Arweiniad

Pennod 11 - Gwasanaethau a Swyddogaethau Cyhoeddus

Wedi ei gyhoeddi: 2 Hydref 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2024

Dyma ein Cod ymarfer wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar ein diweddariadau, ac rydym angen eich adborth.

Ewch i'n tudalen ymgynghoriad Cod Ymarfer i roi adborth.

Cyflwyniad

11.1 Mae’r bennod hon yn esbonio sut mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (‘y Ddeddf’) yn berthnasol i ddarpariaeth nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau ac i gyflawniad gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n esbonio’r hyn a olygir gan wahaniaethu anghyfreithlon a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn y meysydd hyn. Yn ymarferol, mae’r dyletswyddau o dan y Ddeddf ar bersonau sy’n darparu gwasanaeth ac ar y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yr un fath yn eu hanfod. Mae’r Ddeddf yn cymhwyso’n wahanol i gymdeithasau, ac fe esbonnir hyn ym Mhennod 12.

11.2 Mae’r darpariaethau ar wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus yn berthnasol i bob nodwedd warchodedig heblaw am:

  • priodas a phartneriaeth sifil
  • cyn belled â bod person o dan 18 oed (a.28(1))

Beth yw ystyr gwahaniaethu yn y bennod hon?

11.3 Mae unrhyw gyfeiriad at ‘wahaniaethu’ yn y bennod hon yn gyfeiriad at unrhyw un neu bob un o’r ffurfiau hyn ar wahaniaethu, oni bai y nodir yn wahanol:

  • gwahaniaethu uniongyrchol
  • gwahaniaethu anuniongyrchol
  • gwahaniaethu yn deillio o anabledd
  • gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth
  • methiant i wneud addasiad rhesymol

Gwasanaethau

Beth yw gwasanaeth?

11.4 Darparwr gwasanaethau yw unrhyw un sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau i’r cyhoedd, neu i adran o’r cyhoedd, bed hynny am dâl ai peidio (a.29(1)). Mae gwasanaethau yn cynnwys darpariaeth nwyddau a chyfleusterau (a.31(2)).

11.5 Cwmpesir ystod o wasanaethau gan y Ddeddf, yn cynnwys rhoi mynediad i a’r defnydd o unrhyw le lle caniateir mynediad i aelodau o’r cyhoedd. Ymysg y gwasanaethau a gwmpesir mae’r rhai a ddarperir i’r cyhoedd, neu adran o’r cyhoedd, gan:

  • awdurdodau lleol, adrannau’r llywodraeth a’u hasiantaethau
  • elusennau, sefydliadau gwirfoddol
  • gwestai, bwytai, tafarndai
  • swyddfeydd post, banciau, cymdeithasau adeiladu
  • cyfreithwyr, cyfrifwyr, asiantaethau cynghori
  • sefydliadau telegyfathrebu, cyfleustodau cyhoeddus (megis cyflenwyr nwy, trydan a dŵr)
  • gwasanaethau a ddarperir gan weithredwyr bysys a threnau, gorsafoedd trenau, meysydd awyr
  • parciau cyhoeddus, stadia chwaraeon, canolfannau hamdden
  • theatrau, sinemâu, siopau trin gwallt, siopau, stondinau marchnad, gorsafoedd petrol, busnesau telewerthu
  • ysbytai a chlinigau

Mae’r rhestr uchod yn darparu enghreifftiau yn unig ac nid yw’n cwmpasu yr holl wasanaethau a gwmpesir gan y Ddeddf.

11.6 Cwmpesir gwasanaethau waeth a ydynt wedi eu darparu gan gorff preifat, gwirfoddol neu gyhoeddus. Er enghraifft, bydd darpariaeth gofal meithrinfa a gofal dydd neu gynhaliaeth cartrefi preswyl a chyfleusterau canolfannau hamdden yn ddarostyngedig i’r darpariaethau hyn waeth a ydynt wedi eu darparu gan gorff cyhoeddus neu awdurdod lleol.

11.7 Mae hi’n bwysig cofio mai darpariaeth y gwasanaeth sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf. Mewn nifer o achosion, mae darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mewn rhai achosion, gallai’r ffyrdd hyn fod mor  wahanol i’w gilydd fel bod pob un yn cael ei weld fel gwasanaeth ohono ei hun ac yn ddarostyngedig i’r Ddeddf [troednodyn 72].

Enghraifft

11.8 Mae cwmni bysiau yn darparu amserlenni ar gyfer ei wasanaethau bysiau. Mae’n darparu copïau print ac, ar gyfer pobl ag amhariad ar y golwg, mae’n darparu llinell ffôn am ddim lle rhoddir manylion amseroedd y bysiau. Darpariaeth yr amserlenni yw’r gwasanaeth perthnasol a fydd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf. Nid yw’r gwahanol fformatau a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth mor wahanol i’w gilydd fel bod angen gwasanaethau ar wahân.

Enghraifft

11.9 Mae banc yn darparu gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb ac ar-lein. Er bod y rhain yn ddulliau gwahanol o fancio, mae’r ffyrdd y cânt eu darparu mor wahanol i’w gilydd fel bod y ddau yn cyfri fel gwasanaeth ar wahân ac mae’r ddau yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf.

Atebolrwydd am wahaniaethu lle darperir gwasanaethau i’r cyhoedd gan fwy nag un darparwr

11.10 Gallai ymddangos fel pe bai gwasanaeth i'r cyhoedd yn cael ei ddarparu gan fwy nag un darparwr gwasanaeth. Mewn achos o’r fath, gallai fod yn bwysig adnabod pwy sy’n gyfrifol am ddarparu pa bynnag agwedd o’r gwasanaeth a achosodd y gwahaniaethu honedig. Mewn rhai achosion, gall atebolrwydd o dan y Ddeddf gael ei rannu rhwng sawl darparwr gwasanaethau. Mae’n bosibl, er enghraifft, i ddau darparwr gwasanaeth fod yn gyfrifol a ddarparu gwasanaeth ac felly rhannu goblygiadau o dan y Ddeddf mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.

