir o dan yr amgylchiadau a nodwyd gennym
  • a ydym wedi dal yr holl gyfraith newydd a'i heffaith gysylltiedig
  • sut y gallwn wneud y cod mor hygyrch a hawdd ei ddeall â phosibl

Gallwch ddefnyddio ein harolwg ar-lein i roi eich adborth. Bydd yr arolwg ar agor rhwng 2 Hydref 2024 tan 5pm ar 3 Ionawr 2025.

Os oes angen i chi ddarllen cwestiynau'r arolwg cyn cwblhau'r arolwg, gallwch lawrlwytho'r cwestiynau.

Mae'r dogfennau hyn er gwybodaeth yn unig. Rhaid i chi gyflwyno eich ymateb i'r ymgynghoriad drwy'r arolwg ar-lein. Os na allwch ddefnyddio’r arolwg ar-lein, neu os oes angen addasiad rhesymol arnoch, gallwch:

Diweddariadau tudalennau