Mae’n amherthnasol sut maent yn penderfynu rhyngddynt beth i’w wneud i gyflawni eu dyletswyddau, ond mae’n rhaid i’r rhwymedigaethau o dan y Ddeddf gael eu diwallu. Mae hyn yn annhebygol o fod o bwysigrwydd arbennig mewn perthynas â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i bobl anabl.

Enghraifft

11.11 Mae teithiwr anabl yn ei arddegau yn gwneud cais mewn maes awyr am gael defnyddio cadair olwyn i gyrraedd y giât ymadael ar ôl cofrestru. Gallai’r cwmni awyrennau a pherchennog reolwr y maes awyr ill dau fod yn gyfrifol am sicrhau bod gan deithwyr fynediad a defnydd o ardal ‘ochr yr awyr’ maes awyr rhwng y desgiau cofrestru a’r giatiau ymadael. Os na darperir cadair olwyn yn rhad ac am ddim i’r teithiwr anabl i’w cynorthwyo i gyrraedd eu giât ymadael, gallai hyn fod gyfwerth â methiant i wneud addasiad rhesymol mewn perthynas â’r gwasanaeth y mae’r cwmni awyrennau a pherchennog reolwr y maes awyr ill dau yn eu darparu. Yn y sefyllfa hon, gallai’r cwmni awyrennau a pherchennog reolwr y maes awyr ill dau fod yn atebol am wahaniaethu.

Enghraifft

11.12 Mae gan fanc beiriant arian y tu mewn i archfarchnad. Er bod y peiriant arian wedi ei leoli ar safle’r archfarchnad, mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan y banc. Mae’r banc yn debygol o fod yn gyfrifol am unrhyw ddyletswyddau a allai godi o dan y Ddeddf mewn perthynas â’r peiriant arian. Fodd bynnag, mae’r banc a’r archfarchnad yn debygol o fod yn gyfrifol am sicrhau bod y peiriant arian yn gorfforol hygyrch i gwsmeriaid anabl sy’n defnyddio safle’r archfarchnad.

Swyddogaethau cyhoeddus

Beth yw swyddogaeth gyhoeddus?

11.13 At ddiben y Ddeddf, dim ond y swyddogaethau hynny o eiddo awdurdod cyhoeddus nad ydynt yn wasanaethau ac nad ydynt yn disgyn o fewn Rhan 4 (eiddo), Rhan 5 (gwaith) a Rhan 6 (addysg) y Ddeddf sydd wedi eu cwmpasu gan y darpariaethau swyddogaeth gyhoeddus. Yn aml bydd yr awdurdod cyhoeddus yn gweithredu o dan bŵer neu ddyletswydd pan yn cyflawni swyddogaeth o’r fath. Byddai gorfodi’r gyfraith neu gasglu trethi yn enghreifftiau o weithgareddau o’r fath.

11.14 Fodd bynnag, nid awdurdodau cyhoeddus yn unig sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Gallant gael eu cyflawni gan sefydliadau preifat neu wirfoddol hefyd, er enghraifft, pan fydd cwmni preifat yn rheoli carchar neu pan fydd sefydliad gwirfoddol yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am amddiffyn plant.

11.15 Mae’r Ddeddf yn nodi bod gan swyddogaeth gyhoeddus yr un ystyr â ‘swyddogaeth o natur gyhoeddus’ at ddiben Deddf Hawliau Dynol 1988 (a.31(4)). Mewn perthynas â sefydliadau preifat neu wirfoddol, byddai hyn yn cwmpasu gweithgareddau a gyflawnwyd ar ran y Wladwriaeth nad ydynt yn debyg i wasanaethau a allai gael eu perfformio gan bersonau preifat (a.6(3)(b) Deddf Hawliau Dynol 1998.

11.16 Gallai’r term ‘swyddogaeth gyhoeddus’ gwmpasu amrywiaeth eang o weithrediadau, megis:

  • pennu fframweithiau ar gyfer yr hawl i fudd-daliadau neu wasanaethau
  • gorfodi’r gyfraith
  • derbyn rhywun i garchar neu gyfleuster dargadw mewnfudwyr
  • rheoli cynllunio                             
  • trwyddedu
  • gorfodi rheoliadau parcio, safonau masnach, iechyd yr amgylchedd
  • cyflawni pwerau statudol o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl ac amddiffyn plant
  • swyddogaethau rheoleiddiol
  • ymchwilio i gwynion

Enghraifft yn unig yw’r rhestr ac nid yw’n cynnwys pob swyddogaeth sy’n disgyn o dan y rhan hon o’r Ddeddf.

Rhyngweithio â darpariaethau’r gwasanaethau

11.17 Bydd pa un ai yw gweithgaredd yn wasanaeth i’r cyhoedd ai peidio, neu’n swyddogaeth gyhoeddus, yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos. Mae nifer o’r gweithgareddau a gyflawnir gan awdurdod cyhoeddus yn wasanaethau i’r cyhoedd, er enghraifft, darpariaeth gwasanaethau llyfrgell neu hamdden. Bydd gweithgareddau o’r fath yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf mewn perthynas â darpariaeth gwasanaeth i’r cyhoedd (a.31(3)).

Enghraifft

11.18 Mae swyddog heddlu yn trefnu cyfarfod diogelwch cymunedol ac yn paratoi llenyddiaeth i’w rannu ynglŷn ag atal troseddau. Wrth rannu’r wybodaeth hon â’r cyhoedd, mae’r heddlu yn debygol o fod yn darparu gwasanaeth.

Enghraifft

11.19 Lle bo swyddog heddlu yn cynnal archwiliad fel rhan o ymchwiliad troseddol, maent yn debygol o fod yn cyflawni swyddogaeth gyhoeddus, ac nid gwasanaeth.

Beth yw gwahaniaethu anghyfreithlon mewn perthynas â gwasanaethau?

11.20 Mae’r Ddeddf yn dweud ei bod yn anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaethau wahaniaethu yn erbyn person sy’n dymuno (neu sy’n ceisio cael neu ddefnyddio) gwasanaeth trwy beidio â darparu’r gwasanaeth hwnnw i’r person.

11.21 Yn y cyd-destun hwn, mae cyfeiriad at ddarparwr gwasanaeth nad yw’n darparu gwasanaeth yn (a.29(1)) cynnwys:

  • y darparwr gwasanaeth yn gwrthod darparu’r gwasanaeth i’r person
  • y darparwr gwasanaeth yn peidio â darparu’r ansawdd o wasanaeth i’r person a ddarperir i’r cyhoedd fel arfer (neu’r adran o’r cyhoedd sy’n cynnwys y person hwnnw) (s.31(7)(a))
  • y darparwr gwasanaeth yn peidio â darparu’r gwasanaeth i’r person yn y modd, neu ar y telerau, a ddarperir i’r cyhoedd fel arfer (neu’r adran o’r cyhoedd sy’n cynnwys y person hwnnw) (s.31(7)(b))

11.22 Mae hefyd yn anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth wahaniaethu yn erbyn person:

  • mewn perthynas â’r telerau y darperir y gwasanaeth i’r person hwnnw arnynt
  • trwy ddod â’r gwasanaeth i ben i’r person hwnnw
  • trwy wneud y person hwnnw yn destun unrhyw niwed arall (a.29(2))

11.23 Gallai’r darpariaethau hyn orgyffwrdd fel bod, er enghraifft, ymddygiad digywilydd neu dramgwyddol tuag at gwsmer neu gwsmer posibl gyfwerth a safon is o wasanaeth neu niwed. Gallai safon is o wasanaeth fod gyfwerth â pheidio â darparu’r gwasanaeth yn y modd a’r telerau y darperir y gwasanaeth arnynt fel arfer (a.31(7)).

11.24 Gallai gwahaniaethu yn nhermau gwasanaeth gynnwys codi mwy am nwyddau neu wasanaethau neu orfodi amodau ychwanegol ar gyfer defnyddio cyfleuster neu wasanaeth.

11.25 Ni ddiffinnir ‘niwed’ gan y Ddeddf ac mae’n derm eang iawn, a allai gymryd sawl ffurf. Am esboniad o ‘niwed’ darllener paragraffau 9.12 i 9.16.

Enghraifft

11.26 Mae perchennog busnes gwely a brecwast yn mynnu bod cwpwl lesbiaidd yn aros mewn dwy ystafell sengl ar wahân ar ôl iddynt archebu ystafell ddwbl, er bod ystafell ddwbl ar gael. Oherwydd bod mynediad i’r ystafell y gwnaethant ei harchebu yn cael ei wrthod iddynt, byddent wedi bod yn destun gwahaniaethu mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, trwy fod yn destun niwed: gallai’r ymdriniaeth lai ffafriol a dderbyniant fod gyfwerth â gwahaniaethu uniongyrchol oherwydd cyfeiriadaeth rywiol. Yn ail, byddai gwrthod mynediad iddynt i’r ystafell hefyd gyfwerth â gwahaniaethu yn nhermau’r gwasanaeth a gwrthod y gwasanaeth.

Enghraifft

11.27 Mae perchennog caffi yn gofyn i fenyw sy’n bwydo ar y fron i fwydo’i baban yn y tŷ bach, gan nodi y gallai achosi tramgwydd i gwsmeriaid eraill. Pan wrthoda’r fenyw, mae’n gofyn iddi symud o’i sedd yn y ffenest i gornel wag ac i orffen ei diod yn gyflym. Gallai hyn fod gyfwerth â gwahaniaethu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth oherwydd nad oes modd i’r fenyw ddefnyddio’r gwasanaeth yn yr un modd ag y gall eraill wneud.

Enghraifft

11.28 Mae gan gwmni cyfleustodau bolisi o siarad â daliwr enwebedig y cyfrif yn unig ac nid â thrydydd parti. Gallai hyn fod gyfwerth â gwahaniaethu anuniongyrchol yn erbyn person byddar sy’n defnyddio dehonglydd cofrestredig i ffonio’r cwmni.

Enghraifft

11.29 Gofynnir i ddyn sy’n dymuno archebu bwrdd mewn bwyty ar gyfer ei barti pen-blwydd yn 21 dalu 50 y cant o flaendal oherwydd bod perchennog y cwmni o’r farn bod cwsmeriaid iau yn llai tebygol o fod yn driw i’w harcheb. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail oed yn nhermau gwasanaeth oni bai bod modd ei gyfiawnhau (darllener paragraffau 4.75 i 4.85).

11.30 Hyd yn oed os yw darparwr gwasanaeth yn credu eu bod yn gweithredu er lles pennaf defnyddiwr gwasanaeth, gallai eu gweithrediad barhau i achosi niwed i’r person hwnnw (a.29(2)).

Enghraifft

11.31 Mae cymhorthydd mewn siop fechan yn gwrthod gweini ar berson anabl ag amhariad symudedd, gan ddadlau bod siop fwy sydd gerllaw yn medru cynnig gwell mynediad. Mae hyn yn wrthodiad gwasanaeth ac mae’n debygol o fod yn erbyn y gyfraith, hyd yn oed os oedd perchennog y siop yn ystyried lles pennaf y person.

11.32 Mae hi’n anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth ddarparu gwasanaethau neu werthu nwyddau sydd yn ôl eu natur yn debygol o gael eu defnyddio neu brynu gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig, cyn belled nad yw’r darparwr gwasanaeth yn gwrthod darparu’r gwasanaeth i bersonau nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno. Er enghraifft, byddai’n wahaniaethu pe byddai cigydd Kosher â chwsmeriaid oedd yn bennaf yn Iddewon yn gwrthod gwerthu eu cig Kosher i bobl nad ydynt yn Iddewon.

Beth yw gwahaniaethu anghyfreithlon mewn perthynas ag arfer swyddogaethau cyhoeddus?

11.33 Mae’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu wrth gyflawni swyddogaeth gyhoeddus (a.29(6)). Byddai’r ddarpariaeth hon yn cwmpasu, er enghraifft, gwrthod caniatáu i rywun elwa o gyflawniad swyddogaeth neu drin rhywun mewn modd gwaeth wrth gyflawni swyddogaeth. Er enghraifft, gwrthod cais am drwydded neu stopio a chwilio unigolyn oherwydd nodwedd warchodedig.

Enghraifft

11.34 Mae person anabl â syndrom Tourette yn gwneud synau anfwriadol yn ystod cyfweliad ynglŷn â’u hawliad am ostyngiad Treth Cyngor. Dywed y cyfwelydd nad oes modd parhau â’r cyfweliad tra’u bod yn gwneud synau o’r fath, ac y bydd yn rhaid iddynt ddychwelyd ar ddiwrnod arall. Mae hyn yn debygol o fod gyfystyr â gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd. Bydd yn anghyfreithlon oni bai bod modd ei gyfiawnhau neu fod y cyngor yn gallu dangos nad oedd yn gwybod, ac nad oedd disgwyl rhesymol iddo wybod, bod gan y person anabledd.

Enghraifft

11.35 Gofynnir i fam sy’n bwydo ar y fron eistedd y tu ôl i sgrin mewn gwrandawiad ymchwiliad cynllunio oherwydd bod cynghorydd yn anghyfforddus ynglŷn â’r ffaith ei bod hi’n bwydo ei baban yn gyhoeddus. Nid yw hi’n medru gweld y person sy’n cynnal y cyfarfod, gofyn cwestiynau na chyfathrebu ag aelodau eraill o’r gynulleidfa. Mae hyn yn debygol o fod gyfystyr â gwahaniaethu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth a bydd yn anghyfreithlon.

Enghraifft

11.36 Mae cwpwl yn eu hugeiniau cynnar yn prynu stondin ar farchnad gan y perchennog blaenorol sy’n ymddeol ar ôl 50 o flynyddoedd. Mae gwasanaeth masnachu stryd yr awdurdod lleol yn dechrau cynnal ymweliadau dirybudd â’r stondin oherwydd eu bod o’r farn bod pobl ifanc yn fwy tebygol o dorri rheolau masnachu stryd. Mae’r ymweliadau hyn yn effeithio ar enw da’r cwpwl fel masnachwyr. Mae’r ymdriniaeth hon yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail oed oni bai mod modd ei gyfiawnhau yn wrthrychol. 

Methiant i wneud addasiad rhesymol wrth ddarparu gwasanaeth ac wrth gyflawni swyddogaeth gyhoeddus

11.37 Mae gwahaniaethu hefyd yn digwydd pan fydd darparwr gwasanaeth neu berson sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Mae’r ddyletswydd yn codi pan fo person anabl yn cael ei roi o dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl gan ddarpariaeth, maen prawf, arfer, nodwedd ffisegol neu ddiffyg cymorth neu wasanaeth cynorthwyol. Esbonnir y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol mewn rhagor o fanylion ym Mhennod 7.

Enghraifft

11.38 Mae gan amgueddfa weithdrefnau ar gyfer gwacáu’r adeilad os oes tân neu argyfwng. Gofynnir i ymwelwyr adael yr adeilad trwy lwybrau dynodedig. Os nad yw’r amgueddfa yn sicrhau bod ei weithdrefnau yn galluogi ymwelwyr ag amhariadau symudedd neu synhwyraidd i adael yr adeilad yn ddiogel, mae hyn yn debygol o fod yn fethiant i wneud addasiad rhesymol.

Enghraifft

11.39 Mae gan garchar bolisi o agor ei llyfrgell a chanolfan iechyd bob bore rhwng 10 yb ac 11 yb Golyga hyn nad yw bob amser yn bosibl i garcharorion anabl sydd ag apwyntiadau meddygol yn y bore ddefnyddio’r llyfrgell. Mae’r carchar yn addasu amseroedd agor y llyfrgell fel ei bod ar agor am awr gyda’r nos hefyd. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i’r carchar ei wneud.

11.40 Mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth gyhoeddus, mae cael eich rhoi o dan anfantais sylweddol yn golygu (At. 2 para 2(5)):

  1. Os yw budd-dal yn neu’n debygol o gael ei roi wrth i’r swyddogaeth gael ei chyflawni, y person a roddir o dan anfantais sylweddol mewn perthynas â rhoi’r budd-dal.
  2. Os yw person yn neu y gallai fod yn destun niwed wrth i’r swyddogaeth gael ei chyflawni, gan ddioddef profiad afresymol o niweidiol o achosi’r niwed iddynt.

Enghraifft

11.41 Mae gan ombwdsmon bolisi bod yn rhaid i unrhyw geisiadau iddo ddefnyddio’i bwerau rheoleiddiol yn cael eu gwneud yn ysgrifenedig. Mae’r polisi hwn yn gosod rhai pobl anabl, er enghraifft, y sawl ag anableddau dysgu neu amhariadau ar y golwg, o dan anfantais sylweddol wrth wneud cwyn. Mae’r ombwdsmon yn diwygio’r polisi er mwyn caniatáu pobl anabl ac eraill nad ydynt yn medru defnyddio gweithdrefn ysgrifenedig i wneud eu cais dros y ffôn. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i’r ombwdsmon orfod gwneud.

11.42 Ni ddiffinnir ‘afresymol o niweidiol’ yn y Ddeddf. Gallai cyflawniad rhai swyddogaethau gael effaith niweidiol mewn gwirionedd ar y person sy’n ddarostyngedig iddynt – er enghraifft, cael eu harestio. Mae’r rhain yn swyddogaethau ‘negyddol’. Nod y ddyletswydd addasiad rhesymol yn yr amgylchiadau hyn yw sicrhau nad yw pobl anabl, cyn belled ag sy’n rhesymol bosibl, yn cael profiad sylweddol gwaeth mewn perthynas â chyflawniad y swyddogaethau hyn na phobl eraill. Bwriadwyd ‘afresymol o niweidiol’ i gynrychioli yr un lefel o anhawster ag anfantais ‘sylweddol’. Darllener paragraffau 7.11 i 7.14 am ragor o fanylion.  

Enghraifft

11.43 Mae gan heddlu bolisi o beidio â chario cŵn sifiliaid mewn ceir heddlu. Mae’r arfer hwn yn gwneud y profiad o gael eu harestio yn waeth i bobl anabl sydd angen cŵn tywys neu gŵn cymorth o gymharu â’r sawl nad oes eu hangen. Mae’r heddlu yn diwygio ei bolisi fel bod modd i gi, o dan yr amgylchiadau hyn, gael ei gario yn y car gyda’r person anabl. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’r heddlu orfod ei gymryd.

11.44 Lle bo budd-dal yn cael ei roi, neu y gallai gael ei roi, gan gyflawniad swyddogaeth gyhoeddus, gall anfantais sylweddol godi, mewn perthynas â rhoi neu wrthod y budd-dal (y canlyniad) a’r broses o sicrhau neu geisio ei sicrhau. Golyga hyn, os yw unigolyn yn dioddef niwed yn y broses o sicrhau budd-dal, y gall hyn fod yn sail i honiad cyfreithiol, hyn yn oed os yw’r budd-dal yn cael ei roi [troednodyn 73].

Enghraifft

11.45 Mae gan ddyn sy’n gwneud cais am fudd-daliadau nawdd cymdeithasol broblemau iechyd meddwl sy’n golygu ei fod yn profi trafferthion wrth ganolbwyntio ar ac ateb cwestiynau yn ystod cyfweliad hir. Mae’n gofyn am amser ychwanegol ar gyfer y cyfweliad, yn cynnwys toriad byr, ond ni wneir yr addasiad hwnnw. O ganlyniad, mae’r broses gyfweld yn un llawn straen iddo. Mae’n bosibl y byddai’r modd y cynhaliwyd y cyfweliad, fel rhan o’r broses o sicrhau’r budd-dal, gyfwerth ag anfantais sylweddol. Nid yw’r ffaith bod ei gais am fudd-dal yn llwyddiannus yn y pendraw yn effeithio ar ei honiad iddo fod yn destun niwed yn ystod y broses ymgeisio.

Pe byddai ei gais yn aflwyddiannus, gallai hefyd ddwyn honiad ar y sail iddo fod yn destun anfantais mewn perthynas â chanlyniad ei gais.

Nodweddion ffisegol

11.46 Mewn perthyna â nodweddion ffisegol, mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol bod darparwyr gwasanaethau a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn cymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol i orfod eu cymryd er mwyn osgoi’r anfantais, neu fabwysiadu dull amgen rhesymol o gyflawni’r swyddogaeth (a.20(4) a a.29(7)).

Cyfyngiadau ar y ddyletswydd i wneud addasiad rhesymol

11.47 Nid yw'n ofynnol i'r rhai sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus gymryd unrhyw gamau sydd y tu hwnt i'w pwerau i'w cymryd (At. 2 para 2(8)).

Enghraifft

11.48 Mae person ag anaf i’w asgwrn cefn yn dymuno cymryd rhan mewn gwasanaeth rheithgor, ond mae angen gweithiwr cymorth arno i gael help gyda gweithgareddau bob dydd. Tra nad yw pobl anabl wedi eu gwahardd rhag gwasanaeth rheithgor, ni all y llys ganiatáu’r gweithiwr cymorth i mewn i’r ystafell fel addasiad rhesymol,  oherwydd nid yw cyfraith trosedd yn caniatáu bod person ‘ychwanegol’ yn ystafell y rheithgor oni bai am y sawl sy’n darparu gwasanaethau BSL. O dan yr amgylchiadau hyn, nid oes gan yr awdurdod cyhoeddus y pŵer i gymryd y camau sy’n ofynnol er mwyn galluogi’r person i gymryd rhan mewn gwasanaeth rheithgor.

11.49 Mewn perthynas â gwasanaethau, ni fydd yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth gymryd unrhyw gamau a fyddai’n newid yn sylfaenol natur y gwasanaeth neu natur crefft neu broffesiwn y darparwr (At. 2 para 2(7)).

Enghraifft

11.50 Mae’n annhebygol y bydd yn rhaid i fwyty sy’n cynnig profiad ‘bwyta yn y tywyllwch’ droi ei olau ymlaen ar gyfer cwsmer byddar sydd angen gellau darllen gwefusau er mwyn cyfathrebu, oherwydd byddai hyn yn newid yn sylfaenol natur y gwasanaeth a gynigir.

Ymddygiad gwaharddedig arall

Aflonyddu

11.51 Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i berson wneud unrhyw beth sydd gyfystyr ag aflonyddu pan yn darparu gwasanaeth neu’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus (a.29(3) a (6)).

Esbonnir aflonyddu mewn rhagor o fanylion ym Mhennod 8.

Enghraifft

11.52 Mae menyw Ddu yn mynd i mewn i dafarn i wylio gêm bêl-droed. Tra bod y gêm yn mynd rhagddi, mae’r person y tu ôl i’r bar yn gwneud sylwadau hiliol am rai o’r pêl-droedwyr ar y cae. Mae’r fenyw wedi ei thramgwyddo gan y sylwadau. Fe allai gwyno am aflonyddu wrth y dafarn ac fe allai hefyd gwyno am wahaniaethu uniongyrchol oherwydd hil, gan fod y dafarn yn darparu gwasanaeth gwaeth iddi hi nag i’w chwsmeriaid eraill.

11.53 Mae’r gwaharddiad ar aflonyddu wrth ddarparu gwasanaeth neu wrth gyflawni swyddogaeth yn cwmpasu’r nodweddion gwarchodedig canlynol: oed (lle bo unigolyn yn 18 neu’n hŷn), anabledd, ailbennu rhywedd, hil a rhyw (a.26(5) ac a.28(1)). Nid yw aflonyddu unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig cyfeiriadaeth hiliol neu grefydd neu gred wedi eu hamddiffyn (a.212(5)). Fodd bynnag, gallai ymddygiad digroeso oherwydd naill ai cyfeiriadaeth rywiol neu grefydd neu gred, sy’n achosi niwed i rywun sydd gyfystyr â thriniaeth lai ffafriol, olygu gwahaniaethu uniongyrchol. Nid yw beichiogrwydd a mamolaeth wedi eu hamddiffyn o dan ddarpariaethau aflonyddu’r Ddeddf chwaith (a.26(5)). Fodd bynnag, byddai aflonyddu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth gyfystyr ag aflonyddu mewn perthynas â rhyw. Mae Pennod 8 yn esbonio’r darpariaethau aflonyddu mewn manylder.

Enghraifft

11.54 Mae perchennog gwely a brecwast yn gwneud sylwadau bychanol mewn perthynas â chyfeiriadaeth rywiol wrth gwpwl lesbiaidd. Gallai’r cwpwl ddwyn honiad o wahaniaethu uniongyrchol.

Erledigaeth

11.55 Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithiol i berson erlid person tra’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu pan yn darparu gwasanaeth (a.29(4) a a.29(6)), trwy:                        

  • beidio â darparu’r gwasanaeth i’r person hwnnw (a.29(4))
  • darparu’r gwasanaeth i’r person hwnnw ar delerau llai ffafriol (a.29(5))
  • dod â darpariaeth y gwasanaeth i’r person hwnnw i ben (a.29(5))
  • gwneud y person hwnnw yn destun niwed arall (a.29(5))

Enghraifft

11.56 Mae menyw yn gwneud cwyn bod cynorthwyydd gwerthu mewn siop goffi yn ei haflonyddu yn rhywiol. Fis yn ddiweddarach pan geisia defnyddio ei cherdyn ffyddlondeb i gwsmeriaid presennol dywedir wrthi nad yw’r cynllun bellach yn weithredol. Fodd bynnag, mae’n darganfod nad yw hyn yn wir oherwydd bod ffrind yn hawlio gostyngiad â’i cherdyn ffyddlondeb yn ddiweddarach yr un diwrnod. Mae hi o’r farn iddi gael ei herlid oherwydd ei chwyn ac y gallai gael rhwymedi o dan y Ddeddf.

11.57 Esbonnir erledigaeth ac ymddygiad gwaharddedig, megis cynorthwyo gweithred o wahaniaethu, ym Mhennod 9.

Perthynas Rhan 3 i Rannau eraill y Ddeddf

11.58 Fel esboniwyd ym Mhennod 3, ymdrinnir â defnydd a rheolaeth eiddo, cyflogaeth, addysg ac agweddau penodol o gludiant mewn Rhannau eraill o’r Ddeddf (Rhannau 4, 5, 6 a 12 yn y drefn honno) ac nid ydynt wedi eu cwmpasu gan y Cod hwn. Fodd bynnag, lle nad yw’r Rhannau hynny yn berthnasol, gallai gweithgareddau perthnasol gynnwys gwasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus ac felly gallent ddod o fewn i Ran 3. Er enghraifft, mae Rhan 4 yn berthnasol pan fo gwerthwr tai yn gosod neu werthu eiddo ar ran perchennog, ond nid lle bo gwerthwr tai yn hysbysebu neu ddarparu gwybodaeth am eiddo. Yn lle hynny, byddai’r gweithgareddau olaf hyn gyfystyr â gwasanaeth i’r cyhoedd. 

Rhyngweithio â’r darpariaethau addysg

11.59 Mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu mewn perthynas ag addysg a ddarperir gan ‘gyrff cyfrifol’. Y cyrff hynny yw cyrff llywodraethu a pherchenogion ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch.

11.60 Fodd bynnag, mae gweithgareddau a swyddogaethau penodol y cyrff cyfrifol hyn y tu allan i gwmpas Rhan 6. Gallai’r gweithgareddau hyn felly fod yn ddarostyngedig i’r darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus yn Rhan 3 o’r Ddeddf fel amlinellir yn y bennod hon. Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • gweithgareddau nad ydynt yn rhai addysgol a ddarperir gan ysgolion i bobl oni bai am ddisgyblion, megis darparu gwybodaeth i rieni
  • gwasanaethau a ddarperir gan golegau neu brifysgolion i’r sawl nad ydynt yn fyfyrwyr               

11.61 Yn gyffredinol, lle gwneir penderfyniad neu lle cyflawnir gweithrediad gan ysgol neu sefydliad addysg bellach neu uwch sy’n berthnasol i ddisgyblion neu fyfyrwyr, fe’i cwmpesir gan y darpariaethau addysg yn Rhan 6. Lle darperir y gwasanaeth gan neu lle gwneir y weithrediad neu’r penderfyniad gan awdurdod lleol neu awdurdod addysg, nad yw’n gweithredu yn ei gapasiti fel ‘corff cyfrifol’, bydd yn wasanaeth neu swyddogaeth gyhoeddus.

Enghraifft

11.62 Mae ‘coleg busnes’ a redir yn breifat sy’n cynnig cyrsiau cyfrifiaduron i’r cyhoedd yn darparu gwasanaeth sy’n debygol o fod yn ddarostyngedig i Ran 3 o’r Ddeddf.

Enghraifft

11.63 Mae prifysgol yn trefnu cynhadledd sydd wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol. Hyd yn oed os yw’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n mynychu yn fyfyrwyr, bydd cynnal y gynhadledd gyfystyr â darparu gwasanaeth i’r cyhoedd, a bydd hefyd yn ddarostyngedig i Ran 3 o’r Ddeddf.

Enghraifft

11.64 Mae rhiant yn dymuno cwyno am bolisi ysgol sy’n gwrthod rhoi’r cyfle i ferched wneud gwaith coed. Gan fod hyn yn berthnasol i’r ffordd mae corff cyfrifol o’r ysgol yn darparu addysg i ddisgybl, neu’n caniatáu mynediad i fudd, cyfleuster neu wasanaeth, mae wedi’i gwmpasu gan ddarpariaethau addysg Rhan 6 y Ddeddf.

11.65 Mae Rhan 6 hefyd yn gwahardd gwahaniaethu gan gyrff cymwysterau cyffredinol ac mewn agweddau penodedig o’r ddarpariaeth o gyfleusterau hamdden a hyfforddi i blant gan awdurdodau lleol. Gallai’r darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus yn Rhan 3 fod yn berthnasol lle nad yw Rhan 6. Er enghraifft, byddai clybiau ieuenctid a gynhelir gan sefydliadau gwirfoddol yn wasanaeth.

Rhyngweithio â’r darpariaethau eiddo

11.66 Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu mewn perthynas â defnyddio a rheoli eiddo. Mae hyn yn cwmpasu, er enghraifft, y sawl sy’n darparu eiddo i’w rhentu a’r sawl sy’n rheoli eiddo rhent. Nid yw’r Cod hwn yn ymdrin â Rhan 4 o’r Ddeddf.

11.67 Mae Rhannu 3 a 4 yn annibynnol ar ei gilydd: lle nad yw’r darpariaethau eiddo yn berthnasol, bydd y darpariaethau gwasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus yn berthnasol. Mae’r Ddeddf yn manylu ynghylch dwy sefyllfa a fydd yn disgyn y tu allan i Ran 4 a lle bydd y Cod hwn yn berthnasol: 

  • lle bo’r ddarpariaeth yn gyffredinol yn gyffredinol at ddiben arosiadau byr gan unigolion sy’n byw mewn mannau eraill, er enghraifft gosod fflat gwyliau (a.32(3)(a))
  • lle darperir llety i’r diben o ddarparu gwasanaeth neu gyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn unig, er enghraifft, gwesty neu gell carchar (a.32(3)(b))

11.68 Fel arall, bydd unrhyw beth sy’n berthnasol i werthu neu reoli eiddo (oni bai ei fod yn ymwneud â gwasanaeth megis hysbysebu eiddo) yn disgyn o dan y darpariaethau eiddo ac y tu allan i gwmpas y Cod hwn.

Rhyngweithio â’r darpariaethau gwaith

11.69 Mae Rhan 5 o’r Ddeddf yn ymwneud â gwaith. Lle bo Rhan 5 yn berthnasol, ni fydd darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus Rhan 3 yn berthnasol.

11.70 Fodd bynnag, mae’r Ddeddf yn nodi, lle bo cyflogwr yn trefnu i berson arall ddarparu gwasanaeth dim ond i gyflogeion y cyflogwr, ystyrir y cyflogeion hyn yn adran o’r cyhoedd (a.31(5)). Golyga hynny, os yw’r darparwr gwasanaeth yn gwahaniaethu yn erbyn aelodau o’r grŵp hwnnw, bydd y gwaharddiadau a ddisgrifir yn y bennod hon yn berthnasol. Ni ystyrir y cyflogwr yn ddarparwr gwasanaeth yn y sefyllfa hon. Yn lle hynny, byddai eu hymddygiad wrth hwyluso’r gwasanaeth yn cael ei lywodraethu gan y darpariaethau yn Rhan 5 o’r Ddeddf a’u cwmpasu yn y Cod Cyflogaeth.

11.71 Yr eithriad i hyn yw lle bo cyflogwr yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau ariannol i’w cyflogwyr o ganlyniad i’w cyflogaeth (At. 3 para 20) (darllener Pennod 13).

Enghraifft

11.72 Mae cyflogwr yn trefnu i gyflogeion fynychu cwrs hyfforddi preswyl unigryw a ddarperir gan gwmni arall. Yn ystod y cwrs, mae sylwad sy’n achosi tramgwydd yn cael ei wneud gan hyfforddwr wrth gyflogai anabl. Byddai hyn o bosibl yn wahaniaethu neu aflonyddu uniongyrchol ar ran y cwmni hyfforddi wrth ddarparu gwasanaethau. Pe byddai’r cyflogwr wedi atal y cyflogai anabl rhag mynychu’r cwrs oherwydd eu hanabledd byddai hyn o bosibl yn cael ei gwmpasu gan ddarpariaethau Rhan 5 (gwaith).

Gwasanaethau cludiant

11.73 Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn berthnasol i seilweithiau cludiant penodol (megis gorsafoedd a meysydd awyr), gwasanaethau (er enghraifft, tocynnau) a cherbydau.

Mae Rhan 12 o’r Ddeddf wedi cael ei diwygio gan Ddeddf Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Pobl Anabl) 2022. Mae’r ddeddf yn gwneud darpariaethau ar gyfer dyletswyddau penodol ar yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat. 

Fodd bynnag, nid yw’r Cod hwn yn cwmpasu’r darpariaethau hyn.

Darparu nwyddau a gwasanaethau o bell

11.74 Hyrwyddir rhai nwyddau a gwasanaethau o bell trwy gyfryngau megis gwefannau ac apiau, er enghraifft, lle maent yn darparu gwybodaeth, cynnyrch neu adloniant i’r cyhoedd.

Mae darparwr gwasanaeth o bell yn ddarostyngedig i reolau arferol awdurdodaeth tiriogaethol, felly bydd y Ddeddf yn berthnasol i ymddygiad ym Mhrydain Fawr (a.29(10)).

Enghraifft

11.75 Mae theatr yn gwerthu tocynnau ac mae gan gwsmeriaid yr opsiwn o archebu tocynnau naill ai yn y swyddfa docynnau neu o bell trwy ap. Mae’r theatr yn gwrthod cymryd archebion gan ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Waeth a yw’r archeb yn cael ei gwneud trwy’r ap ai peidio, mae’n debygol bod y theatr yn cyflawni gwahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd yn groes i’r Ddeddf.

11.76 Fodd bynnag mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau clir parthed ei ehangder tiriogaethol mewn perthynas â ffurfiau penodol o wasanaethau o bell a ddarperir gan ‘ddarparwyr gwasanaethau cymdeithas wybodaeth’ (ISSPs) a sefydlwyd mewn gwladwriaeth Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) neu Brydain Fawr (a.206, At. 25 para 1).

11.77 Mae ISSP (At. 25 para 7(2)) yn unrhyw wasanaeth:

  • a ddarperir fel arfer am dâl
  • o bell
  • trwy ddulliau electronig
  • ar gais unigol derbynnydd gwasanaethau

Mae a ddarperir fel arfer am dâl yn golygu bod y gwasanaeth fel arfer, ond nid o anghenraid, a, dâl.

Mae o bell yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu heb i’r partïon fod yn bresennol ar yr un pryd.                        

Mae trwy ddulliau electronig yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei anfon yn y lle cyntaf ac yn cael ei dderbyn ar ben ei daith trwy’r defnydd o offer electronig ar gyfer prosesu ( yn cynnwys cywasgiad digidol) a storio data, a’i drosglwyddo, ei gyfleu a’i dderbyn trwy wifren, trwy radio, trwy ddulliau gweledol neu drwy ddulliau electromagnetig eraill.  

Mae ‘ar gais unigol derbynnydd gwasanaethau’ yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu trwy drosglwyddiad data ar gais unigol, hynny yw, gwneir cais am y gwasanaeth yn hytrach na’i dderbyn yn oddefol.

11.78 Gallai enghreifftiau o ISSP gynnwys gwasanaethau megis:

  • gwasanaeth e-bost
  • llwyfan digidol sy’n gwerthu eitemau ar-lein i bobl sy’n chwilio am yr eitemau hynny
  • papur newydd a ddarperir ar-lein

11.79 Os sefydlir hynny ISSP ym Mhrydain Fawr, mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn berthnasol i’r ddarpariaeth o’r gwasanaeth cymdeithas wybodaeth. Golyga hyn bod yn rhaid i’r ISSP gydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf fel maent yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau, fel esbonnir yn y Bennod hon.

Enghraifft

11.80 Mae cwmni gwyliau ar y rhyngrwyd a sefydlwyd ym Mhrydain Fawr yn rhestru llety er mwyn i bobl dalu ac archebu. Mae’n ISSP. Mae’r cwmni yn gwrthod derbyn archebion ar gyfer llety i’w rannu gan gyplau o’r un rhyw. Yn yr enghraifft hon, mae’r Ddeddf yn berthnasol ac mae’r ISSP yn cyflawni gwahaniaethu uniongyrchol ar sail cyfeiriadaeth rywiol yn groes i’r Ddeddf.

11.81 Lle bo’r ISSP wedi ei sefydlu mewn gwladwriaeth EEA, nid yw’r Ddeddf yn berthnasol i unrhyw beth a wneir wrth ddarparu’r gwasanaethau cymdeithas wybodaeth, hyd yn oed os yw’n digwydd ym Mhrydain Fawr (A 206 ac At. 25 para 2).

Yn dilyn ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd, gallai’r rheolau hyn ynglŷn ag ISSPs fod yn destun newidiadau pellach a dylai darparwyr gwasanaethau adolygu’r safle yn rheolaidd.                                  

11.82 Mae Pennod 13 yn disgrifio eithriadau i’r Ddeddf sy’n berthnasol i ISSPs lle cant eu rheoleiddio gan y Ddeddf os ydynt yn fwy o sianeli, neu os ydynt yn darparu ‘dal’ neu ‘lletya’.

Eithriadau i’r darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus

11.83 Mae nifer o eithriadau sy’n berthnasol i ddarpariaethau gwasanaethau a/neu swyddogaethau cyhoeddus y Ddeddf, er enghraifft gwasanaethau un rhyw. Esbonnir y rhain ym Mhennod 13.

Arfer da wrth osgoi gwahaniaethu a gwella darpariaeth gwasanaethau a chyflawniad swyddogaethau cyhoeddus

Gweithredu cadarnhaol

11.84 Mae’r Ddeddf yn caniatáu darparwyr gwasanaethau a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus i gymryd mesurau gweithredu cadarnhaol a gynlluniwyd i oresgyn anfantais, i ddiwallu gwahanol anghenion neu i gynyddu cyfranogiad pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig. Mae Pennod 10 yn esbonio’r darpariaethau hyn ymhellach.

Enghraifft

11.85 Yn dilyn adolygiad o broffil defnyddwyr eu sesiynau cynghori, mae gwasanaeth cynghori tai yn darganfod mae ychydig o lesbiaid neu ddynion hoyw sy’n defnyddio eu gwasanaethau. Maent yn dysgu o ymchwil sy’n bodoli bod lesbiaid a dynion hoyw yn profi patrymau penodol o anghenion tai. Maent yn penderfynu creu cysylltiadau â sefydliadau lesbiaid a hoyw lleol er mwyn darparu sesiynau cynghori wedi eu targedu at y grŵp hwn. Gallai hyn fod yn gyfreithiol fel mesur gweithredu cadarnhaol.

Trin pobl anabl yn fwy ffafriol

11.86 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw’n anabl mewn perthynas â gwahaniaethu uniongyrchol (a.13(3)). Mae’r eithriad hwn ond yn berthnasol i bobl anabl. Felly, nid yw’n wahaniaethu uniongyrchol i ddarparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau drin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw’n anabl.

Pennod 11 troednodiadau

  1. RBS Group plc v Allen [2009] EWCA Civ 1213
  2. MM v Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau [2013] EWCA Civ 1565

Diweddariadau tudalennau